Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT I’W NODI Yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Hugh Irving,
gwnaeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Brian Jones, gadeirio’r cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorwyr Hugh Irving (Cadeirydd), Melvyn Mile a Pete
Prendergast Cofnodion: Y Cynghorwyr Hugh Irving (Cadeirydd), Melvyn Mile a Pete
Prendergast |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Huw Williams – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn eitem rhif 7 ar
y rhaglen gan fod yr ymgeisydd a/neu ei bartner wedi casglu ei fab o’r ysgol
rai blynyddoedd yn ôl. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 435 KB Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar
8 Rhagfyr 2021. PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir. [Fe wnaeth y Cynghorydd Joan
Butterfield ymatal rhag pleidleisio ar yr eitem hon gan nad oedd yn bresennol
yn y cyfarfod y sonnir amdano uchod.] |
|
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD CERBYDAU HACNI PDF 212 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod aelodau yn – (a) awdurdodi swyddogion i fwrw
ymlaen â’r ymgynghoriad ynghylch cynnig 2 ym mharagraff 4.2 yr adroddiad,
ynghyd â’r ychwanegiad ym mharagraff 4.3 yr adroddiad; (b) rhoi cyfarwyddyd i
swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu rhag
ofn y derbynnir unrhyw wrthwynebiad i’r ymgynghoriad; (c) rhoi cyfarwyddyd i
swyddogion gyhoeddi’r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiad i’r ymgynghoriad, a rhoi’r ffioedd ar waith ar ôl y cyfnod
statudol os na dderbynnir rhagor o wrthwynebiad wedi hynny, a (ch) rhoi cyfarwyddyd i swyddogion
baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os derbynnir
unrhyw wrthwynebiad ar ôl yr hysbysiad statudol. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i aelodau adolygu’r ffioedd
presennol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis).
Cafodd y tabl ffioedd ei ddiwygio’r tro diwethaf yn 2018. Yn dilyn cais gan nifer o yrwyr trwyddedig i
adolygu’r ffioedd presennol, roedd swyddogion wedi gwerthuso dau gynnig a
roddwyd gerbron gan yrwyr trwyddedig, ynghyd ag ychwanegiad i gynnig 2 a
amlinellwyd yn yr adroddiad ochr yn ochr â’r ffioedd presennol, er mwyn cymharu
a bod yn dryloyw. Cyfeiriwyd hefyd at
sefyllfa bresennol yr awdurdod yn “nhabl y gynghrair” o ffioedd tacsi, o’i
gymharu â’r cynnig a oedd yn gyfystyr â chynnydd o 7% yn y costau ar gyfer
taith dwy filltir o hyd. Roedd Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy wedi adolygu eu ffioedd yn ddiweddar ac roedden nhw’n
cyd-fynd yn fras â’r cynnig a roddwyd gerbron yr awdurdod. Rhoddwyd manylion am y broses o lunio
penderfyniadau, yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ar y ffioedd a ffefrir, a
byddai unrhyw wrthwynebiad a geir yn cael ei gyfeirio’n ôl at y Pwyllgor. Cafodd yr Aelodau drafodaeth am yr adroddiad a
mynegwyd cefnogaeth gyffredinol i gynnig 2 gyda’r ychwanegiad, gan gofio’r
costau cynyddol sy’n wynebu’r diwydiant tacsis o ran tanwydd a chynnal a chadw
cerbydau, a sicrhau bod cwmnïau tacsi’n dal i fod yn gost effeithiol ac yn
hyfyw yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Teimlwyd hefyd y byddai’r ychwanegiad yn denu digon o yrwyr er mwyn
cwrdd â’r galw gan gwsmeriaid dros y penwythnos. Wedi dweud hyn, roedd aelodau hefyd yn
cydnabod yr effaith ar ddefnyddwyr tacsi yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni ac
roedden nhw’n cefnogi’r ymgynghoriad ynghylch y cynnydd arfaethedig mewn
ffioedd er mwyn canfod barn y cyhoedd a’r diwydiant tacsis yn ehangach cyn y
gwneir penderfyniad terfynol. Nodwyd
mai’r tabl ffioedd a osodir gan y Cyngor yw’r ffioedd mwyaf a ganiateir a
gellir cytuno ar ffi ratach gyda’r cwsmer.
