Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Arwel Roberts Cofnodion: Y Cynghorydd
Arwel Roberts |
|
DATGANIAD CYSYLLTIAD PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 324 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
ADOLYGIAD - DEDDF TRWYDDEDU 2003 – DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU PDF 194 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad aelodau o Ddatganiad Polisi
Trwyddedu'r Cyngor cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a’i gyflwyno i’r Cyngor
llawn yn dilyn hynny. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn amodol ar
sylwadau’r aelodau, bod y Pwyllgor yn rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau
ymgynghori, ac - (a) os na dderbynnir
sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad, bod datganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu yn
cael ei gyflwyno’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo, neu (b) os y derbynnir
sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad bod y swyddogion yn adrodd yn ôl yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2021. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r aelodau adolygu Datganiad Polisi
Trwyddedu’r Cyngor cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a’i gyflwyno i’r Cyngor
llawn yn dilyn hynny. Roedd y polisi yn
sefydlu fframwaith lleol ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â
cheisiadau ar gyfer caniatâd neu amrywiadau i amodau a thelerau presennol ac
roedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac adolygu’r polisi o leiaf bob pum
mlynedd. O ystyried y manteision o bolisi cyson ar draws Gogledd
Cymru, roedd y mwyafrif o’r newidiadau arfaethedig wedi cael eu drafftio gan
chwe awdurdod trwyddedu Gogledd Cymru, ac wedi cael eu hamlygu yn goch i'r
aelodau eu hystyried. Nid oedd
newidiadau sylweddol wedi cael eu cynnig oni bai am gynnwys newidiadau
deddfwriaethol, cyfrifoldebau’r Bwrdd Iechyd, cryfhau materion yn ymwneud â
chyffuriau a chynnwys mentrau lleol.
Roedd y broses ymgynghori yn cynnwys hysbysiad cyhoeddus o’r polisi
drafft ynghyd â chysylltu ag ymgyngoreion statudol a’r holl
ddeiliaid trwydded. Bu i’r swyddogion argymell bod
unrhyw sylwadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor ond os na dderbynnir
sylwadau, dylid cyflwyno adroddiad i’r Cyngor llawn i gymeradwyo’r polisi
drafft. Ystyriodd y Pwyllgor y Datganiad Polisi Trwyddedu drafft
a thrafod gyda swyddogion ynghylch gofynion amrywiol a chamau rhesymol yr oedd
yr awdurdod lleol yn eu disgwyl gan eiddo trwyddedig. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau’r aelodau
a sylwadau ynglŷn ag agweddau amrywiol o'r polisi ac fe wnaethant ddarparu
eglurder mewn sawl maes. Roedd prif
feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol - ·
cadarnhaodd y swyddogion bod gofyniad deddfwriaethol ar bob eiddo â thrwydded i gyflenwi alcohol,
i ddarparu dŵr yfed am ddim ar gais ·
roedd yr aelodau wedi cwestiynu’r cyfeiriad arfaethedig at y ddarpariaeth o
ystafell cymorth cyntaf a chyfarpar (yn cynnwys diffibriliwr mewn lleoliadau
mwy) ac a oedd angen ei gynnwys yn y polisi o ystyried bod hyn yn gyfrifoldeb
ar yr eiddo trwyddedig ac nid yr awdurdod trwyddedu. Cadarnhaodd y swyddogion y
byddai unrhyw ofyniad i ddarparu cyfleusterau cymorth cyntaf yn cael ei
benderfynu o fewn yr asesiadau risg a gynhaliwyd gan yr eiddo trwyddedig a
hefyd yn ystyried y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Fodd bynnag, roedd y briodol bod y polisi’n
ystyried rheoli'r eiddo trwyddedig yn ei gyfanrwydd ac i annog cynnal pob cam
rhesymol. Nid oedd amodau penodol ar
gyfer eiddo trwyddedig wedi cael eu cynnig o ran darpariaethau cymorth cyntaf o
ystyried mai cyfrifoldeb yr eiddo trwyddedig unigol oedd penderfynu beth oedd
yn addas iddyn nhw ·
eglurwyd y byddai yfed o boteli yn cael ei ganiatáu oni bai bod amod ar y
drwydded eiddo unigol yn gwahardd hynny a chytunodd swyddogion i ailedrych ar y
geiriad yn y polisi i sicrhau eglurder o ran hynny ·
byddai rheolyddion ynglŷn ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus / ar y
stryd yn destun Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ·
roedd atodiad 6 yn y polisi yn cyfeirio at amodau gorfodol nad oedd modd eu
newid ·
o ran disgwyliadau hyfforddiant staff, roedd pob eiddo trwyddedig yn
gyfrifol am hyfforddiant staff a byddai pob eiddo yn meddu ar ei raglen
hyfforddiant ei hun ·
er nad oedd diffiniad o ‘leoliadau mwy’, roedd disgwyl y byddai unrhyw
fesurau angenrheidiol ychwanegol, o ystyried maint y lleoliad, yn cael eu
penderfynu yn asesiad risg yr eiddo unigol ·
wrth ymateb i sylwadau ynghylch y diffyg cyfeiriad at reoliadau rheoli
adeiladu yn adran 5 y polisi, dywedodd y swyddogion fod y Gwasanaethau
Cynllunio yn ymgyngoreion statudol ac roedd ganddynt gyfle i roi mewnbwn ar yr
adolygiad polisi; cytunodd y swyddogion i ofyn am farn Rheoli Adeiladu yn
