Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cynghorydd David Simmons Cofnodion: Y Cynghorydd
David Simmons, Dywedodd y
Cynghorwyr Joan Butterfield a Huw Williams y byddent yn gadael yn gynnar i
fynychu cyfarfod y Panel Penodiadau. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams fel
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016/17. Cynigiodd y Cynghorydd Bill Cowie y dylid penodi'r
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Arwel
Roberts. Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid penodi'r Cynghorydd Huw Williams yn
Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Merfyn Parry. O'i roi i’r bleidlais - PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams fel
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Huw Williams fel
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar
gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016/17. Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid penodi'r Cynghorydd Huw Williams yn
Is-Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Pete Prendergast. Wedi hynny – PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Huw Williams fel
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 136 KB Derbyn - (a) cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016 (copi wedi’i amgáu), a (b) cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a
gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2016 (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016 a 24 Mawrth
2016 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016, a’r Pwyllgor Trwyddedu
Arbennig a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2016. PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016 a 24 Mawrth
2016 fel cofnod cywir. [Yn y fan hon, gadawodd y Cynghorydd Huw Williams y cyfarfod.] Yn y fan hon, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer
unigolion a oedd yn bresennol ar gyfer eitemau penodol. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1124/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm)
yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1124/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: RESOLVED that consideration of the suitability of Driver No.
15/1124/TXJDR to hold a hackney carriage and private hire vehicle drivers
licence be deferred to a special meeting of the Licensing Committee to be convened
as soon as practicable. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n
amgaeedig) i adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o
ran Gyrrwr Rhif 15/1124/TXJDR. Darllenodd y
Cyfreithiwr gais ohiriad ar ran y Gyrrwr dan sylw o ganlyniad i dderbyn y
dogfennau angenrheidiol yn hwyr, ac o gofio nad oedd ei gynrychiolydd wedi
gallu bod yn bresennol. Er budd
cyfiawnder naturiol, penderfynodd aelodau ganiatáu'r cais i ohirio. Cafwyd peth trafodaeth ynghylch a ddylid
gohirio'r mater i gyfarfod nesaf y pwyllgor, neu i alw cyfarfod arbennig i
glywed yr achos. O'i roi i’r bleidlais - PENDERFYNWYD
gohirio ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1124/TXJDR i ddal trwydded gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trwyddedu, sydd i'w alw cyn gynted ag
y bo'n ymarferol. [Yn y fan hon,
gadawodd y Cynghorydd Joan Butterfield y cyfarfod.] |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 16/0374/TXJDR
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 16/0374/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 14/0985 /
TXJDR yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei
ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 16/0374/TXJDR am drwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat; (ii)
swyddogion
heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r collfarnau a
ddatguddiwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS),
yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd rhwng 1986 a 2007, gyda’r rhan fwyaf heb
eu datgelu gan yr Ymgeisydd; (iii)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac (iv)
estyn
gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd
ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. Eglurodd yr Ymgeisydd ei
reswm dros beidio â datgelu euogfarnau hanesyddol heb unrhyw fwriad i gamarwain. Rhoddodd rywfaint o gyd-destun i’r euogfarnau
hynny ac roedd yn edifar yn fawr am ei orffennol. Cyfeiriodd yr Ymgeisydd at ei amgylchiadau a
chyfrifoldebau personol cyfredol, a sut mae ei fywyd wedi newid. Cafwyd tystlythyrau a oedd yn dyst o’i gymeriad
da a rhoddodd sicrwydd pellach i'r aelodau ynglŷn a’i ymddygiad cyfredol
a'r dyfodol. Ymatebodd yr Ymgeisydd i
gwestiynau'r aelodau ynghylch natur ei euogfarnau, ei ffordd o fyw ar hyn o
bryd ac amgylchiadau sydd wedi newid, a’i hanes cyflogaeth. Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, ategodd
faint roedd ei fywyd wedi newid dros y degawd diwethaf, yn destament i'w
gymeriad da cyfredol. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried y cais a - PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 16/0374/TXJDR
yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad
yn y dyfodol. Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd yr aelodau wedi
cymryd i ystyriaeth fod yr euogfarnau’n hanesyddol yn bennaf, ac fe dderbyniwyd
yr eglurhad a roddwyd gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â'r euogfarnau
hynny. Roedd yr Aelodau hefyd yn meddwl
bod yr Ymgeisydd wir yn edifar am ei orffennol ac wrth ymateb i'w
cwestiynau. Y farn oedd bod yr Ymgeisydd
wedi dangos, drwy ei anerchiad i'r pwyllgor a'i dystlythyr ysgrifenedig, ei fod
wedi newid ei ffordd o fyw ac roedd ganddo gymeriad da. O ganlyniad, cafwyd bod yr Ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Fodd bynnag, o ystyried ei euogfarnau hanesyddol, fe’i hystyriwyd yn
briodol hefyd ar ran yr Ymgeisydd i roi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y
dyfodol. Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd. Yn y fan hon
(10.25 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 15/1446/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 15/1446/TXJDR. Penderfyniad: RESOLVED that the application for a
hackney carriage and private hire vehicle driver’s licence from Applicant No.
