Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Cofnodion:

Ceisiwyd enwebiadau i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2018/19. Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams y dylid penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tony Thomas.  Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.  Ni chafwyd enwebiad arall ac felly o roi’r mater i bleidlais -

 

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Hugh Irving fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd ar y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn i ddod

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau gan y Cadeirydd ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2018/19. Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joan Butterfield.  Ni chafwyd enwebiad arall ac felly o roi’r mater i bleidlais -

 

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Alan James fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

 

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 7 ar yr Agenda - Adolygu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Tony Thomas ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 7 ar yr Agenda - Adolygu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat gan ei fod yn adnabod y Gyrrwr dan sylw yn bersonol.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 306 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100(A) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

7.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 510126

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 510126.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nad oedd sail dros y gŵyn a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif  510126 ac nad oedd unrhyw gamau i’w cymryd.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad personol ac sy’n rhagfarnu, ac fe adawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r materion a ganlyn –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 510126 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat wedi cwyn am wahaniaethu ar sail anabledd a gwrthod teithiwr.

 

(ii)          manylion y gŵyn (roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad); a

 

(iii)         gwahodd y Gyrrwr i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Roedd hi wedi cyflwyno dau eirda o ran ei chymeriad a oedd wedi cael eu cylchredeg i’r aelodau i’w hystyried fel rhan o'r broses adolygu.

 

Rhoddodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd y Gyrrwr ei fersiwn hi o’r digwyddiadau fel ymateb i’r gŵyn, a rhoddodd wybod, o dan yr amgylchiadau, ei bod wedi gofyn am gyngor ei chyflogwyr am ba gamau i’w cymryd ac yn dilyn eu cyfarwyddiadau nhw, roedd wedi gwrthod y teithiwr.  Ymatebodd i gwestiynau’r aelodau mewn perthynas â datganiadau tyst a ddarparwyd a’i hymddygiad yn ystod y digwyddiad, ynghyd â materion yn ymwneud â hyfforddiant a chanllawiau a’i chynefindra gydag Amodau a Pholisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.  Yn ei datganiad terfynol, gwadodd y Gyrrwr unrhyw ymddygiad oedd yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail anabledd yn chwyrn.

 

Ar y pwynt hwn, gohiriodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif  510126 wedi eu profi ac felly does dim angen camau gweithredu pellach.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus, ynghyd â'r esboniad a roddwyd gan y Gyrrwr a’i ymateb i gwestiynau.  Roedd yr aelodau’n teimlo bod y Gyrrwr wedi bod yn agored ac yn onest wrth ymateb ac roedd tyst credadwy wedi derbyn ei fersiwn o ddigwyddiadau.  Roedd y Pwyllgor Trwyddedu yn teimlo bod y Gyrrwr wedi ymateb yn rhesymol dan yr amgylchiadau, gan geisio cyfarwyddyd gan ei chyflogwr a gweithredu yn unol ag o.  Yn dilyn hynny, cytunwyd i beidio â derbyn y gŵyn yn yr achos hwn ac nad oedd angen unrhyw gamau gweithredu pellach.

 

Cafodd y penderfyniad a'r rhesymau dros y penderfyniad eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

Oherwydd y diffyg hyfforddiant a chanllawiau a roddwyd i’r Gyrrwr yn yr achos hwn, awgrymwyd ei bod hi’n ceisio eglurder gan ei chyflogwyr presennol/yn y dyfodol am eu polisi a’u gweithdrefnau i sicrhau ei bod hi’n barod petai sefyllfa debyg yn codi.  Nododd yr aelodau hefyd bod y Gyrrwr bellach yn hollol gyfarwydd â’r Amodau a Pholisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat a gofynnwyd iddi barhau i gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau hynny.

 

Amlygodd yr aelodau bwysigrwydd hyfforddiant a chanllawiau priodol ar gyfer gyrwyr trwyddedig a thrafodont a ellid gwneud mwy i sicrhau bod cyflogwyr yn darparu canllawiau clir er budd y gyrwyr a’r cwsmeriaid.  Roedd y swyddogion yn teimlo y byddai’n gyfle da i asesu’r ddarpariaeth fel rhan o waith parhaus i gyflwyno rhestr o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, a fyddai hefyd yn rhoi mwy o eglurder a rhoi rhwymedigaethau pellach ar yrwyr a pherchnogion y cerbydau hynny.  Felly, cytunwyd bod y swyddogion yn ymchwilio ymhellach i’r mater hwn gan adrodd yn ôl i gyfarfod y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

8.

