Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorwyr Gwyneth Ellis, Hugh Irving a Paul Keddie. Cofnodion: Y Cynghorwyr Gwyneth Ellis, Hugh Irving a Paul Keddie. |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4
Rhagfyr 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2024. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4
Rhagfyr 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2025 Ystyried rhaglen
waith y Pwyllgor Trwyddedu (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo’r rhaglen waith. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a
Datblygu Economaidd raglen waith y Pwyllgor i’w hystyried. Roedd y rhaglen waith yn nodi blaenoriaethau’r
Adain Drwyddedu ac ni fu unrhyw newid ers i’r Pwyllgor gymeradwyo’r rhaglen yn
y cyfarfod diwethaf. Atebodd y Rheolwr gwestiynau a chadarnhaodd bod y
Swyddog Arweiniol – Trwyddedu wedi ymateb i’r cais a rannwyd â’r aelodau i
adolygu’r cyfyngiad oedran ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a oedd
wedi’i gynnwys yn y rhaglen waith ym mis Mehefin. Eglurwyd eto y gellid cyfeirio unrhyw
geisiadau a dderbynnid nad oeddent yn cydymffurfio â’r polisi presennol i’r
Pwyllgor i benderfynu a fyddai’n briodol gwyro o’r polisi. Cadarnhawyd strwythur rheoli’r Adain
Drwyddedu hefyd. Wrth ateb cwestiynau
ynglŷn â phwerau a chyfrifoldebau’r Pwyllgor Trwyddedu ynghyd â’i gylch
gwaith, rhoddwyd sicrwydd nad oedd dim wedi newid o ran hynny ac nad oedd dim
o’r pwerau wedi’u gwanhau neu’u dirprwyo i swyddogion. PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo’r rhaglen waith. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer
yr eitemau canlynol dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y
byddai’n debygol y datgelid gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym
mharagraffau 12 a 13 yn Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED CERBYD HACNI Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i
adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD gwrthod y
cais i adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni. Cofnodion: (i)
cais a dderbyniwyd i adnewyddu Trwydded Cerbyd
Hacni; (ii)
y ffaith bod y cerbyd wedi’i drwyddedu
fel Cerbyd Hacni ers ei gofrestru am y tro cyntaf yn 2008 a bod y drwydded
wedi’i hadnewyddu bob blwyddyn ers hynny, ac y byddai’r drwydded gyfredol yn
dod i ben ar 31 Mawrth 2025 pan fyddai’r cerbyd yn 16 o flynyddoedd oed; (iii)
y ffaith na fedrau swyddogion
gymeradwyo’r cais gan nad oedd y cerbyd mwyach yn cydymffurfio â pholisi
presennol y Cyngor oherwydd y cyfyngiad ar oedran cerbydau y gellir eu
hadnewyddu (hyd at 12 o flynyddoedd oed yn unig) a bod y cyfnod gras neu’r
‘hawliau taid’ wedi dod i ben ar 30 Mehefin 2024; (iv)
gwybodaeth gefndirol a dogfennau
cysylltiedig a ddarparwyd, gan gynnwys datganiad ategol yr Ymgeisydd ynghyd â
chofnodion cynnal a chadw/cydymffurfiaeth y cerbyd, geirda gan y garej a phrawf
allyriadau; a (v)
y ffaith y gwahoddwyd yr Ymgeisydd i’r cyfarfod i
siarad o blaid y cais i adnewyddu’r drwydded. Roedd yr
ymgeisydd yn bresennol er mwyn siarad o blaid ei gais. Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodi (Trwyddedu) yr adroddiad a gofynnwyd i’r Pwyllgor Trwyddedu
ystyried a fyddai’n briodol gwyro o bolisi’r Cyngor ynghylch oedrannau cerbydau
a chymeradwyo’r cais i adnewyddu’r drwydded. Dywedodd
yr Ymgeisydd nad oedd ganddo ddim i’w ychwanegu at yr hyn a nodwyd yn yr
adroddiad (a oedd yn cynnwys ei ddatganiadau ategol a dogfennau ar gyfer y
cerbyd). Atebodd
yr Ymgeisydd gwestiynau ynglŷn â pham nad oedd eisoes wedi cymryd camau i
sicrhau cydymffurfiaeth â’r polisi ynghylch oedran cerbydau, gan grybwyll ei
oedran a’i amgylchiadau personol a sôn na fyddai’n gweddu iddo weithio i
weithredwr tacsi arall. Eglurodd hefyd
fod cofnodion trin a chynnal a chadw’r cerbyd yn anghyflawn gan mai ef a
gyflawnodd lawer o’r gwaith hwnnw ei hun.
Gofynnwyd cwestiwn hefyd i’r Swyddog Gorfodi, a gytunodd â datganiad
blaenorol yr Ymgeisydd fod yno brinder tacsis mewn safleoedd pwrpasol, yn
enwedig yn y Rhyl, a llai o dacsis yn cludo teithwyr. Ychwanegodd yr Ymgeisydd fod llawer o
weithredwyr yn canolbwyntio ar waith contract gydag ysgolion ac nad oedd ond
ychydig o weithredwyr a wnâi waith mewn safleoedd tacsis, a oedd yn farchnad
arbenigol. Yn ei
ddatganiad i gloi, soniodd yr Ymgeisydd y trwyddedwyd cerbyd arall yn agos i’r
un oedran a’i gerbyd ef a bod yno gerbydau trwyddedig hŷn na hynny mewn
ardaloedd eraill. Soniodd hefyd am ei
ymddygiad da ers blynyddoedd lawer fel gyrrwr trwyddedig, a gofynnodd i’r
Pwyllgor fod yn bleidiol i’w gais.
Tynnodd Aelodau sylw at y ffaith bod y cerbyd y cyfeiriai’r Ymgeisydd
ato’n un o fath arbennig nad oedd yn berthnasol yn yr achos hwn, a derbyniwyd
fod awdurdodau lleol eraill yn arfer gwahanol bolisïau. Ychwanegodd y Swyddog Gorfodi bod y Cyngor yn
gweithredu polisi pendant a orfodid yn llym, a bod hynny’n effeithiol wrth
annog cerbydau newydd a oedd yn addas ar gyfer y ffordd ac yn ddiogel i’w
defnyddio. Cadarnhawyd bod yr Ymgeisydd
wedi cael yr holl wybodaeth am ofynion y polisi. Wedi torri’r
cyfarfod i’r Pwyllgor ystyried y cais am adnewyddiad – PENDERFYNWYD gwrthod y cais i adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni. Dyma oedd
rhesymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad – Roedd y Pwyllgor wedi pwyso a mesur yn ofalus yr hyn a gyflwynodd yr Ymgeisydd ynghyd â’r wybodaeth a ddarparodd y swyddogion cyn y cyfarfod, a diolchodd yr aelodau i bawb am eu cymorth. Wrth gyhoeddi ei benderfyniad, tynnodd y Pwyllgor sylw at wasanaeth clodwiw’r Ymgeisydd am fwy na deg ar hugain o ... view the full Cofnodion text for item 6. |