Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 308 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11
Medi 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 11 Medi 2024. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2025 PDF 392 KB Ystyried rhaglen
waith y Pwyllgor Trwyddedu (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd (PPREDM) raglen waith y
Pwyllgor i’w hystyried. Mae’r rhaglen waith yn cyfeirio at flaenoriaethau’r
Pwyllgor Trwyddedu, polisïau perthnasol a dyddiadau adolygu ynghyd ag unrhyw
newidiadau deddfwriaethol. Tynnwyd
sylw’r aelodau at yr eitem sefydlog ar gyfer pob cyfarfod ar Weithdrefnau
Arbennig a oedd yn dilyn cyflwyniad y cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig
gorfodol newydd ddaeth i rym ar 29 Tachwedd 2024. Tra bod hyfforddiant cychwynnol wedi cael ei
ddarparu i aelodau yn y cyswllt hynny byddai hyfforddiant pellach yn cael ei
ddarparu yn y dyfodol agos cyn i unrhyw eitemau gweithdrefnau arbennig gael eu
cyflwyno i’r Pwyllgor. Ymatebodd y PPREDM i gwestiynau aelodau yn
cadarnhau fod Gweithdrefnau Arbennig wedi cynnwys gweithdrefnau fel tatŵio
a thyllu’r corff a bod angen gweld trwydded yr eiddo a’r ymarferwyr. O ran adnoddau roedd pwysau gweinyddol
cychwynnol i drosglwyddo ymarferwyr cofrestredig presennol i’r cynllun newydd
ond roedden nhw eisoes wedi bod yn destun arolwg ac roedd adnoddau ar gael i
barhau gyda’r gwaith wrth symud ymlaen i fusnes fel arfer. Cadarnhawyd hefyd fod y rhan fwyaf o
swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth newydd wedi cael eu dirprwyo i swyddogion
ac mai dim ond mewn achosion penodol fel gwrthod trwydded posib neu ddiddymu
trwydded y dylai’r mater gael ei gyflwyno o flaen y Pwyllgor cyn gwneud
penderfyniad arno. Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau fod yr
hyfforddiant trwyddedu mewn perthynas â phwyllgorau, trwyddedau tacsis a’r
Ddeddf Drwyddedu 2003 wedi cael ei drefnu ar gyfer y prynhawn hwnnw. PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo’r rhaglen waith. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer
yr eitemau canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972,
ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i
diffinnir ym mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 578447 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau wneud penderfyniad ynglŷn â
chais gan Ymgeisydd Rhif 578447 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod Ymgeisydd Rhif 578447 yn unigolyn cymwys ac addas i
feddu at Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat a chymeradwyo’r
cais ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn derbyn Tystysgrif GDG gyfredol a
boddhaol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol – (i)
cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 578447; (ii)
penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r
cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos; (iii)
mae’r Ymgeisydd wedi derbyn euogfarn ym
mis Hydref 2019 ar gyfer ymosodiad cyffredin a heb ddatgan trosedd yrru fechan
ar ei gais (bod yna ddim pwyntiau cosb ar ei drwydded yrru gan y DVLA); (iv)
darparwyd gwybodaeth gefndir a dogfennau
cysylltiedig yn ymwneud â’r achos yn cynnwys manylion yr euogfarnau a gafwyd ac
eglurhad yr Ymgeisydd o’r digwyddiadau, datganiad personol, a geirda o ran
cymeriad gan ei gyflogwr presennol; (v)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a (vi)
gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r
cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny. Roedd yr
ymgeisydd yn bresennol er mwyn cefnogi ei gais. Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos. Cynghorwyd
Aelodau o’r gofyniad i’r Ymgeisydd gyflwyno Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd diweddar (o ystyried fod y ddogfen wreiddiol yn fwy na thri mis oed) a
disgwylir y dystysgrif yn fuan. Mae’r
Ymgeisydd wedi sicrhau fod yna ddim newidiadau i’r Dystysgrif y Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd. Mae’r
Ymgeisydd wedi egluro’r amgylchiadau ynghylch yr euogfarn, heb unrhyw drais neu
fwriad, ac wedi mynegi edifeirwch am y digwyddiad. Mynegodd ei fod yn ddyn teulu a ddim o natur
dreisgar. Gofynnwyd
am eglurhad ar y dolenni polisi i droseddau yn cynnwys trais yn yr achos hwn ac
fe eglurodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu y diffiniad cyfreithiol a graddfa
symudol gydag ymosodiad cyffredinol ar y lefel isaf heb achosi unrhyw anafiadau
yn yr achos penodol hwn. Darparodd
polisi’r Cyngor grynodeb cyffredinol o droseddau o’r fath ac roedd gwaith yn
cael ei wneud yn genedlaethol er mwyn adlewyrchu’r natur fanwl o droseddau o’r
fath mewn polisi’r dyfodol wrth symud ymlaen.
Wrth ymateb i gwestiynau fe eglurodd yr Ymgeisydd sut yr oedd y llysoedd
wedi cael gwared ar y drosedd a chynghorodd nad oedd wedi cael unrhyw
euogfarnau eraill cyn nac ar ôl y drosedd.
Cadarnhaodd ei alwedigaeth bresennol a oedd yn cynnwys gyrru a dyma’r
rheswm y tu ôl i’w gais a’i fwriad am gyflogaeth yn y dyfodol. Darparodd eglurhad ynghylch y drosedd yrru
fychan a’i fethiant i’w ddatgelu ar y cais. O ran datganiad
terfynol yr Ymgeisydd fe gadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu. Gohiriwyd
y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a – PENDERFYNWYD bod
Ymgeisydd Rhif 578447 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu at Drwydded Yrru
Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat a chymeradwyo’r cais ar yr amod bod yr
awdurdod lleol yn derbyn Tystysgrif GDG gyfredol a boddhaol. [Ni
bleidleisiodd y Cynghorydd Paul Keddie ar y mater am nad oedd yn bresennol ar
gyfer yr holl eitem.] Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad – Roedd yr
aelodau wedi ystyried y dystiolaeth yn ofalus wrth wneud eu penderfyniad. Ystyriodd
y Pwyllgor bod yr Ymgeisydd wedi ei gael yn euog am drosedd yn ymwneud â
thrais, a rhoddwyd cryn bwysau i’r euogfarn honno gan mai nod cyffredinol yr
awdurdod trwyddedu wrth wneud ei waith yn ymwneud â thrwyddedu gyrwyr oedd
gwarchod y cyhoedd. Gwelodd hefyd ei
fod yn fater difrifol yn unol â’u canllawiau polisi ynghylch troseddau yn
ymwneud â thrais. Ystyriodd yr aelodau’r canllawiau polisi oedd yn nodi na ddylid rhoi trwydded am 10 mlynedd wedi i’r ddedfryd am drosedd yn ymwneud â thrais ddod i ... view the full Cofnodion text for item 6. |