Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr  Brian Blakeley, Hugh Irving a Peter Owen.

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Hugh Irving a Peter Owen.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol neu ragfarnus.

 

Cofnodion:

NI chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol neu ragfarnus.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 166 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Medi 2012 (copi’n amgaeëdig).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar bwyntiau o gywirdeb, derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2012 fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Medi 2012.

 

Cywirdeb –

 

Tudalen 7 – Eitem 5, Adolygu Tair Trwydded – Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyblygu Rhif y Gyrrwr, a oedd angen ei newid [Dylid newid Rhif Gyrrwr 040298 yn (3) Atodiad 2 i Yrrwr Rhif 040448.]

 

Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield nad oedd ei hymddiheuriadau am absenoldeb yn y cyfarfod diwethaf wedi eu cofnodi yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2012 fel cofnod cywir.

 

Ar y pwynt hwn, nododd y Cadeirydd ei fwriad i newid trefn y rhaglen ar gyfer yr unigolion hynny a oedd yn mynychu’r cyfarfod i gefnogi eu ceisiadau / adolygiadau trwydded, a gwrando ar eu hachosion hwy cyn unrhyw fater arall.

 

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol oherwydd ei bod yn debygol y byddai’n datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 044881

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau benderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 044881 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwyddedu gyrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat gan Ymgeisydd Rhif 044881 a rhoi rhybudd ar ddifrifoldeb ei drosedd a’i ymddygiad i’r dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)                 Cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd rhif 044881 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat;

 

(ii)               Bod yr Ymgeisydd wedi ei gollfarnu am Fethu â Darparu Sampl i’w Ddadansoddi (wrth ofalu am gerbyd modur) ar 13 Hydref 2010 a’i wahardd rhag gyrru am 16 mis (wedi ei ostwng i 12 mis ar ôl cwblhau cwrs) a’i ddirwyo £160.00;

 

(iii)             Bod yr Ymgeisydd wedi dal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat ers 2006 a’i fod yn gyrru cerbyd trwyddedig adeg y drosedd (roedd yr Ymgeisydd wedi dweud ers hynny nad oedd yn cludo teithwyr talu pan ddigwyddodd y drosedd);

 

(iv)              Bod yr Ymgeisydd wedi methu â hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o’r drosedd o fewn saith diwrnod yn unol ag amodau trwyddedu, ac yn hytrach roedd wedi gadael i’w drwydded fynd yn ddi-rym ym mis Rhagfyr 2010;

 

(v)                Polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(vi)              Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad gan ddweud bod yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr ymgeisydd yn wyneb y cyfnod cymharol fyr yn rhydd rhag troseddau gyrru.

 

Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais, gan fynegi ei edifeirwch ynglŷn â’r drosedd. Ymddiheurodd hefyd am fethu â hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o’r gollfarn, a oedd oherwydd dryswch a phryder a ddioddefodd ynglŷn â'r digwyddiad. Ymatebodd i gwestiynau’r aelodau ar amgylchiadau ei gollfarn a’i fethiant i ddarparu sampl i’w ddadansoddi, a chadarnhaodd iddo ddal trwydded gyrru tacsi heb ddigwyddiad ers 2006. I gloi, dywedodd yr Ymgeisydd iddo fynychu cwrs a argymhellwyd gan y llys a’i fod wedi dysgu gwersi o hwnnw. Ailadroddodd ei edifeirwch dwys a sicrhaodd yr aelodau na fyddai digwyddiad o’r fath eto.

 

Ar y pwynt hwn, ymneiltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe -

 

BENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur preifat i Ymgeisydd Rhif 044881 a rhoi rhybudd ynglŷn â difrifoldeb ei drosedd a'i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd, roedd y pwyllgor wedi ei berswadio mai digwyddiad unigol oedd y drosedd a bod yr Ymgeisydd yn ddiffuant yn ei sicrhad na fyddai’n digwydd eto. Roedd hefyd wedi cymryd i ystyriaeth bolisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnhau a nododd bod caniatáu’r cais yn unol â’u polisi hwy eu hunain a’r amserlen a ddarparwyd i’r Ymgeisydd fod yn rhydd rhag collfarnhau yn gysylltiedig â diod. Yn unol â hynny, ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hur preifat ond teimlasant ei bod yn briodol rhoi rhybudd yn wyneb y drosedd a gyflawnwyd.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd benderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r Ymgeisydd.

