Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Hugh Irving ac Arwel Roberts

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Hugh Irving ac Arwel Roberts

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 67 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams gysylltiad  personol yn Eitem 11 ar y Rhaglen - Cais am Drwydded i Yrru Cerbydau Hurio Preifat gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd dan sylw.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams gysylltiad  personol a rhagfarnol ag Eitem 11 ar y Rhaglen - Cais am Drwydded i yrru Cerbydau Hurio Preifat gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd o dan sylw.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 149 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014 fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014 fel cofnod cywir.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

5.

GOLLYNGIAD O OFYNIAD I ARDDANGOS PLATIAU RHIF CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer gollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau rhif ar Gerbyd Hurio Preifat. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

 (a)      bod y cais i ollwng y gofyniad i arddangos platiau trwydded cerbydau hurio preifat a sticeri drws yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, a

 

 (b)      bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddiwygio rhaglen gwaith y pwyllgor i gynnwys polisi drafft ynghylch Eithrio Platiau Trwydded Cerbydau Hurio Preifat i gael ei drefnu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

[Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn â –

 

(i)            chais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau trwydded ar Gerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          pwerau'r Cyngor i roi gollyngiad i berchennog rhag arddangos y plât trwydded gan gymryd natur uwchraddol y gwaith i ystyriaeth ynghyd ag ansawdd y cerbyd dan sylw a lle y byddai'r cerbyd yn cael ei weithredu;

 

(iii)         bod yr ymgeisydd wedi darparu manylion llawn am y cerbyd a natur y busnes (Atodiad A), a

 

(iv)         ffactorau dylanwadol eraill y mae angen eu hystyried ac amodau sy’n cael eu hawgrymu (Atodiad B) pe bai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r cais am ollyngiad.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb o'r adroddiad a oedd hefyd yn argymell cynhyrchu polisi ynglŷn ag eithrio cerbydau hurio preifat rhag arddangos trwydded cerbyd er mwyn galluogi i geisiadau gael eu hystyried mewn modd cyson yn y dyfodol.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac ymhelaethodd ar weithrediad a natur ei fusnes a'r rhesymeg sydd wrth wraidd ei gais am ollyngiad.  Cadarnhaodd ei fod wedi darllen yr amodau y bwriedir eu hychwanegu at y gollyngiad os y caiff ei roi a oedd yn cynnwys arwyddo ymrwymiad a nodai ei fod yn llawn ddeall ac yn derbyn yr amodau hynny.  Wrth benderfynu ar y cais am ollyngiad -

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       cymeradwyo’r cais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos plât trwydded cerbyd hurio preifat a sticeri drws yn amodol ar yr amodau fel y'u nodwyd yn Atodiad B, a

 

(b)       awdurdodi swyddogion i ddiwygio rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor er mwyn amserlennu trafodaeth ar bolisi drafft ynghylch Eithrio Cerbydau Hurio Preifat rhag Arddangos Platiau Trwydded yn un o gyfarfodydd y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

O fod wedi ystyried yr adroddiad a’r hyn yr oedd yr Ymgeisydd wedi ei gyflwyno roedd yr aelodau'n fodlon bod natur y gwaith ac ansawdd y cerbyd yr oedd a wnelo’r cais ag o yn bodloni'r meini prawf ar gyfer eithrio yn yr achos hwn.  Cafodd amodau eu gosod er mwyn cynorthwyo wrth reoleiddio a gorfodi.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau trafod y materion uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

6.

POLISI A GWEITHDREFN PWYNTIAU COSB DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 57 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig i’w cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

 (a)      cymeradwyo’r Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig fel y manylwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, i gymryd lle'r Cynllun Pwyntiau Cosb presennol sydd yn y "Llyfr Glas" – Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor, a

 

