Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i
ddod. Cofnodion: Yn unol â’r broses benodi, roedd datganiadau
ysgrifenedig wedi eu cyflwyno i’r pwyllgor gan y Cynghorwyr Stuart Davies,
Barry Mellor a Cefyn Williams am swydd Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer
2012/13. Cynigiodd y Cynghorydd Peter
Owen, ac eiliodd y Cynghorydd Richard Davies y dylid penodi’r Cynghorydd Stuart
Davies yn Gadeirydd. Cynigiodd y
Cynghorydd Arwel Roberts, ac eiliodd y Cynghorydd William Cowie y dylid
penodi’r Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd. Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield, ac
eiliodd y Cynghorydd Brian Blakeley y dylid penodi’r Cynghorydd Barry Mellor yn
Gadeirydd. Ar ôl pleidlais gyfrinachol, a ymgymerwyd yn
unol â Rheol Sefydlog Rhif 14.4, fe – BENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Stuart Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu
ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn
i ddod. Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau ar gyfer
swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2012/13. Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield, ac
eiliodd y Cynghorydd Brian Blakeley y dylid penodi’r Cynghorydd Barry Mellor yn
Is-gadeirydd. Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts, ac eiliodd y Cynghorydd
William Cowie y dylid penodi’r Cynghorydd Cefyn Williams yn Is-gadeirydd, Gan
nad oedd unrhyw enwebiadau eraill, rhoddwyd y mater i bleidlais ac fe – BENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Cefyn Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer y Flwyddyn i ddod. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau
sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes sydd i’w drafod yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau a fyddai’n rhagfarnu. Ar
y pwynt hwn, mynegodd y Cadeirydd ei fwriad i amrywio trefn y rhaglen i gynnwys
yr Ymgeiswyr hynny a oedd yn mynychu’r cyfarfod i gefnogi eu ceisiadau /
adolygiad trwydded ac i wrando eu hachosion hwy cyn unrhyw fater arall. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg
a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol oherwydd ei bod yn debygol
y byddai gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4
o Atodlen 12A i’r Ddeddf,yn cael ei datgelu. |
|
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 041088 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau
adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat mewn perthynas
ag Ymgeisydd Rhif 041088. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Daethpwyd â’r eitem hon
ymlaen ar y rhaglen gyda chaniatâd
y Cadeirydd] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar – (i)
Addasrwydd Ymgeisydd Rhif 041088 i ddal trwydded
i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hur preifat; (ii)
Bod cwyn wedi ei
derbyn ynglŷn â’r Ymgeisydd yn
prynu alcohol ar ran person
dan ddeunaw oed (roedd crynodeb
o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau
tystion a chofnod o gyfweliad gyda’r Ymgeisydd ynghlwm wrth yr adroddiad); (iii)
Bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno
Hysbysiad Cosb i’r Ymgeisydd am brynu alcohol ar ran person dan oed, a (iv)
Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i
fynychu’r cyfarfod i gefnogi adolygiad
ei drwydded ac i ateb cwestiynau’r
aelodau ar hynny. Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodi Diogelwch Cymunedol yr adroddiad a ffeithiau’r achos, pan sefydlwyd bod yr Ymgeisydd wedi cyfaddef y drosedd. Atgoffwyd yr Aelodau bod y mater hwn wedi ei
ohirio ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor ar ôl
cais gan yr Ymgeisydd, er mwyn
ei alluogi ef i fynychu. Mynegodd yr Ymgeisydd
ei edifeirwch dwys ynglŷn â’r digwyddiad, a allai fod
