Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Win Mullen-James

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Win Mullen James

 

 

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2015/16.  Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Owen. Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Barry Mellor yn Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Pete Prendergast.   Yn dilyn pleidlais gudd –

 

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Barry Mellor fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2015/16.  Cynigiodd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Barry Mellor yn Is-Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Pete Prendergast.  Wedi hynny –

 

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Barry Mellor yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

 

4.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ei ddatgan.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 142 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015 fel cofnod cywir.

 

 

7.

ADRODDIAD DIWEDDARU YNGLŶN Â CHOD GWISG GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno sylwadau i'r Aelodau a gafwyd yn dilyn eu penderfyniad mewn cyfarfod blaenorol mewn perthynas â gwisgo siorts.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gofyn i swyddogion ddiwygio Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn caniatáu siorts wedi'u teilwra hyd at y pen-glin, ond bod yn fwy cyfarwyddol, h.y. dim siorts denim na siorts chwaraeon.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (IM) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn cyflwyno i Aelodau sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn eu penderfyniad i wahardd gyrwyr trwyddedig rhag gwisgo siorts fel rhan o’r Cod Gwisg a gymeradwywyd ar gyfer gyrwyr yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Bu gan y cyfryngau gryn ddiddordeb yn y penderfyniad a chafodd deiseb yn dwyn y teitl "Deiseb er mwyn i yrwyr tacsi Sir Ddinbych gael parhau i wisgo siorts” ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis Mai 2015.  Yng ngoleuni'r sylwadau a gafwyd ac o ystyried geiriad fersiwn ddrafft y Cod Gwisg yn amodol ar ymgynghori ynglŷn â chaniatáu siorts hyd at y pen-glin wedi'u teilwra, gofynnwyd i'r Aelodau ystyried a oes digon o ymgynghori neu drafodaeth wedi digwydd er mwyn gwahardd siorts rhag cael eu gwisgo.

 

Trafododd yr Aelodau rinweddau’r penderfyniad i wahardd gyrwyr rhag gwisgo siorts ac roedd safbwyntiau cymysg yn y cyswllt hwn.  Siaradodd y Cynghorwyr Joan Butterfield, Bill Cowie a Barry Mellor o blaid codi'r gwaharddiad a chaniatáu siorts hyd ar y pen glin wedi eu teilwra ond dim siorts denim na siorts chwaraeon.  O ystyried barn y fasnach dacsis ystyriwyd bod y gwelliant hwn yn rhesymol er mwyn sicrhau cysur y gyrwyr mewn tywydd poeth a pharhau i gyfleu delwedd broffesiynol o'r fasnach.  Nodwyd bod yr ymgynghoriad wedi'i seilio ar ganiatáu siorts at y pen-glin wedi'u teilwra a bod y cynnig hwnnw wedi ei dderbyn gan y deiliaid trwydded hynny a fynychodd y sesiwn gweithdy.  O ganlyniad, ni ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol ymgynghori unwaith eto ynglŷn â’r cynnig hwnnw.  Siaradodd y Cynghorydd Hugh Irving o blaid cadw gwaharddiad llwyr ar wisgo siorts i hyrwyddo delwedd broffesiynol o’r fasnach a gwnaeth gymariaethau â chod gwisg/lifrai sefydliadau eraill a chyfeirio at y fasnach dacsis mewn gwledydd eraill.  Teimlai y dylai gyrwyr tacsi fodloni safonau tebyg i sicrhau y gwneir argraff ffafriol ar gwsmeriaid ac ar ymwelwyr â'r ardal.  Hefyd, tynnodd sylw at ba mor anodd fyddai barnu ar yr amrywiaeth o siorts y gellir eu gwisgo.  Ymatebodd aelodau eraill ei bod yn annheg gwneud cymariaethau â sefydliadau llawer mwy a phroffesiynau gwahanol, yn arbennig o ystyried bod llawer o’r gyrwyr yn hunan-gyflogedig.  Nodwyd hefyd bod cod gwisg y Cyngor ei hun yn caniatáu gwisgo siorts cyhyd â’u bod yn drwsiadus ac yn broffesiynol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid cadw’r Cod Gwisg fel y cytunwyd arno ar 4 Mawrth 2015 ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Owen.  Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid diwygio'r Cod Gwisg er mwyn caniatáu siorts wedi'u teilwra hyd at y pen-glin, ond y dylid bod yn fwy rhagnodol, h.y. dim siorts denim na siorts chwaraeon.  Yn dilyn pleidlais -