 (b)      bod y cynllun yn cael ei weithredu o 1 Tachwedd 2014, gyda chyfnod gras o un mis cyn gorfodi'r cynllun.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Polisi Pwyntiau Cosb a Gweithdrefn ddiwygiedig i’w cymeradwyo.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa eu bod wedi derbyn polisi diwygiedig yn eu cyfarfod diwethaf, ond yn sgil pryderon a godwyd gan y fasnach dacsis a'r ymateb gwan i'r ymgynghoriad, penderfynwyd galw cyfarfod arbennig i ystyried y polisi’n fanwl gan ystyried barn y fasnach dacsis a’r fasnach hurio preifat.  Yr oedd ymgynghoriad pellach dros gyfnod o bythefnos wedi cael ei gynnal ac yn dilyn hynny roedd y swyddogion wedi adolygu'r polisi ac wedi gwneud rhai mân newidiadau i'r rhestr o gamweddau / troseddau gan roi ystyriaeth i farn deiliaid trwyddedau yn dilyn bod mewn gweithdy’n ddiweddar gydag aelodau.  Roedd y swyddogion hefyd yn argymell rhedeg y cynllun dros 24 mis.

 

Cydnabu'r Aelodau i gyfnod sylweddol o amser gael ei dreulio yn adolygu'r polisi, yn enwedig mewn perthynas â dyrannu pwyntiau ar gyfer troseddau penodol, ac roeddynt yn fodlon bod yr holl faterion a godwyd yn flaenorol wedi cael eu trin.  O ganlyniad -

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       cymeradwyo'r Polisi Pwyntiau Cosb a’r Weithdrefn ddiwygiedig fel y manylir arnynt yn Atodiad A i gymryd lle'r Cynllun Pwyntiau Cosb presennol sydd i’w weld yn y "Llyfr Glas" - Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat y Cyngor, a

 

(b)       gweithredu’r cynllun o 1 Tachwedd 2014, gyda chyfnod gras o fis cyn cyflwyno gorfodaeth o’r cynllun.

 

 

7.

IS-DDEDDFAU CERBYDAU HACNI DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 53 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno Is-ddeddfau diwygiedig sy’n ymwneud â rheoleiddio Cerbydau Hacni i'w cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod Model o Is-ddeddfau arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth, fel y manylir yn yr atodiad i'r adroddiad, yn cael ei gefnogi a bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddechrau ymgynghori â'r holl berchnogion cerbydau hacni a gyrwyr trwyddedig.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Is-Ddeddfau'n ymwneud â rheoleiddio Cerbydau Hacni i'w cymeradwyo er mwyn ymgynghori yn eu cylch.

 

Roedd y cyfrifoldebau cyfreithiol a’r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer trwyddedu cerbydau hacni a'u gyrwyr wedi cael eu nodi o fewn yr adroddiad.  Roedd yr is-ddeddfau a fodolai’n ymwneud â’r Rhyl a Phrestatyn ac argymhellwyd bod y Cyngor yn mabwysiadu Is-ddeddfau ar gyfer y Sir gyfan er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth yn gywir ac i sicrhau bod dull teg, tryloyw a chyson yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu ar orfodaeth a materion eraill sy'n ymwneud â cherbydau a gyrwyr hacni.  Roedd yr Adran Drafnidiaeth wedi cynhyrchu set o Is-ddeddfau Enghreifftiol y bu i swyddogion eu hargymell i’w mabwysiadu yn amodol ar ymgynghori â holl berchnogion cerbydau hacni a’r holl yrwyr trwyddedig.

 

Nododd yr Aelodau yn dilyn ymgynghori y byddai unrhyw sylwadau yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor llawn er mwyn i aelodau gael eu hystyried cyn eu mabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD cefnogi Is-ddeddfau Enghreifftiol arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth fel y manylir arnynt yn yr atodiad i'r adroddiad ac awdurdodi'r swyddogion i ddechrau ymgynghori â holl berchnogion cerbydau hacni a phob gyrwyr trwyddedig.

 

 

8.

COD YMDDYGIAD DA ARFAETHEDIG AR GYFER CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 48 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno Cod Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cerbydau Hurio Preifat i'w gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau aelodau, bod Cod Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, fel y manylir yn yr atodiad i'r adroddiad, yn cael ei gefnogi a bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddechrau ymgynghori ar hynny.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Cod Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i'w gymeradwyo er mwyn ymgynghori yn ei gylch.