yn rhannol oherwydd camgymeriad barn tra’r oedd yn
delio â materion
eraill. I gefnogi ei achos, roedd
yr Ymgeisydd wedi darparu tystlythyrau ar ei gymeriad
gan ei gyflogwr
blaenorol a phresennol, a oedd yn tystio
i’w gymeriad da a’i edifeirwch ar ôl
y digwyddiad. Mewn ymateb i gwestiynau
gan yr Aelodau, esboniodd yr Ymgeisydd amgylchiadau’r achos, gan gadarnhau nad oedd y drosedd wedi ei
bwriadu ymlaen llaw, a’i fod
yn cydnabod difrifoldeb ei weithredoedd. Cadarnhaodd y Swyddog nad
oedd yn ymwybodol
o unrhyw ddigwyddiadau blaenorol yn cynnwys
yr Ymgeisydd, a oedd wedi bod yn
glir ac uniongyrchol wrth drin y mater gyda’r swyddogion. Wrth wneud ei
ddatganiad terfynol, ailadroddodd yr Ymgeisydd ei edifeirwch ynglŷn
â’r digwyddiad a sicrhaodd yr Aelodau na fyddai’n
digwydd eto. Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried
yr achos ac fe
– BENDERFYNWYD bod Ymgeisydd Rhif 041088 yn cael ei ystyried yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur preifat ond rhoi rhybudd iddo ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Roedd yr Aelodau wedi cymryd i
ystyriaeth edifeirwch dwys yr Ymgeisydd ynglŷn â’i weithredoedd a’i onestrwydd wrth ddelio gyda swyddogion
mewn perthynas â’r digwyddiad. Roedd y tystylythyrau a gyflwynwyd
gan yr Ymgeisydd hefyd yn dystiolaeth
i’r ffaith bod y digwyddiad yn groes i’w
gymeriad arferol ac yn tystio i’w
ymddygiad da yn flaenorol. Roedd y pwyllgor felly yn ystyried bod yr Ymgeisydd yn berson
addas a phriodol i ddal trwydded,
ond yn teimlo
ei bod yn
briodol rhoi rhybudd ffurfiol yn wyneb y drosedd. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 042869 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau
benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat
gan Ymgeisydd Rhif 042869. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y
Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar – (i)
Gais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 042869 am drwydded i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hur preifat; (ii)
Nad
oedd y swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais yn wyneb gwybodaeth
a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB); (iii) Roedd crynodeb o’r collfarnau a
ddatgelwyd wedi ei ddarparu, a oedd yn ymwneud â throsedddau moduro; (iv)
Roedd
llythyr wedi ei dderbyn gan yr Ymgeisydd (Atodiad 1 i’r adroddiad) yn cefnogi
ei gais; (v)
Polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (vi)
Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau’r aelodau ar hyn. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb
o’r adroddiad a dweud bod yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd bod
y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd yn
wyneb y cyfnod cymharol fyr pan roedd yr Ymgeisydd wedi bod heb droseddau
moduro. Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi
ei gais, gan ddweud iddo newid ei fywyd ers pan gyflawnwyd y troseddau a bod
angen trwydded arno er mwyn gweithio i gynnal ei deulu. Ychwanegodd bod y
gwaharddiad ar yrru wedi ei leihau o 24 mis i 18 mis ar ôl iddo fynychu cwrs a
argymhellwyd gan y llys. Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd yr Ymgeisydd
iddo roi’r gorau i yfed ar ôl y gwaharddiad gyrru; manylodd ei ymrwymiadau
teuluol, pwysleisiodd ei brofiad yn y gorffennol fel gyrrwr trwyddedig a’i
hanes mewn gwaith. Cadarnhaodd hefyd iddo gael gwarantu swydd pe rhoddid
trwydded iddo. Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu bod yr Ymgeisydd wedi
cydweithredu’n llawn trwy gydol y broses ac wrth drin y mater gyda swyddogion. Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i
ystyried yr achos ac fe – BENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hur
preifat gan Ymgeisydd Rhif 042869 a rhoi rhybudd mewn perthynas â difrifoldeb
