Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Joan Butterfield – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

3.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2024/25.  Cynigodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hugh Irving.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2024/25.  Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Andrea Tomlin.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 380 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024.

 

Materion yn Codi – Tudalen 6: Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2024 – diolchodd y Cynghorydd Andrea Tomlin i swyddogion am y sesiwn hyfforddi ar Weithdrefnau Arbennig (tyllu’r croen) a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2024. Fe’i cafodd yn addysgiadol a defnyddiol iawn ar gyfer ei rôl fel aelod o’r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

7.

TABL PRISIAU A THALIADAU CERBYDAU HACNI pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am adolygiad o ffioedd tariff presennol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis) a’r Tabl Prisiau a Thaliadau arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, drwy fwyafrif, bod y Pwyllgor Trwyddedu yn –

 

(a)      cadw'r tabl ffioedd presennol

 

(b)      cyfarwyddo’r swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu’r sefyllfa ymhen 12 mis.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru’r aelodau ar adolygiad y prisiau cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis), a Thabl Prisiau arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Mae’r prisiau presennol wedi bod yn destun adolygiad parhaus ers canol 2023.  Yr oedd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gynyddu’r prisiau presennol wedi darparu ymateb cymysg, ac ym mis Rhagfyr 2023 penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu gadw’r prisiau presennol tra bod cyfrifiannell brisiau yn cael ei datblygu.  Ers hynny, ychydig iawn o ymateb a gafwyd gan y fasnach drwyddedig i gynorthwyo i fwydo ychwaneg o ddata i’r gyfrifiannell brisiau, a lle nodwyd bylchau yn y data dibynnwyd ar ddata arall er mwyn datblygu’r gyfrifiannell brisiau a dull gweithredu, a nodwyd yn fanwl yn yr adroddiad ynghyd â’r prisiau a luniwyd a thabl yn cymharu awdurdodau gogledd Cymru.

 

Gofynnwyd i’r aelodau ystyried manylion yr adroddiad, gan gynnwys yr effaith ar y fasnach dacsis a defnyddwyr tacsis o ganlyniad i gynnydd yn y prisiau, a naill ai (i) cadw’r tabl prisiau presennol, neu (2) gynyddu’r prisiau yn unol â’r gyfrifiannell brisiau, yn amodol ar ymgynghoriad statudol.  Pe bai’r aelodau’n cefnogi cynnydd yn y prisiau ac na chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn dilyn ymgynghoriad, byddai’r cynnydd yn cael ei weithredu, ond byddai’n rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnid ger bron y Pwyllgor i’w hystyried.  Byddai unrhyw dariff terfynol yn destun Penderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol.

 

Yn ystod y drafodaeth diolchodd yr aelodau i swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a nodwyd y dull gweithredu pwyllog a chadarn a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu’r gyfrifiannell brisiau.  Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad yn ofalus ynghyd â’r dewisiadau a oedd ar gael iddynt, a gofynnwyd cwestiynau amrywiol i’r swyddogion yn ystod y trafodaethau.  Cyfeiriwyd yn benodol at ddiffyg awydd ymddangosiadol y fasnach dacsis i gynyddu’r prisiau a’r effaith ar ddefnyddwyr tacsis yn yr hinsawdd ariannol bresennol.  Crybwyllwyd amseru ac amlder adolygiadau prisiau, a pha un a fyddai dull o gynyddu prisiau fesul cam yn rheolaidd yn osgoi cynnydd mawr yn y ffioedd ar ôl cyfnod hwy ai peidio.  Nodwyd bod y tariff yn pennu’r pris uchaf posibl a ganiateir a gellid codi ffi is.  Trafodwyd hefyd werth cynnal ymgynghoriad eang ar y cynnydd arfaethedig yn y prisiau ac ystyried y safbwyntiau hynny cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·       yr oedd ymgynghoriadau blaenorol â’r fasnach dacsis wedi darparu ymateb cymysg o blaid ac yn erbyn codi prisiau; ni chafwyd cawod o geisiadau am gynnydd yn y prisiau

·       yr oedd lefel y gyrwyr trwyddedig newydd yn dal yn gyson â blynyddoedd blaenorol a nifer y gyrwyr trwyddedig yn parhau i fod yn weddol gyson

