Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Melvyn Mile, Arwel Roberts a Rhys Thomas

 

Cofnodion:

Cynghorwyr Melvyn Mile, Arwel Roberts a Rhys Thomas

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Cynghorydd Huw Williams – Cysylltiad Personol – Eitem 6 ar y Rhaglen

Cynghorydd Peter Scott – Cysylltiad Personol – Eitem 7 ar y Rhaglen

Cofnodion:

Y Cynghorydd Huw Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Peter Scott  – Cysylltiad Personol – Eitem 7 ar y Rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Dim eitem brys wedi’i chodi.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 330 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2017 (copi wedi’i amgáu).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar bwynt cywirdeb, derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 28 Mehefin 2017 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2017.

 

Cywirdeb – Roedd y Cynghorydd Tony Thomas wedi mynychu’r cyfarfod diwethaf ond nid oedd wedi’i gynnwys ar y rhestr o’r aelodau presennol yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y pwynt o gywirdeb uchod, derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2017 fel cofnod cywir.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED CERBYD HACNI

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i drwyddedu cerbyd at ddibenion trwyddedu cerbyd hacni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod y cais i drwyddedu’r cerbyd fel cerbyd hacni.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais oddi wrth berchennog cerbyd hacni i drwyddedu cerbyd er mwyn ei ddefnyddio fel cerbyd hacni.

 

(ii)          nid oedd swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais, gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu’n cydymffurfio â'r fanyleb, fel y manylir ym Mholisi, Manyleb ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor, ac

 

(iii)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) yr adroddiad a dynnodd sylw at bolisi'r Cyngor a oedd yn nodi na ddylai cerbydau sy'n destun cais newydd fod yn hŷn na phum mlwydd oed ac eglurodd nad oedd disgresiwn bellach yn y polisi i gael gwared â'r terfyn oedran ar gyfer hŷn cerbydau mewn cyflwr eithriadol o dda.  Gan fod y cerbyd a oedd yn destun y cais yn naw mlwydd oed, nid oedd yn cydymffurfio â'r manylebau cyfredol.  O ganlyniad, gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais yr Ymgeisydd i ymadael â pholisi'r Cyngor yn yr achos hwn er mwyn caniatau’r cais y gofynnwyd amdano.

 

Derbyniodd yr Ymgeisydd y byddai caniatáu'r cais yn wyriad o'r polisi presennol ond roedd yn annog yr aelodau i wneud hynny yn yr achos hwn o ystyried safon a chyflwr y cerbyd; ei ymrwymiad i'w brynu, a'r ffaith nad oedd yn ymwybodol o'r newid mewn polisi neu byddai wedi cyflwyno'r cerbyd i’w drwyddedu yn gynharach.  Rhoddodd hefyd hanes cefndir i'w fusnes a'i fwriad i drwyddedu'r cerbyd er mwyn cyflawni gwaith contract yn effeithiol.  Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau'r aelodau ynghylch amseriad ei gais a gweithrediad ei fusnes, gan gynnwys caffael y cerbyd ar gyfer trwyddedu.

 

O ran y newidiadau i’r polisi, dywedodd y swyddogion bod proses ymgynghori gynhwysfawr wedi'i chynnal ac yn dilyn hynny anfonwyd gwybodaeth ddwywaith at ddeiliaid trwyddedau ynglŷn â gweithredu'r polisi newydd a'i oblygiadau gyda phwyslais arbennig ar y terfyn oedran ar gyfer cerbydau trwyddedig.  Roedd yr Ymgeisydd yn bendant nad oedd wedi bod yn ymwybodol o'r newid polisi a honnodd mai oddi wrth gydweithredwr y cafodd wybod am y ffaith.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, dadleuodd, yn hytrach gwyro oddi wrth y polisi, mai manylyn technegol oedd hyn, gan fod y cais am drwydded wedi'i gyflwyno un diwrnod gwaith yn rhy hwyr i'w ystyried o dan y rheolau polisi blaenorol.

