Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Ellie Chard – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ellie Chard gysylltiad personol ag
eitem rhif 6 ar y rhaglen – Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat gan ei bod yn adnabod mam yr Ymgeisydd, a oedd yn gydnabod iddi ers
amser maith. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 329 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023. Materion yn Codi – Eitem rhif 5, Newidiadau Arfaethedig i Dabl Ffioedd a Thaliadau
Cerbydau Hacni – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Delyth Jones, bu i
swyddogion gadarnhau y byddai diweddariad ar y cynnydd gyda’r adolygiad o’r
gyfrifiannell ffioedd yn cael ei ddarparu o dan eitem rhif 5 ar y rhaglen -
Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2024 PDF 204 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad
(copi ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith
i’r dyfodol ddiwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) nodi
cynnwys yr adroddiad, a (b) chymeradwyo’r
rhaglen waith ddiweddaraf ar gyfer 2024 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr
Adroddiad. Cofnodion: Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir
ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu,
a rheoleiddio, rheoli a gorfodi trwyddedai yn effeithiol, yn ogystal ag
ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi. Roedd y rhaglen waith wedi'i drafftio gan
ystyried polisïau perthnasol a dyddiadau adolygu, ynghyd ag unrhyw newidiadau
deddfwriaethol posibl a gynigiwyd.
Cafodd nifer o eitemau ar y rhaglen waith eu haildrefnu a chafodd eitem
arall ei hychwanegu, a chafodd rhaglen waith ddiwygiedig ei chyflwyno i’w
hystyried. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau hynny a gafodd eu haildrefnu
/ a gafodd eu hychwanegu a oedd yn ymwneud â – ·
Thariffau Cerbydau Hacni – cafodd ei
aildrefnu o fis Mawrth i fis Mehefin er mwyn caniatáu mwy o amser i gael digon
o ddata gan y fasnach dacsis i ffurfio cyfrifiannell cywir ac effeithiol gydag
ymgysylltiad pellach wedi’i gynllunio ·
Adolygu Gofynion Trwyddedu Cerbydau
Hygyrch i Gadeiriau Olwyn – eitem ychwanegol ar gyfer mis Mehefin i adolygu’r
gofynion trwyddedu cyfredol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn o
ystyried y costau uwch sy’n gysylltiedig â’r cerbydau hynny ·
Adolygu Polisi Eithrio Platiau Cerbydau
Hurio Preifat – cafodd ei aildrefnu i fis Rhagfyr i gyd-fynd ag Adolygu Polisi
ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ·
Gweithdrefnau Arbennig (tyllu’r croen)
– cafodd ei aildrefnu o fis Mawrth i fis Mehefin gan nad oedd unrhyw
ddiweddariad pellach ar y ddeddfwriaeth newydd pan gafodd yr adroddiad ei
ysgrifennu. Ers hynny, mae sesiwn
hyfforddiant ar y cynllun trwyddedu, i’w ddarparu gan Sarah Jones o Lywodraeth
Cymru, wedi’i drefnu i’r holl aelodau ar 22 Mawrth 2024, yn dilyn cyhoeddi’r
rheoliadau drafft. Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf a’r diwygiadau arfaethedig i’r
rhaglen waith. Cafwyd trafodaeth ar yr adolygiad o’r gyfrifiannell ffioedd a gosod
tariffau cerbydau hacni a gafodd ei aildrefnu i fis Mehefin oherwydd data
annigonol ac roedd y Pwyllgor yn siomedig gyda’r diffyg ymateb gan y fasnach
dacsis. Roedd Aelodau yn awyddus i
ddeall y rhesymeg y tu ôl i’r diffyg ymgysylltiad, camau yn y dyfodol o fewn y
broses honno a dewisiadau ar gyfer y ffordd ymlaen. Mynegwyd pryderon na fyddai digon o ddata yn
cael ei ddarparu gan y fasnach i ffurfio’r gyfrifiannell tariffau ac na
fyddai’r Pwyllgor mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth lawn ar
y mater. Awgrymwyd y posibilrwydd o ddefnyddio
data mewnol a gynhelir gan y Tîm Trwyddedu a ffynonellau eraill a gyhoeddwyd yn
allanol. Bu i’r Cynghorydd Gwyneth
Ellis hefyd gwestiynu’r rhesymeg y tu ôl i’r Cyngor yn gosod y tariffau a’r
teilyngdod neu fel arall y fasnach dacsis yn gosod eu ffioedd a’u taliadau eu
hunain a gofynnwyd am drafodaeth gyda’r swyddogion ar y mater y tu allan i’r
cyfarfod. Ymatebodd y swyddogion i sylwadau’r Aelodau a chwestiynau pellach fel a
ganlyn – ·
ymhelaethu ar yr ymgysylltiad gyda’r
fasnach dacsis hyd yn hyn gan gynnwys Gweithgor yn cynnwys 2/3 o weithredwyr
mawr ac 1 perchennog/gyrrwr, ac anfon ffurflen casglu data syml dros e-bost at
bob un o’r 300 o yrwyr trwyddedig gydag oddeutu 100 o’r rheiny yn
berchnogion/gyrwyr a oedd wedi arwain at 2/3 ymateb ·