 

PENDERFYNWYD gofyn i swyddogion ddiwygio'r Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn caniatáu siorts hyd at y pen-glin wedi'u teilwra, ond y dylid bod yn fwy rhagnodol, h.y. dim siorts denim na siorts chwaraeon

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

8.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0269/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD rhoi rhybudd i Yrrwr Rhif 15/0269/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Daethpwyd â'r eitem hon yn ei blaen ar y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrwyr Rhif 15/0269/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am ysmygu mewn cerbyd di-fwg ar ddau achlysur gwahanol ym mis Ionawr 2015;

 

(ii)          Riportiwyd y Gyrrwr am ysmygu ar y ddau achlysur ynghyd ac un achos o ollwng sbwriel a chafodd dri Rhybudd Cosb Benodedig (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi’u hatodi i’r adroddiad), a

 

(iii)         Roedd y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygid ei drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth yr adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.  Mewn achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau cosb  wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w adolygu.

 

Cafodd y Gyrrwr gyfle i annerch y Pwyllgor ac roedd yn derbyn mai ef oedd yn gyfrifol am yr achosion hyn o dorri'r Cod fel y manylir yn yr adroddiad ac ymddiheurodd am yr hyn a wnaeth.  Cyfeiriodd at ei amgylchiadau personol ar adeg y digwyddiadau fel eglurhad ond gan dderbyn nad oedd hynny yn esgusodi ei ymddygiad.  Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd y Gyrrwr ei fod yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a rhoddodd sicrwydd ei fod yn y cyfamser wedi rhoi'r gorau i ysmygu ac na fyddai unrhyw dramgwydd pellach yn digwydd.  Yr oedd wedi bod yn yrrwr trwyddedig ers pymtheng mlynedd gyda hanes dilychwyn ac roedd yn darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol ymddiheurodd y Gyrrwr unwaith yn rhagor am yr hyn a wnaeth a rhoi sicrwydd ynghylch ei ymddygiad i’r dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0269/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad i’r dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad ac atebion y Gyrrwr i gwestiynau.  Gwelodd y Pwyllgor fod y Gyrrwr yn onest ynglŷn â’r digwyddiad ac yn ddiffuant yn ei edifeirwch.  Cymerwyd sicrwydd o ymddygiad da blaenorol y Gyrrwr ac o'r ffaith ei fod wedi rhoi'r gorau i ysmygu yn y cyfamser.  Roedd y Pwyllgor yn derbyn y sicrwydd a ddarparwyd gan y gyrrwr ynghylch ei ymddygiad i’r dyfodol ac roeddynt o’r farn bod rhoi rhybudd ffurfiol yn briodol yn yr achos hwn.

 

Felly, cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

 

9.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 14/0459/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 14/0459/TXJDR.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  14/0459/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd am gyfnod o bythefnos.

 

Cofnodion:

[Daethpwyd â'r eitem hon yn ei blaen ar y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrwyr Rhif 14/0459/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus;

 

(ii)          Roedd manylion y diffygion a nodwyd yn dilyn cyflwyno’r cerbyd am brawf Cydymffurfio/MOT wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â datganiadau tyst a dogfennau cysylltiedig, ac

 

(i)            Roedd y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygid ei drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth yr adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.  Mewn achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau cosb  wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w adolygu.