15/1446/TXJDR be refused. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif
15/1446/TXJDR am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat; (i)
swyddogion wedi gwrthod y cais o dan bwerau
dirprwyedig ar ôl ystyried yr
euogfarnau a ddatgelwyd a pholisi euogfarnau’r Cyngor; (ii)
yr Ymgeisydd wedi apelio ar ôl
hynny yn erbyn penderfyniad y swyddogion i'r Llys Ynadon, lle
daethpwyd i gytundeb wedi hynny y byddai'r
apêl yn dod
i ben a bod y cais yn cael ei gyfeirio
at y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfyniad; (iii)
manylion yr euogfarnau a
ddatgelwyd yn dilyn y datgeliad manylach i'r Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd ynghyd â pholisi'r Cyngor o ran perthnasedd euogfarnau, ac (iv)
estyn gwahoddiad
i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod
i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny. Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolwyr Cyfreithiol a gadarnhaodd ei fod wedi
derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r
adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r
achos. Amlygodd Cynrychiolydd Cyfreithiol
yr Ymgeisydd rai gwallau ffeithiol yn yr adroddiad
a rhoddwyd rhywfaint o gefndir y cais a sut yr oedd
wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer
penderfyniad, gan gynnwys cyfeiriad at yr achos yn
Llys yr Ynadon
ar apêl. Wrth gyflwyno achos yr Ymgeisydd, cyfeiriodd
at ei gofnod di-fai blaenorol fel
gyrrwr trwyddedig, a'i gymhwysedd wrth ddelio â'r
cyhoedd. Roedd y mater i'w ystyried yn ymwneud
â'r euogfarn mwyaf diweddar ac fe ymhelaethodd
y Cynrychiolydd Cyfreithiol
ar amgylchiadau'r drosedd honno a'i
chyd-destun ym mholisi trwyddedu'r Cyngor mewn perthynas
â pherthnasedd euogfarnau. Fe ddadlodd hefyd, er ei
fod yn ddifrifol,
nid oedd yr euogfarn yn
yr achos hwn yn cael
effaith ar ddiogelwch y cyhoedd, wrth ystyried a
oedd yr Ymgeisydd
yn addas a phriodol i ddal trwydded. Ychwanegodd nad
oedd y drefn drwyddedu wedi’i chynllunio i gosbi eto, ac roedd yr
Ymgeisydd eisoes wedi talu ei
gosb i gymdeithas yn hynny o beth. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y tystlythyrau ysgrifenedig a roddwyd (a gylchredwyd yn y cyfarfod), a oedd yn
tystio i gymeriad yr Ymgeisydd a’i
ddidwylledd. I
gloi, cafodd ei gyflwyno bod yr Ymgeisydd wedi
gwneud camgymeriad ofnadwy ac wedi gwneud iawn amdano,
ac roedd yn dymuno dychwelyd i’w broffesiwn fel gyrrwr trwyddedig. Ymatebodd yr Ymgeisydd a'i Gynrychiolydd Cyfreithiol i gwestiynau'r aelodau ynghylch amgylchiadau'r achos a’r euogfarn dilynol,
ynghyd â chysylltiad yr Ymgeisydd ag eraill a oedd yn ymwneud
â gweithgarwch troseddol. Ymatebodd yr Ymgeisydd hefyd
i sicrwydd a geisiwyd gan y pwyllgor ynghylch ei ymddygiad
yn y dyfodol o ystyried natur a difrifoldeb y drosedd. Wrth wneud datganiad terfynol, esboniodd yr Ymgeisydd sut
roedd yr euogfarn wedi difetha
ei fywyd, a’i awydd i ddychwelyd