 

 

6.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 044879

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau benderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 044879 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur preifat gan Ymgeisydd Rhif 044879.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)                 Cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd rhif 044879 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat;

 

(i)                 Nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais oherwydd gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB);

 

(ii)               Crynodeb o’r collfarnau a ddatgelwyd a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau dros gyfnod o 1982 i 1995;

 

(iii)             Polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(ii)               Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad gan ddweud bod yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr ymgeisydd i ddal trwydded o ystyried natur y collfarnhau.

 

Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais, gan ddweud ei fod yn yrrwr profiadol, yn meddu ar drwydded yrru DVLA am flynyddoedd yn rhydd rhag collfarnau moduro. Ystyriai ei fod yn dda gyda’r cyhoedd a chredai y gallai ddarparu gwasanaeth cyhoedd gwerthfawr. Hefyd, mynegodd ei edifeirwch ynglŷn â'i orffennol, gan ddweud ei fod wedi newid ei fywyd ers hynny. Wrth ymateb i gwestiynau, manylodd yr Ymgeisydd ei ymrwymiadau a’i gyfrifoldebau teuluol a’i gyflogaeth yn y gorffennol. Siaradodd hefyd am ei ddymuniad i gael gwaith fel gyrrwr trwyddedig a fyddai, teimlai, yn gam cadarnhaol.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe -

 

BENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur preifat i Ymgeisydd Rhif 044879.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Nododd yr Aelodau bod y troseddau wedi’u disbyddu ac wedi digwydd beth amser yn ôl, a bod yr Ymgeisydd wedi bod yn rhydd rhag collfarnau am ryw ddwy flynedd ar bymtheg. O ganlyniad, derbyniodd yr aelodau gyflwyniad yr Ymgeisydd iddo newid ei fywyd ers hynny, a nodi’r amgylchiadau a’r cyfrifoldebau teuluol. Nododd y pwyllgor hefyd bod caniatáu’r cais yn unol â’i bolisi ei hun ynglŷn â pherthnasedd collfarnau a’r amserlen a ddarparwyd i’r Ymgeisydd fod yn rhydd rhag troseddau. Yn unol â hynny, ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hur preifat.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd benderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r Ymgeisydd.

 

 

7.

ADOLYGU DWY DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu dwy drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat oherwydd methiant i gydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr yn llwyddiannus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)        cydnabod bod Gyrrwr Rhif 040740 wedi llwyddo yn y prawf o wybodaeth gyrwyr a pheidio â chymryd camau pellach, a

 

(b)       atal Gyrrwr Rhif 041605 nes bydd wedi cwblhau’r prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus. Pe na byddai’r Gyrrwr wedi llwyddo yn y prawf erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor (6 Mawrth 2013) byddai’r mater yn cael ei ddwyn gerbron y cyfarfod hwnnw i’w benderfynu. Byddai llwyddo yn y prawf yn ystod y cyfnod atal yn arwain at ddileu’r penderfyniad i’w atal.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog  Trwyddedu (JT) adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried addasrwydd dau Yrrwr, rhifau 040740 a 041605 (roedd adroddiadau unigol wedi eu rhestru fel Atodiad 1 ac Atodiad 2 i’r prif adroddiad) i barhau fel gyrwyr trwyddedig ar ôl methu â chydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr o fewn yr amserlen a bennwyd.