o ystyried y costau gwahanol sy’n
gysylltiedig â’r gweithredwyr mawr a pherchnogion/gyrwyr, roedd yn bwysig bod
digon o ddata yn cael ei sicrhau gan y ddwy ffynhonnell i roi syniad cywir o’r
costau a methodoleg gadarn ar gyfer y gyfrifiannell ffioedd · roedd yr ymgysylltu pellach a oedd wedi’i drefnu yn cynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y
dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a
ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i
diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 573053 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau wneud penderfyniad ynglŷn â
chais gan Ymgeisydd Rhif 573053 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan
Ymgeisydd Rhif 573053. Cofnodion: (i)
cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 573053; (ii)
penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r
cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos; (iii)
bod yr Ymgeisydd wedi cael yr euogfarnau
troseddol canlynol; Ionawr 1999 –
ymosodiad sy’n achosi gwir niwed corfforol; Awst 2012 – clwyfo/achosi niwed
corfforol difrifol; Tachwedd 2014 ac Ionawr 2015 – curo, cafodd pob un ei
ddatgan gan yr Ymgeisydd a’i nodi ar y Dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd; (iv)
gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r achos
yn cynnwys cyfweliad gyda’r Ymgeisydd a’i esboniad ynghylch amgylchiadau’r
euogfarnau a gwybodaeth gefndir, ynghyd â chyflwyniad ysgrifenedig am yr
Ymgeisydd (proffil personol) a darparu nifer o eirdaon cymeriad; (v)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr; a (vi)
gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod
i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny. Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a
chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi –
Trwyddedu yr adroddiad a ffeithiau’r achos. Roedd yr Ymgeisydd yn awyddus i dawelu
meddwl yr Aelodau gan ddweud fod ganddo gywilydd o’i orffennol a’i fod bellach
yn berson hollol wahanol a oedd wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr. Cyfeiriodd at yr amgylchiadau a oedd yn
ymwneud a’i euogfarnau a’r newidiadau cadarnhaol y mae wedi’i wneud i’w fywyd
ers hynny. Disgrifiodd ei hun fel
unigolyn gofalgar y gellir ymddiried ynddo, sydd bob amser yn barod i helpu
eraill, a chafodd y rhinweddau hynny eu cynnwys yn ei eirdaon cymeriad a’u
harddangos yn ei brofiadau gwaith blaenorol. Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau, bu
i’r Ymgeisydd ymhelaethu ar ei gyflogaeth flaenorol, yn benodol yn y sector
iechyd a gofal cymdeithasol, ac eglurodd ei fynediad at wasanaethau iechyd
meddwl a bod ganddo iechyd meddwl gwell ac agwedd gadarnhaol. Bu i’r Swyddog Gorfodi gadarnhau bod yr
euogfarnau wedi digwydd yn ystod cyfres benodol o amgylchiadau ac nad oedd
unrhyw risg wedi bod i’r cyhoedd. Wrth wneud datganiad terfynol,
cyfeiriodd yr Ymgeisydd at yr amgylchiadau ar adeg yr euogfarnau a mynegodd
edifeirwch, gan ailadrodd ei fod wedi cymryd rheolaeth dros ei fywyd a’i fod
wedi newid fel person, yn ofalgar a chymwynasgar. Roedd eisiau symud ymlaen ac roedd wedi cael
dau gynnig cyflogaeth os yw’n cael ei drwydded tacsi. I gloi, bu iddo ddiolch i’r aelodau am eu
hamser a’u hystyriaeth o’r cais. Gohiriwyd
y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a – PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd
hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 573053. Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad – Roedd yr
aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent
i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd, ei eirdaon
cymeriad a'i atebion i gwestiynau. Roedd
yr aelodau wedi trin natur agored a gonestrwydd yr Ymgeisydd yn y ffordd yr
oedd wedi delio a’r Pwyllgor yn ddifrifol iawn. Wrth ddod i benderfyniad, bu i’r
Pwyllgor ystyried y troseddau a oedd wedi’u nodi yn nhystysgrif Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd yr Ymgeisydd, Datganiad o Bolisi’r Cyngor yn ymwneud ag
addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat, yr amser sydd wedi mynd heibio ers cyflawni’r troseddau a’r
amser hyd nes y bydd yr euogfarnau wedi dod i ben at ddibenion y polisi hwnnw, a’r amgylchiadau fel y cafodd eu
hegluro gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â’r troseddau. Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ... view the full Cofnodion text for item 6. |