·       yr oedd y gyfrifiannell brisiau’n darparu ffordd o gyfrifo cost gyfartalog gweithredu busnes tacsis ac yr oedd y cynnydd arfaethedig yn seiliedig ar fethodoleg fanwl

·       manylwyd ar y tariff a luniwyd, fel y’i nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn rhoi’r pris uchaf posibl y gellid ei godi a byddai’n arwain at gynnydd o’r pris presennol, sef £6.00, i bris arfaethedig o £6.94, yn seiliedig ar siwrnai 2 filltir

·       byddai’r tariff arfaethedig yn peri i Sir Ddinbych fod yr awdurdod drutaf yng ngogledd Cymru, ac yng nghanol y tabl cenedlaethol o brisiau tacsis

·       ni wyddid beth oedd y dull a ddefnyddid gan awdurdodau lleol eraill gogledd Cymru i gyfrifo prisiau, a bu’n 1-4 blynedd ers i’r awdurdodau hynny adolygu eu prisiau ddiwethaf; yr oedd un awdurdod nad oedd wedi cynyddu ei brisiau ers 2010

·       manylwyd ar yr ymgynghoriad eang, yn ogystal â gofynion statudol, pe bai’r dewis hwnnw yn cael ei gymeradwyo – byddai’n cynnwys ymgysylltu sylweddol gyda’r fasnach  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADOLYGU GOFYNION TRWYDDEDU CERBYDAU HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN pdf eicon PDF 300 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad yr aelodau o’r gofynion presennol ar gyfer cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn dan drwydded y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn awdurdodi swyddogion i gynnal ymgynghoriad gyda’r holl bartïon sydd â diddordeb ynghylch y dewisiadau canlynol ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganlyniadau’r ymgynghoriad –

 

(a)      Peidio â gwneud unrhyw newid i’r gofynion trwyddedu presennol ar gyfer WAVs sy’n golygu eu bod wedi’u trwyddedu ar yr un sail â cherbydau “arferol”;

 

(b)      ystyried dileu’r gofynion oedran presennol ar gyfer cerbydau WAV a’u disodli gydag amod bod yn rhaid i bob cerbyd WAV gyrraedd safonau allyriadau Ewro 6 a chael prawf cydymffurfio ychwanegol bob blwyddyn unwaith y bydd y cerbyd yn 12 oed a phob blwyddyn y mae wedi’i drwyddedu wedi hynny h.y. 3 phrawf y flwyddyn bob 4 mis;

 

(c)      ystyried (b) uchod heb unrhyw brawf cydymffurfio ychwanegol, a

 

(d)      ystyried bod pob cais newydd am drwydded Cerbyd Hacni yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu’r gofynion presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a drwyddedir gan y Cyngor.

 

Cymeradwywyd Polisi presennol Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2016. Yr oedd yn cynnwys cyfyngiad oed, sef bod rhaid i holl gerbydau newydd y fflyd fod yn iau na 5 mlwydd oed, ac y byddai’n rhaid cael gwared ag unrhyw gerbyd a oedd yn cyrraedd 12 mlwydd oed.  Yn dilyn nifer o estyniadau, byddai’r cyfyngiad yn dod i rym o’r diwedd ar 1 Gorffennaf 2024.  Yr oedd gofyn i Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn fodloni’r un safonau ag unrhyw gerbyd arall, ond yr oedd y costau a oedd yn gysylltiedig â Cherbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn lawer uwch.  Gan ystyried effaith y cyfyngiad oed ar argaeledd Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, cefnogai Cludiant Ysgol Sir Ddinbych adolygu’r gofynion, ac yr oedd nifer fechan o’r fasnach dacsis hefyd wedi gofyn am adolygiad i’w gwneud yn fwy fforddiadwy i drwyddedu Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn.