 

Pwrpas y Cod oedd gwella safonau gyrwyr cerbydau hacni  a cherbydau hurio preifat ymhellach a byddai hefyd yn cynorthwyo swyddogion i fonitro cydymffurfiad deiliaid trwydded ac i gymryd camau gorfodi lle bo angen. Roedd yn cynnwys cyfrifoldebau gyrwyr trwyddedig tuag at y fasnach, teithwyr a thrigolion ac mewn safleoedd tacsi ac mewn swyddfeydd, ynghyd â rhai cyfrifoldebau cyffredinol.  Pe bai’r aelodau’n cymeradwyo Cod er mwyn ymgynghori yn ei gylch byddai canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd yn y cyfarfod nesaf.

 

Amlygodd y Cynghorwyr Joan Butterfield a Barry Mellor fod gormodedd o dacsis yn gweithredu yn ardal y Rhyl a bod hynny yn arwain at densiynau rhwng gyrwyr tacsi, yn enwedig mewn safleoedd tacsi.  Codwyd cwestiynau ynglŷn â sut yr oedd rheoli’r broblem a sut yr oedd gorfodi'r Cod, gan gynnwys cadw trefn mewn safleoedd tacsis.  Yn sgil y problemau hyn teimlai'r Cynghorydd Mellor y byddai’n fuddiol ystyried cyfyngu ar sawl trwydded cerbyd sy’n cael eu rhoi.  Cadarnhaodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu bod gyrwyr tacsi yn gweithredu safon ymddygiad mewn safleoedd tacsi mewn modd anffurfiol lle'r oedd disgwyl i gwsmeriaid gymryd y tacsi cyntaf ym mlaen y rhes, er nad yw hyn yn gyfrwymol a bod gan y cwsmer ddewis o ran pa gerbyd i’w ddefnyddio.  Tra cydnabyddir fod mwy o dacsis nag sydd o leoedd mewn safleoedd tacsi mae gan ddeilydd y drwydded gyfrifoldeb i ddefnyddio safleoedd tacsi yn effeithlon gan ei bod yn anymarferol i Swyddogion Gorfodaeth eu plismona o hyd.  Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd fod cyfeiriad at fethu â chadw disgyblaeth mewn safleoedd tacsi wedi'i gynnwys o fewn y Cynllun Pwyntiau Cosb.  Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Win Mullen-James Cytunodd y swyddogion gynnwys amseroedd o fewn y Cod pan fo’n anghyfreithlon seinio corn y cerbyd.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar sylwadau uchod yr Aelodau, i gefnogi'r Cod Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat fel y manylir arno yn yr atodiad, ac i awdurdodi Swyddogion i ddechrau ymgynghori yn ei gylch.

 

 

9.

COD GWISG DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 51 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno Cod Gwisg diwygiedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cerbydau Hurio Preifat i'w gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cod Gwisg Diwygiedig Arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, fel y manylir yn yr atodiad i'r adroddiad, yn cael ei gefnogi a bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddechrau ymgynghoriad ffurfiol ar hynny.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (cylchredwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Cod Gwisg diwygiedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i'w gymeradwyo er mwyn ymgynghori yn ei gylch.

 

Pwrpas bod â Chod Gwisg ar gyfer gyrwyr trwyddedig oedd gwella safonau a mynd i'r afael â phryderon ynglŷn â diogelwch a mynd i’r afael â'r argraff y mae ymwelwyr a thrigolion yn ei gael pan wisgir dillad amhriodol.  Nid oedd y Cod Gwisg Presennol yn ddigon cynhwysfawr ac wrth ei adolygu cydnabuwyd bod rhaid cael cydbwysedd rhwng cael gyrwyr sy’n cyfleu delwedd dda o’r Sir a pheidio ag effeithio ar ryddid unigolyn i wisgo dillad nad ydynt wedi eu rhagnodi.