 

Ystyriodd yr Aelodau’r amgylchiadau unigol yn ymwneud â phob Gyrrwr ar wahân, gan drin pob achos ar ei haeddiant, fel a ganlyn –

 

(1)  Gyrrwr rhif 040740 (Atodiad 1) – Dyddiad Adnewyddu 31 Rhagfyr 2011

 

Roedd pum nodyn atgoffa wedi eu hanfon at y Gyrrwr ers amser adnewyddu ei drwydded ac roedd wedi mynychu cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu i esbonio’r rhesymau dros ei fethiant i gymryd y prawf gwybodaeth. Roedd y pwyllgor wedi penderfynu gohirio ystyried addasrwydd y Gyrrwr tan y cyfarfod nesaf i roddi cyfle pellach i’r Gyrrwr sefyll y prawf gwybodaeth. Roedd y Swyddog Trwyddedu yn falch o adrodd bod y Gyrrwr ers hynny wedi llwyddo yn y prawf. O ganlyniad, fe –

 

BENDERFYNWYD cydnabod cwblhau’r prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus gan Yrrwr rhif 040740 a pheidio â chymryd unrhyw gamau pellach.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor fel a ganlyn –

 

Roedd y Gyrrwr nawr wedi cydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrwyr ac felly ystyriwyd nad oedd angen cymryd camau pellach.

 

(2)  Gyrrwr Rhif 041605 (Atodiad 2) – Dyddiad Adnewyddu 31 Rhagfyr 2011

 

Roedd pum nodyn atgoffa wedi eu cyflwyno i’r Gyrrwr ers amser adnewyddu ei drwydded ond nid oedd wedi gwneud unrhyw ymgais i gysylltu â swyddogion. Ar 21 Medi 2012 hysbyswyd y Gyrrwr y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried. Ni chafwyd ymateb gan y Gyrrwr ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 041605 nes byddai wedi cwblhau’n llwyddiannus brawf gwybodaeth gyrwyr. Byddai methiant i sefyll y prawf yn llwyddiannus cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor (6 Mawrth 2013) yn arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor i’w benderfynu. Byddai cwblhau’r prawf yn llwyddiannus o fewn y cyfnod atal yn arwain at roddi ei drwydded yn ôl iddo.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor fel a ganlyn -

 

Ystyriai’r pwyllgor bod y Gyrrwr wedi cael digon o gyfle i gymryd prawf gwybodaeth y gyrrwr. Yn unol â hynny, ystyriai’r pwyllgor ei bod yn briodol atal trwydded y Gyrrwr nes byddai wedi llwyddo yn y prawf gwybodaeth.  Byddai methiant gan y Gyrrwr i lwyddo yn y prawf yn arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor yn y cyfarfod nesaf, pan roddid ystyriaeth ddifrifol i ddirymu ei drwydded ar sail y ffaith nad oedd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

 

 

8.

ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – GYRRWR RHIF 043844

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am benderfyniad gan yr Aelodau ar addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i barhau i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Cherbyd Hur Preifat.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 043844 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat am resymau diogelwch y cyhoedd a gofyn iddo fynd ar gwrs Ymwybyddiaeth Gyrru cyn dwyn y mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y pwyllgor er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig ac ailystyried y penderfyniad i’w atal.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)                 Addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat;

 

(ii)               Roedd y Gyrrwr wedi cronni 12 pwynt cosb ar ei drwydded DVLA mewn cyfnod o dair blynedd ond roedd Ynadon Prestatyn wedi caniatáu iddo gadw ei drwydded DVLA, ar ôl derbyn y byddai ei wahardd yn achosi caledi eithriadol yn ei achos ef;

 

(iii)             Roedd manylion y cosbau ar Drwydded DVLA y Gyrrwr wedi eu darparu, gyda thair yn ymwneud â defnyddio ffôn symudol wrth yrru cerbyd;

 

(iv)              Polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(v)                Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi adolygiad ei drwydded ac i ateb cwestiynau gan yr Aelodau ar y mater.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad a chadarnhau bod y Gyrrwr wedi cydweithredu trwy gydol y broses. Nododd yr aelodau nad oedd y Gyrrwr yn bresennol er gwaethaf cael ei wahodd i fynychu.

