Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Joan Butterfield a Hugh Irving

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Joan Butterfield a Hugh Irving

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 046577

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi yn amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif  046577.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwahardd gyrrwr rhif 046577 yn syth rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat am gyfnod o un wythnos er mwyn diogelu’r cyhoedd. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)           addasrwydd Gyrwyr Rhif 046577 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          gwybodaeth a dderbyniwyd ar 24 Medi, 2013, a chwyn ddilynol a wnaed yn erbyn y gyrrwr, ynglŷn â gosod sylwadau amhriodol ar wefan rhwydweithio cymdeithasol am deithiwr a dalodd am deithio a oedd hefyd yn cynnwys datgelu manylion personol (atodwyd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau gan dystion a dogfennau cysylltiedig i’r adroddiad), a

(iii)          

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu’r adroddiad a rhoddodd grynodeb o ffeithiau’r achos.  Atgoffwyd Aelodau fod y mater wedi’i ohirio o’r cyfarfod diwethaf ar gais y Gyrrwr gan na allai fod yn bresennol.

 

Cyflwynodd y Gyrwyr ble ysgrifenedig i liniaru ynghyd â thystlythyrau i’w gymeriad gan ei gyflogwr a rhai o’i gwsmeriaid rheolaidd (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod).  Mynegodd edifeirwch dwys am y digwyddiad a rhoddodd sicrwydd i’r pwyllgor ynghylch ei ymddygiad da blaenorol a’i ymddygiad yn y dyfodol.  Cyfeiriodd at amgylchiadau’r digwyddiad ac eglurodd ei fod yn credu mai tynnu coes preifat rhwng ffrindiau oedd y negeseuon.  Roedd y Gyrrwr yn cydnabod fod ei ymddygiad yn annerbyniol a chynigiodd ei ymddiheuriadau i’r teithiwr dan sylw.  Yn olaf, cyfeiriodd at ei amgylchiadau teuluol gan nodi y byddai colli ei drwydded yn achosi caledi eithriadol.

 

Holodd yr Aelodau’r Gyrwyr am ei weithredoedd, gan gyfeirio’n benodol at y rhesymeg am ei ymddygiad a’i ddehongliad o’r digwyddiadau.  Roedd y Gyrrwr yn awyddus i bwysleisio nad oedd erioed yn fwriad ganddo i’w sylwadau gael eu cyhoeddi nac achosi tramgwydd a’i fod wedi credu’n ddiniwed eu bod wedi’u gwneud rhwng ffrindiau.  Ni ddatgelodd fanylion am y cyfeiriad yn fwriadol ac roedd yn bendant na fyddai fyth wedi datgelu enw na chyfeiriad llawn y teithiwr.  Yn ogystal, dywedodd y Gyrrwr ei fod bob amser yn trin ei deithwyr gyda chwrteisi a pharch.

 

Yn ei ddatganiad terfynol mynegodd y Gyrwyr edifeirwch dwys ac ymddiheurodd unwaith eto am ei weithredoedd.  Plediodd ar aelodau i beidio â diddymu ei drwydded a rhoddodd sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol gan dynnu sylw at ei record flaenorol ddilychwyn.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD atal Gyrwyr Rhif 046577 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat am gyfnod o un wythnos a fyddai’n dod i rym ar unwaith ar sail diogelwch y cyhoedd.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a datganiad y Gyrrwr i gefnogi ei achos gan gynnwys ei ble i liniaru a’r tystlythyrau cymeriad a ddarparwyd.  Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch y sylwadau amharchus a wnaeth y Gyrrwr ynglŷn â theithiwr diamddiffyn a’r ffaith ei fod wedi datgelu rhan o’i chyfeiriad ac y gallai fod wedi peryglu’r unigolyn.  Roedd yr Aelodau wedi ystyried diddymu’r drwydded ond wedi ystyried ymddygiad y Gyrrwr a’i edifeirwch gwirioneddol ynglŷn â’r digwyddiad ynghyd â’r ffaith nad oedd y sylwadau yn rhai o natur sarhaus ac nad oedd wedi datgelu cyfeiriad llawn y teithiwr.  O ganlyniad, cytunwyd i atal y drwydded am un wythnos a fyddai’n dod i rym ar unwaith ar sail diogelwch y cyhoedd.  Yn ogystal, roedd y pwyllgor yn disgwyl i’r Gyrrwr wneud ymddiheuriad llawn i’r teithiwr dan sylw ac anfon copi at yr Adran Drwyddedu at ddibenion ffeilio.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a’u rhesymau dros hynny eu cyfleu i’r Gyrrwr ynghyd â goblygiadau’r penderfyniad hwnnw a’i hawl i apelio.  Fe’i  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 048997