 

Ystyriodd yr Aelodau y safon dderbyniol arfaethedig o ran gwisg o fewn y cod ynghyd â safonau annerbyniol er mwyn annog delwedd broffesiynol o'r fasnach.  Holodd y Cynghorydd Bill Cowie beth yw’r gwahaniaeth rhwng crys t gwddf crwn a gwddf agored ac eglurodd y Swyddog Trwyddedu y caiff crys t â choler ei ystyried yn fwy proffesiynol.  Roedd y pwyllgor yn gefnogol i gyflwyno cod gwisg llymach er nodi fod rhywfaint o feirniadaeth wedi ymddangos yn y wasg leol yn y cyswllt hwnnw.  Cyffelybodd yr aelodau broffesiwn y gyrrwr tacsi i broffesiwn y gyrrwr bws a nodi bod lifrai’n ofynnol ar gyfer gyrwyr bysus a bod hynny’n cyfleu delwedd fwy proffesiynol a thaclus.  Nodwyd y byddid yn defnyddio System Pwyntiau Cosb ar gyfer achosion o dorri'r cod gwisg.

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Cod Gwisg arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad, ac awdurdodi Swyddogion i ddechrau ymgynghori’n ffurfiol yn ei gylch.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2014/15 pdf eicon PDF 44 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Gwaith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu.  Cadarnhawyd y gall aelodau gyflwyno ceisiadau i gynnwys eitemau ar y rhaglen waith drwy'r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

11.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 051260

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  051260.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  051260 yn cael ei wrthod.

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams gysylltiad personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod tra trafodwyd yr eitem hon.  Cymerodd y Cynghorydd Barry Mellor (Is-Gadeirydd) y Gadair.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 051260 am drwydded i yrru cerbydau hurio preifat;

 

(ii)          nid oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r wybodaeth a ddatgelwyd yn dilyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iii)         roedd crynodeb o'r euogfarnau a ddatgelwyd wedi eu darparu a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau sy'n rhychwantu cyfnod o 1965 i 1995 gan gynnwys digwyddiadau sy'n ymwneud â dwyn, troseddau traffig, meddwdod a throseddau ac anonestrwydd eraill sy’n gysylltiedig;

 

(iv)         polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(v)           y ffaith bod yr Ymgeisydd wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Darparodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o'r adroddiad ac eglurodd fod y mater wedi cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yng ngoleuni'r euogfarnau a ddatgelwyd.  Dywedodd hefyd nad oedd yr Ymgeisydd yn bresennol gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ers y cyfarfod diwethaf oherwydd nad oedd yr Ymgeisydd yn bresennol.  O ystyried bod yr Ymgeisydd wedi cael dau gyfle i fynychu gwrandawiad yn ymwneud â’i gais, ac heb gael esboniad o’r rheswm dros fod yn absennol, cytunodd y pwyllgor i fwrw ymlaen yn ei absenoldeb.

 

Ar ôl ystyriaeth ofalus -

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais ymgeisydd rhif 051260 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd y pwyllgor wedi ystyried y cais yn seiliedig ar y ffeithiau fel y cawsant eu nodi yn yr adroddiad yn unig.  Mae difrifoldeb y troseddau a ddatgelwyd yn golygu nad oedd y pwyllgor wedi ei fodloni bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i yrru cerbydau hurio preifat.  Gan na chafwyd unrhyw esboniad am ei fethiant i ddatgelu ei euogfarnau wrth gyflwyno ei gais a natur yr euogfarnau hynny nid oedd y pwyllgor yn fodlon cymeradwyo'r cais.

 

 

12.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 00327

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 00327.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod rhybudd ffurfiol yn cael ei roi i Yrrwr Rhif 00327 ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 00327 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          cwyn a wnaed yn erbyn y Gyrrwr am ymosodiad ym mis Gorffennaf 2014 yr ymchwiliwyd iddi gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi i’r adroddiad);

 

(iii)         bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod y Gyrrwr wedi cyfaddef i ymosodiad cyffredin wrth gael ei gyfweld a’i fod wedi cael Rhybudd Datrys Cymunedol, a

 