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais i’r cerbyd gael ei drwyddedu fel cerbyd hacni.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yr achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ofalus ac er bod rhywfaint o gydymdeimlad am ei sefyllfa, ar y cyfan nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod achos wedi ei wneud a fyddai'n eu perswadio i wyro o'u polisi yn yr achos hwn.  Nododd polisi'r Cyngor y dylai cerbydau a drwyddedwyd o dan gais newydd fod hyd at bum mlwydd oed ar yr hynaf o’r dyddiad cofrestriad cyntaf.  Gan fod y cerbyd a oedd yn destun y cais yn yr achos hwn yn naw mlwydd oed, nid oedd yn cydymffurfio â'r polisi.  Roedd y pwyllgor hefyd o'r farn bod digon o ymgynghori wedi digwydd o ran y newidiadau polisi a rhoddwyd digon o rybudd i ddeiliaid trwyddedau yn hynny o beth, ac felly dylai'r Ymgeisydd fod wedi gwybod am y newid yn y polisi.

 

Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros hynny i'r Ymgeisydd a chafodd wybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i'r Llys Ynadon  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 519937

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 519937.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD rhoi’r cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat i Ymgeisydd Rhif 519937, gyda rhybudd ffurfiol am ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn yr eitem hon gan fod gweithredwr y gwasanaethau tacsi a ddefnyddiai yn perthyn i’r Ymgeisydd.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

(ii)           519937 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(iii)         swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r ddau euogfarn moduro sy'n ymwneud â throseddau goryrru yn 2015 a ddatgelwyd yn dilyn gwiriad arferol ar Drwydded Yrru DVLA yr Ymgeisydd na chafodd ei ddatgelu gan yr Ymgeisydd;

 

(iv)         polisi y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yng nghwmni perthynas iddo a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.

 

Ymhelaethodd yr Ymgeisydd ar ei brofiad gyrru a'i hanes cyflogaeth, a dywedodd ei fod yn yrrwr gonest, dibynadwy a gofalus.  Roedd wedi camgymeryd wrth gredu bod y ddau euogfarn goryrru a ddatgelwyd gan y gwiriad DVLA wedi pasio a chyfeiriodd at ei gamgymeriad wrth lenwi'r ffurflen gais ac roedd yn ddrwg iawn ganddo, gan roi sicrwydd na fu unrhyw fwriad i dwyllo.  Dywedodd hefyd, pe bai aelodau o blaid caniatau ei gais, roedd wedi sicrhau cyflogaeth gyda chwmni tacsi lleol.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, ailadroddodd yr Ymgeisydd bod methu â datgelu’r euogfarnau moduro wedi bod yn gamgymeriad gwirioneddol ar ei ran ac roedd yn wirioneddol ddrwg ganddo ac fe roddodd sicrwydd ei fod yn yrrwr cymwys.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  519937, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd Aelodau wedi ystyried ffeithiau’r achos yn ofalus a’r esboniad gan yr Ymgeisydd o ran y troseddau a’i resymau dros beidio â datgelu ei euogfarnau perthnasol.  Canfu'r pwyllgor yr esboniad a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd i fod yn gredadwy a bod ei ediferwch dros fethu â datgelu gwybodaeth yn ddilys.  O ganlyniad, canfu'r aelodau fod yr Ymgeisydd yn ddibynadwy ac o gymeriad da ac roedd yn ei ystyried yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Fodd bynnag, roedd peidio â datgelu euogfarnau'n fater difrifol ac yn peri pryder a phwysleisiodd yr aelodau wrth yr Ymgeisydd pa mor bwysig yw datgelu’n llawn a chywir, a chytunwyd y dylid rhoi rhybudd ffurfiol am ei ymddygiad yn y dyfodol a chadw cofnod ar ffeil .

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

 

7.

