Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Chuarton, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghr. Richard Davies a Peter Owen

 

Cofnodion:

Cynghorwyr Richard Davies a Peter Owen

 

 

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi’r Cyng. Cefyn Williams yn gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cofnodion:

Yn unol â’r broses benodi mae datganiad ysgrifenedig ar gael gan y Cynghorydd Cefyn Williams ar gyfer swydd Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2013/14.  Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies, ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Bill Cowie i benodi’r Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd.  Gan nad oedd unrhyw enwebiadau pellach –

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Cefyn Williams fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi’r Cyng. Stuart Davies is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cadeirydd wahodd enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2013/14.  Cynigiodd y Cynghorydd Bill Cowie, ac eiliwyd ei gynnig gan Cefyn Williams i benodi’r Cynghorydd Stuart Davies fel yr Is-Gadeirydd.  Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield, eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Pat Jones i benodi’r Cynghorydd Barry Mellor fel Is-Gadeirydd.  Ar ôl gwneud pleidlais, cafwyd nifer gyfartal o bleidleisiau ar gyfer bob ymgeisydd.  Defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw a   -

 

PHENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Stuart Davies fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

4.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau personol neu gysylltiadau sy’n rhagfarnu.

 

 

5.

MATERION BRYS Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys o dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 149 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2013 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2013.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd 6 Mawrth 2013.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 6 Mawrth 2013 fel cofnod cywir.

 

 

7.

GWEITHDREFNAU'R PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER PENDERFYNU AR GEISIADAU AC ADOLYGIADAU CERBYDAU HACNI A GYRWYR HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 60 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn i aelodau gymeradwyo gweithdrefnau diwygiedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau cerbydau hacni a cheisiadau gyrwyr hurio preifat ac adolygiadau trwyddedau gyrwyr presennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo trefniadau’r Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac  adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat (fel y nodir yn yr atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth aelodau o weithdrefnau diwygiedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat cyfredol.

 

Esboniwyd bod y gweithdrefnau cyfredol wedi dyddio wedi iddynt gael eu teilwra’n wreiddiol ar gyfer trwyddedau adloniant/eiddo cyhoeddus ac roedd angen cyfres o weithdrefnau i ddelio’n benodol â cheisiadau ac adolygiadau gyrwyr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo gweithdrefnau’r Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat ar gyfer gyrwyr trwyddedig cyfredol (fel y manylir yn atodiad yr adroddiad hwn).

 

Yn y fan hon dynododd y Cadeirydd ei fwriad i amrywio trefn y rhaglen i fod yn addas i’r unigolion hynny a oedd wedi dod i’r cyfarfod i gefnogi eu ceisiadau/adolygiadau trwydded ac i glywed eu hachosion cyn unrhyw fater arall.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12,13 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

8.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047324

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  047324.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais rhif 047324 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 047324 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd;

 

(iii)         darparwyd crynodeb o euogfarnau a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1981 tan 2007 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â diod/cyffuriau, anwedduster ac anonestrwydd;

 

(iv)         polisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)          bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded o ystyried nifer a natur yr euogfarnau.

Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor a siaradodd am ei awydd i ddod yn yrrwr tacsi fel dewis amgen i’w gyflogaeth gyfredol a’r gofynion corfforol. Eglurodd amgylchiadau’r troseddau a ddatgelwyd gan y gwiriad cofnodion troseddol hefyd. Fe wnaeth yr aelodau gwestiynu’r Ymgeisydd ymhellach ar ei fersiynau ef o ddigwyddiadau a’i atgofion o’r digwyddiadau. Cwestiynwyd yr Ymgeisydd hefyd ynghylch problemau iechyd mwy diweddar yn ymwneud â dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol yn sgil ei euogfarnau a’i dystysgrif feddygol.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol mynegodd yr Ymgeisydd ei fod yn edifar am ei gamau blaenorol ac ategodd nad oedd ganddo broblem gydag alcohol.  Ystyriodd ei fod yn dda gyda’r cyhoedd a darparodd esiamplau yn ei gyflogaeth bresennol.  Darparodd yr Ymgeisydd eirda cymeriad hefyd gan ei gyflogwr cyfredol a ddarllenwyd i’r pwyllgor cyn y trafodaethau.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

 

PHENDERFYNWYD gwrthod cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047324.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn

 

Tra bod y cais o fewn canllawiau’r polisi, dyletswydd hollbwysig y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd.  Wedi ystyried ffeithiau’r achos a’r atebion a roddwyd mewn eglurhad gan yr Ymgeisydd, roedd gan y pwyllgor bryderon penodol mewn perthynas â’r euogfarn yn ymwneud ag alcohol, dibyniaeth ar alcohol fel y trafodwyd a’r drosedd anwedduster.  O ganlyniad nid oedd y pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn abl ac addas i ddal trwydded a phenderfynwyd gwrthod y cais.

