Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams fel
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Yn unol â'r broses benodi roedd datganiadau ysgrifenedig
wedi eu paratoi ar gyfer y pwyllgor gan y Cynghorwyr Barry Mellor a Cefyn
Williams ar gyfer swydd Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2014/15.
Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi'r Cynghorydd Barry
Mellor yn Gadeirydd, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Pat Jones. Cynigiodd y Cynghorydd Stuart
Davies y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd, ac fe’i eiliwyd
gan y Cynghorydd Peter Owen. Yn dilyn pleidlais a gynhaliwyd yn unol â Rheol Sefydlog
Rhif 14.4, - PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r
Cynghorydd Cefyn Williams fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn
nesaf. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD
- y dylid penodi'r Cynghorydd Barry Mellor fel Is-Gadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2014/15. Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y
dylid penodi'r Cynghorydd Barry Mellor yn Is-gadeirydd, ac fe’i heiliwyd gan y
Cynghorydd Pat Jones. Felly - PENDERFYNWYD
- y dylid penodi'r Cynghorydd Barry Mellor fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Cefyn Williams gysylltiad personol yn Eitem Rhaglen Rhif 12. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams
gysylltiad personol yn Eitem 12 ar y
Rhaglen - Cais am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a cherbydau Hurio Preifat gan ei
fod yn adnabod yr ymgeisydd o dan sylw. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 121 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2014 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2014
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2014. PENDERFYNWYD y dylid derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2014 fel cofnod
cywir. |
|
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT – SIOPAU TECAWÊ POETH PDF 75 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
gofyn am farn yr aelodau ar y ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar
siopau prydau parod poeth cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD,
yn amodol ar sylwadau'r aelodau, y dylid derbyn a nodi’r ddogfen Canllawiau
Cynllunio Atodol drafft ar siopau cludfwyd prydau poeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Polisi Cynllunio a Swyddog
Cynllunio adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am farn yr aelodau ar y ddogfen ddrafft
Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar siopau tecawê poeth cyn ei gyflwyno i'r
Pwyllgor Cynllunio ac ymgynghoriad cyhoedd. Roedd Aelodau o'r Grŵp Llywio Aelodau Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl) wedi gofyn i’r canllawiau gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trwyddedu o ystyried y cysylltiadau clir â
thrwyddedu. Hysbyswyd yr Aelodau o'r angen i ddiweddaru’r CCA
presennol yn dilyn mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ym mis Mehefin 2013. Yn
dilyn adolygiad o'r canllawiau penodol hyn mae rhai mân newidiadau wedi eu
cynnig ond y prif newid oedd y cynnig i gyflwyno cyfyngiad ar siopau tecawê poeth
newydd o fewn 400m i unrhyw ffin ysgol. Ymhelaethodd y swyddogion ar ystyriaethau eraill o
fewn y ddogfen a oedd o ddiddordeb arbennig i drwyddedu a phwysleisiwyd y
byddai'r canllawiau ond yn berthnasol i geisiadau cynllunio newydd ac ni
fyddai'n effeithio ar eiddo tecawê poeth presennol. Wrth ystyried y canllawiau drafft roedd y
drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol - ·
Roedd
y pwyllgor yn cefnogi'r cynnig i gyflwyno parth gwahardd ger ysgolion ac roedd yn
awyddus i’r cyfyngiad hwn gael ei ymestyn i fusnesau bwyd poeth symudol gyda
mwy o reolaeth dros fasnachwyr symudol yn gyffredinol a gorfodaeth
rhagweithiol. Eglurodd swyddogion y gyfraith ynglŷn â llywodraethu masnachwyr
symudol gan gynghori na ellid eu rheoleiddio drwy'r fecanwaith gynllunio ond
trwy Caniatâd Masnachu ar y Stryd a Thrwyddedau Pedleriaid. Cytunwyd y dylid cyfeirio at fasnachu ar y
stryd o fewn y canllawiau gan egluro'r meysydd hynny o gyfrifoldeb a rheolaeth. Fodd bynnag, roedd pryderon yn parhau na
ellid ymarfer rheolaethau digonol dros fasnachwyr penodol a oedd yn syrthio y
tu allan i awdurdodaeth ddeddfwriaethol y Cyngor ·
adroddodd
yr aelodau ar broblemau traffig a pharcio a geir ger siopau tecawê poeth
