Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Joan Butterfield Cofnodion: Y Cynghorydd Joan Butterfield |
|
DATGANIADAU CYSYLLTIAD PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag
eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag
eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag
eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag
eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 382 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 a’u cadarnhau
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar
15 Medi 2021. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
15 Medi 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2022 PDF 214 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad
(copi wedi’i amgáu), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r wybodaeth
ddiweddaraf ar eitemau a aildrefnwyd a’r rhaglen gwaith i'r dyfodol
ddiwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
– (a) nodi cynnwys yr
adroddiad, a (b) cymeradwyo'r rhaglen gwaith
i’r dyfodol diwygiedig ar gyfer 2022 fel y manylir yn atodiad yr adroddiad i’w
gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) am flaenoriaethau’r Adain
Drwyddedu ynghyd â diweddariad am eitemau oedd wedi’u haildrefnu a’r Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2022. Roedd blaenoriaethau'r Adain Drwyddedu
yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddwyd ar yr awdurdod mewn cysylltiad â’i
gyfrifoldebau ar gyfer swyddogaeth a rheoliadau, rheolaeth, a gorfodaeth
effeithiol o drwyddedai ynghyd ag ymrwymiad yr awdurdod i gymunedau mwy diogel
a datblygiad yr economi. Yn anffodus oherwydd blaenoriaethau nad oedd modd eu
rhagweld, mae’r rhaglen waith i’r dyfodol a gymeradwywyd wedi cael ei diwygio
gydag eitemau wedi’u haildrefnu a chyflwynwyd rhaglen waith ddiwygiedig i’w
hystyried. Rhoddodd Swyddogion ddiweddariad am yr
eitemau a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i gyfarfod y pwyllgor ym mis Rhagfyr a
gafodd eu trafod gydag aelodau, sef - ·
Adolygu
Datganiad o Bolisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Roedd y ddogfen ymgynghori ar
Ddatganiad Polisi Trwyddedu arfaethedig ar gyfer busnesau tacsis yn agos at ei
chwblhau ac roedd swyddogion yn gweithio gyda Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd y
Cyngor i gyhoeddi’r ymgynghoriad drwy borth Sgwrs y Sir. ·
Adolygu
Datganiad o Egwyddorion - Deddf Gamblo 2005 Roedd adolygiad o Ddatganiad o
Egwyddorion Deddf Gamblo 2005 yn cael ei gynnal ar draws chwe Awdurdod Lleol
Gogledd Cymru ac ar ôl ei gwblhau, bydd swyddogion yn cyflwyno cynigion i’r
Pwyllgor Trwyddedu. ·
Adolygu’r
Polisi Masnachu ar y Stryd Roedd y Pwyllgor Trwyddedu eisoes wedi
ystyried a chymeradwyo polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad a sefydlu
Is-grŵp (gan gynnwys y Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd ynghyd â
chynrychiolydd o’r Grŵp Ardal Aelodau) i ystyried y polisi ymhellach.
Roedd paratoadau yn parhau gyda Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd y Cyngor gyda’r
bwriad o gyhoeddi’r ymgynghoriad drwy borth Sgwrs y Sir ar yr adeg briodol. Gan
ymateb i gwestiynau, fe soniodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd am gyfarfod
yr Is-grŵp ar 24 Tachwedd 2021 ynglŷn â’r gwaith pellach oedd ei
angen i geisio barn Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned a Grwpiau Aelodau Ardal ynglŷn
â manylion pob ardal unigol er mwyn teilwra’r polisi fel y bo’n briodol, gan
ystyried y byddent mewn sefyllfa well i gynghori ar eu hardaloedd penodol. Roedd y materion i gael eu hystyried yn
ymwneud yn bennaf ynglŷn â lle y dylai masnachu ar y stryd gael ei gynnal,
os o gwbl. Roedd templed wrthi’n cael ei baratoi i’w ddosbarthu. ·
Datganiad o
Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003 Yn eu cyfarfod diwethaf, fe awdurdododd
y Pwyllgor Trwyddedu swyddogion i ymgynghori ar Ddatganiad o Bolisi diwygiedig.