benodol o ran hynny. · cyfeiriodd y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2021/22 PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w
chymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn
atodiad i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar raglen
gwaith i’r dyfodol arfaethedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2021/22. Yn y cyfarfod diwethaf, hysbyswyd yr aelodau ynghylch yr
anawsterau o ran cynnal rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor dros y
deuddeg mis diwethaf yn sgil pandemig y coronafeirws a chytunwyd bod y
swyddogion yn ailddrafftio rhaglen gwaith i'r dyfodol i’w chyflwyno yn y
cyfarfod nesaf i’w chymeradwyo. Wrth ddrafftio’r rhaglen gwaith i’r dyfodol, roedd y
swyddogion wedi ystyried polisïau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor, ynghyd â
dyddiadau adolygu’r polisïau hynny ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a gynigir gan
lywodraeth ganolog. Dywedodd y
swyddogion bod dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol wedi cael eu cadarnhau a byddent
yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn
atodiad i’r adroddiad. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitem ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei
datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 yn Rhan 4 o Atodlen 12A y
Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 553562
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i
yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) wedi - (i)
i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif 553562 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno
oherwydd amgylchiadau penodol yr achos; (iii)
i’r Ymgeisydd apelio i’r Llys Ynadon yn erbyn dirymiad ei drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ym mis Gorffennaf 2019 oherwydd trosedd
glwyfol honedig. Cafodd yr achos ei gau gan Lys y Goron ym mis Hydref 2019 ac
ni chafodd yr Ymgeisydd ei farnu’n euog o unrhyw drosedd; (iv)
i’r Llys Ynadon gyflwyno gorchymyn cydsynio yn cytuno y dylid rhoi’r apêl
o’r neilltu a chaniatáu i’r Ymgeisydd wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am
drwydded newydd lle byddai'r holl faterion yn cael eu hystyried o'r newydd; (v)
i wybodaeth bellach ynglŷn â’r cais yn
cynnwys hanes yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig a’r
holl wiriadau arferol eraill gael eu cwblhau i safon foddhaol ynghyd â’r
geirdaon a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd; (vi)
ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm ag addasrwydd ymgeiswyr, ac (vii)
i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd
yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd
y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos. Eglurodd
yr Ymgeisydd y digwyddiadau’n gysylltiedig â’r drosedd honedig, a oedd yn ei
gwadu’n bendant, ynghyd â’r prosesau cyfreithiol canlynol a’r effaith niweidiol
ar ei fywyd personol. Roedd yr Ymgeisydd yn awyddus i
adennill y drwydded a dychwelyd i’r gwaith yr oedd yn ei garu ac i ddarparu ar
gyfer ei deulu. Atebodd yr Ymgeisydd y cwestiynau a
godwyd gan aelodau gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, gan
gadarnhau nad oedd wedi bod wrth ei waith pan ddigwyddodd hyn, nid oedd wedi
bod yn rhan o unrhyw ddigwyddiad o’r fath yn y gorffennol ac nid oedd ganddo
unrhyw broblemau rheoli dicter. Pwysleisiodd yr Ymgeisydd ei
edifeirwch ynghylch y digwyddiad a darparodd sicrwydd ei fod wastad wedi bod,
ac yn parhau i fod, yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded. Yn ei ddatganiad terfynol, bu i’r Ymgeisydd annog yr
aelodau i gymeradwyo ei gais er mwyn iddo allu gweithio a darparu ar gyfer ei
deulu. Oedwyd
y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a - PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562. Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad – Roedd
yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr
oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd a'i
atebion i gwestiynau. Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried
yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch addasrwydd
ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat. Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor adran 4.12 o’r polisi a oedd yn nodi y byddai materion, nad oeddent wedi arwain at gollfarn droseddol, yn cael eu hystyried ac roedd unrhyw gyfeiriad mewn perthynas â “chollfarn” yn y polisi yn cynnwys materion yr oedd yr un fath ag ymddygiad troseddol ond nid oeddent wedi arwain at gollfarn, ac adran 4.31 a oedd yn nodi, o ran troseddau’n cynnwys / yn ymwneud â thrais, na fyddai trwydded yn cael ei chaniatáu nes yr oedd o leiaf 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd. Casglodd y Pwyllgor nad oedd yr Ymgeisydd wedi cael ei farnu’n euog o unrhyw drosedd (yn wir ystyriwyd bod achos troseddol Llys y Goron ar y drosedd o glwyfo wedi ... view the full Cofnodion text for item 7. |