 

Ystyriodd yr aelodau ffeithiau’r achos ac ar ôl trafodaeth fe –

 

BENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 043844 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat am resymau diogelwch y cyhoedd a bod gofyn iddo fynychu Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru cyn dod â’r mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y pwyllgor er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig, ac ailystyried yr ataliad a bennwyd.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Ar ôl ystyried ffeithiau’r achos roedd gan yr aelodau bryderon difrifol ynglŷn ag ailadrodd y drosedd o ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru a oedd yn dangos difaterwch y Gyrrwr tuag at y gyfraith a diogelwch y cyhoedd. Mynegwyd pryderon dwys hefyd ynghylch goblygiadau difrifol gweithrediadau’r Gyrrwr, gyda chanlyniadau a allai fod yn farwol. Fodd bynnag, ystyriai’r pwyllgor y byddai’r Gyrrwr yn elwa o fynychu Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru er mwyn newid ei ymddygiad. O ganlyniad, gofynnodd y Pwyllgor i’r Gyrrwr fynychu ei gyfarfod nesaf er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig ar ôl iddo gwblhau’r Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru.

 

[Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am gael cofnodi'r ffaith iddi bleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.]

 

Ar y pwynt hwn (10.40 a.m.) cafwyd egwyl luniaeth.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau’r eitemau uchod, aeth y cyfarfod yn ei flaen mewn sesiwn agored.

 

9.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 74 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo blaenraglen waith y Pwyllgor Trwyddedu a’r blaenoriaethau ar gyfer yr Adran Drwyddedu ar gyfer 2013/14.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu (ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad) a’r Blaenoriaethau ar gyfer Adran Gweinyddu Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn 2013/14.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ)  adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo blaenraglen waith y Pwyllgor Trwyddedu (Atodiad 1 i’r adroddiad) a blaenoriaethau’r Adran Gweinyddu Trwyddedu ar gyfer 2013/14.

 

Y prif elfennau a oedd yn gyrru’r blaenoriaethau oedd dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Cyngor mewn perthynas â’r swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi Trwyddedai ac ymrwymiad i gymunedau diogelach. Roedd pob un o’r blaenoriaethau wedi eu dodi o fewn rhaglen waith y pwyllgor ac roedd yn golygu adolygu’r meysydd canlynol –

 

·        Polisïau Casglu o Dŷ i Dŷ a Chasglu ar y Stryd

·        Rheoliadau Marchnad y Rhyl

·        Polisi ac amodau Gyrwyr Cerbyd Hacni / Cerbydau Hur Preifat

·        Polisi ac amodau Gweithredwyr Cerbydau Hacni / Cerbydau Hur Preifat

·        Ffioedd a Thaliadau

 

Derbyniodd yr aelodau y blaenoriaethau ar gyfer yr adran Drwyddedu ac roeddynt yn fodlon gyda’r amserlenni a bennwyd ym mlaenraglen waith y pwyllgor ac fe –

 

BENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu (ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad) a’r Blaenoriaethau ar gyfer yr Adran Gweinyddu Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn 2013/14.

 

 

10.

DIWEDDARIAD AR ADOLYGU FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 47 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar y cynnydd a wnaed ar adolygu’r ffioedd a’r taliadau trwyddedu ar gyfer 2013/14.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       derbyn a chydnabod yr adroddiad, a

 

(b)       cyflwyno adolygiad llawn o ffïoedd a thaliadau i gyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ)  adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn diweddaru’r aelodau ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag adolygu’r ffioedd a’r taliadau ar gyfer 2013/14. Roedd dalen amser enghreifftiol a ddefnyddiwyd yn y broses gyfrifo ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Hysbyswyd y pwyllgor o adolygiad cynhwysfawr o bob swyddogaeth drwyddedu a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i bennu lefel briodol ffioedd ynghyd â’r anawsterau a oedd yn gysylltiedig â’r broses. Byddai angen hefyd cynnwys adennill costau meddalwedd Trwyddedu mewn unrhyw ffioedd a thaliadau. Roedd cyngor cyfreithiol arbenigol yn cael ei geisio ar gyfrifo ffioedd trwyddedu er mwyn osgoi unrhyw heriau cyfreithiol. Rhagwelwyd y byddai adolygiad llawn o’r ffioedd a’r taliadau yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y pwyllgor ym mis Mawrth 2013.

