Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
TEYRNGED – Y CYNGHORYDD RICHARD DAVIES Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i'r Cynghorydd Richard Davies a fu farw ar 22
Mawrth. Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn teyrnged
dawel. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cynghorwyr Barry
Mellor, Win Mullen-James a Pete Prendergast Cofnodion: Y Cynghorwyr
Barry Mellor, Win Mullen-James a Pete Prendergast |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0427/TXJDR
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n
amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0427/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat gyrrwr rhif 15/0427/TXJDR
ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 15/0427/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol wrth ymgymryd â chontract
cludiant ysgol; (ii)
manylion
ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi (roedd crynodeb o
ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr
adroddiad); (iii)
y
Gyrrwr wedi cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r adolygiad o'i drwydded
a oedd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r adroddiad, a (iv)
bod y
Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei
drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod yng nghwmni ei Gynrychiolydd Undeb a chyd-dyst.
Cadarnhaodd y Cynrychiolydd Undeb dderbyn yr adroddiad a'r gweithdrefnau
pwyllgor. Amlinellodd y Swyddog
Gorfodi Trwyddedu yr achos fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Cyflwynodd y
Cynrychiolydd Undeb achos y Gyrrwr. Dywedodd nad oedd y
datganiadau tystion wedi’u teipio a gyflwynwyd gan y Swyddog Ymchwilio wedi
cael eu llofnodi a gofynnodd am iddynt gael eu diystyru.
Cyflwynodd hefyd nad oedd yr ymchwiliad wedi cael ei gynnal mewn modd teg
ac agored gan amlygu lle roedd yn ystyried bod yna feysydd o ragfarn o fewn yr
achos. Dadleuwyd nad oedd llwybrau ymholiadau penodol a
allai fod wedi bod o blaid y Gyrrwr wedi cael eu dilyn a chwestiynwyd hefyd
hygrededd tystiolaeth benodol. Cyflwynwyd hefyd
sylwadau ynglŷn â safon y dystiolaeth sy'n ofynnol mewn achosion o'r fath
o ystyried bod yr hawl i apelio trwy’r Llys Ynadon. O ran yr
honiadau a nodwyd yn yr adroddiad, eglurodd y Cynrychiolydd Undeb yr honiadau
hynny a gyfaddefwyd gan y Gyrwyr a'u rhoi mewn cyd-destun, gan roi fersiwn y
Gyrrwr o’r digwyddiadau. Cafodd y pwyllgor hefyd wybod am yr honiadau a
wadwyd gan y Gyrwyr. Amlygwyd nad oedd unrhyw gwynion wedi’u gwneud yn
erbyn y Gyrrwr gan ddefnyddwyr gwasanaeth eraill neu'r cyhoedd.
O ystyried y dystiolaeth wrthgyferbyniol a gyflwynwyd a’r gefnogaeth a fynegwyd yn y geirdaon (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) gofynnodd y Cynrychiolydd Undeb i’r Gyrrwr gael cadw
ei drwydded a pharhau fel gyrrwr trwyddedig. Ar y pwynt hwn trafodwyd y mater o ddatganiadau tystion heb eu harwyddo, a dosbarthwyd copïau o'r datganiadau tyst gwreiddiol wedi’u llofnodi. Dadleuodd y Cynrychiolydd Undeb nad oedd wedi cael y cyfle i edrych ar y dogfennau a gofynnodd am iddynt gael eu diystyru er budd gwrandawiad teg. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd safbwynt cyfreithiol ar y sefyllfa a thegwch y trafodion. Cadarnhaodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu bod y datganiadau wedi cael eu teipio i sicrhau eu bod yn ddarllenadwy a’u bod wedi cael ei gwirio am gywirdeb. Torrodd y pwyllgor i ystyried y dadleuon cyfreithiol. Ar ôl ailddechrau'r trafodion dywedwyd wrth bawb am benderfyniad y pwyllgor i dderbyn y datganiadau fel tystiolaeth a pharhau â’r achos. Nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod annhegwch sylweddol ar y sail y rhoddwyd sicrwydd gan y Swyddog Gorfodi Trwyddedu, a oedd â dyletswydd o onestrwydd i'r pwyllgor, bod y fersiynau a deipiwyd wedi'u trawsgrifio’n gywir a bod yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y datganiadau wedi bod ar gael ymlaen llaw a gallent fod wedi eu hegluro yn gynharach yn y broses. Wrth wneud eu penderfyniad roedd y pwyllgor hefyd wedi ystyried cyngor gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ynglŷn â safon y dystiolaeth ofynnol. Eglurwyd bod penderfyniad y pwyllgor ynghylch a oedd y Gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal trwydded yn seiliedig ar yr ... view the full Cofnodion text for item 4. |