Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield a Hugh Irving Cofnodion: Y Cynghorwyr Joan Butterfield a Hugh Irving |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
fater brys. |
|
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 046577 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi yn
amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif 046577. Penderfyniad: PENDERFYNWYD gwahardd gyrrwr rhif 046577 yn syth rhag gyrru
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat am gyfnod o un wythnos er mwyn
diogelu’r cyhoedd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar – (i)
addasrwydd
Gyrwyr Rhif 046577 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
gwybodaeth a dderbyniwyd ar 24
Medi, 2013, a chwyn ddilynol a wnaed yn erbyn y gyrrwr, ynglŷn â gosod
sylwadau amhriodol ar wefan rhwydweithio cymdeithasol am deithiwr a dalodd am
deithio a oedd hefyd yn cynnwys datgelu manylion personol (atodwyd crynodeb o
ffeithiau ynghyd â datganiadau gan dystion a dogfennau cysylltiedig i’r
adroddiad), a (iii)
Roedd
y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr
adroddiad a threfnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi
Trwyddedu’r adroddiad a rhoddodd grynodeb o ffeithiau’r achos. Atgoffwyd Aelodau fod y mater wedi’i ohirio o’r cyfarfod
diwethaf ar gais y Gyrrwr gan na allai fod yn bresennol. Cyflwynodd y Gyrwyr ble ysgrifenedig i
liniaru ynghyd â thystlythyrau i’w gymeriad gan ei gyflogwr a rhai o’i
gwsmeriaid rheolaidd (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod).
Mynegodd edifeirwch dwys am y digwyddiad a rhoddodd
sicrwydd i’r pwyllgor ynghylch ei ymddygiad da blaenorol a’i ymddygiad yn y
dyfodol. Cyfeiriodd at amgylchiadau’r digwyddiad ac eglurodd ei
fod yn credu mai tynnu coes preifat rhwng ffrindiau oedd y negeseuon. Roedd y Gyrrwr yn cydnabod fod ei ymddygiad yn
annerbyniol a chynigiodd ei ymddiheuriadau i’r teithiwr dan sylw. Yn olaf, cyfeiriodd at ei amgylchiadau teuluol gan nodi y
byddai colli ei drwydded yn achosi caledi eithriadol. Holodd
yr Aelodau’r Gyrwyr am ei weithredoedd, gan gyfeirio’n benodol at y rhesymeg am
ei ymddygiad a’i ddehongliad o’r digwyddiadau.
Roedd y Gyrrwr yn awyddus i bwysleisio nad oedd erioed yn
fwriad ganddo i’w sylwadau gael eu cyhoeddi nac achosi tramgwydd a’i fod wedi
credu’n ddiniwed eu bod wedi’u gwneud rhwng ffrindiau.
Ni
ddatgelodd fanylion am y cyfeiriad yn fwriadol ac roedd yn bendant na fyddai
fyth wedi datgelu enw na chyfeiriad llawn y teithiwr.
Yn
ogystal, dywedodd y Gyrrwr ei fod bob amser yn trin ei deithwyr gyda chwrteisi
a pharch. Yn
ei ddatganiad terfynol mynegodd y Gyrwyr edifeirwch dwys ac ymddiheurodd
unwaith eto am ei weithredoedd. Plediodd ar aelodau i beidio â
diddymu ei drwydded a rhoddodd sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol
gan dynnu sylw at ei record flaenorol ddilychwyn. Ar
y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD atal Gyrwyr Rhif 046577 rhag gyrru cerbydau hacni
a cherbydau hurio preifat am gyfnod o un wythnos a fyddai’n dod i rym ar
unwaith ar sail diogelwch y cyhoedd. Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Rhoddodd Aelodau
ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a datganiad y Gyrrwr i
gefnogi ei achos gan gynnwys ei ble i liniaru a’r tystlythyrau cymeriad a
ddarparwyd. Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch y sylwadau
amharchus a wnaeth y Gyrrwr ynglŷn â theithiwr diamddiffyn a’r ffaith ei
fod wedi datgelu rhan o’i chyfeiriad ac y gallai fod wedi peryglu’r unigolyn.
Roedd yr Aelodau wedi ystyried diddymu’r drwydded ond wedi ystyried
ymddygiad y Gyrrwr a’i edifeirwch gwirioneddol ynglŷn â’r digwyddiad
ynghyd â’r ffaith nad oedd y sylwadau yn rhai o natur sarhaus ac nad oedd wedi
datgelu cyfeiriad llawn y teithiwr. O ganlyniad, cytunwyd i
atal y drwydded am un wythnos a fyddai’n dod i rym ar unwaith ar sail diogelwch
y cyhoedd. Yn ogystal, roedd y pwyllgor yn disgwyl i’r Gyrrwr
wneud ymddiheuriad llawn i’r teithiwr dan sylw ac anfon copi at yr Adran
Drwyddedu at ddibenion ffeilio. Cafodd penderfyniad y pwyllgor a’u rhesymau dros hynny eu cyfleu i’r Gyrrwr ynghyd â goblygiadau’r penderfyniad hwnnw a’i hawl i apelio. Fe’i ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 048997
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi yn
amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif 048997. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid diddymu Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio
Preifat gyrrwr rhif 048997 er mwyn diogelu’r cyhoedd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar – (i)
addasrwydd
Gyrwyr Rhif 048997 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
gwnaed
cwyn gan Swyddog Gorfodi Sifil ynglŷn ag ymddygiad y gyrrwr trwyddedig ar
10 Hydref 2013 ar ôl rhoi Rhybudd Talu Cosb iddo mewn perthynas â cherbyd
hacni, (iii)
roedd
y Gyrrwr wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodol gan Heddlu Gogledd Cymru am Drosedd
dan y Drefn Gyhoeddus yn ymwneud â’r digwyddiad (roedd crynodeb o’r ffeithiau
ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi’u hatodi i’r
adroddiad), a (iv)
gwahoddwyd
y Gyrrwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac
ateb cwestiynau aelodau ar hynny. Rhoddodd y Swyddog
Gorfodaeth Trwyddedu (SGT) grynodeb o’r adroddiad a dywedodd nad oedd y Gyrrwr
yn bresennol. Roedd y mater wedi’i ohirio ers y cyfarfod
diwethaf ar ôl derbyn gohebiaeth ysgrifenedig gan y Gyrrwr a'r cyfreithwyr a
gyfarwyddwyd ganddo yn gofyn am ohiriad. Roedd y
cyfreithwyr wedi hysbysu ers hynny nad oeddynt bellach yn cynrychioli'r Gyrrwr
dan sylw. Gan nad oedd y Gyrrwr wedi rhoi eglurhad dros ei
fethiant i fod yn bresennol, y ffaith fod y mater wedi’i ohirio yn barod ar
gais y Gyrrwr, a gan ystyried natur ddifrifol yr achos penderfynodd yr aelodau
i fwrw ymlaen â'r adolygiad yn absenoldeb y Gyrrwr. Atgoffodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr aelodau am y sylwadau a wnaed yn y
cyfarfod diwethaf. Darllenodd lythyr a dderbyniwyd oddi wrth y Gyrwyr
dan sylw lle’r oedd yn derbyn natur ddifrifol y digwyddiad ac yn dymuno rhoi’r
mater yn nwylo cyfreithwyr. Aeth ati i gyfleu ei
ymddiheuriadau a’i edifeirwch dwys am y digwyddiad gan nodi fod cyfres o ddigwyddiadau
anffodus wedi arwain at y diweddglo hwn. Teimlai’r Gyrrwr
fod y dystiolaeth a gyflwynwyd wedi’i rhagfarnu yn ei erbyn ac roedd eisiau
paratoi amddiffyniad a darparu datganiadau tystion. Atebodd y SGT gwestiynau
gan aelodau gan nodi - ·
nid
oedd manylion yr aelod o’r cyhoedd oedd yn rhan o'r digwyddiad wedi’u cymryd ar
adeg y digwyddiad ac yn anffodus, nid oedd modd dod o hyd iddo ·
cadarnhaodd
bod rhai mân anghysondebau rhwng y ddau ddatganiad a roddwyd gan y Swyddogion
Gorfodaeth Sifil ·
Roedd
Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn caniatáu i geir barcio am hyd at ddeng munud yn
y lle parcio cyn rhoi Rhybudd Talu Cosb ·
nid
oeddem yn gwybod a oedd y Gyrwyr wedi talu’r Hysbysiad Cosb Benodedig a roddwyd
gan yr Heddlu ond roedd wedi nodi yn ei ddatganiad ei fod yn bwriadu gwneud
hynny. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 048997
er diogelwch y cyhoedd. Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Rhoddodd aelodau ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd, gan gynnwys sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol gan y Gyrrwr fel rhan o’i gais i ohirio’r eitem yn y cyfarfod diwethaf. Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch ymddygiad y Gyrwyr yn ystod y digwyddiad, ac yn arbennig ei agwedd ymosodol tuag at y Swyddogion Gorfodaeth Sifil ac aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol ynghyd â’r iaith frwnt a sarhaus a ddefnyddiwyd a oedd yn dangos problem gyda’i allu i reoli gwylltineb. Cododd y digwyddiad hwn tra bod y Gyrrwr ar ddyletswydd ac mewn man cyhoeddus a dystiwyd ac a glywyd gan y cyhoedd a phlant efallai. Nododd yr Aelodau fod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu rhoi Hysbysiad Cosb Benodol am Drosedd dan y Drefn Gyhoeddus a oedd yn cadarnhau i ryw raddau'r digwyddiad fel y disgrifir ... view the full Cofnodion text for item 5. |