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi yn amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif 048997.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid diddymu Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio Preifat gyrrwr rhif 048997 er mwyn diogelu’r cyhoedd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)           addasrwydd Gyrwyr Rhif 048997 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          gwnaed cwyn gan Swyddog Gorfodi Sifil ynglŷn ag ymddygiad y gyrrwr trwyddedig ar 10 Hydref 2013 ar ôl rhoi Rhybudd Talu Cosb iddo mewn perthynas â cherbyd hacni,

 

(iii)         roedd y Gyrrwr wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodol gan Heddlu Gogledd Cymru am Drosedd dan y Drefn Gyhoeddus yn ymwneud â’r digwyddiad (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi’u hatodi i’r adroddiad), a

 

(iv)         gwahoddwyd y Gyrrwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac ateb cwestiynau aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (SGT) grynodeb o’r adroddiad a dywedodd nad oedd y Gyrrwr yn bresennol.  Roedd y mater wedi’i ohirio ers y cyfarfod diwethaf ar ôl derbyn gohebiaeth ysgrifenedig gan y Gyrrwr a'r cyfreithwyr a gyfarwyddwyd ganddo yn gofyn am ohiriad.  Roedd y cyfreithwyr wedi hysbysu ers hynny nad oeddynt bellach yn cynrychioli'r Gyrrwr dan sylw.  Gan nad oedd y Gyrrwr wedi rhoi eglurhad dros ei fethiant i fod yn bresennol, y ffaith fod y mater wedi’i ohirio yn barod ar gais y Gyrrwr, a gan ystyried natur ddifrifol yr achos penderfynodd yr aelodau i fwrw ymlaen â'r adolygiad yn absenoldeb y Gyrrwr.

 

Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr aelodau am y sylwadau a wnaed yn y cyfarfod diwethaf.  Darllenodd lythyr a dderbyniwyd oddi wrth y Gyrwyr dan sylw lle’r oedd yn derbyn natur ddifrifol y digwyddiad ac yn dymuno rhoi’r mater yn nwylo cyfreithwyr.  Aeth ati i gyfleu ei ymddiheuriadau a’i edifeirwch dwys am y digwyddiad gan nodi fod cyfres o ddigwyddiadau anffodus wedi arwain at y diweddglo hwn.  Teimlai’r Gyrrwr fod y dystiolaeth a gyflwynwyd wedi’i rhagfarnu yn ei erbyn ac roedd eisiau paratoi amddiffyniad a darparu datganiadau tystion.

 

Atebodd y SGT gwestiynau gan aelodau gan nodi -

 

·        nid oedd manylion yr aelod o’r cyhoedd oedd yn rhan o'r digwyddiad wedi’u cymryd ar adeg y digwyddiad ac yn anffodus, nid oedd modd dod o hyd iddo

·        cadarnhaodd bod rhai mân anghysondebau rhwng y ddau ddatganiad a roddwyd gan y Swyddogion Gorfodaeth Sifil

·        Roedd Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn caniatáu i geir barcio am hyd at ddeng munud yn y lle parcio cyn rhoi Rhybudd Talu Cosb

·        nid oeddem yn gwybod a oedd y Gyrwyr wedi talu’r Hysbysiad Cosb Benodedig a roddwyd gan yr Heddlu ond roedd wedi nodi yn ei ddatganiad ei fod yn bwriadu gwneud hynny.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  048997 er diogelwch y cyhoedd.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Rhoddodd aelodau ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd, gan gynnwys sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol gan y Gyrrwr fel rhan o’i gais i ohirio’r eitem yn y cyfarfod diwethaf. Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch ymddygiad y Gyrwyr yn ystod y digwyddiad, ac yn arbennig ei agwedd ymosodol tuag at y Swyddogion Gorfodaeth Sifil ac aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol ynghyd â’r iaith frwnt a sarhaus a ddefnyddiwyd a oedd yn dangos problem gyda’i allu i reoli gwylltineb.  Cododd y digwyddiad hwn tra bod y Gyrrwr ar ddyletswydd ac mewn man cyhoeddus a dystiwyd ac a glywyd gan y cyhoedd a phlant efallai.  Nododd yr Aelodau fod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu rhoi Hysbysiad Cosb Benodol am Drosedd dan y Drefn Gyhoeddus a oedd yn cadarnhau i ryw raddau'r digwyddiad fel y disgrifir  ...  view the full Cofnodion text for item 5.