sefydledig a diffyg gorfodaeth a darparodd y swyddogion sicrwydd y byddai
ymgynghori gyda Phriffyrdd yn ffurfio rhan o'r broses gynllunio ar gyfer
ceisiadau newydd ·
cyfeiriwyd
at baragraff 6.7 ynghylch sbwriel a theimlai'r aelodau y dylid cryfhau’r mesurau
hynny a’u gwneud yn orfodol os yn bosibl. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y byddai
sylwadau'r aelodau yn cael eu rhoi gerbron y Pwyllgor Cynllunio ym mis
Gorffennaf wrth ystyried y ddogfen ddrafft. Ychwanegodd y byddai aelodau yn cael cyfle pellach
i wneud sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol. PENDERFYNWYD, yn amodol ar y
sylwadau uchod, y dylid derbyn a nodi’r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol
drafft ar siopau tecawê poeth. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 051261 Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 051261. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y cais am drwydded i
yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 051261 yn cael
ei roi. Cofnodion: [Daethpwyd â'r eitem hon yn ei blaen ar y rhaglen
gyda chydsyniad y Cadeirydd.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar – (i)
cais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 051261 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat; (ii)
Nid
oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r wybodaeth a
ddatgelwyd yn dilyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd
ag euogfarnau moduro a nodwyd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd; (iii)
Roedd
crynodeb o'r euogfarnau a ddatgelwyd wedi eu darparu a oedd yn ymwneud â nifer
o droseddau sy'n rhychwantu cyfnod 1988 i 2010 gan gynnwys digwyddiadau sy'n
ymwneud â throseddau traffig, meddwdod a throseddau cysylltiedig eraill ac
anonestrwydd; (iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (v)
gwahoddwyd
yr Ymgeisydd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb
cwestiynau aelodau ar hynny. Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn
yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Darparodd y
Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o'r adroddiad ac eglurodd fod y mater wedi cael
ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yng
ngoleuni'r collfarnau a ddatgelwyd. Anerchodd yr Ymgeisydd y
pwyllgor i gefnogi ei gais gan ymhelaethu ar ei amgylchiadau personol a symud
yn ôl i'r ardal yn ddiweddar. Er gwaethaf ei
gollfarnau disgrifiodd ei hun fel person da a mynegodd ei awydd i ddychwelyd at
ei alwedigaeth fel gyrrwr tacsi. Ymatebodd yr Ymgeisydd i
gwestiynau gan aelodau ynghylch yr anghysondeb posibl ar ei ddatgeliad o gofnod
troseddol a’i ddatgeliad personol; yr amgylchiadau o gwmpas ei gollfarn mwyaf
diweddar, a’i gyfleoedd cyflogaeth posibl. Hefyd gofynnodd
yr Aelodau am dystiolaeth o addasrwydd yr Ymgeisydd i yrru cerbydau trwyddedig
ac fe'u hysbyswyd am ei hanes cyflogaeth diweddar a rhoddwyd sicrwydd y gellid
cael geirda i dystio i'w gymeriad da. Wrth wneud ei ddatganiad
terfynol gobeithiodd yr Ymgeisydd ei fod wedi ateb cwestiynau'r aelodau i’w
bodlonrwydd ac y byddai'n cael y cyfle i brofi ei hun fel gyrrwr tacsi. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD
bod y cais am drwydded i
yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 051261 yn cael ei roi. Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad a'r ymatebion a ddarparwyd gan yr
Ymgeisydd i gwestiynau. Gwelodd y pwyllgor yr Ymgeisydd i fod yn ddilys yn
ei ymatebion a derbyniwyd ei sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol ac o
ganlyniad ystyriwyd iddo fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Yng ngoleuni ei gollfarnau blaenorol rhoddwyd rhybudd i’r Ymgeisydd
ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Felly cafodd
penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Ymgeisydd. [Roedd y Cynghorydd Stuart Davies am i nodyn
gael ei wneud iddo bleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.] |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau
trafod y materion uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
POLISI A GWEITHDREFN DDIWYGIEDIG PWYNTIAU COSB ARFAETHEDIG PDF 76 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno Polisi a gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig i’w cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
cyfarfod arbennig yn cael ei alw i ystyried Gweithdrefn a Chynllun Pwyntiau
