Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr
Stuart Davies, Merfyn Parry, Pete Prendergast a Huw Williams Cofnodion: Y Cynghorwyr
Stuart Davies, Merfyn Parry, Pete Prendergast a Huw Williams |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1124/TXJDR
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1124/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif 15/1124/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif (ii)
15/1124/TXJDR i
ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni
40 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd
trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus ddwywaith; (iii)
roedd y Gyrrwr wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor
Trwyddedu ar 10 Mehefin 2015 yn dilyn croniad o 20 pwynt cosb ar gyfer cyflwyno
cerbyd trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus, a oedd wedi
arwain at ataliad dros dro o bythefnos; (iv)
Roedd manylion y diffygion a nodwyd yn dilyn cyflwyno’r
cerbyd am brawf Cydymffurfio/MOT ym mis Ebrill 2016 a chyhoeddi 20 o bwyntiau
cosb ychwanegol wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â datganiadau tyst a
dogfennau cysylltiedig; (v)
roedd y Gyrrwr wedi cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i
gefnogi'r adolygiad o'i drwydded gan gynnwys Prawf MOT/Tystysgrif Cydymffurfio
ar gyfer y cerbyd dyddiedig 19 Mai 2016, ynghyd â llythyr i apelio yn erbyn y
pwyntiau cosb (gwrthodwyd yr apêl gan swyddogion ar ôl hynny), a (vi)
bod y Gyrrwr wedi
cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i
drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol a daeth ei Gynrychiolydd Undeb gydag o. Cadarnhaodd y
Cynrychiolydd Undeb dderbyn yr adroddiad a'r gweithdrefnau pwyllgor. Amlinellodd y
Swyddog Gorfodi Trwyddedu yr achos fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Er na chafodd y cerbyd ei gyflwyno ar gyfer ail brawf ar
adeg ysgrifennu'r adroddiad, hysbyswyd yr aelodau bod y cerbyd wedi pasio Prawf
MOT/Tystysgrif Cydymffurfio wedi hynny ar 19 Mai 2016. Cyflwynodd y Cynrychiolydd Undeb achos y Gyrrwr gan ddadlau ei fod wedi mynd ati i ofyn am arweiniad a sicrwydd ynglŷn â chyflwr y cerbyd. Cyflwynwyd y cerbyd ar gyfer prawf MOT ar 4 Ebrill 2016, a chafodd gwaith atgyweirio ei wneud a arweiniodd at gyhoeddi Tystysgrif MOT ar 13 Ebrill 2016. Methodd y cerbyd yr MOT a’r Dystysgrif Gydymffurfiaeth wedi hynny yng Ngorsaf Brofi Ddynodedig y Cyngor ar 14 Ebrill 2016 gyda gwahaniaeth clir ym marn y ddau archwiliwr cerbyd. Ceisiodd y Cynrychiolydd Undeb dynnu sylw at nifer o anghysondebau yn yr adroddiad a chwestiynu'r LEO yn hynny o beth. |