Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Hugh Irving a Barry Mellor

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau’n rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

NI chodwyd unrhyw faterion brys. Fodd bynnag, cyfeiriodd y Cadeirydd at sylwadau a wnaed yn y sesiwn hyfforddi ddiwethaf ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu yn ymwneud â materion cyfansoddiadol. Roedd wedi codi’r mater yn uniongyrchol gyda Phennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio a oedd wedi dweud y byddai’r materion hynny yn cael eu trin fel rhan o’r adolygiad parhaus o’r cyfansoddiad. Felly, gallai’r aelodau fod yn sicr bod y materion yn cael eu trin.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 186 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gyhaliwyd ar 19 Mehefin 2012 (copi’n amgaeëdig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2012.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2012 fel cofnod cywir.

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Cadeirydd ei fod yn bwriadu newid trefn y rhaglen er mwyn delio â’r unigolion hynny a oedd yn mynychu’r cyfarfod i gefnogi eu ceisiadau / adolygiadau trwydded ac i wrando ar eu hachosion hwy cyn unrhyw fater arall.

 

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

PENDERFYNWYD dan adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol oherwydd ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf yn cael ei datgelu.

 

 

5.

ADOLYGU TAIR TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu tair trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat am fethu â chydymffurfio â gofynion y Cyngor i sefyll prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei symud ymlaen ar y rhaglen gyda chaniatâd y Cadeirydd]

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried addasrwydd tri Gyrrwr, rhifau 040298, 040448 a 040740 (adroddiadau unigol cyfatebol yn Atodiad 1 – 3 yn eu tro i’r prif adroddiad) i barhau fel gyrwyr trwyddedig ar ôl iddynt fethu â chydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrwyr y Cyngor o fewn yr amserlen a bennwyd.

 

Ystyriodd yr aelodau’r amgylchiadau unigol yn ymwneud â phob Gyrrwr ar wahân, gan drin pob achos ar ei haeddiant fel a ganlyn –

 

(1)               Gyrrwr rhif 040740 (Atodiad 3) – Dyddiad Adnewyddu 31 Rhagfyr 2011

 

Anfonwyd 5 nodyn atgoffa at y Gyrrwr ers dyddiad adnewyddu ei drwydded ond ni wnaeth unrhyw ymdrech i gysylltu â'r swyddogion. Ar 6 Mehefin, hysbyswyd y Gyrrwr y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu er ystyriaeth.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol i gefnogi ei achos ac yn ystod ei gyflwyniad siaradodd yn erbyn y prawf a oedd yn ei farn ef yn annigonol ac yn methu â chyflawni ei bwrpas o asesu’n ddigonol addasrwydd unigolion i fod yn yrwyr trwyddedig. Dywedodd ymhellach, i gefnogi ei gais am drwydded, iddo gyflwyno amrywiol dystysgrifau a thystlythrau a oedd, yn ei farn ef, yn profi ei addasrwydd ar gyfer cyflogaeth o’r fath, gan fynd y tu hwnt i’r prawf gwybodaeth gyrwyr. Aeth y Gyrrwr ymlaen i leisio nifer o gwynion ynglŷn â’r hyn a welai fel diffyg gweithredu gan yr Adran Drwyddedu wrth ddelio ag amrywiol bryderon a godwyd ganddo mewn perthynas â thrwyddedu tacsis. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Gyrrwr gyfyngu ei gyflwyniad i’r rhesymau pam nad oedd wedi ymgymryd â'r prawf gwybodaeth yn llwyddiannus yn unol â’r gofynion. Ailadroddodd y Gyrrwr ei farn bod y prawf yn annigonol ac nad oedd yn cyflawni ei bwrpas.

 

Cymerodd yr aelodau’r cyfle i holi’r Gyrrwr ynglŷn â’r achos a chadarnhawyd iddo fethu ag ymateb i unrhyw nodyn atgoffa i sefyll y prawf gwybodaeth a anfonwyd gan yr Adran Drwyddedu. Sefydlwyd, trwy beidio â sefyll y prawf ac wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu, ei fod yn protestio yn erbyn yr hyn a gredai ef oedd yn diffyg gweithredu gan yr Adran Drwyddedu o ran ymateb i’w bryderon a’i gwynion mewn perthynas â thrwyddedu tacsis. Ailadroddodd y pwynt hwnnw eto wrth wneud ei ddatganiad terfynol i’r pwyllgor. Ychwanegodd ei fod yn teimlo nad oedd wedi ei drin yn deg gan yr Adran Drwyddedu yn ei drafodaethau gyda hwy, a’i fod wedi ei aflonyddu gan Swyddogion Trwyddedu. Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu (JT) ei bod yn ymwybodol bod y Gyrrwr wedi codi pryderon ac ymholiadau gyda’r Adran Drwyddedu, a bod y swyddogion wedi gwneud eu gorau i ddelio â hwy.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried y cais ac fe –

 

BENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Gyrrwr rhif 040740 i roddi cyfle pellach i’r Gyrrwr sefyll y prawf gwybodaeth. Byddai methiant ar ran y Gyrrwr i sefyll y prawf gwybodaeth yn llwyddiannus erbyn cyfarfod nesaf y pwyllgor (5 Rhagfyr 2012) yn arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor i’w benderfynu.