Cosb yn fanwl gan gymryd i ystyriaeth y fasnach tacsis a hurio preifat. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
cyflwyno Polisi Pwyntiau Cosb diwygiedig a gweithdrefn i’w cymeradwyo. [Nid oedd y cynllun pwyntiau cosb
presennol wedi cael ei roi ar waith yn dilyn ei gymeradwyo oherwydd pryderon ar
y pryd ynghylch dilysrwydd cynlluniau o'r fath.] Soniodd swyddogion am faterion cyfreithiol o
weithredu system pwyntiau cosb a'r angen i sicrhau nad oedd y cynllun yn cael
gwared ar ddisgresiwn yr awdurdod ac yn caniatáu ar gyfer proses apelio
briodol. Roedd y polisi yn anelu
at wella safonau yn y sector cerbydau hacni a hurio preifat a gweithio ar y cyd
ag opsiynau gorfodaeth eraill i nodi’r unigolion hynny a oedd yn ymddwyn dro ar
ôl tro mewn modd, pe cânt eu hystyried yn eu cyfanrwydd, a oedd yn dangos
oeddent yn addas a phriodol i ddal trwydded. Cynhaliwyd ymgynghoriad ac roedd barn yr ymatebwyr
wedi cael eu crynhoi yn yr adroddiad a’i ystyried wrth lunio'r ddogfen
derfynol. Roedd yr ymatebwyr hynny hefyd wedi cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod. Roedd y Cynghorydd Stuart Davies yn credu
dylid ymgynghori â’r pwyllgor ar faterion polisi a chynigion cyn y sector
trwyddedig a phartïon eraill sydd â diddordeb. Croesawodd yr Aelodau gyflwyno’r cynllun pwyntiau
cosb fel modd o wella ymddygiad a chodi safonau, ond roeddent yn awyddus i
sicrhau bod y cynllun yn deg, yn enwedig o ran dyrannu pwyntiau cosb, a
gofynnwyd am sicrwydd yn hynny o beth. Cadarnhaodd y swyddogion fod y cynllun yn debyg
i'r rhai a weithredir gan awdurdodau lleol eraill a gofynnwyd am gyngor gan
James Button, Cyfreithiwr ar resymoldeb graddfa’r pwyntiau. Byddai pwyntiau yn cael eu dyrannu yn
briodol yn dibynnu ar amgylchiadau'r drosedd. Ar wahoddiad y Cadeirydd, anerchodd Mr Les Peake,
Coastline Taxis y pwyllgor yn mynegi cefnogaeth ar gyfer y cynllun ar yr amod
ei fod yn cael ei weithredu a’i blismona’n briodol. Ychwanegodd er mwyn cynnal safonau
cerbydau byddai angen gwahardd codi ffi isel iawn am deithiau. Dywedodd Mr Ian Armitage a Mr Gareth Jones
eu bod yn cynrychioli barn nifer o yrwyr trwyddedig yn y Rhyl. Tynnwyd sylw at y cynnydd yn y nifer o
achosion o dorcyfraith a oedd yn ddarostyngedig i gosb o dan y cynllun newydd
(o 28 i 58) ac er bod y rhan fwyaf o'r cynigion yn cael eu cefnogi, roedd nifer
fechan yn peri pryder. O bryder arbennig oedd y diffyg darpariaeth ar gyfer egwyliau toiled gyda
gyrwyr tacsi yn cael eu cosbi am adael eu cerbyd heb oruchwyliaeth ar ranc
tacsis. Eglurodd swyddogion ei fod yn drosedd i adael cerbyd heb oruchwyliaeth ar
ranc a bod y cynnig yn ceisio mynd i'r afael â gyrwyr a oedd yn cymryd mantais
o ranciau yn y gorffennol ac wedi gadael eu cerbydau i fynd i siopa. Byddai ymagwedd synnwyr cyffredin yn cael
ei chymryd i ddyrannu pwyntiau yn yr holl amgylchiadau. Yn wyneb y pryderon a godwyd gan y sector tacsis a'r ymateb gwael i’r
ymgynghoriad, roedd yr aelodau’n teimlo bod y cynigion angen ystyriaeth fwy
manwl pellach cyn i’r polisi terfynol gael ei gymeradwyo. O ganlyniad, - PENDERFYNWYD
bod cyfarfod arbennig yn
cael ei alw i ystyried Gweithdrefn a Chynllun Pwyntiau Cosb yn fanwl gan gymryd
i ystyriaeth y fasnach tacsis a hurio preifat. Ar yr amser hwn (11.00
a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
POLISI DEFNYDD BWRIEDIG CERBYDAU HACNI ARFAETHEDIG PDF 94 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno Polisi Defnydd Bwriedig Cerbydau Hacni i'w gymeradwyo i'r Cyngor Llawn
ei fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Polisi Defnydd
Bwriedig o Gerbydau Hacni arfaethedig yn cael ei gefnogi a'i argymell i'r
Cyngor Llawn i'w fabwysiadu. Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Polisi Defnydd Arfaethedig
Cerbydau Hacni i'w gymeradwyo i'r Cyngor Llawn ei fabwysiadu. Tynnwyd sylw at yr anawsterau sy'n gysylltiedig â
cherbydau hacni a drwyddedir gan awdurdod sy’n gwneud gwaith hurio preifat y tu
allan i ardal y cyngor hwnnw, yn enwedig ar gyfer swyddogion sy'n cyflawni
dyletswyddau cydymffurfio a gorfodaeth. Roedd Panel Technegol Trwyddedu Cyfarwyddwyr Diogelu'r
Cyhoedd Cymru (DPPW) yn cydnabod goblygiadau diogelwch cerbydau sy'n gweithredu
yn bennaf yn y modd hwn ac argymell polisi i'w fabwysiadu gan bob awdurdod
lleol yng Nghymru i sicrhau dull cyson a thryloyw ledled Cymru wrth benderfynu
ar y defnydd arfaethedig o gerbydau hacni. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r polisi arfaethedig