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 520399

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu), yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif 520399.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD adnewyddu cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 520399, gyda rhybudd ffurfiol am ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Peter Scott gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn adnabod perthynas i’r Ymgeisydd a’i fusnes tacsi].

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

(ii)           520399 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(iii)         roedd gwiriad arferol ar Drwydded Yrru DVLA yr Ymgeisydd wedi datgelu euogfarn goryrru yn Ionawr 2017 nad oedd yr Ymgeisydd wedi'i ddatgelu yn unol ag amodau trwyddedu neu ar ei ffurf adnewyddu;

 

(iv)         polisi y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yng nghwmni perthynas iddo a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (TB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd, wrth frysio i lenwi'r cais adnewyddu ar amser, nad oedd wedi sylweddoli y dylai fod wedi datgan y drosedd goryrru fel euogfarn gan nad oedd erioed wedi bod mewn trafferth gyda'r heddlu nac wedi cael unrhyw euogfarnau traffig cyn hynny.  Eglurodd yr amgylchiadau o gwmpas yr euogfarn goryrru lle'r oedd ymddygiad ei deithwyr wedi tynnu ei sylw.  Hefyd, darparodd yr Ymgeisydd rai geirdaon am ei gymeriad oddi wrth gwsmeriaid yn ardystio ei gymeriad da a siaradodd ei berthynas hefyd, a oedd yn gyflogwr iddo, am ei ddibynadwyedd a faint y gellid ymddiried ynddo.

 

Yn ystod yr holi, derbyniwyd ei fod wedi'i nodi'n eglur ar y ffurflen fod yr euogfarnau y cyfeiriwyd atynt yn golygu euogfarnau moduro.  Cynghorodd yr Ymgeisydd, yn ei frys i lenwi'r ffurflen, ei fod wedi anwybyddu'r cyfeiriad hwnnw a honnodd ei fod yn gamgymeriad gwirioneddol i beidio â datgelu’r euogfarn goryrru ac nad oedd wedi bod yn anonest.  Cadarnhaodd mai hon oedd ei ffurflen adnewyddu gyntaf ac wrth lenwi’r ffurflen gais wreiddiol nid oedd ganddo unrhyw euogfarnau moduro i’w datgelu.  Yn ei ddatganiad terfynol, ymddiheurodd yr Ymgeisydd i'r pwyllgor am ei gamgymeriad.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD bod y cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  520399, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd Aelodau wedi ystyried ffeithiau’r achos yn ofalus, a’r mesur lliniaru a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd o ran peidio datgelu gwybodaeth.  Derbyniodd y pwyllgor y geirdaon cymeriad a gyflwynwyd yn ardystio i gymeriad da'r Ymgeisydd a derbyniwyd hefyd ei esboniad ynghylch methu datgelu ei euogfarn goryrru.  O ganlyniad, ystyriodd yr aelodau fod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded a phenderfynodd ganiatáu’r cais adnewyddu.  Fodd bynnag, roedd methu datgelu'r euogfarn goryrru yn achos pryder ac roedd yr aelodau o'r farn ei bod yn briodol rhoi rhybudd ffurfiol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

Ar y pwynt hwn (10.50 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

Ar y pwynt hwn, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer unigolion a oedd yn bresennol ar gyfer eitemau penodol.

 

 

8.

ADOLYGU TREFN GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) am ddatblygu Polisi drafft Gyrwyr Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat i roi gwell rheoleiddio a chefnogaeth i’r drefn cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn y sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i ddechrau gweithio ar bolisi drafft gan ystyried barn yr aelodau ac unrhyw ddatblygiadau o broses Llywodraeth Cymru, ac awdurdodi ymgynghoriad Sir Ddinbych â phartïon â diddordeb, ac adrodd yn ôl i gyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â datblygu Polisi Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i reoleiddio a chefnogi'r gyfundrefn cerbydau hacni a preifat hurio yn well yn y sir.

