Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthin
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr
Stuart Davies a Hugh Irving Cofnodion: Y Cynghorwyr
Stuart Davies a Hugh Irving |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Y Cynghorydd Huw Williams – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen Cofnodion: Y Cynghorydd Barry Mellor – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 6 |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 509302 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 509302. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif 509302 gan gyflwyno rhybudd
ffurfiol mewn perthynas â’i ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif (ii) 509302 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar ei Drwydded Yrru
DVLA rhwng Rhagfyr 2015 ac Awst 2016 yn ymwneud â dau achos o fethu
cydymffurfio gyda signal golau traffig ac 1 achos o oryrru; (iii)
swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu adnewyddu
cais y gyrrwr o ystyried yr euogfarnau a moduro a ddatgelwyd; (iv)
polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd
euogfarnau, a (v)
roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i
gefnogi ei gais adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd y Gyrrwr ei
fod wedi derbyn adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Rhoddodd Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd (IM) grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r
achos. Eglurodd y Gyrrwr
amgylchiadau pob un o’r troseddau moduro.
Wrth liniaru am y methiant i gydymffurfio gyda signal golau traffig
cyfeiriodd at ddylanwadau allanol a diffyg posib gyda’r signal golau
traffig. O safbwynt y drosedd goryrru
roedd wedi gwneud camgymeriad ynglŷn â’r terfyn cyflymder. Rhoddodd y Gyrrwr sicrhad ynglŷn â’i
allu gyrru gan ddweud ei fod wedi bod â thrwydded yrru lân am wyth mlynedd cyn
y digwyddiadau hynny. Wrth ateb i
gwestiynau ymhelaethodd ymhellach ar bob digwyddiad a chadarnhaodd nad oedd
wedi bod yn cario teithwyr oedd yn talu yn ystod yr adegau pan ddigwyddodd y
troseddau. Wrth wneud datganiad terfynol
rhoddodd y Gyrrwr sicrwydd o safbwynt ei ymddygiad yn y dyfodol gan gynghori y
gallai ddarparu geirdaon cwsmeriaid ynglŷn â hynny. Yn y fan hon, cafodd y
pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif
509302 gan gyflwyno rhybudd ffurfiol mewn perthynas â’i ymddygiad yn y
dyfodol. Dyma oedd y rhesymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ystyriodd Aelodau
ffeithiau’r achos a’r ple lliniaru a gyflwynwyd gan y Gyrrwr yn ofalus. Roedd y pwyllgor o’r farn fod y Gyrrwr yn
agored ac yn onest yn ei atebion ac yn credu ei farn am y digwyddiadau, ac yn
credu eu bod yn dderbyniol, gyda chyfres o ddigwyddiadau anffodus yn arwain at
gronni pwyntiau cosb. Roedd Aelodau’n
hyderus hefyd, o wrando ar sicrwydd y Gyrrwr o safbwynt ei ymddygiad yn y
dyfodol, ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded. Oherwydd y pwyntiau a gronnwyd roedd y
pwyllgor yn credu y byddai rhybudd o safbwynt ymddygiad yn y dyfodol yn addas
yn yr achos hwn. Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 509827 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 509827. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif
509827 ond bod y drwydded yn cael ei gwahardd am fis. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif (ii)
509827 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn
dilyn croniad o 12 pwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA rhwng Gorffennaf 2013
hyd at Ebrill 2016 yn ymwneud â defnyddio cerbyd heb ei yswirio (6 pwynt) a 2
achos o oryrru (cyfanswm o 6 pwynt); (iii)
swyddogion
heb fod mewn sefyllfa i adnewyddu cais y gyrrwr oherwydd yr euogfarnau moduro a
ddatgelwyd yn dilyn gwiriad arferol ar ei drwydded yrru DVLA oedd hefyd wedi
datgelu cyflwr na ddatganwyd gan y Gyrrwr ar ei gais adnewyddu oedd yn ymwneud â defnyddio cerbyd heb ei yswirio. (iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a (v)
roedd
y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais adnewyddu ac i
ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd y Gyrrwr ei
fod wedi derbyn adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Rhoddodd Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd (IM) grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r
achos. Wrth gyflwyno ei achos eglurodd y Gyrrwr fod ganddo chwe phwynt cosb yn
parhau ar ei drwydded am ddwy drosedd o oryrru. Roedd y chwe phwynt cosb
a roddwyd ar ei drwydded fis Gorffennaf 2013 am yrru cerbyd heb ei drwyddedu
bellach wedi eu disbyddu. Ymddangosodd y Gyrrwr o flaen y pwyllgor wrth wneud ei gais cyntaf i
egluro'r amgylchiadau ynglŷn â'r gollfarn wedi'i disbyddu honno a
dyfarnwyd ei drwydded iddo. Roedd wedi bod o dan y camddealltwriaeth y byddai’r manylion hynny yn
cael eu cadw ar ffeil ac er iddo sôn am y drosedd o yrru cerbyd heb ei
drwyddedu wrth gyflwyno ei gais adnewyddu nid oedd wedi datgan hynny ar ei
ffurflen adnewyddu. Eglurodd y Gyrrwr hefyd yr amgylchiadau ynghylch y troseddau goryrru a