yn dilyn ymgynghori. Er eu bod yn derbyn y polisi, amlygodd
yr aelodau broblemau gyda'i orfodaeth
a’i weithrediad, yn enwedig o ran canfod gwir fwriad yr Ymgeiswyr ar gyfer
gweithredu o dan delerau'r drwydded a’r ddibyniaeth ar y sicrwydd a ddarperir
ganddyn nhw yn y cyswllt hwnnw. Gofynnwyd am i’r pwynt hwn gael ei wneud i'r Panel
Technegol Trwyddedu DPPW fel awdur y polisi. Teimlai'r Aelodau hefyd y dylai perchnogion cerbydau
hacni sy’n torri'r polisi gael eu trin yn llym. PENDERFYNWYD
bod y Polisi Defnydd
Arfaethedig o Gerbydau Hacni yn cael ei gefnogi a'i argymell i'r Cyngor Llawn
i'w fabwysiadu. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno Polisi Perthnasedd Collfarnau diwygiedig ar gyfer gyrwyr a
gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i'w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Polisi Collfarnau
Cerbydau Hacni a Hurio Preifat diwygiedig fel y nodir yn Atodiad B i'r
adroddiad yn cael ei gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
cyflwyno Polisi Perthnasedd diwygiedig o Bolisi Collfarnau ar gyfer gyrwyr a
gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i'w gymeradwyo. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn adolygu'r
canllawiau mewn perthynas â chollfarnau perthnasol ac wedi penderfynu trwy’r
Panel Technegol Trwyddedu Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru (DDPW) i
argymell canllawiau wedi'u diweddaru yn berthnasol i sefyllfaoedd cyfredol sy'n
codi o ran trwyddedu tacsis. Argymhellodd y DPPW i’r polisi gael ei fabwysiadu gan yr
holl awdurdodau lleol Cymru i sicrhau dull cyson a thryloyw ledled Cymru wrth
benderfynu a yw ymgeisydd neu ddeiliad trwydded presennol yn berson addas a
phriodol i ddal trwydded cerbyd hacni neu drwydded gyrrwr/ gweithredwr hurio
preifat.
Er y
byddai swyddogion ac aelodau yn ystyried y canllawiau byddai pob achos yn cael
ei ystyried yn ôl ei deilyngdod unigol a pan fo'r amgylchiadau'n mynnu gallai’r
swyddog / pwyllgor wyro oddi wrth y canllawiau. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r polisi arfaethedig
yn dilyn ymgynghori. Roedd yr aelodau’n fodlon derbyn y polisi diwygiedig a - PENDERFYNWYD
bod y Polisi Collfarnau
Cerbydau Hacni a Hurio Preifat diwygiedig fel y nodir yn Atodiad B i'r
adroddiad yn cael ei gymeradwyo. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2014/15 PDF 60 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo a rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
Trwyddedu a nododd yr Aelodau ddau newid bach. Awgrymodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod y Polisi a
Gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod y
pwyllgor ym mis Medi. PENDERFYNWYD cymeradwyo
Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 051260
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 051260. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 051260 yn cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y pwyllgor. Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams gysylltiad
personol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon. Cymerodd y Cynghorydd Barry Mellor
(Is-Gadeirydd) y Gadair.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes) ar – (i)
cais a
dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 051260 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat; (ii)
Nid
oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r wybodaeth a
ddatgelwyd yn dilyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd; (iii)
Roedd
crynodeb o'r euogfarnau a ddatgelwyd wedi eu darparu a oedd yn ymwneud â nifer
o droseddau sy'n rhychwantu cyfnod 1965 i 1995 gan gynnwys digwyddiadau sy'n
ymwneud â dwyn, troseddau traffig, meddwdod a throseddau cysylltiedig eraill ac
anonestrwydd; (iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (v)
gwahoddwyd
yr Ymgeisydd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb
cwestiynau aelodau ar hynny. Dywedwyd wrth yr aelodau nad oedd yr Ymgeisydd yn
bresennol ond roedd wedi cyflwyno llythyr (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) i
gefnogi ei gais. Nid oedd y llythyr yn egluro
absenoldeb yr Ymgeisydd. Yn dilyn ystyried y cais, cytunodd yr
aelodau ohirio’r cais tan gyfarfod nesaf y pwyllgor i roi cyfle pellach i'r
Ymgeisydd i fod yn bresennol. PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 051260 yn
cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 a.m. |