 

Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau am hynny ac fe’i cynghorwyd nad oedd y penderfyniad yn ei atal rhag gwneud cais yn y dyfodol.  Fe’i argymhellwyd hefyd am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn dau ddeg un diwrnod.

 

[Ni chymerodd y Cynghorydd Arwel Roberts ran yn y drafodaeth na phleidleisio dros y mater hwn gan nad oedd wedi bod yn bresennol drwy gydol yr holl achos]

 

 

9.

ADDASRWYDD CERBYD AR GYFER TRWYDDED HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais Trwydded Hurio Preifat. 

 

Penderfyniad:

RESOLVED cymeradwyo cais Trwydded Hurio Preifat ar gyfer y cerbyd dan sylw a’r seddi fel y maen nhw. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn cydymffurfio â’r manylion fel y manylir yn Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat  y Cyngor, sef yn bennaf (1) nid oedd lleoliad y seddi’n darparu digon o le i’r teithwyr gerdded heibio a (2) byddai gofyn i deithwyr blygu un o’r seddi eraill yn ei blaen i gael mynediad/gadael y seddi cefn, a

 

(iii)         bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ynghyd â’i Gynrychiolydd ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Cadarnhaodd yr aelodau hefyd eu bod wedi derbyn, drwy e-bost, wybodaeth atodol gan yr Ymgeisydd o blaid ei gais a oedd ar gael i bawb â diddordeb cyn y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu’r adroddiad a gofynnodd i’r pwyllgor ystyried a fyddai’n addas gwyro oddi wrth bolisi’r Cyngor yn ymwneud â manylion cerbyd, er mwyn caniatáu’r cais.

 

Esboniodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd mai’r prif bryder oedd y byddai addasu manylion y cerbyd i gydymffurfio â pholisi cyfredol y cyngor yn golygu bod yr ymgeisydd yn mynd yn groes i gymeradwyaeth math cywir ac fe allai hyn olygu mai ef fyddai’n bersonol atebol pe bai damwain.  Cyfeiriodd hefyd at y cyngor a gafodd gan VOSA a’r Adran Drafnidiaeth yn y cyswllt hwnnw, a thynnodd sylw’r aelodau at y wybodaeth atodol (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn cynnwys llythyr gan Gymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat o blaid y cais. Cyfeiriodd Gymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat at –

 

·         Ganllaw Arfer Orau’r Adran Drafnidiaeth

·         barnau o ddwy her gyfreithiol aeth i’r Llys Ynadon

·         datganiad gan Ford UK yn ymwneud ag addasiadau seddi

 

Yn sgil y dystiolaeth a gyflwynwyd, gofynnodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd i’r pwyllgor ganiatáu’r cais ar gyfer y cerbyd dan sylw, gyda lleoliad presennol y seddi . Gofynnodd hefyd i’r agwedd hon ar ganllawiau’r polisi gael ei hystyried fel rhan o adolygiad polisi trwyddedu cerbydau hacni a hurio preifat cyfredol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, rhoddodd yr Ymgeisydd a’i Gynrychiolydd esboniad ynghylch lleoliad y seddi mewn mwy o fanylder, gan gynnwys mynediad a ffordd allan o gefn y cerbyd, ynghyd â’r goblygiadau pe bai’r seddi yn cael eu tynnu ymaith. Cadarnhawyd bod yr Ymgeisydd wedi cael copi o amodau’r cyngor cyn prynu’r cerbyd.  O ran y gofod lleiaf sydd ei angen i deithwyr, rhoddodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd wybod bod bwlch y sedd flaen yn mesur yr un faint â sedd gefn y cerbyd dan sylw a oedd yn dod o dan yr isafswm a nodwyd yn yr amodau.  Yn ei ddatganiad terfynol gofynnodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd i aelodau ganiatáu’r cais.  Os nad oedd y pwyllgor o blaid caniatáu’r cais gyda lleoliad presennol y seddi, gofynnodd a oedd modd cael tystysgrif yn rhyddhau’r Ymgeisydd o unrhyw atebolrwydd pe bai damwain.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

 

PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat mewn perthynas â’r cerbyd dan sylw gyda lleoliad presennol y seddi.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn

 

Roedd aelodau wedi ystyried y cais yn ofalus a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn ac roeddent wedi ystyried eu cyfrifoldebau mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau.  Roedd y pwyllgor yn fodlon fod y cerbyd yn y cais yn diwallu gofynion cyfreithiol i’w ddefnyddio fel cerbyd  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047331

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  047331.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais rhif 047331 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 047331 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd;

 

(iii)         darparwyd crynodeb o euogfarnau a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1997 tan 2010 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â meddwdod, troseddau gyrru a thraffig;

 

(iv)         polisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)          bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yn sgil yr euogfarnau a ddatgelwyd.