 

Cymerodd yr aelodau y cyfle i holi’r swyddogion a gofyn am esboniad ar a ellid debydu amrywiol agweddau’r swyddogaeth drwyddedu er mwyn sicrhau swyddogaeth sy’n ariannu ei hunan.  Holwyd yn benodol ynglŷn â’r costau a achoswyd i’r Pwyllgor Trwyddedu megis amser aelodau a swyddogion. Ymatebodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) i gwestiynau’r aelodau gan ddweud, lle’n bosibl, bod y ffioedd trwyddedu a godwyd yn ceisio adennill cost gweinyddu’r swyddogaeth a bod cyngor cyfreithiol arbenigol yn cael ei geisio i sicrhau bod cyfrifiad ffioedd yn briodol ar gyfer pob swyddogaeth unigol. Gofynnid am gyngor hefyd o ran a ellid gwrthbwyso amser a dreuliwyd yn y Pwyllgor Trwyddedu yn erbyn ffioedd trwyddedu. Byddai angen gwybodaeth bellach gan ddeiliaid y gyllideb drwyddedu er mwyn ateb cwestiynau’r aelodau’n llawn mewn perthynas â chwestiynau aelodau ar wariant penodol ar swyddogaethau penodol. Nodwyd bod Emlyn Jones wedi ei benodi’n ddiweddar fel Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd gyda chyfrifoldeb am y swyddogaeth drwyddedu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Joan Butterfield at yr hyfforddiant trwyddedu yr oedd ei angen gan holl aelodau pwyllgor a holodd ynglŷn â rôl sylwedyddion mewn cyfarfodydd  ac i ba raddau y caniatawyd eu cyfranogiad hwy mewn materion a oedd yn cael eu hystyried. Cytunodd y Prif Gyfreithiwr holi ynglŷn â hyn gyda’r Swyddog Monitro ac adrodd yn ôl.

 

Cydnabu’r pwyllgor yr amser a’r ymdrech a dreuliwyd ar yr adolygiad a chymryd y cyfle i ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD  

 

(a)       derbyn a chydnabod yr adroddiad, a

 

(b)       cyflwyno adolygiad llawn o ffioedd a thaliadau i gyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol.

 

 

11.

DEDDF DIWYGIO’R HEDDLU A CHYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL 2011 – ARDOLL HWYR Y NOS A GORCHYMYN CYFYNGU BORE CYNNAR pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn amlinellu’r pwerau newydd sydd ar gael i’r Awdurdod Trwyddedu o 31 Hydref 2012 dan ddiwygiadau i Ddeddf Trwyddedu 2003 i wneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       cydnabod cynnwys yr adroddiad ar Ardollau Hwyr y Nos a Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar, a

 

(b)       peidio â chefnogi gwneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos, a chyflwyno barn y Pwyllgor Trwyddedu i’r Cyngor Sir pan fyddai’n ystyried yr adroddiad ar y mater hwn.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn amlinellu’r pwerau newydd a oedd ar gael i’r Awdurdod Trwyddedu o 31 Hydref 2012 dan ddiwygiadau i Ddeddf Drwyddedu 2003 i wneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar (EMRO) a phennu Ardollau Hwyr y Nos (LML).