CAIS I ROI HYSBYSEBION AR GERBYD HACNI pdf eicon PDF 283 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio penderfyniad gan yr aelodau ar gais gan Berchennog Cerbydau Hacni am ganiatâd i arddangos arwyddion ar ei gerbydau trwyddedig. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       y dylid gwrthod y cais i arddangos arwyddlun

 

(b)       Y dylai’r frawddeg arfaethedig yn ymwneud â’r gofyniad polisi ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat perthnasol i’r peintwaith ddarllen: ‘Bydd y peintwaith o orffeniad proffesiynol ac yn un lliw cyson dros gorff y cerbyd cyfan’, a

 

(c)        gofyn i swyddogion adolygu’r polisi o ran arddangos arwyddion a hysbysiadau ar gerbydau hacni  notices on hackney carriage vehicles

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol

 

(i)            cais gan Berchennog Cerbyd Hacni i gael cymeradwyaeth i arddangos arwyddlun baner Cymru i orchuddio boned ei gerbydau trwyddedig (dangoswyd lluniau a gynhyrchwyd ar gyfrifiadur yn Atodiad A o’r adroddiad);

 

(ii)          polisi cyfredol y Cyngor a manyleb y cerbyd yn nodi’r gofynion derbyniol o ran gwaith paent, arwyddion, hysbysebu a chynllun lliwiau Cerbydau Hacni (Atodiad B yr adroddiad);

 

(iii)         yr angen i ystyried goblygiadau posib wrth ganiatáu i arddangos arwyddlun chwaraeon ac arwyddion gwladgarol a allai ddenu sylw digroeso neu gynyddu’r posibilrwydd am ymddygiad troseddol, ac

 

(iv)         amlygodd yr anghysondebau rhwng gofynion y polisi mewn perthynas â’r gwaith paent ar gyfer cerbydau hacni a hurio preifat a cheisio eglurder yn ymwneud â hynny.

 

Nid oedd yr Ymgeisydd yn medru mynychu’r cyfarfod ac roedd wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau ond gofynnodd i’r cais am hysbysebu gael ei ystyried yn ei absenoldeb.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a’r rhesymeg tu ôl i’r cais oedd gerbron y pwyllgor o ystyried y goblygiadau posib wrth ganiatáu arwyddluniau o’r math yma a allai ddenu sylw digroeso.  Gofynnwyd i’r aelodau ystyried unioni’r anghysondebau rhwng y gofynion ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran gwaith paent.

 

Yn ystod eu trafodaeth, bu’r aelodau’n ystyried maint a graddfa’r dyluniad, ac nad oedd yn addas i'w roi ar gerbyd trwyddedig.  Roedden nhw’n gytûn hefyd y gallai arddangos arwyddluniau chwaraeon ac arwyddion gwladgarol fel hwn ddenu ymateb ymosodol ac roedd posibilrwydd o ymddygiad troseddol gwrth-gymdeithasol.  Cydnabuwyd bod y pwyllgor wedi cymeradwyo cais tebyg i arddangos arwyddlun llai yn eu cyfarfod ym mis Medi 2017 ac roeddent wedi cytuno i bennu bob cais yn ôl eu rhinweddau eu hunain.  Fodd bynnag, oherwydd pryder ymysg aelodau am arwyddion o’r natur hwn, teimlwyd y dylid adolygu’r polisi ymhellach.

 

Roedd rhai aelodau hefyd eisiau gweld unffurfiaeth rhwng pob cerbyd hacni ac roedden nhw’n pryderu y gallai cymeradwyo unrhyw arwydd neu hysbyseb yn groes i’r nod hwnnw.  Teimlwyd, er y gallai peth hysbysebu fod yn ddefnyddiol, fel hysbysebu dros dro ar gyfer digwyddiadau penodol neu at ddibenion elusennol, y dylid cyfyngu ar werthu lle hysbysebu ar gerbydau trwyddedig at ddibenion masnachol cyffredinol ac y dylid ystyried rhoi mwy o eglurder gyda hysbysebion sy’n cael eu caniatáu fel rhan o adolygiad o’r polisi yn y dyfodol.

 

Mewn perthynas â’r anghysondebau rhwng y gofynion polisi ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn ymwneud â phaent, cytunodd yr aelodau y dylai’r un polisi fod yn berthnasol i’r ddau fath, ac y dylid newid gofynion cerbydau hacni i gyfateb i ofynion cerbydau hurio preifat er mwyn sicrhau ymagwedd gyson.

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      gwrthod y cais i arddangos arwyddluniau;

 

 (b)      bod y frawddeg yn y polisi sy’n cyfeirio at baent cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn nodiBydd y gwaith paent wedi’i orffen yn broffesiynol ac yn unlliw cyson drwy gydol oes y cerbyd’, a

 

 (b)      gofyn i swyddogion adolygu’r polisi mewn perthynas ag arwyddion a hysbysebion ar gerbydau hacni.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, a chais yr Ymgeisydd, roedd yr aelodau o’r farn nad oedd maint a graddfa’r dyluniad yn addas ar gyfer ei roi ar gerbyd trwyddedig.  Roedd yr aelodau’n teimlo hefyd y gallai’r arwyddlun ddenu sylw digroeso ac ymateb ymosodol gyda’r posibilrwydd o ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol.  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

DIWEDDARIAD AR BOLISI EUOGFARNAU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 193 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar bolisi Euogfarnau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod aelodau yn -

 

(a)       Awdurdodi swyddogion i barhau i asesu’r effaith ar fabwysiadu Polisi Perthnasedd Euogfarnau'r Sefydliad Trwyddedu ochr yn ochr ag adolygiad Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.

