Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Joan Butterfield – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen Cofnodion: |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2024/25. Cynigodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid
penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Hugh Irving. Ni chafwyd
unrhyw enwebiadau eraill. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar
gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2024/25. Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid
penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd, ac fe eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Andrea Tomlin. Ni chafwyd
unrhyw enwebiadau eraill. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 380 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024. Materion yn Codi – Tudalen 6: Rhaglen
Waith y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2024 – diolchodd y Cynghorydd Andrea Tomlin
i swyddogion am y sesiwn hyfforddi ar Weithdrefnau Arbennig (tyllu’r croen) a
gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2024. Fe’i cafodd yn addysgiadol a defnyddiol iawn ar
gyfer ei rôl fel aelod o’r pwyllgor. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
TABL PRISIAU A THALIADAU CERBYDAU HACNI PDF 217 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad
(copi ynghlwm) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am adolygiad o
ffioedd tariff presennol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis) a’r Tabl Prisiau a
Thaliadau arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD, drwy fwyafrif, bod y Pwyllgor Trwyddedu yn – (a) cadw'r tabl ffioedd presennol (b) cyfarwyddo’r swyddogion i
baratoi adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu’r sefyllfa ymhen 12
mis. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru’r aelodau ar adolygiad y
prisiau cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis), a Thabl Prisiau arfaethedig
ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r prisiau
presennol wedi bod yn destun adolygiad parhaus ers canol 2023. Yr oedd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i
gynyddu’r prisiau presennol wedi darparu ymateb cymysg, ac ym mis Rhagfyr 2023
penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu gadw’r prisiau presennol tra bod
cyfrifiannell brisiau yn cael ei datblygu.
Ers hynny, ychydig iawn o ymateb a gafwyd gan y fasnach drwyddedig i
gynorthwyo i fwydo ychwaneg o ddata i’r gyfrifiannell brisiau, a lle nodwyd
bylchau yn y data dibynnwyd ar ddata arall er mwyn datblygu’r gyfrifiannell
brisiau a dull gweithredu, a nodwyd yn fanwl yn yr adroddiad ynghyd â’r prisiau
a luniwyd a thabl yn cymharu awdurdodau gogledd Cymru. Gofynnwyd i’r
aelodau ystyried manylion yr adroddiad, gan gynnwys yr effaith ar y fasnach
dacsis a defnyddwyr tacsis o ganlyniad i gynnydd yn y prisiau, a naill ai (i)
cadw’r tabl prisiau presennol, neu (2) gynyddu’r prisiau yn unol â’r
gyfrifiannell brisiau, yn amodol ar ymgynghoriad statudol. Pe bai’r aelodau’n cefnogi cynnydd yn y
prisiau ac na chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn dilyn ymgynghoriad, byddai’r
cynnydd yn cael ei weithredu, ond byddai’n rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau
a dderbynnid ger bron y Pwyllgor i’w hystyried.
Byddai unrhyw dariff terfynol yn destun Penderfyniad Dirprwyedig Aelod
Arweiniol. Yn ystod y
drafodaeth diolchodd yr aelodau i swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a
nodwyd y dull gweithredu pwyllog a chadarn a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu’r
gyfrifiannell brisiau. Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad yn ofalus ynghyd â’r dewisiadau a oedd ar gael iddynt, a
gofynnwyd cwestiynau amrywiol i’r swyddogion yn ystod y trafodaethau. Cyfeiriwyd yn benodol at ddiffyg awydd
ymddangosiadol y fasnach dacsis i gynyddu’r prisiau a’r effaith ar ddefnyddwyr
tacsis yn yr hinsawdd ariannol bresennol.