fel gyrrwr trwyddedig. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried y cais a - PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 15/1446/TXJDR yn cael ei wrthod. Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd yr aelodau wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr holl gyflwyniadau yn yr achos hwn a’r atebion i gwestiynau, ac wedi ystyried y tystlythyrau a roddwyd yn ofalus. Roedd y pwyllgor yn glir mai diben eu penderfyniad oedd delio â'r mater trwyddedu ac i beidio â rhoi mwy o gosb i’r Ymgeisydd yn sgil y drosedd. Derbyniwyd nad oedd yr Ymgeisydd wedi bod mewn helynt pellach ac ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1567/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1567/TXJDR Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/1567/TXJDR
ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 15/1567/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat yn dilyn erlyniadau a ddygwyd gan awdurdod lleol cyfagos yn
ymwneud â throseddau cerbydau hacni; (ii)
manylion
ynghylch amgylchiadau’r achos wedi’u rhoi, yn cynnwys canlyniad yr erlyniad
(roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig ynghlwm wrth
yr adroddiad); (iii)
roedd
y Gyrrwr wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu o’r blaen ar 24 Medi 2014,
a chanlyniad yr achos hwnnw, a (iv)
bod y
Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r
adolygiad o’i drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a chadarnhaodd
ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodi Diogelwch Cymunedol ffeithiau'r achos. Ymhelaethodd
Cynrychiolydd Cyfreithiol y Gyrrwr ar amgylchiadau'r achos a’r canlyniad ar ôl
bod yn y Llys Ynadon. Roedd y Gyrrwr
wedi pledio'n euog i'r drosedd heb ei benderfynu, ac wedi cael ei gosbi. Roedd yn yrrwr tacsi a oedd wedi
gwasanaethu’n hir, ac roedd wir yn edifar am y digwyddiad. Roedd tystlythyrau ysgrifenedig wedi cael eu
rhoi (a gylchredwyd yn y cyfarfod) a oedd yn dyst i’w gymeriad da. O ystyried amgylchiadau'r achos penodol hwn,
fe wnaeth y Cynrychiolydd Cyfreithiol ddadlau fod y Gyrrwr yn parhau i fod yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, ymhelaethodd y Gyrrwr ar
amgylchiadau'r digwyddiad. Wrth wneud
datganiad terfynol, ychwanegodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol ei fod yn amlwg nad
oedd y Gyrrwr wedi bwriadu cyflawni’r drosedd, gan ddadlau nad oedd yr euogfarn
yn warant i atal neu ddirymu. Ar y pwynt hwn,
gohiriodd y pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/1567/TXJDR
ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol. Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ystyriodd yr
Aelodau'r adroddiad a’r camau lliniaru a gyflwynwyd gan y Gyrrwr, a'i ymateb i
gwestiynau. Derbyniodd y pwyllgor
fersiwn y Gyrrwr o ddigwyddiadau ac roeddent yn meddwl ei fod wir yn edifar am
y digwyddiad. Fodd bynnag, o ystyried
natur yr euogfarn, fe'i hystyriwyd yn briodol i roi rhybudd ffurfiol. Cafodd
penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr a’i
Gynrychiolydd Cyfreithiol. Yn y fan hon
(1.10pm) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth. |
|
CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer Trwydded Hurio
Preifat. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael
ei ganiatáu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais
a ddaeth i law am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat; (ii)
nid
oedd swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais, gan nad oedd y cerbyd
a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu’n cydymffurfio â'r fanyleb, fel y manylir yn
Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor, ac (iii)
estyn
gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i gyflwyno’r
cerbyd i'r aelodau ei archwilio. Roedd yr Ymgeisydd
yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r
pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu’r adroddiad a gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried a fyddai'n
briodol i wyro oddi wrth bolisi'r Cyngor ynglŷn â manylebau cerbydau, er
mwyn caniatáu'r cais fel y gwnaed cais amdano. Dywedodd yr Ymgeisydd bod gan y cerbyd dan sylw filltiredd isel iawn o
ystyried ei oedran ac roedd mewn cyflwr rhagorol. Yn dilyn pleidlais, gohiriwyd y cyfarfod er
mwyn galluogi'r aelodau i weld y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu. Wedi ailddechrau'r trafodion, ymatebodd yr
Ymgeisydd i gwestiynau ynghylch rhinweddau trwyddedu'r cerbyd o ystyried ei
gyflwr perffaith, a'i fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Nodwyd nad oedd y cerbyd yn addas ar gyfer
trwyddedu fel cerbyd hacni o ystyried y mesuriadau clirio rhwng seddi, ond
roedd hurio preifat yn opsiwn. Mewn
ymateb i bryderon ynglŷn â chyflwr strwythurol y cerbyd, dywedodd y
Peiriannydd Cydymffurfiaeth Fflyd fod cerbydau trwyddedig angen prawf MOT
sylfaenol a phrawf Cydymffurfio bob chwe mis, a dylid eu cynnal yn
briodol. Darparodd yr Ymgeisydd sicrwydd
ynghylch trefn cynnal a chadw’r cerbydau.
Atgoffwyd yr aelodau bod rhaid i bob cais gael ei drin yn ôl ei
rinweddau ei hun. Yn y fan hon, cafodd y
pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael
ei ganiatáu. Dyma oedd y rhesymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd yr Aelodau’n
ystyried bod y cerbyd mewn cyflwr eithriadol o dda ac yn briodol i’w drwyddedu,
a phenderfynwyd caniatáu'r drwydded. Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r
busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
POLISI ARFAETHEDIG CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT PDF 82 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn rhoi
gwybod i aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad am y Polisi Arfaethedig Cerbydau
Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) Newid y polisi
arfaethedig i adlewyrchu'r newidiadau fel y trafodwyd ac y cytunwyd yn ystod y
cyfarfod, a (b) Rhoi cyfarwyddyd
i swyddogion i ymgynghori ymhellach gyda phartïon sydd â diddordeb ac i gymryd
i ystyriaeth unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn fersiwn olaf y polisi a geir eu
cyflwyno yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn rhoi
gwybod i aelodau am ganlyniad ymgynghoriad y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni
a Cherbydau Hurio Preifat. Roedd manylion y cyfnod ymgynghori o wyth wythnos
wedi’u rhoi ynghyd â sylwadau a ddaeth i law; roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion
yn bositif gydag ychydig iawn o feysydd dadleuol. Gan gymryd i ystyriaeth yr ymatebion i'r
ymgynghoriad, roedd nifer o ddewisiadau wedi eu cynnig i'r aelodau ystyried
ymhellach, a oedd yn Atodiad D y prif adroddiad. Trafododd yr Aelodau pob un o'r meysydd hynny o'r
polisi fel a ganlyn - (1) Amodiad Lliw Cerbydau Hacni Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn cefnogi'r cynnig