 

Y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –

 

Tra’n cydnabod bod gan y  Gyrrwr bwynt i’w wneud mewn perthynas â materion trwyddedu, nid gwrthod sefyll y prawf gwybodaeth, a oedd yn berthnasol i bob gyrrwr, oedd y ffordd i brotestio. Roedd angen i bob gyrrwr trwyddedig sefyll y prawf ac ni ellid cael amgylchiadau eithriadol a fyddain rhwystro’r Gyrrwr rhag sefyll y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 043727

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat gan Ymgeisydd Rhif 043727.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)                 Gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd rhif 043727 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat;

 

(ii)               Nad oedd y swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais oherwydd gwybodaeth a ddatgelwyd gan yr Ymgeisydd ac ar ôl datgeliad manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB);

 

(iii)             Cynodeb o gollfarnau a ddatgelwyd a oedd wedi ei ddarparu a oedd yn cynnwys trais ac anonestrwydd dros gyfnod o 1979 i 1997;

 

(iv)              Bod trwydded wedi ei rhoi i’r Ymgeisydd yn 2009 yn seiliedig ar yr wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd, nad oedd wedi cynnwys y gollfarn ddiweddaraf ym 1997;

 

(v)                Polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(vi)              Bod yr ymgeisydd wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau arno.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu (JT) bod yr Ymgeisydd wedi cydweithredu’n llawn trwy gydol y broses a’i drafodaethau gyda swyddogion. Yn anffodus nid oedd yr Ymgeisydd wedi medru mynychu’r cyfarfod i gefnogi ei achos oherwydd ymrwymiadau gwaith. Fodd bynnag, roedd wedi cyflwyno llythyr (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) yn ymddiheuro am ei absenoldeb ac yn gofyn i’r aelodau gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth ganlynol wrth ystyried ei gais –

 

·        Ei fod wirioneddol yn credu iddo ddatgelu collfarn 1997 adeg ei gais gwreiddiol yn 2009, a oedd wedi ei datgelu wedi hynny fel rhan o’i gais presennol, a

·        Iddo hefyd ddatgelu collfarn 1997 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac iddo ddal trwydded gyda'r awdurdod hwnnw am dros ddeng mlynedd.

·                                 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r collfarnau a’r amgylchiadau mewn perthynas â chollfarn 1997 fel y cawsant eu cyfleu iddi gan yr Ymgeisydd ynghyd â manylion ei hanes cyflogaeth yn y maes trwyddedu tacsis.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried y cais ac fe –

 

BENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hur preifat gan Ymgeisydd rhif 043727.

 

Y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –

 

Ar ôl ystyried haeddiannau’r achos, nododd yr aelodau bod yr Ymgeisydd wedi gweithio fel gyrrwr tacsis yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am nifer o flynyddoedd heb unrhyw ddigwyddiad. Ystyriodd y pwyllgor bod yr Ymgeisydd wedi newid ei ffyrdd ac wedi bod yn rhydd rhag collfarnau am nifer o flynyddoedd. Nodwyd ymhellach bod yr Ymgeisydd wedi dal trwyddedu yn ardal Cyngor Sir Ddinbych yn y gorffennol, ac nad oedd wedi dod i sylw swyddogion trwyddedu yn ystod y cyfnod hwnnw, ac eithrio mewn perthynas â materion cyffredinol. Roedd y amlwg nad oedd yr Ymgeisydd wedi datgan ei gollfarn 1997 ar ei gais blaenorol i’r Cyngor hwn ond roedd wedi datgelu’r gollfarn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wredam ac wedi gwneud hynny wedyn i Gyngor Sir Ddinbych. Felly nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod yr Ymgeisydd wedi ceisio twyllo’n fwriadol.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau’r uchod, aeth y cyfarfod yn ei flaen mewn sesiwn agored.

 

7.

ADOLYGU FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 68 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar adolygu’r ffioedd a’r taliadau trwyddedu ar gyfer 2013/14.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn diweddaru’r aelodau ar y cynnydd a wnaed ar yr adolygiad ar ffïoedd a thaliadau trwyddedu ar gyfer 2013/14. Roedd manylion yr adolygiad cynhwysfawr wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a hysbyswyd yr aelodau nad oedd swyddogion wedi medru cwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod a bennwyd gan y pwyllgor yn ei gyfarfod ar 13 Mawrth 2012 oherwydd problemau adnoddau staff. Roedd yr adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       derbyn a chydnabod adroddiad ar y cynnydd ar adolygiad y ffïoedd a'r taliadau trwyddedu ar gyfer 2013/14, a

 

(b)       cyflwyno canfyddiadau'r adolygiad llawn o’r ffïoedd a’r taliadau trwyddedu i gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol i’w hystyried.