Fodd bynnag, roedd hi wedi dod i’r amlwg ers hynny nad oedd fersiwn bresennol y
polisi yn cyrraedd gofynion hygyrchedd a byddai angen ei addasu’n sylweddol. O
ganlyniad, roedd swyddogion eisiau defnyddio’r templed a luniwyd gan awdurdodau
Gogledd Cymru gan nad oedd yna wahaniaethau mawr o ran y cynnwys, dim ond mewn
ymddangosiad a fformat. Byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i’r cyfarfod mewn
Pwyllgor yn y dyfodol ar ôl yr ymgynghoriad. ·
Adolygu Ffioedd
a Thaliadau Cafodd y ffioedd a thaliadau ar gyfer
gweinyddu trwydded tacsi eu hadolygu ddiwethaf yn 2018 ac er y dylid eu
hadolygu’n rheolaidd, bu’n rhaid gohirio'r gwaith hwnnw oherwydd pandemig
Covid-19. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i weithredu system ymgeisio ar-lein a
fyddai’n gwneud newid mawr i’r broses ymgeisio. Yn ogystal roedd swyddogion
wedi derbyn ceisiadau i adolygu taliadau tariff cerbydau hacni a gafodd eu
diweddaru ddiwethaf yn 2018. O
ganlyniad, cynigiodd swyddogion i fwrw ymlaen â’r ddau adolygiad ar y cyd ac
ymgynghori gyda thrwyddedai presennol gyda’r bwriad o adrodd yn ôl i’r Pwyllgor
ym mis Mawrth 2022. Nododd yr Aelodau y diweddariad a chymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg
a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 554278 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd bod y gwaith o ystyried y cais ar gyfer trwydded i
yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278 yn cael
ei ohirio tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu sydd wedi’i drefnu ar gyfer
ar 2 Mawrth 2022. Cofnodion: [Ar ôl datgan cysylltiad personol a
oedd yn rhagfarnu, gadawodd y Cynghorydd Brian Jones y cyfarfod tra oedd yr
eitem honno’n cael ei thrafod.] Roedd adroddiad cyfrinachol eisoes
wedi’i gyflwyno gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278. Nid oedd yr
ymgeisydd na’i gynrychiolydd enwebedig yn bresennol. Dywedodd swyddogion bod yr ymgeisydd
a’i gynrychiolydd enwebedig wedi gofyn am ohirio’r achos gan nad oedd yr
ymgeisydd wedi gallu mynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais oherwydd ymrwymiadau
gwaith oedd yn gwrthdaro. Dywedodd y Cynghorwr Cyfreithiol beth
oedd opsiynau'r Pwyllgor i naill ai cytuno i’r cais a gohirio'r mater tan
rhywbryd eto, neu fwrw ymlaen a phenderfynu ar y cais yn absenoldeb yr
ymgeisydd. Gofynnwyd i’r Pwyllgor fod yn ystyriol o roi cyfle i’r ymgeisydd
gyflwyno'i achos er mwyn sicrhau proses a phenderfyniad teg, ac ystyried petai
hyn yn cael ei benderfynu yn ei absenoldeb, ac os na fyddai’r canlyniad yn mynd
o blaid yr ymgeisydd, roedd yna berygl o gostau gyda honiad posibl bod yr
awdurdod trwyddedu wedi bod yn afresymol dan yr amgylchiadau. O ganlyniad, y
cyngor cyfreithiol cryf oedd y dylai aelodau ystyried gohirio'r achos. Ystyriodd y Pwyllgor y cais i ohirio
ynghyd â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd. Penderfynodd y Pwyllgor i ohirio'r
achos ac yna fe wnaethant ystyried a ddylid galw cyfarfod arbennig i benderfynu
ar y cais. Ar ôl trafodaeth fer,
cytunwyd y dylid gohirio dod i benderfyniad ar y cais tan bwyllgor nesaf y
cyfarfod oedd wedi cael ei drefnu ar 2 Mawrth 2022. Penderfynwyd bod y
gwaith o ystyried y cais ar gyfer trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278 yn cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y
Pwyllgor Trwyddedu sydd wedi’i drefnu ar gyfer ar 2 Mawrth 2022. Daeth y cyfarfod i ben am 10.00am. |