Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Hugh Irving a Win Mullen-James. Cofnodion: Y Cynghorwyr Hugh
Irving a Win Mullen-James. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiadau sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fusnes y nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Nid oedd datganiadau o gysylltiadau personol neu
gysylltiadau a oedd yn rhagfarnu wedi’u codi. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Nid oedd materion brys wedi’u codi. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 142 KB Derbyn - (a)
cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2013 (copi wedi’i amgáu), a (b)
chofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2013 (copi wedi’i
amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
cofnodion cyfarfod 4 Rhagfyr 2013 a 20 Rhagfyr 2013 yn cael eu derbyn a’u
cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2013 a’r Pwyllgor Trwyddedu
Arbennig a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2013. Materion yn Codi - 20 Rhagfyr 2013 Tudalen 16 -
Eitem rhif 4 Adolygu Trwydded (Gyrrwr Rhif 046,577) - Mewn ymateb i gwestiwn
gan y Cadeirydd cadarnhaodd y swyddogion bod llythyr o ymddiheuriad wedi cael
ei anfon at y teithiwr dan sylw a bod copi wedi’i gyflwyno i'r Adran Drwyddedu. PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2013 a 20
Rhagfyr 2013 fel cofnod cywir. |
|
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 043844
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn ceisio penderfyniad gan yr aelodau ynglŷn â chais am drwydded
i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 043844. Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais ar
gyfer trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd
Rhif 043844. Cofnodion: [Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y
rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar – (i)
cais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 043,844 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat yn dilyn adfer ei Drwydded DVLA; (ii)
roedd
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin
2013 wedi dirymu trwydded yr Ymgeisydd i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat ar ôl iddo gael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis o dan y drefn
cyfansymio; (iii)
roedd
yr Ymgeisydd hefyd cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu ei
drwydded ym mis Rhagfyr 2012 ac Ionawr 2013; (iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (v)
gofynnwyd
i’r Ymgeisydd fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i
gwestiynau aelodau ar hynny. Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad
a gweithdrefnau’r pwyllgor. Crynhodd y Swyddog
Trwyddedu (JT) yr adroddiad ac eglurodd bod y mater wedi cael ei ddwyn gerbron
y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded o gofio ei hanes fel
gyrrwr trwyddedig. Eglurodd yr Ymgeisydd yr
amgylchiadau a arweiniodd at ei waharddiad, gan gynnwys ei drosedd foduro olaf
ym mis Hydref 2012, ac roedd yn awyddus i dawelu meddwl y pwyllgor nad oedd yn
goryrru’n rheolaidd. Ychwanegodd ei fod wedi dysgu gwers galed ac wedi
dioddef caledi o ganlyniad i'r gwaharddiad. Roedd yr
Ymgeisydd wedi parhau i weithio i'r un cwmni mewn rôl wahanol yn ystod ei
gyfnod o waharddiad a dywedodd fod ei gyflogwr a chwsmeriaid yn awyddus iddo
ddychwelyd i weithio fel gyrrwr tacsi. Yn olaf, hysbysodd yr
Ymgeisydd yr aelodau ei fod wedi mwynhau bod yn yrrwr tacsi ac yn dymuno parhau
â'r proffesiwn. Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau eglurodd yr Ymgeisydd yr amgylchiadau o gwmpas ei gollfarn
goryrru a chyfeiriodd at y defnydd priodol o gyflymder yn yr Adroddiad Asesiad
Gyrwyr a gynhyrchwyd ym mis Ionawr 2013 yn dilyn cwblhau'r Cwrs Ymwybyddiaeth
Gyrru. Cadarnhaodd hefyd nad oedd ganddo unrhyw
gollfarnau moduro arfaethedig. Yn ei ddatganiad
terfynol, cyflwynodd yr Ymgeisydd eirda gan ei gyflogwr yn cadarnhau at ei
gymeriad da a gafodd ei ddarllen allan gan y Cadeirydd. Ychwanegodd ei fod wedi bod yn gyrru am bedair blynedd ar hugain ac nad
oedd erioed wedi bod mewn damwain, gan bwysleisio ei fod yn yrrwr diogel. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif
041213 yn cael ei roi. Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ystyriodd yr Aelodau yr
adroddiad yn ofalus a chyflwyniad yr Ymgeisydd o blaid ei gais, gan gynnwys ei
eirda. Wrth benderfynu ar addasrwydd yr Ymgeisydd, roedd
y pwyllgor yn derbyn eglurhad yr Ymgeisydd ynglŷn â’i gollfarnau gyrru ac
o'r farn ei fod wedi talu’r pris yn y cyswllt hwnnw. Roedd ei eirda
hefyd wedi cyfrannu llawer tuag at gefnogi ei gefnogi; roedd ei gyflogwyr wedi
dangos cred ynddo a’i werthfawrogi fel cyflogai ac wedi parhau i’w gyflogi mewn
rôl weinyddol drwy gydol ei waharddiad gyrru. Nodwyd hefyd y
byddai caniatáu'r cais yn cydymffurfio â pholisi'r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd collfarnau. O ganlyniad, mynegodd aelodau hyder yng ngallu'r
Ymgeisydd i gludo aelodau o'r cyhoedd yn ddiogel a phenderfynwyd caniatáu'r
cais. Fodd bynnag, cafodd yr Ymgeisydd ei rybuddio y
byddai unrhyw gamwedd yn y dyfodol yn cael ei drin yn ddifrifol. Felly cafodd penderfyniad y pwyllgor ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau
trafod y materion uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED SEFYDLIAD RHYW PDF 77 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (mae copi wedi’i amgáu)
mewn perthynas â chais gan Adult World i
adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw i eiddo sydd wedi ei leoli yn 43-47 Heol y
Frenhines, Y Rhyl. Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais i adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw
mewn perthynas ag eiddo yn 43 – 47 Queen Street, y Rhyl, gyda’r opsiwn o dalu’r
ffi adnewyddu o £2600 mewn deg rhandaliad misol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn
am benderfyniad yr aelodau am gais i adnewyddu trwydded sefydliad rhyw a
dderbyniwyd oddi wrthAdult World mewn perthynas ag eiddo a leolir yn 43 - 47
Queen Street, Y Rhyl. Cyfeiriodd y Swyddog Trwyddedu at y telerau talu ar gyfer
y ffi adnewyddu ac er mwyn eglurder gwnaethpwyd newid i eiriad yr argymhelliad. Mewn ymateb i gwestiynau
cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu y ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau
newydd ac i adnewyddu trwyddedau a dywedodd byddai’r ffioedd hynny yn cael eu
hadolygu cyn bo hir. PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais i adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw mewn perthynas ag eiddo yn 43 - 47
Queen Street, Y Rhyl gyda'r opsiwn o dalu'r ffi adnewyddu o £2,600 mewn deg
rhandaliad misol. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2014/15 PDF 76 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn rhoi diweddariad i'r
aelodau ynglŷn â materion perthnasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a chymeradwyo Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2014/15 fel y nodir yn Atodiad
1 o’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol a chyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu
i’w chymeradwyo. Roedd y rhaglen waith yn cynnwys adolygiadau o bolisïau
trwyddedu ynghyd â chynigion i fabwysiadu polisïau rhanbarthol newydd. Ymhelaethodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) ar feysydd penodol
o'r adroddiad a nododd yr aelodau yr ymgynghoriad sydd ar y gweill ar ddau
bolisi a ddrafftiwyd gan Banel Technegol Trwyddedu Cymru Gyfan. Teimlai'r
Cynghorydd Stuart Davies y dylid ymgynghori gydag aelodau yn y lle cyntaf cyn
deiliaid trwyddedau a phartïon eraill sydd â diddordeb. PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi a bod Rhaglen Waith
i'r Dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2014/15 fel y'i nodwyd yn Atodiad 1
i'r adroddiad yn cael ei chymeradwyo. Daeth y
cyfarfod i ben am 10.15 a.m. |