 

 

8.

ADOLYGU CASGLIADAU ELUSENNOL pdf eicon PDF 73 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) ar adolygu Casgliadau Elusennol a newidiadau arfaethedig i’r polisi presennol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar -

 

(i)                 Y cynnydd a wnaed hyd yma ar adolygiad Casgliadau Elusennol, sef Casgliadau o Ddrws i Ddrws a Chasgliadau Stryd, er mwyn adlewyrchu’n well natur casgliadau elusennol ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn y polisïau presennol;

 

(ii)               Manylion y polisïau presennol ar gyfer Casgliadau elusennol, a chynigion i adlewyrchu amcanion y Cyngor yn well er mwyn -

 

·        Gwarchod buddiannau cyfranwyr cyhoeddus a’r sawl a oedd yn elwa

·        Hwyluso casgliadau wedi eu trefnu’n dda gan sefydliadau elusennol bona fide a sicrhau cadw safonau da

·        Rhwystro casgliadau heb eu trwyddedu rhag digwydd

·        Sicrhau bod arian yn cael ei gasglu’n ddiogel a bod yr enillion yn cael eu cyfrif amdanynt yn briodol

·        Lleihau niwsans i drigolion ac ymwelwyr

·        Cael cydbwysedd teg rhwng achosion lleol a chenedlaethol

 

(iii)             Cam nesaf yr adolygiad oedd ymgynghori â swyddogion cyfreithiol a phartïon eraill â diddordeb, a

 

(iv)              Nes byddai’r adolygiad llawn wedi ei gwblhau, gofyn am gymeradwyaeth i ganiatáu i’r Lleng Brydeinig Frenhinol (apêl y Pabi) ymestyn eu dyraniad presennol ar gyfer Casglu ar y Stryd (dau ddiwrnod) i saith diwrnod i roddi digon o amser a hyblygrwydd iddynt gasglu ledled y sir.

 

Ymatebodd y Swyddog Trwyddedu i gwestiynau’r Aelodau ar y gwahanol fathau o gasgliadau elusennol a’r amgylchiadau penodol pan roedd angen trywddedau, naill ai’n lleol neu trwy Orchymyn Eithriad y Swyddfa Gartref. Ychwanegodd bod angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ar y mater a’r posibilrwydd o gasgliadau ffug. Cyfeiriwyd hefyd at y polisïau drafft a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori arnynt, a hysbyswyd yr aelodau y byddai rhaglen waith y pwyllgor yn cael ei newid i gynnwys adolygiad o Gasgliadau Elusennol ynghyd ag adolygiad o bolisïau a gweithdrefnau trwyddedu eraill.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       derbyn a chydnabod yr adroddiad ar y cynnydd ar adolygiad o Gasgliadau Elusennol;

 

(b)       awdurdodi swyddogion i ymgynghori â swyddogion cyfreithiol a phartïon eraill â diddordeb megis y Comisiwn Elusennau, Elusennau Cenedlaethol ac unrhyw Elusen a oedd wedi cynnal Casgliad Stryd neu Gasgliad o Ddrws i Ddrws yn y sir yn y 12 mis diwethaf ar y polisïau drafft a gynhyrchir yn ystod yr adolygiad, a

 

(c)        cymeradwyo’r cais am Gasgliad Stryd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol i gasglu ledled y sir am hyd at saith diwrnod ar gyfer Apêl y Pabi.

 

 

9.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2012/13 pdf eicon PDF 35 KB

Ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu (copi’n amgaeëdig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar raglen waith y Pwyllgor Trwyddedu i’r dyfodol. Dywedodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) y byddai rhaglen waith ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i gyfarfod nesaf y pwyllgor, i gynnwys adolygiad o bolisïau a gweithdrefnau trwyddedu eraill.

 

PENDERFYNWYD cydnabod rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

 

10.

CANLYNIADAU PENDERFYNIADAU AR ADDASRWYDD GYRWYR TRWYDDEDIG PRESENNOL CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r Aelodau ar ganlyniadau penderfyniadau a gymerwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu mewn perthynas â gyrwyr trwyddedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn diweddaru’r aelodau ar ganlyniadau penderfyniadau a gymerwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu mewn perthynas â chwe gyrrwr a oedd wedi methu â chydymffurfio â gofyniad y Cyngor i gwblhau prawf gwybodaeth gyrwyr. Roedd y swyddogion yn falch o adrodd, o ganlyniad i’r penderfyniadau a gymerwyd gan yr aelodau, bod y chwe gyrrwr wedi sefyll y prawf yn llwyddiannus, gan gynnwys y ddau yrrwr a oedd wedi cael atal eu trwyddedau, ac roeddynt wedi cael eu trwyddedau yn ôl.

 

Roedd yr aelodau’n falch o nodi bod y chwe gyrrwr wedi sefyll y prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus ac fe –

 

BENDERFYNWYD derbyn a chydnabod yr adroddiad diweddaru ar ganlyniadau penderfyniadau a gymerwyd yng Nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.35 a.m.