chadarnhaodd ei fod yn cario teithiwr oedd yn talu ar adeg yr ail drosedd
goryrru. Yn olaf cyflwynodd y Gyrrwr ddogfen yswiriant yn cadarnhau ei 7 blynedd
o fonws am beidio hawlio. Yn ei ddatganiad terfynol dywedodd y Gyrrwr ei fod o gymeriad da, yn
yrrwr diogel a chyfrifol ac yn ŵr teulu oedd yn gweithio’n galed. Yn y fan hon, cafodd y
pwyllgor egwyl i ystyried y cais. Roedd Aelodau am gael eglurder pellach ynglŷn â'r broses am
geisiadau i adnewyddu gan ei fod yn berthnasol i'r achos hwn a chadarnhawyd er
bod y Gyrrwr wedi datgan y gollfarn oedd bellach wedi'i disbyddu wrth wneud
cais yn y lle cyntaf (a ddaethpwyd gerbron y pwyllgor) roedd wedi methu datgan
y gollfarn honno ar ei ffurflen adnewyddu lle nodir yn glir fod yn rhaid i
ymgeiswyr ddatgan collfarnau moduro am y 5 mlynedd diwethaf. O dan y weithdrefn
cronni ystyriwyd fod yr euogfarn wedi’i disbyddu ar ôl 3 blynedd, fodd bynnag
roedd yn parhau ar ei drwydded yrru DVLA am gyfanswm o 4 blynedd. Yn ystod trafodaethau
roedd barn gymysg ynglŷn â’r gosb fwyaf addas yn yr achos hwn a chafodd
atal dros dro a rhybudd ffurfiol eu hawgrymu gan aelodau. O'i roi i’r bleidlais - PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif
509302 ond bod y drwydded yn cael ei hatal am fis. Dyma oedd y rhesymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ystyriodd Aelodau ffeithiau’r achos a’r eglurhad a roddwyd gan y Gyrrwr yn ei ble lliniaru yn ofalus. Mynegodd y pwyllgor bryderon difrifol fod y Gyrrwr wedi derbyn dau euogfarn goryrru yn ogystal â'r drosedd traffig sylweddol o fewn cyfnod o dair blynedd a’i fod wedi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0269/TXJDR
Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR
ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith. Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Mellor gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn adnabod dau
o'r tystion yn yr achos hwn a gadawodd y cyfarfod pan fu’r pwyllgor yn ystyried
yr eitem hon] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif (ii)
15/0269/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat wedi cwyn am gythraul gyrru; (iii)
manylion
ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi ynghyd â datganiadau
tyst cysylltiedig ac roedd dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad; (iv)
roedd
y Gyrrwr wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu o’r blaen ar 10 Mehefin
2015, a chanlyniad yr achos hwnnw, a (v)
bod y
Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r
adolygiad o’i drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd
â'i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r achos
fel y manylir yn yr adroddiad. Cynghorodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd y Gyrrwr am ddadlau yn
erbyn y mwyafrif o’r honiadau yn natganiadau’r tystion ac roedd wedi derbyn ei
ymddygiad yn ystod y cyfweliad. Rhoddodd fanylion am yr amgylchiadau’n arwain at y digwyddiad oedd yn
ymwneud â symudiad tancer ar gyffordd. Yn dilyn y symudiad roedd y Gyrrwr wedi gollwng ei deithwyr ac wedi mynd
yn ôl i weld gyrrwr y tancer er mwyn trafod ei ffordd o yrru. Fodd bynnag gwrthododd
gyrrwr y tancer â siarad ag ef a cherddodd i ffwrdd ac ar y pryd hynny rhegodd
arno. Nid oedd bwriad dadlau ond roedd y ffordd roedd gyrrwr y tancer wedi
ymateb wedi achosi iddo golli ei dymer. Cyfaddefodd y Gyrrwr ei
fod wedi ymddwyn yn annerbyniol ac roedd wedi cynnig ysgwyd llaw dair gwaith. Roedd yn cydnabod yn
llwyr fod ei ymddygiad yn annerbyniol ac roedd yn ymwybodol o ddifrifoldeb y
sefyllfa ac roedd yn edifar. Tra bo’r Gyrrwr wedi bod o flaen y pwyllgor ym mis Mehefin 2015 roedd
natur yr achos hwnnw wedi bod yn wahanol ac fe gyfaddefodd y Gyrrwr ei
euogrwydd ar yr achos hwnnw. Darparwyd esiamplau o gymeriad da'r Gyrrwr a chynghorwyd aelodau ei fod
wedi dal trwydded y tu allan i’r ardal ac roedd â record hollol lân. Rhoddwyd manylion
amgylchiadau personol y Gyrrwr a allai fod wedi effeithio ei ymateb i ryw
raddau a dywedwyd y byddai colli ei drwydded yn golygu caledi ariannol. Cymerodd Aelodau’r cyfle i gwestiynau’r Gyrrwr ar ddatganiad ei
gyfweliad a’i fersiwn o’r digwyddiad a holwyd iddo beth oedd wedi bwriadu ei
ennill o'i weithredoedd. Cynghorodd y Gyrrwr nad oedd wedi paratoi ar gyfer y cyfweliad gan nad
oedd wedi cael gwybod beth oedd natur y gwyn ond o dan bwysau fe wnaeth
gadarnhau fod ganddo syniad. Ymhelaethodd ar y digwyddiad o’i bersbectif ef gan ddweud ei fod yn
teimlo ei fod wedi ei fwlio gan yrrwr y tancer a'i fod am ei holi am ei ddull o
yrru ond roedd wedi ei bryfocio a chollodd ei dymer a chyfaddefodd wrth edrych
yn ôl na fyddai’n cymryd y camau hynny eto. Dadleuodd ei fod wedi ei
hel o’r eiddo a’i fod wedi ceisio ymddiheuro ar y pryd. Fel gyrrwr trwyddedig
roedd yn gweld digwyddiadau traffig niferus yn aml heb ddial a dywedodd fod yr
achos hwn yn enghraifft brin na fyddai’n cael ei ailadrodd yn y dyfodol. Yn ei ddatganiad terfynol ailadroddodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd yn fwriad gan y Gyrrwr achosi dadl pan aeth yn ôl ... view the full Cofnodion text for item 6. |