Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ffordd Llys Nant, Prestatyn
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghr. Joan
Butterfield, Barry Mellor, Win Mullen-James, Peter Owen ac Arwel Roberts Cofnodion: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield, Barry Mellor, Win Mullen-James, Peter Owen ac Arwel Roberts |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw
fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad personol neu ragfarnol. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
o dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: ADOLYGU TRWYDDED
YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 043844 PENDERFYNWYD diddymu
Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 043884 er
diogelwch y cyhoedd. Cofnodion: Yn unol ag Adran
100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, datganodd y Cadeirydd ei fod yn bwriadu
cynnwys y mater a ganlyn ar gyfer trafodaeth gan fod angen sylw brys iddo – Adolygu Trwydded
i Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat – Gyrrwr Rhif 043844 Cytunwyd ystyried
y mater ar ôl ystyried y prif fater ar y rhaglen. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf dan
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai’n debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 ac 14, Rhan
4, Atodlen 12A., y Ddeddf. |
|
DIDDYMU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047224 Ystyried
adroddiad cyfrinachol (i’w ddosbarthu yn y cyfarfod) ynghylch dirymu trwydded
gyrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047224. Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu
Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 047224 er
diogelwch y cyhoedd. Cofnodion: Cylchredwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn y cyfarfod yn argymell y dylid
diddymu’r drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat a roddwyd i
Yrrwr Rhif 047224 ar unwaith er lles diogelwch y cyhoedd. Cyflwynwyd ffeithiau’r achos fel a ganlyn – (i)
derbyniwyd
gwybodaeth ynglŷn â’r ffaith fod Gyrrwr Rhif 047224 wedi’i arestio yn
dilyn cyhuddiadau yn ymwneud â sylweddau dan reolaeth a chamymddwyn rhywiol
difrifol yn ymwneud â pherson ifanc; (ii)
derbyniwyd
manylion yn ddiweddarach yn ymwneud â’r cyhuddiadau gan Heddlu Gogledd Cymru a
oedd yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau, ac (iii)
Roedd
Gyrrwr Rhif 047224 wedi’i wahodd i ddod i gyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i
drwydded ac i ateb cwestiynau aelodau ar hynny. Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodaeth Trwyddedu (HB) yr adroddiad a chadarnhaodd nad oedd y Gyrrwr yn
bresennol er gwaethaf derbyn gwahoddiad i fod yn bresennol. Mewn ymateb i gwestiynau, clywodd aelodau na
ellid datgelu unrhyw fanylion pellach yn sgil ymchwiliad yr Heddlu i’r
cyhuddiadau, a oedd yn parhau. Rhoddodd
y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd safbwynt cyfreithiol ar y
sefyllfa gan gynnwys y sail dros wahardd a diddymu’r drwydded. Wedi trafodaeth – PENDERFYNWYD y dylid diddymu’r Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a
Cherbyd Hurio Preifat a roddwyd i’r Gyrrwr Rhif 047224 ar sail diogelwch y
cyhoedd. Dyma oedd y rhesymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i ffeithiau’r achos a mynegwyd pryder yn ymwneud
a natur ddifrifol y cyhuddiadau a’r ffaith fod yr Heddlu yn bwrw ymlaen â’u
hymchwiliad. Er mwyn cynnal diogelwch y
cyhoedd, penderfynodd yr aelodau ddiddymu’r drwydded ar unwaith. |
|
ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 043844 Cofnodion: [Credwyd fod yr eitem hon yn fater brys, a rhoddwyd
rhybudd o hynny gan y Cadeirydd ar ddechrau’r cyfarfod] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd yn y cyfarfod) ar – (i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat; (ii)
roedd y Pwyllgor
Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2012 wedi gwahardd Gyrrwr Rhif 043844 ar
sail diogelwch y cyhoedd wedi ei groniad o bwyntiau cosb, tri ohonynt yn
ymwneud â defnyddio ffôn symudol wrth yrru [caniatawyd y Gyrrwr i gadw ei
drwydded DVLA gan Ynadon Prestatyn a oedd wedi derbyn y byddai gwaharddiad wedi
achosi caledi eithriadol]; (iii)
apeliodd y Gyrrwr yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu ac ar 19
Rhagfyr 2012 gwrthododd yr Ynadol yr Apêl ond cyfeiriwyd y mater yn ôl at y
Pwyllgor Trwyddedu ar y cyfle cyntaf posibl er mwyn caniatáu iddynt adolygu
cyfnod y gwaharddiad; (iv)
roedd y Pwyllgor Trwyddedu arbennig a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2012 wedi
codi’r gwaharddiad a osodwyd ar y Gyrrwr ac wedi cyflwyno rhybudd o ran ei
ymddygiad yn y dyfodol; (v)
derbyniwyd llythyr ar 25 Mehefin 2013 gan Yrrwr Rhif 043844 yn nodi ei fod
wedi’i gael yn euog ar 13 Mehefin 2013 o oryrru gan Ynadon Llandudno a dan y
drefn o gronni pwyntiau roedd wedi’i wahardd rhag gyrru am gyfnod o chwe mis,
ac (vi)
roedd Gyrrwr Rhif 043844 wedi’i wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi’r
adolygiad o’i drwydded ac ateb cwestiynau aelodau ar hynny. Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chyflwynwyd
pawb oedd yn bresennol iddo. Oherwydd
natur brys yr adolygiad, nid oedd yr adroddiad pwyllgor wedi bod ar gael ymlaen
llaw ac wedi’i gyflwyno yn y cyfarfod. Anerchodd Gyrrwr Rhif 043884 y pwyllgor i gefnogi ei
achos, gan egluro amgylchiadau’r drosedd yrru a oedd wedi arwain at ei
waharddiad. Clywyd fod y drosedd wedi’i
chyflawni ym mis Rhagfyr 2012 ond roedd wedi cymryd tan fis Mehefin 2013 i’r
Ynadon glywed yr achos. Dywedodd y
Gyrrwr ei fod ond wedi’i gael yn euog o oryrru ar un achlysur arall yn 2010 a’i
fod yn arfer gyrru o fewn y cyfyngiad cyflymder. Unwaith y byddai ei Drwydded DVLA yn cael ei
hadfer ym mis Rhagfyr 2013 ni fyddai unrhyw euogfarnau arni. Dywedodd hefyd fod cyfeiriad yn yr ohebiaeth
a dderbyniwyd ynglŷn â’r euogfarn at y drosedd fel mân drosedd dan y
Ddeddf Traffig Ffyrdd. Roedd y gyrrwr yn
awyddus i roi gwybod i’r pwyllgor mai bod yn yrrwr tacsi oedd ei fywoliaeth a’i
fod mwynhau hynny ac yn ei chymryd o ddifrif.
Er ei fod yn derbyn na allai gyflawni ei ddyletswyddau fel gyrrwr
trwyddedig ar hyn o bryd, roedd yn gobeithio parhau yn y proffesiwn pan gaiff
ei Drwydded DVLA ei hadfer. Manteisiodd Aelodau ar y cyfle i gwestiynu’r Gyrrwr
ynglŷn â’i euogfarn am oryrru a gofynnwyd iddo pam na wnaeth ddatgelu am
ei ymddangosiad yn y llys pan ddaethpwyd â mater ei drwydded ger bron y
pwyllgor ar gyfer yr adolygiad blaenorol.
Ymatebodd y Gyrrwr gan ddweud nad oedd wedi’i gael yn euog o unrhyw
drosedd ar y pryd ac nad oedd yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
ym mis Rhagfyr 2012. Eglurodd
amgylchiadau’r cyfeiriad at ddefnydd priodol o gyflymder yn yr Adroddiad Asesu
Gyrrwr a gynhyrchwyd ar ôl cwblhau’r Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru. O safbwynt euogfarnau moduro hanesyddol,
cadarnhaodd y Gyrrwr ddwy drosedd flaenorol a’r amgylchiadau ym mhob un
ohonynt. Yn ei ddatganiad terfynol gofynnodd y Gyrrwr am drugaredd gan nodi ei fod wedi dysgu o’i droseddau. Rhoddodd sicrwydd i’r pwyllgor na ... view the full Cofnodion text for item 5. |