Crybwyllwyd amseru ac amlder adolygiadau prisiau, a pha un a fyddai dull
o gynyddu prisiau fesul cam yn rheolaidd yn osgoi cynnydd mawr yn y ffioedd ar
ôl cyfnod hwy ai peidio. Nodwyd bod y
tariff yn pennu’r pris uchaf posibl a ganiateir a gellid codi ffi is. Trafodwyd hefyd werth cynnal ymgynghoriad
eang ar y cynnydd arfaethedig yn y prisiau ac ystyried y safbwyntiau hynny cyn
gwneud penderfyniad terfynol. Ymatebodd y
swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn – ·
yr oedd ymgynghoriadau
blaenorol â’r fasnach dacsis wedi darparu ymateb cymysg o blaid ac yn erbyn
codi prisiau; ni chafwyd cawod o geisiadau am gynnydd yn y prisiau ·
yr oedd lefel y gyrwyr
trwyddedig newydd yn dal yn gyson â blynyddoedd blaenorol a nifer y gyrwyr
trwyddedig yn parhau i fod yn weddol gyson ·
yr oedd y gyfrifiannell
brisiau’n darparu ffordd o gyfrifo cost gyfartalog gweithredu busnes tacsis ac
yr oedd y cynnydd arfaethedig yn seiliedig ar fethodoleg fanwl ·
manylwyd ar y tariff a
luniwyd, fel y’i nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn rhoi’r pris uchaf posibl y
gellid ei godi a byddai’n arwain at gynnydd o’r pris presennol, sef £6.00, i
bris arfaethedig o £6.94, yn seiliedig ar siwrnai 2 filltir ·
byddai’r tariff arfaethedig
yn peri i Sir Ddinbych fod yr awdurdod drutaf yng ngogledd Cymru, ac yng
nghanol y tabl cenedlaethol o brisiau tacsis ·
ni wyddid beth oedd y dull
a ddefnyddid gan awdurdodau lleol eraill gogledd Cymru i gyfrifo prisiau, a
bu’n 1-4 blynedd ers i’r awdurdodau hynny adolygu eu prisiau ddiwethaf; yr oedd
un awdurdod nad oedd wedi cynyddu ei brisiau ers 2010 · manylwyd ar yr ymgynghoriad eang, yn ogystal â gofynion statudol, pe bai’r dewis hwnnw yn cael ei gymeradwyo – byddai’n cynnwys ymgysylltu sylweddol gyda’r fasnach ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADOLYGU GOFYNION TRWYDDEDU CERBYDAU HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN PDF 300 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad
(copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad yr aelodau o’r gofynion presennol ar gyfer
cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn dan drwydded y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod yr Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad
ac yn awdurdodi swyddogion i gynnal ymgynghoriad gyda’r holl bartïon sydd â
diddordeb ynghylch y dewisiadau canlynol ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar
ganlyniadau’r ymgynghoriad – (a) Peidio â gwneud unrhyw newid
i’r gofynion trwyddedu presennol ar gyfer WAVs sy’n golygu eu bod wedi’u
trwyddedu ar yr un sail â cherbydau “arferol”; (b) ystyried dileu’r gofynion
oedran presennol ar gyfer cerbydau WAV a’u disodli gydag amod bod yn rhaid i
bob cerbyd WAV gyrraedd safonau allyriadau Ewro 6 a chael prawf cydymffurfio
ychwanegol bob blwyddyn unwaith y bydd y cerbyd yn 12 oed a phob blwyddyn y mae
wedi’i drwyddedu wedi hynny h.y. 3 phrawf y flwyddyn bob 4 mis; (c) ystyried (b) uchod heb unrhyw
brawf cydymffurfio ychwanegol, a (d) ystyried bod pob cais newydd
am drwydded Cerbyd Hacni yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu’r gofynion
presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a drwyddedir gan y
Cyngor. Cymeradwywyd Polisi presennol Cerbydau
Hacni a Cherbydau Hurio Preifat gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2016.