 

Er bod gyrwyr yn destun gwiriadau amrywiol i asesu eu haddasrwydd, nid oedd polisi ysgrifenedig ar hyn o bryd a gofynnodd swyddogion am farn yr aelodau ar y gyfundrefn a meysydd penodol i'w gwella fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  Tynnwyd sylw'r Aelodau at ddogfen ymgynghorol Llywodraeth Cymru (ynghlwm wrth yr adroddiad) ar ddiwygio deddfwriaeth tacsi a allai effeithio ar reoleiddio yn y dyfodol a byddai'n cael ei ystyried wrth ddatblygu'r polisi.

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad a thrafodwyd y meysydd gwella posibl fel a ganlyn:

 

Profion Meddygol - roedd cefnogaeth gyffredinol i symud i Safonau Ffitrwydd Meddygol Grŵp 2 fel y'i cymhwysir gan y DVLA ar gyfer gyrwyr HGV a bysiau.  Cadarnhaodd y swyddogion bod angen i yrwyr hysbysu'r awdurdod trwyddedu o newidiadau mewn hanes meddygol a byddai'r elfen hon yn cael ei ysgrifennu yn y polisi newydd.

 

Cymhwyster - nid oedd cymhwyster ar gyfer gyrwyr trwyddedig ar hyn o bryd ac roedd aelodau'n croesawu cyflwyno cymhwyster addas ar gyfer ymgeiswyr newydd y gellid ei ddefnyddio hefyd fel offeryn gorfodaeth ychwanegol ar gyfer unrhyw dor-amodau o ran trwyddedau tacsi er mwyn codi safonau a gwella ymddygiad.  Cynghorodd swyddogion am gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol yn cwmpasu meysydd fel gwasanaeth cwsmer a safonau gyrru a ddefnyddiwyd gan awdurdodau lleol eraill.  Gofynnodd yr Aelodau bod swyddogion yn ymgymryd ag ymchwil pellach i’r opsiynau cyrsiau posibl a goblygiadau cost, gan gynnwys y cyrsiau hynny a ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill.  Cadarnhawyd y byddai cost y cwrs yn cael ei dalu gan yr unigolyn ac nid yr awdurdod trwyddedu.

 

Oedran a Phrofiad Gyrru - trafododd yr aelodau'r posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiad oedran isafswm i sicrhau bod gan ymgeiswyr brofiad a gwybodaeth briodol am yrru ond roeddent hefyd yn ofalus i ystyried gwahaniaethu ar sail oed a’r Ddeddf Cydraddoldeb.  Cytunodd y pwyllgor fod profiad gyrru yn feini prawf pwysig y mae'n rhaid i bob ymgeisydd ei ddangos.

 

Yn ogystal â'r uchod, trafododd yr aelodau gyda'r swyddogion a ellid gwneud mwy i sicrhau bod gyrwyr yn datgan euogfarnau moduro i'r awdurdod trwyddedu a chwmnïau yswiriant, yn enwedig o ystyried y goblygiadau am beidio â datgelu.  Cytunwyd bod y ffurflenni cais yn cael eu hadolygu er mwyn asesu a ellid tynnu sylw at yr agwedd hon ymhellach a'i gwneud yn gliriach i ymgeiswyr, a chadarnhaodd swyddogion hefyd y gellid cynnwys cyfeiriad ychwanegol ar y ffurflen yn gofyn i ymgeiswyr ddatgan eu bod wedi hysbysu eu cwmni yswiriant o euogfarnau moduro perthnasol.  Gellid hefyd cynnwys rhybuddion cryfach ynghylch datgelu euogfarnau yn y Polisi Euogfarnau Gyrwyr.   Rhoddodd swyddogion sicrwydd bod camau rhagweithiol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater a bod trafodaethau'n parhau gyda'r Heddlu gyda'r bwriad o rannu gwybodaeth am euogfarnau gyrwyr.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

 (b)      cyfarwyddo swyddogion i ddechrau llunio’r polisi drafft, gan ystyried barn yr aelodau fel y manylwyd uchod ac unrhyw ddatblygiadau o broses Llywodraeth Cymru, a dechrau ymgynghoriad Sir Ddinbych â phartïon â diddordeb, gan adrodd yn ôl mewn cyfarfod diweddarach o’r pwyllgor.

