Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghr. Joan Butterfield, Hugh Irving, Pat Jones a Barry Mellor

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Joan Butterfield, Hugh Irving, Pat Jones a Barry Mellor

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu gan unrhyw un.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 172 KB

Derbyn -

 

(a)          cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2013 (copi wedi’i amgáu), a

 

(b)          cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2013 (copi wedi’i amgáu).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2013 a 27 Mehefin 2013.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2013 a’r Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2013.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2013 a 27 Mehefin 2013 fel cofnod cywir.

 

Ar y pryd hwn, nododd y Cadeirydd ei fwriad i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer yr unigolion hynny sy’n dod i’r cyfarfod i gefnogi eu hadolygiadau trwydded a chlywed eu hachosion cyn unrhyw fater arall.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

5.

ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 044473

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu a yw Gyrrwr Rhif 044473 yn gymwys i dderbyn Trwydded Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.    

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nad yw’r honiadau yn erbyn Gyrrwr Rhif 044473 wedi eu profi ac felly nad oes angen gweithredu pellach.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 044473 i ddal trwyddedau i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          roedd y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2013 wedi gohirio ystyried yr adroddiad yn absenoldeb y Gyrrwr er mwyn rhoi cyfle pellach iddo gyflwyno ei achos (roedd dyfyniad o’r cofnodion wedi’i atodi i’r adroddiad);

 

(iii)         roedd pryderon wedi’u codi gan y Swyddogion Gorfodi Trwyddedu ynglŷn ag ymddygiad y gyrrwr trwyddedig ar nifer o achosion unigol yn dilyn digwyddiad ar 27 Chwefror 2013 (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion wedi eu hatodi i’r adroddiad), a

 

(iv)         gofynnwyd i’r Gyrrwr i fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Gyrrwr a’i Gynrychiolydd Cyfreithiol eu bod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.  Gwnaed cais i oedi’r gwrandawiad ar y sail bod cyfeiriad anghywir wedi’i wneud at bwerau deddfwriaethol yr Awdurdod Lleol yn yr adroddiad.  Yn dilyn gohiriad i ystyried y cynnig, dywedodd y Cadeirydd fod y pwyllgor wedi cytuno i ohirio’r mater i gyfarfod arbennig er mwyn caniatáu i’r anghywirdeb gael ei gywiro.  Er mwyn sicrhau eglurder, ailadroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y cyngor a roddwyd ganddo yn ystod y sesiwn gaeedig.   Yn dilyn ymgynghoriad byr gyda’i glient, dywedodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol ei fod yn barod i barhau â’r gwrandawiad er waethaf yr anghywirdeb ac ail ddechreuodd y gwrandawiad. 

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) yr adroddiad a manylion yr achos.

 

Darllenwyd datganiad a roddwyd gan y Gyrrwr a roddodd rywfaint o wybodaeth gefndir yn tystio i’w gymeriad gan gynnwys hanes cyflogaeth, amgylchiadau teuluol a'i waith yn y gymuned leol.  Amlygwyd nad oedd wedi bod yn destun cwyn ers dod yn yrrwr trwyddedig yn 2006. Ymatebodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol i’r cyhuddiadau a fanylwyd yn yr adroddiad a chyflwynodd y dystiolaeth a ganlyn hefyd –

 

·        dau ddatganiad gan dystion i’r digwyddiadau ar 27 Chwefror a 26 Mawrth 2013

·        trawsgrifiad o’r sgwrs gyda Swyddog yr Heddlu ar 27 Chwefror 27 2013

·        llythyr dyddiedig 22 Mawrth 2013 gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr ynglŷn â’r camau a gymerwyd ar 27 Chwefror 2013

·        e-bost dyddiedig 17 Medi 2013 gan Heddlu Gogledd Cymru mewn ymateb i gŵyn ffurfiol yn ymwneud â’r digwyddiad ar 27 Chwefror 2013. 

 

Cwestiynodd yr Aelodau’r Gyrrwr ar eu fersiwn o’r digwyddiadau a’i ymddygiad gyda’r gwahanol swyddogion ar yr achlysuron a fanylwyd yn yr adroddiad.  Ymatebodd y Gyrrwr hefyd i gwestiynau a godwyd ynglŷn â’i ymwneud â’r swyddogion trwyddedu.

 

Yn ei ddatganiad terfynol, ategodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd gweithdrefnau cywir wedi’u dilyn gan swyddogion penodol ar 27 Chwefror a oedd wedi arwain at y digwyddiadau dilynol.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif 044473 wedi’u profi ac na ddylid gweithredu o gwbl.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yr adroddiad a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus.  Ni ddaeth y pwyllgor o hyd i unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau cyflwyno’r gosb ac nid oeddynt wedi’u bodloni fod prawf o’r cyhuddiadau a wnaed mewn perthynas ag ymddygiad y Gyrrwr.  O ganlyniad, nid oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

 

Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros hynny i Yrrwr Rhif 044473 a’i Gynrychiolydd.  Gofynnodd hefyd i’r Gyrrwr gydweithredu’n llawn gyda swyddogion trwyddedu mewn unrhyw gyswllt yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn (10.50 am) cafwyd egwyl.

 

 

6.

ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 043120

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu a yw Gyrrwr Rhif 043120 yn gymwys i dderbyn Trwydded Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.   

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwahardd Gyrrwr Rhif 043120 rhag gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat am gyfnod o dri mis ar sail diogelwch y cyhoedd yn unol ag Adran 61 (2B) Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 043120 i ddal trwyddedau i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          derbyniwyd cwyn gan Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn ag ymddygiad y gyrrwr trwyddedig ar ddau wahanol achlysur:  21 Chwefror a 6 Gorffennaf 2013 (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion; trawsgrifiad o’r cyfweliad a recordiwyd a dogfennau cysylltiedig wedi’u hatodi i’r adroddiad);

 

(iii)         Roedd Gyrrwr Rhif 043120 wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar 6 Mawrth 2013 ynglŷn â digwyddiad ar wahân ac wedi derbyn rhybudd ffurfiol ynglŷn â'i ymddygiad yn y dyfodol (roedd dyfyniad o’r cofnodion wedi’i atodi i’r adroddiad), a

 

(iv)         gofynnwyd i’r Gyrrwr i fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny.

 

Nid oedd y Gyrrwr yn bresennol ac fe gysylltodd â swyddogion y diwrnod cynt yn rhoi gwybod iddynt na fyddai'n gallu dod i’r cyfarfod oherwydd ymrwymiadau gwaith.  Gofynnwyd yn gynharach iddo nodi unrhyw sylwadau roedd yn bwriadu eu gwneud yn ysgrifenedig ond ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau o’r fath.  Gan ystyried difrifoldeb y mater, cytunodd y pwyllgor i fwrw ymlaen yn absenoldeb y Gyrrwr.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.  Rhoddodd aelodau ystyriaeth i’r dystiolaeth a gyflwynwyd a -

 

PENDERFYNWYD Gwahardd Gyrrwr Rhif 043120 yn syth rhag gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat am gyfnod o dri mis ar sail diogelwch y cyhoedd yn unol ag Adran 61 (2B) Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth ofalus i’r wybodaeth a gyflwynwyd iddynt a rhoddwyd ystyriaeth i’r ffaith fod y Gyrrwr wedi’i gynghori i gyflwyno ei sylwadau’n ysgrifenedig ond nid oedd wedi gwneud hynny.  Mynegodd y pwyllgor bryderon difrifol ynglŷn ag ymddygiad y Gyrrwr a fanylwyd yn yr adroddiad a oedd yn dangos ei ddifaterwch llwyr tuag at y gyfraith a diogelwch y cyhoedd.  Ystyriaeth bwysicaf y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd a theimlai aelodau fod difaterwch y Gyrrwr tuag at ddiogelwch y cyhoedd yn golygu y dylai ei waharddiad ddod i rym ar unwaith er mwyn diogelu’r cyhoedd.  Yn ogystal, rhoddodd aelodau ystyriaeth i rybudd blaenorol a roddwyd i’r Gyrrwr ynglŷn â’i ymddygiad a oedd hefyd wedi arwain at bryderon o ran diogelwch y cyhoedd.

 

Mynegodd Aelodau bryder hefyd nad oedd y Gyrrwr yn gwisgo ei fathodyn yn ystod y digwyddiad ar 21 Chwefror 2013 a oedd yn groes i amodau ei drwydded cerbyd hacni / cerbyd hurio preifat ac nad oedd yn ymddangos ei fod yn ymwybodol o'r ffaith honno.   Roedd rhaid i yrwyr trwyddedig wisgo bathodynnau i sicrhau’r cyhoedd eu bod wedi eu trwyddedu ac yn addas a phriodol.

 

 

7.

ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047689

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu a yw Gyrrwr Rhif 047689 yn gymwys i dderbyn Trwydded Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.   

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd y Cadeirydd wedi penderfynu’n flaenorol i ohirio’r mater hwn tan y cyfarfod ar 4 Rhagfyr 2013.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi cymeradwyo cais am ohiriad yn yr achos hwn gan Yrrwr Rhif 047689. O ganlyniad, gohiriwyd y mater hwn tan gyfarfod nesaf y pwyllgor ar 4 Rhagfyr 2013.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi’r sefyllfa.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau trafod y materion uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

8.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 – AWDURDOD TRWYDDEDU FEL AWDURDOD CYFRIFOL pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) sy’n darparu gwybodaeth i’r aelodau ynglŷn â’r trefniadau i alluogi’r Awdurdod Trwyddedu i ymgymryd â’i ddyletswyddau fel Awdurdod Cyfrifol ac yn gofyn am gymeradwyo dirprwyo swyddogaeth yr Awdurdod Cyfrifol o ran Trwyddedu i’r Uwch Swyddog Gorfodi Cymunedol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r swyddogaeth hon yn cael ei dirprwyo i’r uwch Swyddog Gorfodi Cymunedol ar ran y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) yn rhoi gwybod i aelodau am y trefniadau a wnaed i alluogi’r Awdurdod Lleol i gyflawni ei swyddogaethau fel Awdurdod Cyfrifol.

 

Clywodd Aelodau am y newid diweddar yn y ddeddfwriaeth a oedd yn rhoi’r grym i awdurdodau gyflawni’r un swyddogaethau ag Awdurdodau Cyfrifol eraill dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Amlygwyd pwysigrwydd cyflawni gwahaniad cyfrifoldebau o fewn yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau tegwch trefniadol a dileu gwrthdaro buddiannau a rhoddwyd manylion am y rolau a’r cyfrifoldebau presennol.    Er mwyn sicrhau gwahaniad cyfrifoldebau priodol yn sgil y grymoedd newydd, argymhellwyd y dylid neilltuo swyddogaeth yr Awdurdod Cyfrifol am Drwyddedu i’r Uwch Swyddog Gorfodi Cymunedol.

 

 

PENDERFYNWYD y byddai swyddogaeth yr Awdurdod Cyfrifol ar ran y Pwyllgor Trwyddedu yn cael ei dirprwyo i’r Uwch Swyddog Gorfodi Cymunedol.

 

 

9.

DIWEDDARIAD AR ADOLYGIAD O FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDAU 2013/14 pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) sy’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yr adolygiad o ffioedd a thaliadau trwyddedau 2013/13.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cadw’r strwythur ffioedd presennol tan mae Panel Technegol Trwyddedu wedi penderfynu ar gyfres o drefnau generig ar gyfer pennu ffioedd a than mae adolygiad llawn wedi ei gynnal.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd yr adolygiad o ffioedd a thaliadau trwyddedu 2013/14.

 

Amlygwyd natur hir a chymhleth y broses o bennu gwir gost gweinyddu bob swyddogaeth, ynghyd â goblygiadau dyfarniad diweddar yn yr Uchel Lys, Hemmings v Cyngor Dinas Westminster (amgaewyd fel atodiad i’r adroddiad).   Roedd canlyniad y dyfarniad hwn yn egluro pa gostau y gellid eu hystyried wrth bennu ffioedd.  Roedd Panel Technegol Trwyddedu Cymru Gyfan wedi derbyn y dasg o edrych ar ffioedd a thaliadau ac roedd swyddogion wrthi’n cyfrannu at y broses honno, gyda chyfarfodydd rheolaidd wedi’u trefnu am weddill y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd y Swyddog Trwyddedu'r ystod o ffactorau a oedd yn pennu lefel ffioedd a oedd yn gwahaniaethu rhwng awdurdodau lleol.  Er na ellid cyflwyno ffi generig ar draws awdurdodau Cymru, roedd y Panel Technegol Trwyddedu yn gweithio i ddatblygu cyfres o drefnau generig ar gyfer pennu ffioedd a thaliadau.  Cydnabu Aelodau bwysigrwydd sicrhau fod yr adolygiad yn cael ei gynnal yn drylwyr er mwyn osgoi unrhyw heriau cyfreithiol yn y dyfodol a –

 

PENDERFYNWYD y dylid cadw’r strwythur ffioedd presennol nes bod y Panel Technegol Trwyddedu wedi penderfynu ar gyfres o drefnau generig ar gyfer pennu ffioedd a thaliadau a nes y cynhelir adolygiad llawn.

 

 

10.

ADOLYGU POLISÏAU CASGLU O DDRWS I DDRWS A CHASGLU AR Y STRYD pdf eicon PDF 67 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) sy'n gofyn i’r aelodau adolygu’r polisïau ar gyfer rhoi a monitro trwyddedau Casglu ar y Stryd a Chasgliadau o Ddrws i Ddrws.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cefnogi ac argymell bod y Cyngor Sir yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r polisïau drafft ar gyfer Casgliadau o Ddrws i Ddrws (gwelwch Atodiad A i'r adroddiad) a Chasgliadau ar y Stryd (gwelwch Atodiad C i’r adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) yn gofyn i aelodau adolygu’r polisïau drafft ar gyfer dyrannu a monitor trwyddedau Casglu o Ddrws i Ddrws a Chasglu ar y Stryd (amgaewyd fel Atodiad A yr adroddiad) yn dilyn yr ymarferiad ymgynghori.

 

Roedd y Pwyllgor Trwyddedu ar 12 Medi 2012 wedi cytuno i gynnal ymarferiad ymgynghori ar yr adolygiad o bolisïau ar gyfer casgliadau elusennol.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r broses ymgynghori ac yn rhoi manylion y sylwadau a dderbyniwyd yn ymwneud â Chasgliadau ar y Stryd (ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn ymwneud â Chasgliadau o Ddrws i Ddrws) a’r diwygiadau a argymhellwyd mewn ymateb iddynt.  Gofynnwyd i Aelodau ystyried y polisïau drafft yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad.

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r polisïau drafft ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac roeddent yn fodlon fod yr ymateb i’r sylwadau yn briodol.

 

PENDERFYNWYD cefnogi ac argymell bod y Cyngor Sir yn cymeradwyo a mabwysiadu’r polisïau drafft ar gyfer Casgliadau o Ddrws i Ddrws a Chasgliadau ar y Stryd a amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad a’r newidiadau bwriedig a fanylir yn Atodiad C yr adroddiad.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2013/14 pdf eicon PDF 56 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu  (copi wedi'i amgáu).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 am