 

Cyfeiriwyd at ganllawiau arferion gorau’r Adran Drafnidiaeth a pherthnasedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ddiwygio tacsis ynghyd â manylion ynglŷn ag oedran ac allyriadau cerbydau a Cherbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a oedd wedi eu trwyddedu yn Sir Ddinbych.  Oherwydd yr angen i fynd a’r afael â’r prinder Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, gofynnwyd i’r aelodau ystyried a fyddai’n briodol cael gwared â’r cyfyngiad oed ar gyfer y cerbydau hyn a chyflwyno gofyniad allyriadau gofynnol, ac a ddylid cynnal mwy o brofion ar gerbydau o ganlyniad.  Argymhellodd y swyddogion gynnal ymarfer ymgynghori ar y dewisiadau canlynol ac adrodd am ganlyniadau’r ymgynghoriad mewn cyfarfod yn y dyfodol –

 

(a)       peidio â gwneud unrhyw newid i’r gofynion trwyddedu presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn sy’n golygu eu bod wedi’u trwyddedu ar yr un sail â cherbydau “arferol”

(b)       ystyried dileu’r gofynion oedran presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a’u disodli gydag amod bod yn rhaid i bob cerbyd o’r fath gyrraedd safonau allyriadau Ewro 6 a chael prawf cydymffurfio ychwanegol bob blwyddyn unwaith y bydd y cerbyd yn 12 oed a phob blwyddyn y mae wedi’i drwyddedu wedi hynny, h.y. 3 phrawf y flwyddyn bob 4 mis

(c)        ystyried (b) uchod heb unrhyw brofion cydymffurfio ychwanegol

(d)       ystyried bod pob cais newydd am Drwydded Cerbyd Hacni yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Pwysleisiodd yr aelodau yr angen i sicrhau bod y safonau uchel presennol ar gyfer cerbydau trwyddedig yn cael eu cynnal, ac na ddylid cymryd unrhyw gamau a fyddai’n peryglu’r safonau hynny.  Yn ogystal, yr oedd pryder na fyddai pob cerbyd yn destun yr un meini prawf trwyddedu.  Fodd bynnag, cydnabuwyd pwysigrwydd mynd i’r afael â phrinder presennol darpariaeth sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, a rhoddwyd ystyriaeth i’r dewisiadau a nodir yn yr adroddiad fel ffordd o gymell mwy o Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn i’r fflyd i fodloni’r galw, yn arbennig ar gyfer cludiant i’r ysgol, lle nad oedd anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu ar hyn o bryd.  Parthed cynnal safonau diogelwch, eglurodd y swyddogion y gellid cysylltu’r cynnig i gael gwared â’r terfyn oedran a’r gofyniad i fodloni safonau Ewro 6 gyda threfn brofi fanylach ar gyfer y cerbydau hynny.

 

Credai’r Cadeirydd fod dadl wedi ei rhoi dros ystyried a ddylid rhoi safon uchel wahanol ar Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn o ystyried prinder y mathau hynny o gerbydau a’r costau sy’n gysylltiedig â hwy, a meddyliai y byddai’n fuddiol ymgynghori ar y dewisiadau ac ystyried yr ymatebion hynny cyn gwneud penderfyniad terfynol.  Teimlai’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2024/25 pdf eicon PDF 201 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad,

 

(b)      cymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer 2024/25 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2024/25.

 

Yr oedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi deiliaid trwyddedau yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi.  Yr oedd y rhaglen waith wedi ei drafftio gan ystyried polisïau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Trwyddedu a dyddiadau adolygu polisi, ynghyd ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a gynigid gan Lywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog.  Oherwydd newidiadau sylweddol i strwythur staffio’r Adain Drwyddedu, a fyddai’n effeithio ar lwyth gwaith presennol y staff, yr oedd y blaenoriaethau i adolygu rhai o’r polisïau a gynlluniwyd wedi eu haildrefnu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrea Tomlin am fwy o wybodaeth ar effaith y strwythur a’r newidiadau o ran staff yn y Tîm Trwyddedu.  Cadarnhaodd y Cyfreithiwr y byddai’n briodol trafod y mater y tu allan i’r cyfarfod gan y byddai unrhyw drafodaeth yn debygol o nodi unigolion penodol yn y tîm.

 

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad,

 

(b)      cymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer 2024/25 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf y Pwyllgor Trwyddedu i Reolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd cyn iddo ymddeol, a diolchodd iddo ar ran y Pwyllgor am ei waith caled dros y blynyddoedd a dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.  Diolchodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i’r aelodau am eu cefnogaeth, gan ddymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.50am.