 

 

9.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I FFIOEDD TRWYDDEDU TACSI A THALIADAU TARIFF pdf eicon PDF 199 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) sy’n gofyn am gymeradwyaeth aelodau ar gyfer newidiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau ar gyfer y drefn trwyddedu tacsis.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod aelodau –

 

(a)       yn cymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad;

 

(b)      yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi'r newidiadau i'r ffioedd Trwyddedu Tacsi mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol, ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, byddant yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2017;

 

(c)       yn gofyn, pan dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, bod y Pwyllgor Trwyddedu yn ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda'r bwriad o weithredu (gydag addasiad neu hebddynt) heb fod yn hwyrach nag 1 Ionawr, 2018;

 

(d)      nodi'r newidiadau gweinyddol i'r drefn drwyddedu, ac

 
(e)      awdurdodi swyddogion i gynnal adolygiad o daliadau tariff mesurydd tacsi ac ymgynghori yn ôl yr angen, gyda'r bwriad o adrodd am y canfyddiadau i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w hystyried a'u hargymell i'r Cabinet i'w gweithredu.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd  adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth yr aelodau i ffioedd a thaliadau diwygiedig am drwyddedu cerbyd hacni a hurio preifat a gynigir i'w cyflwyno ochr yn ochr â newidiadau i wneud y broses drwyddedu'n fwy effeithlon.

 

Gallai'r Cyngor godi ffioedd am drwyddedau mewn perthynas â thrwyddedu cerbyd hacni a hurio preifat i dalu am gostau sy'n ymwneud â gweinyddu, archwilio, rheoli a goruchwylio.  Ni ellid cynnwys costau gorfodi ac ni ellid gwneud elw.  O ganlyniad, dyfeisiwyd methodoleg ffioedd a thaliadau er mwyn caniatáu adolygiad manwl o ffioedd a thaliadau yn unol â phrosesau trwyddedu perthnasol.  Cynigiwyd hefyd adlinio'r strwythur ffioedd i ddarparu ar gyfer newidiadau a wnaed i'r broses drwyddedu er mwyn gwella gweinyddiaeth mewn modd na fyddai'n anfantais i ddeiliaid trwyddedau.  Byddai unrhyw newid i ffioedd a thaliadau yn ddarostyngedig i rybudd cyhoeddus gydag unrhyw wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor.  Nodwyd, na chynyddwyd unrhyw ffioedd a thaliadau am drwyddedu tacsi ers Ebrill 2008, ac eithrio cynnydd yn y ffi Gyrrwr Hurio Preifat yn 2009.

 

Eglurodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd nifer o faterion mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â'r strwythur ffioedd, yn enwedig mewn perthynas â ffi y gweithredwyr hurio preifat arfaethedig yn ddibynnol ar nifer y cerbydau a weithredir, a chadarnhaodd fod ffioedd trwyddedu cerbyd yn aros yr un peth yn fras, fel ag yr oedd gyrwyr yn arbed costau yn sgil y cyfle i yrwyr wneud cais am drwydded newydd neu adnewyddu trwydded am gyfnod o dair blynedd yn hytrach na'n flynyddol yn unol â'r prosesau newydd.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y cynnig i gynnal adolygiad o daliadau tariff mesurydd tacsi a gweithredu ymgynghoriad ar y newidiadau hynny gyda chanfyddiadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet i'w gweithredu.  Eglurwyd bod y tariffau mesurydd tacsi yn ymwneud â'r uchafswm ffioedd a thaliadau a osodwyd a gallai gweithredwyr godi swm is.  O ystyried fod gosod taliadau tariff mesurydd tacsi yn benderfyniad i’r Cabinet, cefnogodd yr aelodau awgrym y Cadeirydd y dylai’r taliadau arfaethedig gael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor Trwyddedu i'w hystyried a'u hargymell i'r Cabinet eu gweithredu.