Yn olaf, soniwyd bod angen edrych ar ddefnyddio cerbydau trydan wrth
feddwl am y dyfodol, pan fydd yr isadeiledd yn ei le, ac roedd y Cadeirydd yn
hyderus y gwelir datblygiadau gyda’r uchelgais honno yn ystod tymor nesaf y
Cyngor. PENDERFYNWYD bod aelodau yn – (a) awdurdodi swyddogion i fwrw
ymlaen â’r ymgynghoriad ynghylch cynnig 2 ym mharagraff 4.2 yr adroddiad,
ynghyd â’r ychwanegiad ym mharagraff 4.3 yr adroddiad; (b) rhoi cyfarwyddyd i
swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu rhag
ofn y derbynnir unrhyw wrthwynebiad i’r ymgynghoriad; (c) rhoi cyfarwyddyd i
swyddogion gyhoeddi’r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiad i’r ymgynghoriad, a rhoi’r ffioedd ar waith ar ôl y cyfnod
statudol os na dderbynnir rhagor o wrthwynebiad wedi hynny, a (ch) rhoi cyfarwyddyd i swyddogion
baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os derbynnir
unrhyw wrthwynebiad ar ôl yr hysbysiad statudol. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2022 PDF 200 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (copi ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf ar yr eitemau a aildrefnwyd a’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid – (a) nodi cynnwys yr adroddiad, a (b) chymeradwyo fersiwn
ddiwygiedig y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 2022 fel y manylir yn yr
atodiad i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) am flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu
ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am eitemau a aildrefnwyd a’r rhaglen gwaith
i'r dyfodol ddiwygiedig a gynigiwyd ar gyfer 2022. Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu
yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr awdurdod mewn perthynas â’i
gyfrifoldebau ar gyfer y swyddogaeth drwyddedu a dulliau rheoleiddio, rheoli a
gorfodi deiliad trwydded mewn ffordd effeithiol, ynghyd ag ymroddiad yr
awdurdod i sicrhau cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi. Yn sgil blaenoriaethau annisgwyl, diwygiwyd y
rhaglen gwaith i’r dyfodol a gafodd ei chymeradwyo eisoes, cafodd eitemau eu
haildrefnu a chyflwynwyd rhaglen waith ddiwygiedig i’w hystyried. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r
aelodau ar yr eitemau hynny a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i gyfarfod y Pwyllgor
ym mis Mawrth, yn ymwneud â’r materion canlynol - ·
Adolygu Datganiad
o Bolisi Trwyddedu Cerbyd Hacni/Hurio Preifat ·
Adolygu
Datganiad o Egwyddorion - Deddf Gamblo 2005 ·
Adolygu’r
Polisi Masnachu ar y Stryd ·
Datganiad o
Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003 ·
Adolygu Ffioedd
a Thaliadau Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf a’r
newidiadau arfaethedig i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol a fydd yn cael ei
datblygu yn nhymor newydd y Cyngor. PENDERFYNWYD – (a) nodi cynnwys yr adroddiad, a (b) chymeradwyo’r rhaglen gwaith
i’r dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2022 fel y manylir amdani yn atodiad yr
adroddiad. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. [Ar y pwynt hwn (10.05 am) cymerodd y pwyllgor egwyl
fer.] Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 557452 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Chefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 557452. 10.15 am Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn amodol ar sicrhau bod pob gwiriad angenrheidiol
arall sy’n gysylltiedig â chais gyrrwr trwyddedig yn foddhaol, y dylid
caniatáu’r cais am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan
Ymgeisydd Rhif 557452. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynghylch – (i)
derbyn cais gan Ymgeisydd Rhif 557452
am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat; (ii)
bod swyddogion wedi atgyfeirio'r cais at
y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu yn ei gylch oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos; (iii)
cafodd trwydded yr Ymgeisydd i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ei dirymu ym Mai 2021 yn dilyn cyfres o
gollfarnau am oryrru (yn y cyfnod rhwng Chwefror 2018 a Medi 2020) ac o
ganlyniad cafodd ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o chwe mis yn sgil y drefn
adio pwyntiau cosb (TT99); (iv)
rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r
achos, yn cynnwys y cais ynghyd â’r adroddiad yn sôn am y gwaharddiad a
geirdaon ar sail cymeriad a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd ac a ddosbarthwyd fel
ychwanegiad i’r rhaglen; (v)
nad oedd swyddogion wedi cwblhau’r holl
wiriadau angenrheidiol sy’n gysylltiedig â chais y gyrrwr trwyddedig; (vi)
polisi’r Cyngor mewn perthynas ag
addasrwydd ymgeiswyr, a (vii)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i
fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau wedi hynny. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn
yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos. Esboniodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn y
collfarnau goryrru tra roedd yn gyrru beic modur ac, yn sgil y collfarnau
hynny, roedd wedi rhoi’r gorau i’r hobi hwnnw a gwerthu’r beic modur. Mynegodd yr Ymgeisydd edifeirwch am y
troseddau goryrru a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei ymddygiad pan yn gyrru.