yn llawn i osod amodiad lliw, gan ddweud bod dull o'r fath yn gweithio'n dda
mewn gwledydd eraill ac wedi gwella strydlun cyfan. Gan ystyried yr amheuon a fynegwyd
ynghylch amodiad lliw du, awgrymodd bod lliw arall yn cael ei ystyried. Yn ystod y ddadl nid oedd llawer o
gefnogaeth gan aelodau eraill i osod gofyniad lliw, yn enwedig o ystyried y
gost o weithredu amod o'r fath ac a ddylai’r gost yna ddisgyn ar yr awdurdod
lleol neu'r perchennog cerbyd hacni. Barnwyd y byddai'n well gwario’r arian ar sicrhau diogelwch teithwyr, gan
gynnwys cynnal a chadw cerbydau. O’i roi i’r bleidlais, cytunwyd y gellid dileu’r amod lliw arfaethedig ar
gyfer cerbydau hacni. (2) Oedran Cerbydau Trwyddedig sy’n newydd i fflyd O ystyried dyfodiad technoleg newydd a gwarantau
estynedig ar gyfer cerbydau, cytunwyd i gefnogi'r cynnig i gynyddu'r terfyn
oedran ar gyfer cerbydau sy’n newydd i fflyd i bwrpas cerbydau hacni i 5
mlynedd (yn unol â cherbydau hurio preifat). (3) Uchafswm Oed i Gerbydau Trwyddedig mewn fflyd Ystyriwyd rhinweddau gosod uchafswm terfyn oedran. Yn sgil trefn MOT rheolaidd a Phrawf
Cydymffurfio ar gyfer cerbydau trwyddedig, cytunwyd i gadw’r cynnig o derfyn
oedran 10 mlynedd ar gyfer cerbydau hacni, a therfyn oedran 12 mlynedd i
gerbydau hurio preifat. (4) Trelars Cytunodd yr Aelodau bod gwerth caniatáu trelars ar
gyfer cerbydau hurio preifat, yn enwedig ar gyfer cludo bagiau yn ystod
teithiau maes awyr, pan roedd y pris wedi cael ei archebu ymlaen llaw a'r angen
am drelar yn hysbys. Fodd bynnag, ystyriwyd bod y defnydd o drelars gan gerbydau hacni yn
amhriodol ar safle tacsi. Hefyd trafodwyd y mater o hyfforddi gyrwyr a chytunwyd i ystyried derbyn
trelars ar gyfer cerbydau hurio preifat yn unig, a hefyd i ystyried a fyddai
angen hyfforddiant perthnasol ar gyfer y gyrwyr hynny wedi’u heithrio ar hyn o
bryd rhag angen pasio hawliad trelar gyrrwr y DVLA. (5) Yn hygyrch i gadeiriau olwyn Nododd yr Aelodau fod y rhan fwyaf o dacsis a oedd
yn hygyrch i gadeiriau olwyn wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac wrth nodi rhinweddau
i bennu bod hygyrchedd i gadeiriau olwyn yn amod, teimlai'r aelodau cyffredinol
y byddai gofyniad o'r fath yn rhy gyfyngol. O ganlyniad, cytunwyd i beidio â chefnogi’r cynnig
i bob cerbyd hacni fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Tynnodd y Swyddog Trwyddedu sylw'r aelodau at
sylwadau hwyr a dderbyniwyd mewn ymateb i'r adolygiad polisi cerbyd a oedd wedi
ei gylchredeg i aelodau’r diwrnod
blaenorol. Cytunodd yr Aelodau y dylid delio â’r sylwadau hwyr hynny fel rhan o'r cam
ymgynghori nesaf. Cyfeiriodd y Rheolwr Trafnidiaeth i Deithwyr at ei sylwadau ysgrifenedig a
thynnodd sylw at y ffaith y gallai unrhyw newidiadau i'r polisi presennol
effeithio ar y gyllideb cludiant ysgol. PENDERFYNWYD - (a) newid y polisi arfaethedig i adlewyrchu'r newidiadau fel y trafodwyd ac y
cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, a (b) rhoi cyfarwyddyd i swyddogion ymgynghori ymhellach gyda phartïon ... view the full Cofnodion text for item 12. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 68 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016. PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. Daeth y
cyfarfod i ben am 2.45 p.m. |