 

Rhoddwyd peth gwybodaeth gefndir i’r aelodau ar gyflwyniad yr EMRO a’r LNL, a’u bwriad i ddelio â throsedd ac anhrefn sy’n gysylltiedig ag alcohol a helpu talu am gostau gorfodi ychwanegol a oedd yn gysylltiedig ag eiddo sy’n agor yn hwyr. Roedd pwyntiau allweddol yn cynnwys -

 

ARDOLLAU HWYR Y NOS (LNL)

 

·        Pwerau i awdurdodau lleol godi tâl ar safle yn gwerthu alcohol yn hwyr y nos am y costau gorfodi ychwanegol a achosir i’r heddlu ac awdurdodau lleol

·        Pe cawsai ei gyflwyno, byddai angen i’r Cyngor benderfynu pryd y bydd yr ardoll yn berthnasol yn yr ardal (wedi ei gyfyngu i gyfnod rhwng hanner nos a 6.00a.m.) a pha eithriadau a gostyngiadau a fyddai’n berthnasol

·        Byddai angen i’r ardoll fod yn berthnasol i bob safle (oni fo categori eithrio) sy’n gwerthu alcohol yn ystod cyfnod yr ardoll ac ni ellid ei gyfyngu i dref neu ardal benodol

·        Ar ôl tynnu swm gan yr awdurdod lleol am weinyddu a chyflwyno’r cynllun, rhaid anfon o leiaf 70% o’r swm ymlaen i’r Heddlu

·        Nid oedd yn rhaid i’r Heddlu wario eu cyfran hwy o’r ardoll mewn ardaloedd lleol lle’r oedd wedi ei chasglu nac ar blismona a oedd yn gysylltiedig â throsedd ac anrhefn oherwydd alcohol, er bod Heddlu Gogledd Cymru wedi awgrymu y buasent hwy yn gwario’r ardoll ar faterion trwyddedu pe cawsai ei chyflwyno

·        Manylion y gost i safleoedd pe cawsai ei chyflwyno yn seiliedig ar werth ardrethol

·        Byddai rhyw 175 safle yn cael eu heffeithio gan yr ardoll.

 

GORCHMYNION CYFYNGU BORE CYNNAR (EMRO)

 

·        Byddai EMRO yn berthnasol i drwydded safle, tystysgrif safle clwb a hysbysiadau digwyddiad dros dro a oedd yn digwydd mewn ardal EMRO benodol

·        Roedd angen hysbysebu’r cynnig i wneud yr EMRO ac roedd angen i awdurdodau lleol ddangos bod ganddynt dystiolaeth i gyfiawnhau gwneud hynny ac ystyried sylwadau cyn eu cyflwyno.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cymerodd yr aelodau y cyfle i gael esboniad ar nifer o faterion gan y swyddogion ar y pwerau newydd a oedd ar gael i wneud LNL ac EMRO.  Nododd yr Aelodau bod yr ardoll wedi ei phennu ar lefel genedlaethol, a mynegasant bryderon ynglŷn â’r taliadau arwyddocaol a achosid i safleoedd ledled y sir petai’r Cyngor yn dewis cyflwyno’r ardoll, boed y safleoedd hynny wedi eu lleoli mewn ardaloedd a oedd yn achosi problemau trosedd ac anhrefn oherwydd alcohol ai peidio. Roedd y pwyllgor yn cydnabod bod busnesau eisoes yn cael anhawster yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a theimlai y byddai cyflwyno ardoll ar safleoedd trwyddedig yn debygol o achosi i lawer ohonynt fynd allan o fusnes. Roedd y Cyngor yn gweithio’n galed i adfywio ei drefi a’i gymunedau a'r economi hwyr y nos, ac ystyriai’r pwyllgor y byddai cyflwyno ardoll mor drom yn niweidio’r economi lleol ymhellach. Nodwyd bod yr heddlu o blaid cyflwyno ardoll a’r refeniw a fyddai’n deillio, a’u bod wedi awgrymu, er nad oedd gofyniad, y buasent yn gwario’r refeniw hwnnw ar faterion trwyddedu. Fodd bynnag, nododd yr aelodau na fyddai gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros ddyraniad y refeniw hwnnw ac roeddynt yn bryderus y byddai’r awdurdod lleol yn gyfrifol am gasglu’r ardoll ac os nad oedd safle yn talu yna roedd y Cyngor yn atebol am y ffi o hyd. Mewn perthynas â chyflwyniad EMRO, teimlai’r Cadeirydd y gallent  ...  view the full Cofnodion text for item 11.