ei droseddau a’i ymddygiad yn y dyfodol. Roedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd,
cafodd y Pwyllgor ei berswadio iddo newid ei fywyd ers pan gyflawnwyd y
troseddau a’i fod wedi rhoi’r gorau i yfed. Roedd hefyd wedi cymryd i
ystyriaeth bolisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau a
nododd bod caniatáu’r cais yn unol â’u polisi hwy a’r amserlen a roddwyd i’r
Ymgeisydd fod heb gollfarnau. Roedd y pwyllgor felly yn ystyried bod yr Ymgeisydd
yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbyd hur
preifat, ond yn teimlo ei bod yn briodol rhoi rhybudd yn wyneb y troseddau
blaenorol. |
|
ADOLYGU CHWE TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau
adolygu chwe trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat oherwydd
methu â chydymffurfio â gofyniad Cyngor
i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr yn llwyddiannus Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad
cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried addasrwydd chwe
Ymgeisydd, rhifau 040517; 038993; 039711; 039820; 039981 and 039853
(adroddiadau unigol cyfatebol wedi eu rhestru yn Atodiadau 1 – 6 i’r prif
adroddiad) i barhau fel gyrwyr trwyddedig ar ôl iddynt fethu â chydymffurfio â
gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr o fewn yr amserlen a
bennwyd. Wrth ystyried yr adroddiadau, holwyd rhai
cwestiynau cyffredinol i’r swyddogion mewn perthynas â chyflwyno’r profion a’r
prosesau ar gyfer gyrwyr presennol ynghyd â chynnwys y prawf gwybodaeth a
manylion cyfraddau llwyddo. Mynegodd yr aelodau beth pryder ynglŷn â’r diffyg
ymateb gan y gyrwyr trwyddedig er gwaethaf cael eu hatgoffa nifer o weithiau, a
dywedodd y swyddogion nad oedd y rhai nad oeddynt wedi cydymffurfio â gofyniad
y Cyngor i gymryd y prawf yn perthyn i un cwmni neu weithredwr. Ystyriodd yr
aelodau yr amgylchiadau unigol a oedd yn ymwneud â phob Ymgeisydd ar wahân, gan
drin pob achos ar ei haeddiannau ei hun, fel a ganlyn - (1) Ymgeisydd Rhif 038993
(Atodiad 2) – Dyddiad adnewyddu 31 Gorffennaf 2012 Roedd yr Ymgeisydd wedi methu prawf gwybodaeth
gyrrwr ar 2 Awst 2011. Ers hynny, anfonwyd 4 llythyr atgoffa at yr Ymgeisydd ac
roedd wedi ei hysbysu ar 14 Mai 2012 y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio i’r
Pwyllgor Trwyddedu. Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol i gefnogi ei achos, ac yn
ystod ei gyflwyniad, gofynnodd nifer o gwestiynau i’r swyddogion a chwestiynu
dilysrwydd penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu ar 23 Mehefin 2010 i ymestyn y
prawf gwybodaeth i yrwyr presennol. Sefydlwyd bod y Pwyllgor Trwyddedu ar 23
Mehefin 2010 wedi penderfynu cyflwyno’r prawf i ymgeiswyr newydd a gyrwyr
trwyddedig presennol adeg adnewyddu. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Ymgeisydd
gyfyngu ei gyflwyniad i’r rhesymau pam nad oedd wedi ymgymryd â’r prawf
gwybodaeth yn llwyddiannus yn unol â’r gofyn. Dywedodd yr Ymgeisydd (1) mai ei ddealltwriaeth
ef o gydarfod Pwyllgor Trwyddedu 23 Mehefin 2010 oedd cyflwyno’r prawf
gwybodaeth i ymgeiswyr newydd yn unig ac nid i yrwyr presennol, a (2) er
gwaethaf ceisiadau, nid oedd wedi cael y ‘llyfr glas’ (Amodau Trwyddedu
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hur Preifat) ar yr hwn yr oedd rhai o’r cwestiynau
yn y prawf gwybodaeth wedi eu seilio, a (3), roedd ganddo gyfrifoldebau eraill
a galwadau ar ei amser yn ystod y deuddeg mis diwethaf ac nid oedd wedi cael
cyfle i gymryd y prawf. Dywedodd hefyd nad oedd y tyst a oedd wedi dymuno ei
alw i gefnogi ei achos ar gael. Cymerodd yr aelodau y cyfle i holi’r Ymgeisydd
mewn perthynas â’i gred nad oedd y prawf yn berthnasol i yrwyr presennol a’r
ymdrechion a wnaeth i gael copi o’r ‘llyfr glas’. Mewn ymateb i gwestiwn uniongyrchol,
cadarnhaodd yr Ymgeisydd y byddai’n barod i ail-sefyll y prawf gwybodaeth.