 

(b)       Rhoi cyfarwyddyd i swyddogion adolygu’r Polisi Euogfarnau presennol ac adrodd yn ôl yn y cyfarfod Pwyllgor nesaf.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a gylchredwyd eisoes) yn diweddaru’r aelodau am yr adolygiad o’r Polisi Euogfarnau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.

 

Atgoffwyd yr Aelodau am y gwaith a wnaed gan y Sefydliad Trwyddedu (IOL) i ddatblygu polisi euogfarnau cenedlaethol a’r canllawiau terfynol am bennu addasrwydd ymgeiswyr a’r rhai sy’n meddu ar drwydded a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018.  Y bwriad oedd i Awdurdodau Lleol fabwysiadu’r ddogfen er mwyn safoni’r gofynion, fodd bynnag, roedd ymholiadau yng Ngogledd Cymru yn awgrymu mai dim ond Ynys Môn oedd wedi dangos diddordeb mewn mabwysiadu’r ddogfen.  Oherwydd hynny, roedd risg mai Sir Ddinbych fyddai’r unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru fyddai’n mabwysiadu’r ddogfen a allai arwain at ymgeiswyr, nad oeddent yn bodloni gofynion y polisi, yn cael trwyddedau gan awdurdodau cyfagos a gweithredu yn Sir Ddinbych dan rai amgylchiadau.  Roedd Panel Technegol Trwyddedu (Cymru) hefyd wedi cytuno bod angen craffu ar y polisi ymhellach cyn y gallent gefnogi ei fod yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru.  Yn ogystal â hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu papur gwyn yn nodi cynigion ar gyfer trwyddedu yng Nghymru yr oeddent yn gobeithio ei wneud yn ddeddfwriaeth cyn diwedd tymor cyfredol y Cynulliad.  Roeddent wedi awgrymu bod polisi IOL neu ddogfen debyg yn cael ei gynnwys mewn unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar gyfer Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y swyddogion bod Sir Ddinbych yn aelod o Banel Technegol Trwyddedu (Cymru).  Roedd cynrychiolwyr ar IOL yn cynnwys swyddogion mewn swyddi uwch ac roedd Cymru yn cael ei chynrychioli fel rhan o’r fforwm hwnnw.  Oherwydd y ffrydiau gwaith gwahanol a’r posibilrwydd o amrywiadau, roedd y pwyllgor o blaid disgwyl am ganlyniad papur gwyn Llywodraeth Cymru ac archwiliad Panel Technegol Trwyddedu o’r ddogfen bolisi.  Yn y cyfamser, cytunwyd bod Polisi Euogfarnau cyfredol y Cyngor yn cael ei adolygu er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw feysydd amwys yn cael eu dileu neu eu hegluro.

 

PENDERFYNWYD bod aelodau yn -

 

 (a)      awdurdodi swyddogion i barhau i asesu’r effaith ar fabwysiadau Polisi Perthnasedd Euogfarnau Trwyddedu ar y cyd ag adolygiad Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol.

 

 (b)      rhoi cyfarwyddiadau i swyddogion i adolygu’r Polisi Euogfarnau cyfredol ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2018/19 pdf eicon PDF 108 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD yn amodol ar ychwanegu’r eitemau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2018/19.

 

Amlygodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd newidiadau i’r rhaglen waith i alluogi swyddogion i ganolbwyntio ar weinyddiaeth busnes craidd yn ystod misoedd yr haf a’r hydref gydag unrhyw fusnes heb ei gynllunio, fel gwrandawiadau gyrwyr yn parhau fel bo angen.  NRoedd y rhaglen waith yn canolbwyntio’n bennaf ar faterion polisi rhwng mis Rhagfyr 2018 – Medi 2019.  Cadarnhawyd hefyd y byddai’r eitemau a drafodwyd yn gynharach yn y rhaglen, mewn perthynas â mynediad i gadeiriau olwyn ac adolygu’r polisi mewn perthynas ag arwyddion/hysbysebion yn cael eu hychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Cododd yr aelodau bryder am y gostyngiad yn nifer y staff sydd ar gael oherwydd absenoldeb salwch a dywedodd y swyddogion bod mesurau mewn grym i liniaru’r gostyngiad dros dro mewn adnoddau gan gytuno i ddiweddaru’r aelodau ar y mater fel bo angen.  Soniodd y swyddogion hefyd am gyfarfod cadarnhaol i drafod materion trwyddedu gyda Phrif Arolygydd Andrew Williams oedd yn llwyr ymwybodol o safbwynt yr awdurdod ac yn hollol gefnogol ohono a byddai swyddogion yn parhau i feithrin perthynas dda gyda’r Heddlu.  Roedd yr Aelodau’n canmol gwaith caled, ymrwymiad ac ymroddiad y staff trwyddedu ac roeddent yn dymuno cofnodi a chyfleu eu gwerthfawrogiad mewn perthynas â hynny.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar ychwanegu’r eitemau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, i gymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel a welir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 am.