(iv)         cafodd y Gyrrwr ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Manylodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (HB) ynglŷn â ffeithiau'r achos a dywedodd fod y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod.  Siaradodd y Gyrrwr ger bron y pwyllgor i bledio’i achos o ran adolygu ei drwydded ac ymhelaethodd ynglŷn ag amgylchiadau'r digwyddiad ac egluro ei fersiwn ef o'r digwyddiadau.  Roedd yn haeru nifer o’r ffeithiau sydd wedi eu cynnwys yn natganiad y teithiwr, sef y tyst dan sylw, ynghyd â'r cyfrif a ddarparwyd gan yr achwynydd.  Cwestiynodd hefyd hygrededd ac ymddygiad yr achwynydd.  Er mwyn tystio i’w gymeriad da, roedd y Gyrrwr wedi darparu geirdaon ysgrifenedig i'w hystyried ac fe ymhelaethodd ynglŷn â’i yrfa hir yn gwasanaethu fel gyrrwr tacsi heb fod unrhyw drafferthion blaenorol.

 

Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau'r aelodau ynghylch yr honiad o fwlio; safon ymddygiad yn y safle tacsi ac ymddygiad yr achwynydd.  Dywedodd hefyd nad oedd yn ymwybodol cyn hynny fod yr hyn a wnaeth yn gyfystyr ag ymosodiad cyffredin.

 

Yn ei ddatganiad terfynol ymhelaethodd y Gyrrwr ynglŷn â’r safon ymddygiad y mae gyrwyr tacsi yn ei arfer yn y safle tacsi a chydnabod bod gan gwsmeriaid ddewis o ran pa gerbyd i’w ddefnyddio.  Dywedodd eto nad oedd y naill deithiwr na’r llall yn yr achos hwn wedi dweud wrtho eu bod yn dymuno defnyddio cerbyd gwahanol.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 00327 ynglŷn â’i ymddygiad i’r dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried cynnwys yr adroddiad a’r sylwadau a gyflwynwyd gan y Gyrrwr yn yr achos hwn yn ofalus.  Roedd wedi ei dderbyn fod y Gyrrwr wedi cyflawni ymosodiad cyffredin a bod ffrae wedi digwydd ond roedd y pwyllgor o’r farn fod lliniaru digonol wedi digwydd i beidio ag atal neu ddiddymu'r drwydded ac y byddai rhybudd ffurfiol ynglŷn â’i ymddygiad i’r dyfodol yn briodol.  Cafodd y gyrrwr ei rybuddio i wneud yn siŵr ei fod yn datrys unrhyw faterion o'r fath drwy ddulliau eraill yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

 

13.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 045728

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 045728.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 045728 ar sail diogelwch y cyhoedd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 045728 i ddal trwydded i yrru cerbydau hurio preifat;

 

(ii)          cwyn a gafwyd ym mis Gorffennaf 2014 yn dweud bod y Gyrrwr wedi cyflawni ymosodiad yn ystod digwyddiad ym mis Mehefin 2014 yr ymchwiliwyd iddo gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi i’r adroddiad);

 

(iii)         bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod y Gyrrwr wrth gael ei gyfweld wedi cyfaddef i'r drosedd a chafodd rybudd am Ymosodiad Cyffredin;

 

(iv)         bod y Gyrrwr wedi gwrthod mynychu cyfweliad gyda Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu ac ers hynny wedi dinistrio a ddychwelyd ei fathodyn gyrrwr trwyddedig, a

 

(v)           bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Manylodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (HB) ynglŷn â ffeithiau'r achos a dywedodd nad oedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 045728 ar sail diogelwch y cyhoedd.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd y pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad a'r dogfennau cysylltiedig yn ofalus a nodwyd bod y Gyrrwr wedi cyfaddef i achos o ymosodiad cyffredin a bod rhybudd wedi'i roi gan yr Heddlu.  O ystyried natur ddifrifol yr ymosodiad a olygodd bod rhaid i’r dioddefwr gael triniaeth yn yr ysbyty a'r ffaith na chynhigiwyd unrhyw liniaru gan y Gyrrwr roedd y pwyllgor o'r farn nad oedd y gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Gan na allai’r aelodau fod yn sicr parthed diogelwch y cyhoedd penderfynodd y pwyllgor ddiddymu’r drwydded ar sail diogelwch y cyhoedd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m.