 

PENDERFYNWYD y byddai Aelodau yn -

 

 (a)      cymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau yn Atodiad A yr adroddiad;

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau i’r ffioedd Trwyddedu Tacsi mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2017;

 

 (c)       lle derbynnir unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim hwyrach na 1 Ionawr 2018; 

 

 (d)      nodi’r newidiadau gweinyddol i’r drefn drwyddedu, ac

 

 (e)      awdurdodi swyddogion i gynnal adolygiad o ffioedd tariff tacsi ac ymgynghori fel bo’r angen gyda’r bwriad o adrodd ar y canfyddiadau i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w hystyried a'u hargymell i'r Cabinet i'w gweithredu.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 182 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylir yn Atodiad 1.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen waith arfaethedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2017/18.

 

Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod y rhaglen waith yn ddogfen fyw ac yn cael ei diweddaru’n rheolaidd fel bo’n briodol.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

11.

ADOLYGU'R POLISI MASNACHU AR Y STRYD pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu), yn diweddaru aelodau o'r cynnydd mewn perthynas ag adolygiad o bolisi presennol masnachu ar y stryd yn Sir Ddinbych.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod aelodau’n awdurdodi swyddogion i barhau i weithio ar bolisi masnachu ar y stryd drafft ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion perthnasol i ddatblygu polisi drafft o’r fath, i’w gyflwyno mewn Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru'r aelodau ar y cynnydd gyda'r adolygiad o Bolisi Masnachu ar y Stryd cyfredol Sir Ddinbych.

 

Yn 2015, awdurdodwyd swyddogion gan y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu'r polisi masnachu ar y stryd presennol er mwyn mynd i'r afael ag anawsterau gyda'r gyfundrefn ac awgrymu gwelliannau i reoleiddio a chefnogi masnachu ar strydoedd y sir yn well.  Ystyriwyd polisi drafft gan y Pwyllgor Trwyddedu yn Rhagfyr 2016, a chytunwyd y byddai ymgynghoriad cychwynnol yn cael ei wneud gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, ynghyd ag adrannau cyngor mewnol.  Roedd y sylwadau a ddaeth i law o ganlyniad i’r ymgynghoriad cychwynnol wedi’u cynnwys yn y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft a oedd wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.  Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau o ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus.  Fodd bynnag, roedd adborth gan unigolion a thimau o fewn y Cyngor wedi codi materion pellach i'w hystyried a chynigiodd swyddogion y dylid cynnal trafodaethau pellach gyda masnachwyr "sefydlog" lleol, masnachwyr ar y stryd, cymunedau a thimau ehangach y Cyngor cyn cwblhau polisi i’w gyflwyno i'r Pwyllgor Trwyddedu.

 

Nododd yr Aelodau gynnydd gyda'r adolygiad o'r Polisi Masnachu ar y stryd a -

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n awdurdodi swyddogion i barhau i weithio ar bolisi masnachu ar y stryd drafft ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion perthnasol i ddatblygu polisi drafft o'r fath i'w gyflwyno mewn Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

12.