 

Darllenodd y Cadeirydd ddatganiad ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y Gyrrwr i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded ac ynddo mae’n cydnabod diffygion y cerbyd a’i gyfrifoldeb ef yn hynny o beth.  Eglurodd y Gyrrwr i’r materion ddeillio o anwybodaeth a’i fod ers hynny wedi sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o'r gofynion angenrheidiol.  Gwnaed gwaith trwsio sylweddol ar y cerbyd ac mae bellach wedi pasio’r profion angenrheidiol.  Gellid cymryd sicrwydd pellach o’r ffaith bod contract atgyweirio a chynnal a chadw ar gyfer y cerbyd.  Bu i’r Gyrrwr ymateb i gwestiynau ynglŷn â sut y câi’r cerbyd ei gynnal a’i gadw’n flaenorol a'r mesurau a gymerwyd i sicrhau ei fod yn addas i'w ddefnyddio.  Cydnabu hefyd ddifrifoldeb y drosedd.  Yn ei ddatganiad terfynol rhoddodd y Gyrrwr sicrwydd ynglŷn â chynnal a chadw’r cerbyd yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD atal trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 14/0459/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd am gyfnod o bythefnos.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Yn ystod y drafodaeth rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd ac i ddatganiadau'r Gyrrwr i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded.  Canfu'r Pwyllgor, er gwaethaf y diffygion mecanyddol, fod yn rhaid bod y gyrrwr yn ymwybodol fod diffygion gan y cerbyd gan fod rhai ohonynt yn amlwg iawn.  Mynegwyd pryderon difrifol bod y Gyrrwr wedi gyrru cerbyd trwyddedig gyda diffygion, ac yntau’n ymwybodol ohonynt, gan roi’r cyhoedd mewn perygl.  Fodd bynnag rhoddwyd clod i'r Gyrrwr am sicrhau fod y diffygion wedi cael eu hunioni ac yn y cyfamser mae’r cerbyd wedi pasio’r profion angenrheidiol.  Cymerwyd sicrwydd hefyd o’r contract cynnal a chadw/atgyweirio cerbydau a sicrhawyd i’r cerbyd.  O ganlyniad, ystyriai’r Pwyllgor fod atal y drwydded am bythefnos ar sail diogelwch cyhoeddus yn rhesymol yn yr achos hwn.

 

Felly, cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

Wrth fynd heibio, mynegodd yr Aelodau bryder bod y cyfrifoldeb am gyflwr cerbydau trwyddedig ar ysgwyddau’r perchennog/gyrrwr yn unig ac roeddynt o’r farn y dylai cwmnïau tacsi hefyd gymryd cyfrifoldeb wrth is-gontractio gwaith.  Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion ymchwilio ymhellach i'r mater hwn ac adrodd yn ôl.

 

Ar y pwynt hwn (11.10 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau trafod y materion uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

10.

POLISI ARFAETHEDIG YNGLŶN AG EITHRIO RHAG ARDDANGOS PLÂT CERBYD HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 87 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn argymell cymeradwyo'r Polisi Eithrio Arddangos Plât Cerbyd Hurio Preifat arfaethedig ar gyfer ymgynghori ffurfiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y Polisi Eithrio Plât Hurio Preifat arfaethedig, fel y caiff ei nodi yn Atodiad A i'r adroddiad, yn cael ei gefnogi a'i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori ffurfiol, ac

 

(b)       yn dilyn ymgynghoriad, bod swyddogion yn adrodd yn ôl unrhyw ymatebion i'r Cyngor Llawn i'w hystyried a chymeradwyo’r polisi newydd arfaethedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn argymell cymeradwyo’r polisi arfaethedig ynglŷn ag Eithrio rhag Arddangos Plât Cerbydau Hurio Preifat er mwyn ymgynghori yn ei gylch.

 

Adroddodd Swyddogion ar y materion cyfreithiol sy’n llywodraethu’r mater hwn o ran arddangos platiau adnabod cerbydau llogi preifat gan gynnwys disgresiwn y Cyngor i ganiatáu eithrio rhag arddangos platiau trwydded.  Byddai’r polisi arfaethedig yn galluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau tryloyw ac i ddarparu canllawiau i ymgeiswyr posibl ynglŷn ag eithriadau addas.  Roedd yr Aelodau'n cefnogi'r polisi fel modd i ddarparu dull gweithredu cyson wrth ymdrin â cheisiadau i eithrio rhag arddangos plât a –

 

PHENDERFYNWYD -

 

(a)       Cefnogi’r polisi arfaethedig ynglŷn ag Eithrio rhag Arddangos Plât Cerbydau Hurio Preifat, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad, a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol, ac

 

(b)       yn dilyn ymgynghori bod y swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Cyngor Llawn gael ystyried unrhyw ymatebion er mwyn cymeradwyo’r polisi newydd arfaethedig.

