Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield, Pat Jones, Barry Mellor a Peter Owen Cofnodion: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield, Pat Jones, Barry Mellor a Peter Owen |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiadau sy'n rhagfarnu yn unrhyw
fusnes i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu gan unrhyw un. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 146 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2013 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2013
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2013. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2013
fel cofnod cywir. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2013/14 PDF 46 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y cynnig i swyddogion gyflwyno rhaglen
gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig yn y Pwyllgor Trwyddedu nesaf ym mis Mawrth yn
cael ei gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
Trwyddedu.
Oherwydd
nifer o resymau amrywiol fel y manylwyd yn yr adroddiad nid oedd y swyddogion
wedi gallu bodloni gofynion y rhaglen waith gyfredol a chynigwyd cyflwyno
rhaglen gwaith i’r dyfodol diwygiedig yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor ym mis
Mawrth. Eglurodd y Cynghorydd Bill Cowie fod
materion trwyddedu wedi’u trafod yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Craffu
Perfformiad a'i fod wedi holi am y posibilrwydd o staff ychwanegol oherwydd y
pwysau gwaith a nodwyd. Nododd yr Aelodau'r rhesymau dros y
llithriad yn y rhaglen waith a bod angen adolygu blaenoriaethau trwyddedu gan
ystyried materion eraill sy’n cymryd amser y swyddogion. O ganlyniad - PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y swyddogion
yn cyflwyno Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddiwygiedig yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mawrth. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 041213
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i
amgáu) yn gofyn i’r aelodau wneud penderfyniad ynglŷn â chais i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat, gan Ymgeisydd Rhif 041213. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 041213 yn cael ei roi. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar – (i)
Cais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 041213
i ddal trwyddedau i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat; (ii)
Nad
oedd y swyddogion mewn sefyllfa i gymeradwyo’r cais yn dilyn gwybodaeth a
ddaeth i’r amlwg yn dilyn datgeliad llawn gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd; (iii)
Crynodeb
o euogfarnau a ddatgelwyd oedd yn ymwneud â nifer o droseddau am gyfnod o 1961
hyd at 2001 gan gynnwys digwyddiadau o anonestrwydd, trais a throseddau
traffig; (iv)
Polisi
cyfredol y Cyngor o ran perthnasedd yr euogfarnau, a (v)
gofynnwyd
i’r Ymgeisydd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i
gwestiynau aelodau ar hynny. Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn
yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Darparodd y
Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac egluro bod y mater wedi’i
gyflwyno i’r pwyllgor gael asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded gan
ystyried nifer a natur yr euogfarnau a ddatgelwyd. Cyfarchodd yr Ymgeisydd
y pwyllgor ac eglurodd amgylchiadau nifer o’r euogfarnau gyda rhai ohonynt o’i
ieuenctid ac eraill oedd yn gysylltiedig â chyfnod anodd yn ei fywyd personol.
Fe bortreadodd ei hun fel unigolyn gonest, sy’n gweithio’n galed ac yn
mynychu’r eglwys a chadarnhaodd i’r pwyllgor ei fod yn unigolyn cyfrifol yn
awr. Eglurodd yr Ymgeisydd nifer o faterion o ran natur
ac amgylchiadau ei euogfarnau blaenorol mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau o
ran hynny. Yn ei ddatganiad terfynol gofynnodd yr Ymgeisydd
i’r pwyllgor edrych yn ffafriol ar ei gais a sicrhaodd ei ymddygiad yn y
dyfodol pe bai trwydded yn cael ei rhoi. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD
gwobrwyo
cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ar gyfer
ymgeisydd rhif 041213. Y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd – Roedd y pwyllgor wedi
ystyried yr adroddiad yn ofalus a chais yr Ymgeisydd ac wedi mynegi pryder
ynglŷn â nifer y mathau o euogfarnau a ddatgelwyd gan y gwiriad o'i gofnod
troseddol. Fodd bynnag, roeddent wedi ystyried y ffaith bod y
troseddau wedi'u cyflawni gryn dipyn o amser yn ôl a derbyniodd yr aelodau'r
eglurhad ynglŷn â'r euogfarnau a gyflwynodd yr Ymgeisydd.