Dywedodd nad oedd yn dymuno gwneud datganiad terfynol ond diolchodd i’r aelodau
am y cyfle i gyflwyno ei achos. Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i
ystyried yr achos ac fe – BENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Ymgeisydd Rhif 038993 er mwyn galluogi
i’r Ymgeisydd gael copi o Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hur
Preifat a chyfle i sefyll y prawf gwybodaeth yn y saith diwrnod nesaf. Pe
byddai’r Ymgeisydd yn methu â sefyll y prawf gwybodaeth yn llwyddiannus,
byddai’r mater yn dod yn ôl gerbron y pwyllgor. Roedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Roedd yr Ymgeisydd wedi bod yn yrrwr am gyfnod maith a nodwyd ei barodrwydd i ail-sefyll y prawf gwybodaeth. Yn wyneb y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau’r uchod, aeth y cyfarfod
yn ei flaen mewn sesiwn agored. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 159 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd
ar 14 Mawrth 2012 (copi’n amgaeëdig) Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Trwyddedu a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2012. PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth
2012 fel cofnod cywir. |
|
ADOLYGIAD – DEDDF GAMBLO 2005 DATGANIAD EGWYDDORION PDF 72 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio,
Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo
cynnwys Datganiad Egwyddorion y Cyngor (Deddf Hapchwarae 2005) ar gyfer
ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn i’w fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo cynnwys Datganiad Egwyddorion y
Cyngor (Deddf Gamblo 2005) ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gyflwyno i’r
Cyngor Llawn i’w fabwysiadu. Roedd copi o’r Datganiad Egwyddorion (Atodiad A)
ynghlwm wrth yr adroddiad. Hysbyswyd yr Aelodau bod angen i’r Cyngor
adolygu’r Datganiad o Egwyddorion Gamblo bob tair blynedd. Roedd y Datganiad
wedi ei ddatblygu gan y chwe Awdurdod Trwyddedu yng Ngogledd Cymru i sicrhau
cysondeb, ac ar ôl adolygiad ni ystyriwyd bod angen unrhyw newidiadau
perthnasol. PENDERFYNWYD – (a)
Cytuno cynnwys Datganiad Egwyddorion y Cyngor
(Deddf Gamblo 2005) ynghlwm wrth yr adroddiad (Atodiad A) ar gyfer ymgynghoriad
ffurfiol, a (b)
Cyn belled â nad oedd angen newid pellach ar ôl
y broses ymgynghori, argymell y Datganiad o Egwyddorion i’r Cyngor Llawn i’w
fabwysiadu. |
|
ADOLYGU PRISIAU A THALIADAU CERBYDAU HACNI PDF 76 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio,
Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu’r prisiau
a’r taliadau presennol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
(NJ) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar
– (i)
Ddau gais a dderbyniwyd i adolygu
prisiau a thaliadau ar gyfer cerbydau
hacni (tacsis) a oedd wedi eu
cymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ar 23 Mehefin 2010 (Atodiad A i’r adroddiad); (ii)
Darn
o gylchgrawn misol National Private Hire yn
dangos tabl cynghrair o brisiau tacsis ledled y DU (atodiad B i’r adroddiad)
gyda Sir Ddinbych yn rhif 219 o gyfanswm
o 363; (iii) Tabl cynghrair
yn dangos bod Sir Ddinbych yn wythfed allan
o 22 o awdurdodau lleol Cymru (Atodiad C i’r adroddiad); (iv)
Manylion y cynigion a dderbyniwyd gan y busnes, yn cynnwys
tabl yn dangos
cost siwrnai pe byddai’r cynnig o 20 ceiniog yn cael
ei ychwanegu i’r pris cychwyn
(Atodiad D i’r adroddiad); (v)
Deg
ymateb a dderbyniwyd gan y busnes ar
ôl ymgynghori ar y cynigion (Atodiad E i’r adroddiad)
gyda’r mwyafrif yn gwrthwynebu unrhyw gynnydd mewn prisiau oherwydd
yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, a nifer
o gwmnïau yn gweithredu cynllun “£3 i unrhyw le yn
y Rhyl’; (vi)
Manylion costau sy’n effeithio gweithredwyr cerbydau ers y cynnydd diwethaf
mewn prisiau yn 2010 yn ymwneud
ag yswiriant a chostau prynu cerbydau
a phrisiau tanwydd, a (vii) Yr opsiynau sydd
ar gael i’r
aelodau wrth adolygu’r prisiau a’r taliadau presennol
ar gyfer cerbydau hacni. Ystyriodd yr aelodau
haeddiannau ac fel arall y cynigion i gynyddu prisiau
a thaliadau cerbydau hacni, ynghyd â’r
ymateb a gafwyd gan y busnes ar
ôl ymarfer ymgynghorol, a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y swyddogion fel y manylwyd yn yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, nododd y Cynghorwyr Blakeley a