 

 

11.

ADOLYGU POLISI CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad o'r Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat presennol a’r camau gweithredu arfaethedig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y Gwasanaeth Fflyd yn cael ei wahodd i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi i roi cyflwyniad ar y fanyleb a phrofi cerbydau, a

 

(b)       bod y Cynghorwyr Pete Prendergast a Cefyn Williams (Cadeirydd) yn cael eu henwebu i fynychu'r sesiynau gweithdy a drefnwyd fel y nodir yn y cynllun gweithredu (Atodiad B i adroddiad y rhaglen waith).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar yr adolygiad o'r Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat presennol a’r camau gweithredu arfaethedig.

 

Byddai’r adolygiad yn archwilio addasrwydd pob cerbyd ac yn cynnwys polisi oedran presennol, y polisi oedran hynaf, a yw’r polisi o ran lliw cerbydau’n briodol, a hygyrchedd cerbydau.  O ran manyleb a phrofi cerbydau awgrymwyd bod swyddogion o'r Gwasanaethau Fflyd yn mynychu cyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol i roi cyngor ac arweiniad ynglŷn â diogelwch cerbydau a rheoliadau, yn benodol felly ynglŷn â phrofion cerbydau.  Paratowyd cynllun gweithredu i symud yr adolygiad yn ei flaen a gofynnwyd i’r aelodau enwebu un neu ddau o gynrychiolwyr i fynychu'r sesiynau gweithdy sydd wedi'u cynllunio er mwyn hwyluso'r broses honno ac er mwyn darparu mewnbwn yn gynnar yn y broses.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       nodi cynnwys yr adroddiad a gwahodd y Gwasanaethau Fflyd i bwyllgor mis Medi i roi cyflwyniad ynglŷn â manyleb a phrofion cerbydau, ac

 

(b)       Enwebu’r Cynghorwyr Pete Prendergast a Cefyn Williams (Cadeirydd) i fynychu'r sesiynau gweithdy sydd wedi eu trefnu fel y manylir yn y cynllun gweithredu (Atodiad B adroddiad y rhaglen gwaith).

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2015/16 pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn nodi blaenoriaethau’r Adran Drwyddedu ac yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(a)       tynnu’r broses o reoleiddio Cerbydau Hacni oddi ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol 2015/16, a 

 

(b)       chymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu a blaenoriaethau’r Adain Trwyddedu ar gyfer 2015/16.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ynglŷn â blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â rhaglen waith arfaethedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2015/16.

 

Ymhelaethodd y swyddogion ar y blaenoriaethau a nodwyd sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen waith ynghyd â chyfres o gynlluniau gweithredu gan gynnwys amserlen ar gyfer eu cwblhau dros y deunaw mis nesaf.  Yng ngoleuni trafodaethau a gafwyd mewn digwyddiad hyfforddi aelodau’n ddiweddar, argymhellwyd y dylid tynnu rheoleiddio cerbydau hacni oddi ar y rhaglen waith.  Tra derbynnid y rhesymau dros beidio â mynd ar drywydd cyfyngu ar niferoedd tacsis ailadroddodd y Cynghorydd Joan Butterfield ei phryderon ynglŷn â’r rhengoedd tacsi a dywedodd y byddai hi'n codi'r mater yn uniongyrchol gyda'r Adran Priffyrdd ynghyd ag effaith y cynnig i gyflwyno rhaglen o bylu'r pa mor llachar yw goleuadau stryd y sir.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       Tynnu rheoleiddio Cerbydau Hacni oddi ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol 2015/16.

 

(b)       Cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor trwyddedu a blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ar gyfer 2015/16.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m.