Roedd y pwyllgor o’r farn bod yr Ymgeisydd yn onest ynglŷn â'i
ymddygiad presennol ac yn y dyfodol ac o ganlyniad penderfynodd y pwyllgor ei
fod yn Unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded. Rhoddwyd rhybudd
i’r Ymgeisydd y byddai unrhyw drosedd arall yn y dyfodol yn cael ei drin yn
ddifrifol. Eglurwyd penderfyniad a
rhesymau’r pwyllgor i’r Ymgeisydd. |
|
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 045613
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
wedi'i amgáu) yn gofyn i’r aelodau adolygu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 045613. Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 045613
er diogelwch y cyhoedd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 045613 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
Gwybodaeth
a dderbyniwyd ar 24 Medi 2013, a chwyn dilynol a wnaed yn erbyn y Gyrrwr,
ynglŷn â rhoi sylwadau ymosodol, sarhaus ac anaddas ar wefan rhwydweithio
cymdeithasol ynglŷn â theithiwr oedd wedi talu i deithio, oedd hefyd yn
cynnwys datgelu manylion personol (roedd crynodeb o’r ffeithiau a datganiadau
gan dystion a dogfennau cysylltiol wedi’u hatodi i’r adroddiad), a (iii)
gofynnwyd
i’r Gyrrwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac
ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn
yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Gorfodi Trwyddedu (HB) yr adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos. Ymddiheurodd y Gyrrwr am
ei ymddygiad gan egluro ei fod yn credu bod y sylwadau yn breifat rhyngddo ef
a’i ffrindiau ac nad oedd wedi bwriadu tramgwyddo na’u gwneud yn gyhoeddus.
Holodd yr Aelodau’r gyrrwr ynglŷn â’i ymddygiad a’i agwedd tuag at y
teithiwr a holwyd sut y gwnaed y sylwadau’n gyhoeddus. Cyfeiriodd y
Gyrrwr at ei broblemau yn ei fywyd personol oedd yn effeithio ar gyflwr ei
feddwl ar y pryd a’i fwriad oedd cael ychydig o hwyl (roedd copi o lythyr
cyfreithiwr yn ddyddiedig 18 Tachwedd 2013 yn cadarnhau sefyllfa ei fywyd
personol wedi’i gylchredeg yn y cyfarfod). Tybiodd bod y
sylwadau wedi’u rhannu gan ei ffrindiau ac roedd wedi cael gwared â’r rhain a
heb ddefnyddio’r wefan ers hynny. Cadarnhaodd nad oedd yn
ymwybodol o ddifrifoldeb ei weithredoedd ar y pryd ac nad oedd yn meddwl yn
glir. Mewn ymateb i gwestiynau pellach cadarnhaodd y
Gyrrwr nad oedd wedi ymddiheuro i’r teithiwr hyd yn hyn gan nad oedd yn dymuno
mynd ati'n uniongyrchol na gwneud y sefyllfa'n waeth. Yn olaf
cadarnhaodd mai digwyddiad unigol ydoedd ac nad oedd yn cyfeirio at gwsmeriaid
ar y wefan fel arfer. Yn ei ddatganiad
terfynol ymddiheurodd y Gyrrwr am y digwyddiad a mynegodd ei fod yn difaru ei
weithredoedd. Ychwanegodd y byddai’n ymddiheuro i'r teithiwr. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 045613
er diogelwch y cyhoedd. Y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd – Ystyriodd yr Aelodau'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a sylwadau’r Gyrrwr
i gefnogi’r achos a'i ymateb i'r cwestiynau. Mynegwyd pryderon difrifol ynglŷn ag ymddygiad y Gyrrwr oedd yn
torri ymddiriedaeth ac nid oedd y pwyllgor o’r farn ei fod yn Unigolyn cymwys
ac addas i dderbyn trwydded. Prif ystyriaeth y
Pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd ac oherwydd ffactorau tramgwyddedig bod (1) y
teithiwr yn unigolyn diamddiffyn, (2) roedd manylion personol wedi’u datgelu
oedd yn gallu dangos hunaniaeth y teithiwr ar y we gan ei rhoi mewn risg, a (3)
sylwadau amharchus ac agwedd y Gyrrwr o ran hynny, cytunwyd y dylid diddymu'r
drwydded ar unwaith er lles diogelwch y cyhoedd. Eglurwyd penderfyniad a rhesymau’r pwyllgor i’r Gyrrwr a rhoddwyd
gwybodaeth iddo am ei hawl i apelio. Ar y pwynt hwn (10.30am)
cafwyd egwyl. |
|
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 046577 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
wedi’i amgáu) yn gofyn i’r aelodau adolygu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 046577. Penderfyniad: PENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 046577 i
gael trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat i gyfarfod arbennig
o’r Pwyllgor Trwyddedu, i’w gynnal cyn gynted a bo modd. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (wedi’i
gylchredeg eisoes) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif 046577. Roedd Gyrrwr
Rhif 046577 wedi gofyn am gael gohirio’r
achos hwn ac wedi cyflwyno llythyr (a gylchredwyd yn y cyfarfod) yn egluro y
byddai dramor ar adeg y gwrandawiad ac felly nid oedd yn gallu bod yn
bresennol. Er lles cyfiawnder
naturiol penderfynodd yr aelodau i ganiatáu gohirio ond oherwydd difrifoldeb yr
achos cytunwyd y dylid trefnu cyfarfod arbennig cyn gynted â phosibl i ystyried
y mater. PENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 046577 i ddal trwydded Cerbyd Hacni a
Cherbydau Hurio Preifat i gyfarfod arbennig y Pwyllgor Trwyddedu cyn gynted â
phosibl. |
|
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 048997 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
wedi’i amgáu) yn gofyn i’r aelodau adolygu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 048997. Penderfyniad: PENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 048997 i
gael trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat i gyfarfod arbennig
o’r Pwyllgor Trwyddedu, i’w gynnal cyn gynted a bo modd Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (wedi’i
gylchredeg eisoes) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif 048997. Roedd Gyrrwr
Rhif 048997 yn bresennol a
chyfeiriodd at ei lythyr (a gylchredwyd yn y cyfarfod) yn gofyn am ohirio'r
achos er mwyn caniatáu digon o amser iddo baratoi a chyflwyno amddiffyniad teg
a diduedd. Cyflwynodd lythyr gan unigolyn yr oedd yn bwriadu
dibynnu arnynt fel tyst allweddol yn cadarnhau nad oedd yn gallu mynychu’r
cyfarfod oherwydd ymrwymiadau yn ei waith. Cynghorodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd bod cais i ohirio wedi’i
dderbyn ar e-bost y diwrnod blaenorol gan Gyfreithiwr y Gyrrwr. Ystyriodd yr
Aelodau’r cais i ohirio a nodi difrifoldeb y mater. Er mwyn caniatáu gwrandawiad teg - PENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 048997 i ddal trwydded Cerbyd Hacni a
Cherbydau Hurio Preifat i gyfarfod arbennig y Pwyllgor Trwyddedu cyn gynted â
phosibl. Eglurwyd penderfyniad y pwyllgor i’r Gyrrwr a phryd y byddai’r cyfarfod
arbennig yn cael ei gynnal a byddai hynny'n cael ei gadarnhau cyn gynted â
phosibl. Pwysleisiwyd iddo fod y
pwyllgor yn disgwyl delio â’r achos ar y diwrnod a phe bai unrhyw anawsterau yn
codi o ran tystion yn methu bod yn bresennol yna byddai’r aelodau’n disgwyl
datganiad ysgrifenedig. |
|
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047689
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
wedi’i amgáu) yn gofyn i’r aelodau adolygu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 047689. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod rhybudd yn cael ei roi i Yrrwr Rhif 047689
ynglŷn â difrifoldeb y drosedd ac ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 047689 i ddal trwyddedau i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
Roedd
yr adroddiad wedi’i ohirio o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 18 Medi 2013 ar gais y Gyrrwr; (iii)
Roedd
adroddiad wedi’i dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn ag ymddygiad y
gyrrwr trwyddedig ar 10 Mehefin 2013 lle y cyflwynwyd Cosb Benodedig Deddf
Gorchymyn Cyhoeddus- roedd y digwyddiad wedi’i ddal ar TCC hefyd (roedd
crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau perthnasol
ynghlwm â’r adroddiad), a (iv)
gofynnwyd
i’r Gyrrwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac
ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod ac yn cael ei gynrychioli gan ei gyflogwr.
Yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi derbyn yr adroddiad
a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodi Trwyddedu (HB) yr adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos. Eglurodd Cynrychiolydd y
Gyrrwr bod y Gyrrwr wedi gweithio iddo am bedair blynedd yn flaenorol heb
unrhyw ddigwyddiad ac roedd yn aelod gwerthfawr o’r tîm gyda chofnod teilwng.
Roedd wedi cyfaddef ei drosedd, ac wedi ymddiheuro am y digwyddiad ac wedi
derbyn y Rhybudd Cosb Benodedig. Darparodd nifer o eirdaon ysgrifenedig gan gwsmeriaid yn tystio cymeriad
da'r Gyrrwr (a gylchredwyd yn y cyfarfod) a’i ganmol fel gyrrwr trwyddedig.
Apeliodd i’r Aelodau i beidio â diddymu ei
drwydded ac amlygodd yr effaith andwyol ar gwsmeriaid cyfredol o ganlyniad i
hynny. Ymatebodd y Gyrrwr i'r cwestiynau a chyfeiriodd at
broblemau yn ei fywyd personol yn ystod cyfnod y digwyddiad, roedd yn cydnabod
nad oedd ei ymddygiad yn dderbyniol ac roedd y digwyddiad yn codi cywilydd arno
ac fe ymddiheurodd. Eglurodd amgylchiadau’r digwyddiad a’i
rwystredigaeth ar y pryd. Wrth wneud datganiad
terfynol apeliodd Cynrychiolydd y Gyrrwr ar y pwyllgor i beidio â diddymu ei
drwydded gan amlygu’r gwasanaeth gwerthfawr yr oedd yn ei ddarparu. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD cyflwyno rhybudd i Yrrwr Rhif 047689 ynglŷn â difrifoldeb y drosedd
a’i ymddygiad yn y dyfodol. Y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd – Yn ystod y trafodaethau, mynegwyd pryderon difrifol ynglŷn ag
ymddygiad y Gyrrwr, wrth iddo weithio, lle y gallai’r cyhoedd ei weld a’i
glywed, gan gynnwys plant. Fodd bynnag roedd y
pwyllgor yn derbyn fod y Gyrrwr wirioneddol yn edifarhau am ei weithredoedd ac
wedi ystyried y geirdaon a ddarparwyd gan gwsmeriaid yn tystio ei gymeriad da a
gwasanaeth gwerthfawr. Er bod ymddygiad y Gyrrwr yn yr achos hwn yn amlwg
yn annerbyniol cytunwyd y dylid cyflwyno rhybudd difrifol yn yr achos hwn.
Fodd bynnag byddai unrhyw droseddau pellach yn y dyfodol sy'n cael eu
cyflwyno i'r pwyllgor yn cael eu trin yn ddifrifol. Eglurwyd penderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros hynny i'r Gyrrwr a’i Gynrychiolydd. |
|
ADDASRWYDD CERBYD AR GYFER TRWYDDED CERBYD HACNI Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru Cerbyd Hacni. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y cerbyd Hacni sy’n destun y cais yn cael caniatâd i gael trwydded i gario 8 o
deithwyr. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a
gylchredwyd eisoes) ar – (i)
Addasrwydd
Cerbyd Hacni (sydd â thrwydded i gludo 7 teithiwr) i ddal trwydded i gludo 8
teithiwr; (ii)
Nid
oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ddyrannu trwydded ar gyfer 8 teithwyr gan nad
oedd y cerbyd yn cydymffurfio â Chanllaw Prawf Cymhwysedd Cerbyd Hacni / Hurio Preifat
na manyleb 3.1 (f) fel y manylir yn Amodau Trwyddedu Cerbyd Hacni a Cherbyd
Hurio Preifat y Cyngor, sef (1) nid oedd ffurfwedd y seddau yn darparu digon o
le i’r teithwyr basio a (2) byddai’n rhaid i deithwyr godi un o’r seddau eraill
er mwyn cael mynediad / gadael y seddau cefn, a (iii)
gofynnwyd
i’r ymgeisydd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i
gwestiynau aelodau ar hynny. Nid oedd yr
ymgeisydd yn bresennol a chyflwynodd Swyddog Gorfodi Trwyddedu’r Cyngor (HB) yr
adroddiad. Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried a fyddai’n addas i ymadael â pholisi’r
Cyngor ynglŷn â manylion y cerbyd er mwyn cymeradwyo’r cais fel y
cyflwynwyd. Ar y pwynt hwn
torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD bod
y Cerbyd Hacni sy’n destun i’r cais yn derbyn trwydded i gludo 8 teithiwr. Y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd – Yn ystod eu trafodaethau nododd yr aelodau'r cyngor a gyflwynwyd gan Adran
Cludiant ynglŷn â diogelwch y cerbyd ar gyfer defnydd masnachol a bod amodau
trwyddedu cyfredol ar gyfer cerbyd hacni / hurio preifat ynglŷn â
gosodiadau seddau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Roedd y pwyllgor yn fodlon bod y cerbyd
oedd yn destun i’r cais yn addas ar gyfer cludo 8 teithiwr.
O ganlyniad
penderfynodd y pwyllgor i gymeradwyo’r cais. Gofynnodd y
Pwyllgor bod unrhyw gerbyd sy’n destun cais tebyg yn y dyfodol ar gael i'r
aelodau gael ei arolygu. Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am
|