Joan Butterfield bod nifer
o gwmnïau tacsi yn y Rhyl wedi
bod yn gweithredu
pris ‘£3 i unrhyw le yn y Rhyl’ gyda hysbysiad
yn ddiweddar bod cwmnïau eraill
yn cynnig prisiau is, a bod gyrwyr tacsi yn
ei chael yn anodd gwneud
bywoliaeth dan amgylchiadau anodd. Esboniodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu bod gan y Cyngor
y pwerau i bennu prisiau a thaliadau uchaf i dacsis ond
y gallai gyrwyr godi llai os
dymunent wneud hynny, ac nad oedd
gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros ostyngiadau mewn prisiau. Mewn
perthynas â’r cynllun peilot i roddi ‘bagiau
chwydu’ i holl weithredwyr cerbydau at ddefnydd cwsmeriaid, croesawodd yr aelodau y fenter a oedd yn cael
ei hariannu gan y Tîm Diogelwch
Cymunedol. Yn wyneb y gystadleuaeth prisiau rhwng cwmnïau tacsi
a’r ffaith nad oedd gan
yr awdurdod trwyddedu reolaeth dros hyrwyddiadau
o’r fath, ac o ystyried bod mwyafrif
yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi gwrthwynebu unrhyw gynnydd mewn prisiau
a thaliadau, cynigiodd y Cynghorydd Barry Mellor, gyda’r Cynghorydd Joan Butterfield yn eilio, y dylid gwrthod y cynigion yn adran 5.2 yr adroddiad a chadw’r prisiau a’r taliadau
presennol. Felly, fe - BENDERFYNWYD gwrthod y cynigion fel y manylwyd yn 5.2 yr adroddiad a pheidio â chynyddu’r prisiau a’r taliadau presennol. |
|
CYFANSODDIAD NEWYDD A DIRPRWYO SWYDDOGAETHAU’R CYNGOR PDF 74 KB Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo Dirprwyo Swyddogaethau perthnasol a
chynllun Dirprwyo i Swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Gyfreithiwr adroddiad gan y
Dirprwy Swyddog Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau
gymeradwyo Dirprwyo Swyddogaethau perthnasol a chynllun Dirprwyaeth i
Swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau a oedd ynghlwm, ar ôl
adolygu Cyfansoddiad y Cyngor. Cynigiwyd newidiadau i’r cyfansoddiad i wneud
swyddogaethau a dirprwyaethau’r Cyngor yn fwy trylow. Roedd Rhan 3 wedi ei
newid i roddi mwy o esboniad ar gyfrifoldebau pwyllgorau unigol (Atodiad 1 i’r
adroddiad) ac roedd Rhan 9.2 wedi ei newid i gynnwys manylion dirprwyo i
Benaethiaid Gwasanaeth (Atodiad 2 i’r adroddiad). Roedd yr adrannau hynny a
oedd yn arbennig o berthnasol i’r Pwyllgor Trwyddedu wedi eu hamlygu yn yr
atodiadau i’r adroddiad. Ychwanegodd y Prif Gyfreithiwr nad oedd y newidiadau
yn cynnwys unrhyw gynigion newydd, ond yn dwyn at ei gilydd gyfrifoldebau a
dirprwyo swyddogaethau’r pwyllgor mewn un lle. Mewn perthynas â Rhan 3, Tabl 1, 11 – cyflawni
unrhyw swyddogaeth yn ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd yr aer -
dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield nad oedd y Pwyllgor Trwyddedu wedi
ystyried materion felly o’r blaen. Cytunodd y Prif Gyfreithiwr wirio’r
cyfeiriad hwnnw gyda’r Dirprwy Swyddog Monitro. Tra’n derbyn bod y mater yn syrthio y tu allan
i gylch gorchwyl y Pwyllgor Trwyddedu, cytunodd y Prif Gyfreithiwr fwydo
sylwadau’r Cynghorydd Butterfield yn ôl i’r Dirprwy Swyddog Monitro yr hoffai
weld y Grwpiau Aelodau Ardal yn cymryd rhan fel rhan o’r broses ymgynghorol yn
wyneb yr effaith ar drefi a phentrefi’r sir mewn perthynas â swyddogaethau
priffyrdd (Rhan 3, Table 1, 18). Cefnogodd yr aelodau yr eglurder a’r amlygrwydd
o ran cyfrifoldeb a chymryd penderfyniadau yn deillio o’r newidiadau a wnaed i
Ran 3 a Rhan 9.2 y cyfansoddiad. Ar ôl ystyried manylion yr adroddiad a’r
atodiadau, fe – BENDERFYNWYD yn amodol ar wirio’r cyfeiriad at gynnwys swyddogaethau’n ymwneud â
rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer yn dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor
Trwyddedu, cymeradwyo Dirprwyo Swyddogaethau perthnasol a’r Cynllun Dirprwyo i
Swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad ac a amlygwyd yn yr atodiadau ynghlwm
wrth yr adroddiad. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2012/13 PDF 28 KB Ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu i’r dyfodol
(copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y
Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar
flaenraglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. PENDERFYNWYD cydnabod rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu fel y nodwyd yn yr
adroddiad. Daeth
y cyfarfod i ben am 4.00 p.m. |