Ychwanegodd yr Ymgeisydd fod ganddo drwydded cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat am bymtheg mlynedd cyn hynny heb unrhyw broblem a’i fod wedi rhedeg ei
fusnes ei hun dros yr wyth mlynedd diwethaf heb unrhyw broblem. Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, cadarnhaodd
yr Ymgeisydd fod pob trosedd goryrru wedi digwydd pan oedd yn gyrru beic modur
ac nad oedd unrhyw drosedd goryrru wedi digwydd pan oedd yn gyrru tacsi, gan
ychwanegu bod ei ymddygiad wrth yrru tacsi wedi bod yn rhagorol bob amser. Yn ei ddatganiad terfynol, ymddiheurodd yr
Ymgeisydd am ei weithredoedd a diolchodd i’r aelodau am ystyried ei gais. Oedodd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a - PENDERFYNWYD, yn amodol ar sicrhau bod pob gwiriad angenrheidiol
arall sy’n gysylltiedig â chais gyrrwr trwyddedig yn foddhaol, y dylid
caniatáu’r cais am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan
Ymgeisydd Rhif 557452. Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau
penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â
chyflwyniadau’r Ymgeisydd, atebion i gwestiynau, a’r geirdaon ar sail cymeriad
a ddarparwyd. Roedd yr aelodau hefyd
wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch
addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded ym myd masnach cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat. Yn benodol, fe ystyriodd y Pwyllgor adran 4.22 y polisi, lle nodir os bydd gan berson fwy nag un gollfarn, y byddai hynny’n codi cwestiynau difrifol am eu diogelwch a pha mor addas ydyn nhw, ac unwaith y gwelir patrwm neu duedd i aildroseddu, ni chaiff trwydded ei rhoi na’i hadnewyddu. Yn yr achos hwn, mae’r patrwm o ymddygiad troseddol yn ymwneud â chyfres o gollfarnau goryrru a gafwyd gan yr Ymgeisydd ac a arweiniodd at waharddiad gyrru am chwe mis o dan y drefn adio pwyntiau cosb. O ran hynny, derbyniodd y Pwyllgor esboniad yr Ymgeisydd ei fod wedi cael y collfarnau goryrru wrth yrru beic modur yn unig, drwy weithgareddau hamdden, ac nid mewn perthynas â busnes yr Ymgeisydd nac mewn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 554278 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Chefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278. 11.00 am Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid
gohirio ystyried y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278 tan y cyfarfod nesaf a drefnir gan y Pwyllgor
Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn am benderfyniad ynghylch cais i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278. Rhoddwyd gwybod i’r swyddogion y bore hwnnw
gan gynrychiolydd yr Ymgeisydd fod yr Ymgeisydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty ac
felly na allai fynychu’r cyfarfod. Nid
oedd yn eglur a oedd yr Ymgeisydd yn dymuno parhau â’i gais neu beidio. O ganlyniad, gofynnodd cynrychiolydd yr
Ymgeisydd a ellid gohirio’r achos er mwyn canfod bwriad yr Ymgeisydd mewn
perthynas â’r cais. Amlinellodd y Cynghorwr Cyfreithiol y
dewisiadau a oedd ar gael i’r Pwyllgor sef naill ai gohirio’r mater at amser
arall, neu fwrw ymlaen i benderfynu ynghylch y cais yn absenoldeb yr
Ymgeisydd. Gan gofio’r amgylchiadau yn
yr achos hwn, ac er tegwch, rhoddwyd cyngor cyfreithiol y dylai’r aelodau
ohirio’r penderfyniad. Ar ôl ystyried y cais i ohirio, ynghyd
â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd, ac ar ôl cynnal pleidlais, wedi hynny - PENDERFYNWYD y dylid
gohirio ystyried y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278 tan y cyfarfod nesaf a drefnir gan y Pwyllgor
Trwyddedu. Cyn cloi’r cyfarfod, ac yn absenoldeb Cadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu, y Cynghorydd Hugh Irving, ac ar ei ran, diolchodd yr
Is-gadeirydd, y Cynghorydd Brian Jones, i’r aelodau am eu gwaith caled a’u
gwasanaeth ar y Pwyllgor. Diolchwyd
hefyd i’r swyddogion trwyddedu a’r swyddogion cymorth. Cyfeiriwyd yn arbennig at Gynghorwr
Cyfreithiol y Pwyllgor a oedd yn mynychu ei gyfarfod olaf o’r Pwyllgor
Trwyddedu, gan ddymuno’n dda iawn iddo yn y dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 am. |