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 520398

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu), yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif 520398.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD adnewyddu cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 520398, gyda rhybudd ffurfiol am ei euogfarnau gyrru ac ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

(ii)           520398 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(iii)         nad yw swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais adnewyddu yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar Drwydded Yrru DVLA yr Ymgeisydd ar gyfer mân droseddau traffig sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng Hydref 2013 a Chwefror 2017 (yn ymwneud â thorri gofynion o ran rheoli'r cerbyd a methiant i gydymffurfio â signalau goleuadau traffig) a gadarnhawyd yn dilyn gwiriad arferol fel rhan o'r cais adnewyddu;

 

(iv)         polisi'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd dderbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd yr amgylchiadau o gwmpas y tair trosedd traffig, roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud â'i ddefnydd o ffôn di-law, ac roedd wedi cymryd bod y drosedd wedi pasio, roedd yn derbyn yr ail drosedd, ac roedd y drydedd drosedd wedi bod o ganlyniad i ddigwyddiad rhwng teithwyr yn ei gerbyd.  Rhoddodd wybodaeth hefyd am ei amgylchiadau personol fel cyfiawnhad o’i weithredoedd a'i sefyllfa feddyliol.  Atebodd yr Ymgeisydd gwestiynau pellach yr aelodau yn ymwneud â'r tair trosedd a chadarnhaodd ei fod wedi bod yn yrrwr trwyddedig am bron i ugain mlynedd.  Yn ei ddatganiad terfynol, gofynnodd yr Ymgeisydd i'r aelodau ystyried ei gamau lliniaru a'i gofnod da blaenorol wrth wneud eu penderfyniad.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD bod y cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  520398 yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei euogfarnau moduro a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd Aelodau ffeithiau’r achos a’r ple lliniaru a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ofalus.  Mynegwyd pryder ynglŷn â chronni pwyntiau cosb ond ar ôl ystyried y ple lliniaru, gan gynnwys cofnod da blaenorol yr Ymgeisydd, ac o gofio bod y drosedd gyntaf wedi digwydd dros dair blynedd yn ôl, roedd y pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Cafwyd peth dadl ynglŷn â gosod sancsiwn o ystyried casglu pwyntiau cosb a rhoddwyd ystyriaeth i atal y drwydded am gyfnod priodol.  Ar y cyd, fodd bynnag, penderfynwyd rhoi rhybudd ffurfiol ynghylch ymddygiad yn y dyfodol.  Nodwyd mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio â signalau goleuadau traffig ddwywaith, ei fod yn gwybod bod yr ardal yn llebwynt mawr a dylai yrru gyda mwy o ofal ac na fyddai'r pwyllgor yn edrych yn ffafriol ar drydedd euogfarn am yr un drosedd.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

 

13.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 516098

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 516098.

 

Penderfyniad:

Rhoddwyd gwybod i Aelodau bod y cais hwn wedi’i dynnu oddi ar y rhaglen.

 

Cofnodion:

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y cais hwn wedi’i dynnu’n ôl o’r rhaglen.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

14.

CAIS AM HYSBYSEBU AR GERBYD HACNI pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Berchennog Cerbyd Hacni am gymeradwyaeth i arddangos arwyddluniau ar ei gerbyd trwyddedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       caniatáu ceisiadau i ddangos hysbysebion ar gais, ac

 

(b)       ystyried ceisiadau yn y dyfodol i ddangos hysbysebion yn unigol, yn ôl eu rhinweddau eu hun.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            cais gan Berchennog Cerbyd Hacni am gymeradwyaeth i arddangos arwyddluniau ar ei gerbyd trwyddedig (Atodiad A i'r adroddiad);

 

(ii)          cyfeiriodd at bolisi cyfredol y Cyngor a manyleb y cerbyd yn amlinellu’r gofynion derbyniol sy'n ymwneud ag arwyddion, hysbysebu a lifrai cerbydau trwyddedig (Atodiad B i'r adroddiad), ac

 