Yr oedd yn cynnwys cyfyngiad oed, sef bod rhaid i holl gerbydau newydd y fflyd
fod yn iau na 5 mlwydd oed, ac y byddai’n rhaid cael gwared ag unrhyw gerbyd a
oedd yn cyrraedd 12 mlwydd oed. Yn dilyn
nifer o estyniadau, byddai’r cyfyngiad yn dod i rym o’r diwedd ar 1 Gorffennaf
2024. Yr oedd gofyn i Gerbydau Hygyrch i
Gadeiriau Olwyn fodloni’r un safonau ag unrhyw gerbyd arall, ond yr oedd y
costau a oedd yn gysylltiedig â Cherbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn lawer
uwch. Gan ystyried effaith y cyfyngiad
oed ar argaeledd Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, cefnogai Cludiant Ysgol
Sir Ddinbych adolygu’r gofynion, ac yr oedd nifer fechan o’r fasnach dacsis
hefyd wedi gofyn am adolygiad i’w gwneud yn fwy fforddiadwy i drwyddedu
Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn. Cyfeiriwyd at ganllawiau arferion
gorau’r Adran Drafnidiaeth a pherthnasedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
ddiwygio tacsis ynghyd â manylion ynglŷn ag oedran ac allyriadau cerbydau
a Cherbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a oedd wedi eu trwyddedu yn Sir
Ddinbych. Oherwydd yr angen i fynd a’r
afael â’r prinder Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, gofynnwyd i’r aelodau
ystyried a fyddai’n briodol cael gwared â’r cyfyngiad oed ar gyfer y cerbydau
hyn a chyflwyno gofyniad allyriadau gofynnol, ac a ddylid cynnal mwy o brofion
ar gerbydau o ganlyniad. Argymhellodd y
swyddogion gynnal ymarfer ymgynghori ar y dewisiadau canlynol ac adrodd am
ganlyniadau’r ymgynghoriad mewn cyfarfod yn y dyfodol – (a) peidio â gwneud unrhyw newid i’r gofynion trwyddedu presennol ar gyfer
Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn sy’n golygu eu bod wedi’u trwyddedu ar yr un
sail â cherbydau “arferol” (c)
ystyried (b) uchod heb unrhyw brofion
cydymffurfio ychwanegol (d)
ystyried bod pob cais newydd am
Drwydded Cerbyd Hacni yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Pwysleisiodd yr aelodau yr angen i
sicrhau bod y safonau uchel presennol ar gyfer cerbydau trwyddedig yn cael eu
cynnal, ac na ddylid cymryd unrhyw gamau a fyddai’n peryglu’r safonau
hynny. Yn ogystal, yr oedd pryder na
fyddai pob cerbyd yn destun yr un meini prawf trwyddedu. Fodd bynnag, cydnabuwyd pwysigrwydd mynd i’r
afael â phrinder presennol darpariaeth sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, a
rhoddwyd ystyriaeth i’r dewisiadau a nodir yn yr adroddiad fel ffordd o gymell
mwy o Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn i’r fflyd i fodloni’r galw, yn
arbennig ar gyfer cludiant i’r ysgol, lle nad oedd anghenion dysgwyr yn cael eu
diwallu ar hyn o bryd. Parthed cynnal
safonau diogelwch, eglurodd y swyddogion y gellid cysylltu’r cynnig i gael
gwared â’r terfyn oedran a’r gofyniad i fodloni safonau Ewro 6 gyda threfn
brofi fanylach ar gyfer y cerbydau hynny. Credai’r Cadeirydd fod dadl wedi ei rhoi dros ystyried a ddylid rhoi safon uchel wahanol ar Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn o ystyried prinder y mathau hynny o gerbydau a’r costau sy’n gysylltiedig â hwy, a meddyliai y byddai’n fuddiol ymgynghori ar y dewisiadau ac ystyried yr ymatebion hynny cyn gwneud penderfyniad terfynol. Teimlai’r ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2024/25 PDF 201 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad
(copi ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith
i’r dyfodol ddiwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) nodi cynnwys yr adroddiad, (b) cymeradwyo’r rhaglen waith ar
gyfer 2024/25 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad. Cofnodion: Yr oedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a
roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth
drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi deiliaid trwyddedau yn effeithiol,
yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r
economi. Yr oedd y rhaglen waith wedi ei
drafftio gan ystyried polisïau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Trwyddedu a
dyddiadau adolygu polisi, ynghyd ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a
gynigid gan Lywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog. Oherwydd newidiadau sylweddol i strwythur
staffio’r Adain Drwyddedu, a fyddai’n effeithio ar lwyth gwaith presennol y
staff, yr oedd y blaenoriaethau i adolygu rhai o’r polisïau a gynlluniwyd wedi
eu haildrefnu. Gofynnodd y Cynghorydd Andrea Tomlin am fwy o wybodaeth ar effaith y
strwythur a’r newidiadau o ran staff yn y Tîm Trwyddedu. Cadarnhaodd y Cyfreithiwr y byddai’n briodol
trafod y mater y tu allan i’r cyfarfod gan y byddai unrhyw drafodaeth yn
debygol o nodi unigolion penodol yn y tîm. PENDERFYNWYD – (a) nodi cynnwys yr adroddiad, (b) cymeradwyo’r rhaglen waith ar
gyfer 2024/25 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad. Ar y pwynt hwn dywedodd y Cadeirydd mai
hwn fyddai cyfarfod olaf y Pwyllgor Trwyddedu i Reolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd cyn iddo ymddeol, a diolchodd iddo ar ran y Pwyllgor am ei waith caled
dros y blynyddoedd a dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol. Diolchodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
i’r aelodau am eu cefnogaeth, gan ddymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 10.50am. |