Fe anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais gan ddisgrifio ei gefndir a’i amgylchiadau personol pan gyflawnwyd y troseddau.  Roedd yn awyddus i’r aelodau ddeall bod ei agwedd wedi newid ers iddo symud i’r ardal rhai blynyddoedd yn ôl gan ddod yn oedolyn cyfrifol mewn cyflogaeth gydag ymrwymiadau teuluol.  Esboniodd bod ei gyflogaeth bresennol yn dymhorol ac roedd yn dymuno dod yn yrrwr tacsi i gynnal ei hun a’i deulu.  Holodd yr aelodau'r Ymgeisydd ynghylch ei euogfarnau, yn enwedig yn sgil cosbau sylweddol a gafodd a gwaharddiadau mynych rhag gyrru, ac roeddent eisiau sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.  Manylodd yr Ymgeisydd ynghylch digwyddiadau penodol wrth ymateb i gwestiynau aelodau, a sicrhaodd y pwyllgor ei fod yn yfed alcohol mewn digwyddiadau cymdeithasol fel priodasau yn unig.  Wrth roi ei ddatganiad terfynol, rhoddodd sicrwydd i aelodau ei fod yn gwerthfawrogi ei drwydded yrru ac roedd wedi newid mewn cymeriad.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

 

PHENDERFYNWYD gwrthod cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047331.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn

 

Fe ystyriodd yr aelodau'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a’r ymateb a roddwyd gan yr Ymgeisydd i gwestiynau.  Er bod caniatáu’r cais yn unol â chanllawiau polisi unigol, prif ystyriaeth y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd ac yn sgil euogfarnau cyson a mynych yn ymwneud yn benodol â throseddau moduro gan gynnwys gyrru’n beryglus; gyrru heb yswiriant, a gyda gormod o alcohol, nid oedd aelodau’n fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn abl ac addas i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.  Yn unol â hynny penderfynwyd gwrthod y cais.

 

Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau am hynny ac fe’i cynghorwyd am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn dau ddeg un diwrnod.

 

 

11.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYD HURIO PREIFAT - RHIF 047319

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  047319

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais rhif 047319 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 047319 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd;

 

(iii)         darparwyd crynodeb o euogfarnau a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1989 tan 2009 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â meddwdod ac anonestrwydd;

 

(iv)         polisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)          bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yn sgil yr euogfarnau a ddatgelwyd.

Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais gan gyfaddef ei droseddau a mynegi edifeirwch am weithredoedd blaenorol. Esboniodd ei amgylchiadau personol, gan ddweud ei fod wedi symud i Gymru rhai blynyddoedd yn ôl gan amlygu ei ymrwymiadau teuluol a’i gyfrifoldebau, a chyfeiriodd at ei gysylltiad gyda’r fasnach dacsi a’i ddymuniad i ddod yn yrrwr tacsi.  Fe wnaeth yr Ymgeisydd hefyd esbonio amgylchiadau’r troseddau, gan egluro materion wrth ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny. Roedd yr aelodau eisiau sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol ac fe fanylodd yr Ymgeisydd ar ei ffordd o fyw gyfredol a’i gysylltiadau cymunedol a’r berthynas ddibynadwy gyda’i gyflogwr cyfredol.  Sicrhaodd y pwyllgor ei fod wedi dysgu o’i gamgymeriadau yn y gorffennol ac wedi newid ei fywyd.  Darllenwyd geirda gan gyflogwr yr Ymgeisydd i’r pwyllgor gan dystio i’w gymeriad da.  Yn ei ddatganiad terfynol, diolchodd yr Ymgeisydd i aelodau am y cyfle i gyflwyno ei achos a gofynnodd i’r pwyllgor edrych yn ffafriol ar ei gais.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

 

PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais ar gyfer trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047319.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y pwyllgor trwyddedu fel a ganlyn –

 

Roedd y pwyllgor wedi ystyried ffeithiau’r achos yn ofalus ac wedi gwrando ar gyflwyniad yr Ymgeisydd a’i ymateb i gwestiynau’r aelodau ac wedi eu plesio gydag ymddygiad yr Ymgeisydd ac yn ystyried ei fod yn dweud y gwir wrth roi sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad cyfredol ac yn y dyfodol.  O ganlyniad, ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn abl ac addas i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.  Roedd euogfarnau blaenorol yr Ymgeisydd wedi peri pryder i’r pwyllgor fodd bynnag, ac fe’i rhybuddiwyd y byddai unrhyw drosedd yn y dyfodol a fyddai’n peri iddo ddod gerbron y pwyllgor yn cael ymdriniaeth lem.

 

Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau am hynny.

 

[Dymunodd y Cynghorydd Stuart Davies ei roi ar gofnod ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.]

 

 

12.

ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 044473

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat Ymgeisydd Rhif  044473.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)     ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 044473 i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn ystod y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r gyrrwr fynychu’r cyfarfod nesaf i gyflwyno ei achos, ac

 

(b)     anfon llythyr at Yrrwr Rhif 044473 yn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad uchod, a gofyn iddo fynychu’r cyfarfod nesaf a phwysleisio difrifoldeb y mater hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 044473 i ddal trwydded i yrru cerbydau Hacni a cherbydau Hurio Preifat;

 

(ii)          pryderon yn cael eu codi gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu ynglŷn ag ymddygiad gyrrwr trwyddedig ar sawl achlysur gwahanol (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion wedi’u hatodi i’r adroddiad);

 

(iii)         bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny

 

Nid oedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod er iddo gael gwahoddiad i fod yn bresennol.  Yn absenoldeb esboniad gan y gyrrwr ynglŷn â’i ddiffyg presenoldeb, penderfynodd y Pwyllgor fwrw ati yn ei absenoldeb.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (HB) yr adroddiad a rhoddodd grynodeb am ffeithiau’r achos.  Cymerodd yr aelodau’r cyfle i holi cwestiynau ac eglurodd y swyddogion gysylltiad y gyrrwr â’r busnes a’r tacsi y cyfeiriwyd atynt yn y digwyddiadau ac ymddygiad y gyrrwr yn ystod y digwyddiadau dan sylw. Cafwyd eglurhad, yn ystod y weithred tacsi aml asiantaeth yn Chwefror 2013, roedd cerbydau trwyddedig wedi’u harolygu’n gyffredinol a phrofwyd cerbydau eraill hefyd.  Roedd swyddogion yn bryderus ynghylch methiant y Gyrrwr i ymgysylltu â nhw a swyddogion eraill, yr agwedd a ddangosodd a’r modd yr anwybyddodd awdurdod.  Amlygodd Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd bod Swyddogion Gorfodaeth â rôl heriol ac anodd ac wedi cynnal cysylltiadau cadarnhaol gyda Thrwyddedigion yn bennaf, ac ni fyddai materion yn dod gerbron y pwyllgor oni bai eu bod yn sylweddol.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

PHENDERFYNWYD

 

(a)       gohirio ystyried addasrwydd gyrrwr rhif 044473 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat tan gyfarfod nesaf y pwyllgor i ddarparu cyfle pellach i’r gyrrwr fod yn bresennol a chyflwyno ei achos

 

(b)       anfon llythyr at yrrwr rhif 044473 yn rhoi gwybod iddo am benderfyniad uchod y pwyllgor, gan ofyn iddo fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor a phwysleisio difrifoldeb y mater iddo. 

 

Wedi ystyried y dystiolaeth, fe wnaeth y pwyllgor fynegi pryderon difrifol ynghylch ymddygiad y Gyrrwr yn yr achos hwn ac fe wnaethant ystyried eu pwerau yn nhermau gwahardd a diddymu. Yn absenoldeb y gyrrwr a chlywed ei ochr ef fodd bynnag, cytunodd y pwyllgor y dylid rhoi cyfle pellach i’r Gyrrwr fod yn bresennol i gyflwyno ei achos i’r Pwyllgor Trwyddedu cyn gwneud penderfyniad.  O ganlyniad penderfynwyd gohirio ystyried addasrwydd y gyrrwr tan gyfarfod nesaf y pwyllgor a’i wahodd i fod yn bresennol, gan roi gwybod iddo am benderfyniad y pwyllgor a difrifoldeb y mater.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau’r eitemau uchod, aeth y cyfarfod yn ei flaen mewn sesiwn agored.

 

 

13.

GWEITHDREFNAU AR GYFER POLISÏAU NEWYDD A DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 62 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau gymeradwyo’r gweithdrefnau i’w mabwysiadu ar gyfer drafftio polisïau newydd a diwygio polisïau cyfredol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gweithdrefnau ar gyfer llunio polisïau trwyddedu newydd ac adolygu polisïau cyfredol (fel y nodir yn yr atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth aelodau o’r gweithdrefnau i’w mabwysiadu ar gyfer drafftio polisïau newydd a diwygiedig.

 

Ar wahân i ofynion statudol, nid oedd unrhyw weithdrefnau ysgrifenedig ar waith i swyddogion eu dilyn wrth ddrafftio polisïau trwyddedu newydd neu wrth adolygu polisïau trwyddedu presennol.  Dylai cymeradwyo cyfres o weithdrefnau leihau unrhyw risg o wneud y Cyngor yn agored i wall gweinyddol a heriau.

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at y canlynol –

 

·         byddai polisïau newydd yn cynnwys ymgynghoriad llawn, gan gynnwys sgrinio’r polisi drwy ddefnyddio Pecyn Cymorth Asesu Effaith ar Gydraddoldeb, ac adrodd amlinelliad y polisi a chwmpas yr ymgynghoriad i aelodau. 

·         ar gyfer polisïau cyfredol sydd angen diwygiadau cyffredinol, byddai swyddogion yn trafod diwygiadau bwriedig gydag aelodau, ynghyd ag unrhyw ofyniad ymgynghori a byddent yn gofyn i aelodau argymell  mabwysiadu’r diwygiadau i’r Aelod arweiniol

·         byddai Pennaeth y Gwasanaeth yn cymeradwyo diwygiadau polisi bach gan gynnwys diweddariadau deddfwriaethol neu mewn achosion lle ystyriwyd na fyddai’r newid yn effeithio ar bwrpas y polisi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gweithdrefnau ar gyfer drafftio polisïau trwyddedu newydd ac adolygu polisïau cyfredol (fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad hwn).

 

 

14.

GWEITHDREFNAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 66 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau gymeradwyo’r gweithdrefnau, gan gynnwys dirprwyo i swyddogion, ar gyfer delio â cheisiadau. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)     cymeradwyo’r 8 gweithdrefn cerbydau hacni a hurio preifat (fel y nodir yn yr atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad) a’u gweithredu o 1 Awst 2013, a

 

(b)     chymeradwyo’r dirprwyon, fel y nodir yn y gweithdrefnau, i ffurfio rhan o’r cynllun dirprwyo o 1 Awst 2013.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth aelodau ynghylch wyth gweithdrefn, gan gynnwys dirprwyo swyddog ar gyfer delio â cheisiadau trwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. 

 

Cynhaliwyd adolygiad helaeth o’r drefn drwyddedu, gyda’r bwriad o sicrhau bod prosesau trwyddedu mor gadarn â phosibl a bod y cyhoedd yn teithio’n ddiogel ac yn cael gwasanaeth da.  Craffwyd ar y gweithdrefnau drafft hefyd gan Arbenigwr Cyfreithiol Trwyddedu ac ymdriniwyd â’r canlynol -

 

·         Dogfennau Yswiriant a Chydymffurfiad wedi dod i ben

·         Caniatáu/Adnewyddu Trwydded Gweithredwr Hurio Preifat

·         Caniatáu/Adnewyddu Trwydded Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

·         Caniatáu/Adnewyddu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

·         Gwahardd/Diddymu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

·         Gwahardd/Diddymu Trwydded Cerbydau Hacni a Cherbyd Hurio Preifat

·         Trosglwyddo diddordeb/cerbyd newydd â Thrwydded Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

·         Hysbysiad o Euogfarn Gyrrwr Cerbydau Hacni a Cherbyd Hurio Preifat

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y gweithdrefnau’n gynhwysfawr iawn ac fe gydnabuwyd y gwaith caled a wnaed i’w hadolygu.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       cymeradwyo wyth gweithdrefn cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat (fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad hwn) yn weithredol o 1 Awst 2013, a

 

(b)       cymeradwyo’r dirprwyaethau a fanylir yn y gweithdrefnau i ffurfio rhan o’r cynllun dirprwyo yn weithredol o 1 Awst 2013.

 

 

15.

RHAGLEN WAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2013/14 pdf eicon PDF 68 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer ei chymeradwyo ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynglŷn â materion perthnasol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi cynnwys rhaglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar raglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Roedd adolygiad o’r polisi cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn symud ymlaen yn dda a byddai adroddiad ar hynny yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor yn Rhagfyr 2013 cyn dechrau ymgynghoriad ffurfiol.  Darparwyd manylion am yr ymgynghoriad hefyd.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 p.m.