(iii)         amlygwyd goblygiadau posib ar gyfer diogelwch y cyhoedd wrth ganiatáu ceisiadau i arddangos arwyddluniau chwaraeon ac arwyddion gwladgarol a holwyd a ddylid diwygio'r polisi presennol ar y sail honno.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o'r adroddiad a rhoddwyd y rhesymau dros y cais gael ei gyfeirio at y pwyllgor o ystyried y goblygiadau posib wrth ganiatau arwyddluniau o'r math hwn a allai ddenu sylw annisgwyl, gyda phryderon am ddiogelwch gyrwyr pe bai gan rywun broblem gydag arwydd penodol.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cefnogi Clwb Criced Sir Gaerhirfryn ers blynyddoedd lawer ac wedi dangos yr arwyddlun ar ei gerbydau trwyddedig yn y gorffennol.  Cyflwynodd fod yr arwyddion yn briodol mewn cymdeithas ddemocrataidd a’u bod yn ddiniwed ac roedd yn dymuno dangos ei deyrngarwch i'r Clwb Criced trwy arddangos yr arwyddlun ar ei gerbyd.  Fe wnaeth swyddogion hefyd ystyried y gallai’r cyhoedd feddwl fod y cerbyd wedi cael ei noddi gan y Clwb Criced pe bai'r arwyddluniau hyn yn cael eu harddangos.  Mewn ymateb dywedodd yr Ymgeisydd bod car noddedig fel arfer â graffeg dros y cerbyd i gyd.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      bod y cais i arddangos arwyddlun yn cael ei ganiatáu fel y gwnaed cais amdano, a

 

 (b)      Bod ceisiadau yn y dyfodol i arddangos arwyddluniau yn cael eu hystyried yn unigol ar eu rhinweddau eu hunain.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a chyflwyniad yr Ymgeisydd, roedd yr aelodau yn fodlon ei bod yn briodol i'r arwyddluniau gael eu harddangos ar y cerbyd fel y gwnaed cais amdano.  Cydnabuwyd y gallai arwyddluniau penodol o'r math hwn ddenu sylw diangen ond roedd yr aelodau o'r farn nad oedd angen newid polisi ac y dylid penderfynu ar bob cais ar ei rinweddau ei hun.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

 

15.

ADOLYGU – DEDDF GAMBLO 2005 DATGANIAD O EGWYDDORION pdf eicon PDF 206 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd yr adolygiad o Ddatganiad o Egwyddorion y Cyngor ar gyfer Deddf Gamblo 2005.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad ac yn awdurdodi swyddogion i barhau i weithio ar y polisi drafft drwy gasglu unrhyw ymatebion a gafwyd, a chyflwyno aelodau gyda fersiwn terfynol i’w ystyried yn y cyfarfod nesaf yn Rhagfyr 2017.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru'r aelodau ar y cynnydd gyda'r adolygiad o Ddatganiad Egwyddorion y Cyngor ar gyfer Deddf Gamblo 2005.

 

Atgoffwyd yr aelodau o’r gofyniad statudol i adolygu’r Datganiad o Egwyddorion bob tair blynedd.  Roedd y ddogfen ddrafft wedi’i datblygu gan y chwe awdurdod trwyddedu yng Ngogledd Cymru i sicrhau cysondeb mewn materion yn ymwneud â materion a swyddogaethau Gamblo, ac roedd ystyriaeth ddyledus wedi'i rhoi o amcanion trwyddedu Deddf Gamblo 2005 a'r Comisiwn Gamblo ‘Canllaw Awdurdodau Trwyddedu' fel rhan o’r adolygiad hwnnw.  Roedd yr Aelodau wedi cymeradwyo'r polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yn eu cyfarfod diwethaf a darparwyd manylion y broses ymgynghori yn yr adroddiad.

 

Nododd yr Aelodau’r cynnydd a wnaed gyda’r adolygiad o Ddatganiad Egwyddorion y Cyngor ar gyfer y Ddeddf Gamblo 2005. 

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau yn ystyried cynnwys yr adroddiad hwn ac yn awdurdodi Swyddogion i barhau i weithio ar y fersiwn drafft o’r polisi drwy gasglu unrhyw ymatebion a dderbyniwyd a chyflwyno fersiwn terfynol i’r Aelodau i’w ystyried yn eu cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr 2017. 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm.