Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthin
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Hugh Irving, Peter Owen a Arwel Roberts Cofnodion: Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Hugh Irving, Peter Owen ac
Arwel Roberts |
|
DATGANIAD O FUDDIANNAU Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes sydd wedi ei nodi i’w ystyried yn y cyfarfod yma. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol na
niweidiol. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol na
rhagfarnus. |
|
MATERION BRYS YN ÔL CYTUNDEB Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu cyflwyno. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y
dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol
oherwydd ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu,
fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|
ADOLYGU ATAL TRWYDDED – GYRRWR RHIF 043844 I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a
Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio adolygiad aelodau
o’r cyfnod atal a orfodwyd yn flaenorol ar Yrrwr Trwyddedig Rhif 043844. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod yr ataliad a
orfodwyd ar Yrrwr Rhif 043844 i’w godi a rhybudd i’w roi ynglŷn â’i
ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu cyfnod atal y drwydded a bennwyd gan
y pwyllgor ar Yrrwr Trwyddedig rhif 043844.
Cyflwynwyd ffeithiau’r achos fel a ganlyn – (i)
Roedd
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2012 wedi ystyried addasrwydd
Gyrrwr Rhif 043844 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat
ar ôl cronni 12 pwynt cosb ar ei drwydded DVLA mewn cyfnod o dair blynedd
[roedd y Gyrrwr wedi cael cadw ei drwydded DVLA gan Ynadon Prestatyn a oedd
wedi derbyn y byddai anghymhwysiad yn achosi caledi eithriadol yn ei achos ef]; (ii)
Ystyriwyd
manylion yr ardystiad ar drwydded DVLA y Gyrrwr, gyda thri o’r achosion yn
ymwneud â defnyddio ffôn symudol wrth yrru cerbyd, gyda’r aelodau yn mynegi
pryderon dybryd ynglŷn â goblygiadau difrifol gweithredoedd y Gyrrwr, gyda
chanlyniadau marwol posibl a’r drosedd a ailadroddwyd o ddefnyddio ffôn symudol
wrth yrru, ac roeddynt yn ystyried bod hynny yn dangos difaterwch y Gyrrwr tuag
at y gyfraith a diogelwch y cyhoedd; (iii)
Yn
ystod y trafodaethau, ystyriodd y Pwyllgor Trwyddedu y byddai’r Gyrrwr yn elwa
o fynychu Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr er mwyn newid ei ymddygiad a bod ei
addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig yn cael ei asesu ymhellach yn eu cyfarfod
nesaf ar ôl iddo gwblhau’r Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr; o ganlyniad fe – “BENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 043844 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hur
preifat am resymau diogelwch y cyhoedd a’i gwneud yn ofynnol ei fod yn mynd ar
Gwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr cyn dwyn y mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y
pwyllgor (ar 5 Mawrth 2013) er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel
gyrrwr trwyddedig ac ailystyried y cyfnod atal a bennwyd.”; (iv)
Bod
y Gyrrwr wedyn wedi apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu i Lys yr
Ynadon ac ar 19 Rhagfyr 2012 gwrthododd yr Ynadon yr Apêl ond mynegwyd pryderon
ynglŷn â hyd y cyfnod atal a bennwyd a phenderfynu bod y mater yn cael ei
gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu cyn gynted ag y bo modd i ganiatáu
adolygu’r cyfnod atal; (v)
Bod
y Gyrrwr wedi mynychu Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr ar 19 Ionawr 2013 yn unol â
chyfarwyddyd y Pwyllgor Trwyddedu (dosbarthwyd copi o Adroddiad Asesu’r Gyrrwr
cyn y cyfarfod), a (vi)
Bod
Gyrrwr Rhif 043844 wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi adolygiad ei
drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar y mater. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) grynodeb o’r adroddiad a dywedodd bod y
Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod. Anerchodd Gyrrwr Rhif 043844 y pwyllgor i gefnogi ei achos, gan ddweud ei fod yn yrrwr profiadol am 25 o flynyddoedd ac nad oedd erioed wedi bod mewn damwain yn ystod y cyfnod hwnnw. Ymhelaethodd ar ei brofiad gyrru yn y DU ac mewn gwledydd eraill a’i brofiad o yrru amrywiaeth eang o gerbydau gwahanol. Sicrhaodd y Gyrrwr y pwyllgor iddo ymddwyn yn ffôl trwy ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru, ac nad oedd yn gwneud hynny yn rheolaidd ac esboniodd yr amgylchiadau pan ddigwyddodd pob un o’r troseddau. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd bod y Gyrrwr wedi dioddef caledi eithriadol o ganlyniad i atal ei drwydded, gyda’r golled mewn enillion yn ei adael gydag anawsterau ariannol. Datgelwyd manylion ei amgylchiadau personol o ran ei gyfrifoldebau a’i ymrwymiadau teuluol. Yna adroddodd y Gyrrwr ar ei bresenoldeb ar y Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr, fel y’i cyfarwyddwyd gan y pwyllgor, gan nodi’r gwelliannau i’w yrru o ganlyniad. Wrth gloi, roedd y Gyrrwr yn cydnabod iddo gamymddwyn; ailadroddodd y ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau’r uchod, aeth y cyfarfod yn ei flaen mewn
sesiwn agored. |
|
CWRS YMWYBYDDIAETH I YRWYR Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) ystyried cyflwyno Cwrs Asesu Gyrwyr yn
rhan o’r broses o ymgeisio ar gyfer gyrwyr cerbydau hacni newydd a gyrwyr
cerbydau hurio preifat a’r Ymgeisydd i dalu cost y cwrs (b) ystyried darparu Gweithdai Asesu Gyrwyr ar
gyfer gyrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat presennol gyda’r gyrwyr
trwyddedig yn talu cost y cwrs. Cofnodion: Cyn i’r cyfarfod ddod i ben, gwnaeth yr aelodau
sylwadau ar fanteision mynychu Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr ar gyfer gyrwyr
trwyddedig a thrafod opsiynau hyfforddi posibl gyda’r swyddogion. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu ar argaeledd cyrsiau priodol a rhoddodd drosolwg byr o
gynnwys y cwrs, yn delio ag asesiad ymarferol ac asesiad mewn gweithdy ynghyd â
chostau dangosol. Awgrymodd yr Aelodau y dylid ystyried cyflwyno hyfforddiant
ymwybyddiaeth i yrwyr ar gyfer gyrwyr cerbydau hacni a cherbydau hur preifat
fel rhan o’r adolygiad o’r polisi a’r amodau a oedd ar y gweill ar hyn o bryd.
Ar ôl trafodaeth bellach fe – BENDERFYNWYD – (a) ystyried cyflwyno Cwrs Ymwybyddiaeth i
Yrwyr fel rhan o’r broses o wneud cais am drwydded gyrrwr cerbydau hacni a
cherbydau hur preifat gyda chost y cwrs yn cael ei dalu gan yr Ymgeisydd, a (b) ystyried darparu Gweithdai Ymwybyddiaeth i
Yrwyr ar gyfer gyrwyr presennol cerbydau hacni a cherbydau hur preifat gyda
chost y cwrs yn cael ei dau gan y gyrrwr trwyddedig. Daeth y cyfarfod i ben am 2.40 p.m. |