Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Hugh
Irving ac Arwel Roberts Cofnodion: Y Cynghorwyr Hugh
Irving ac Arwel Roberts |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams
gysylltiad personol yn Eitem 11 ar y
Rhaglen - Cais am Drwydded i Yrru Cerbydau Hurio Preifat gan ei fod yn adnabod
yr ymgeisydd dan sylw. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams
gysylltiad personol a rhagfarnol ag
Eitem 11 ar y Rhaglen - Cais am Drwydded i yrru Cerbydau Hurio Preifat gan ei
fod yn adnabod yr ymgeisydd o dan sylw. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 149 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014. PENDERFYNWYD
derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014 fel
cofnod cywir. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
GOLLYNGIAD O OFYNIAD I ARDDANGOS PLATIAU RHIF CERBYD HURIO PREIFAT
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer gollyngiad o’r gofyniad
i arddangos platiau rhif ar Gerbyd Hurio Preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- (a) bod
y cais i ollwng y gofyniad i arddangos platiau trwydded cerbydau hurio preifat
a sticeri drws yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel y'u nodwyd yn
Atodiad B i'r adroddiad, a (b) bod
swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddiwygio rhaglen gwaith y pwyllgor i gynnwys
polisi drafft ynghylch Eithrio Platiau Trwydded Cerbydau Hurio Preifat i gael
ei drefnu mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cofnodion: [Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y
rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn â – (i)
chais
am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau trwydded ar Gerbyd Hurio Preifat; (ii)
pwerau'r
Cyngor i roi gollyngiad i berchennog rhag arddangos y plât trwydded gan gymryd
natur uwchraddol y gwaith i ystyriaeth ynghyd ag ansawdd y cerbyd dan sylw a
lle y byddai'r cerbyd yn cael ei weithredu; (iii)
bod
yr ymgeisydd wedi darparu manylion llawn am y cerbyd a natur y busnes (Atodiad
A), a (iv)
ffactorau
dylanwadol eraill y mae angen eu hystyried ac amodau sy’n cael eu hawgrymu
(Atodiad B) pe bai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r cais am ollyngiad. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb
o'r adroddiad a oedd hefyd yn argymell cynhyrchu polisi ynglŷn ag eithrio
cerbydau hurio preifat rhag arddangos trwydded cerbyd er mwyn galluogi i
geisiadau gael eu hystyried mewn modd cyson yn y dyfodol. Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac
ymhelaethodd ar weithrediad a natur ei fusnes a'r rhesymeg sydd wrth wraidd ei
gais am ollyngiad. Cadarnhaodd ei fod
wedi darllen yr amodau y bwriedir eu hychwanegu at y gollyngiad os y caiff ei
roi a oedd yn cynnwys arwyddo ymrwymiad a nodai ei fod yn llawn ddeall ac yn
derbyn yr amodau hynny. Wrth benderfynu
ar y cais am ollyngiad - PENDERFYNWYD (a) cymeradwyo’r cais am ollyngiad o’r
gofyniad i arddangos plât trwydded cerbyd hurio preifat a sticeri drws yn
amodol ar yr amodau fel y'u nodwyd yn Atodiad B, a (b) awdurdodi swyddogion i ddiwygio rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor er mwyn amserlennu trafodaeth ar bolisi drafft
ynghylch Eithrio Cerbydau Hurio Preifat rhag Arddangos Platiau Trwydded yn un o
gyfarfodydd y dyfodol. Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu
– O fod wedi ystyried yr adroddiad a’r hyn yr oedd yr
Ymgeisydd wedi ei gyflwyno roedd yr aelodau'n fodlon bod natur y gwaith ac
ansawdd y cerbyd yr oedd a wnelo’r cais ag o yn bodloni'r meini prawf ar gyfer
eithrio yn yr achos hwn. Cafodd amodau
eu gosod er mwyn cynorthwyo wrth reoleiddio a gorfodi. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau trafod y materion
uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
POLISI A GWEITHDREFN PWYNTIAU COSB DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG PDF 57 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig i’w cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- (a) cymeradwyo’r
Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig fel y manylwyd yn Atodiad A i'r
adroddiad, i gymryd lle'r Cynllun Pwyntiau Cosb presennol sydd yn y "Llyfr
Glas" – Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y
Cyngor, a (b) bod
y cynllun yn cael ei weithredu o 1 Tachwedd 2014, gyda chyfnod gras o un mis
cyn gorfodi'r cynllun. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
cyflwyno Polisi Pwyntiau Cosb a Gweithdrefn ddiwygiedig i’w cymeradwyo. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa eu bod wedi derbyn
polisi diwygiedig yn eu cyfarfod diwethaf, ond yn sgil pryderon a godwyd gan y
fasnach dacsis a'r ymateb gwan i'r ymgynghoriad, penderfynwyd galw cyfarfod
arbennig i ystyried y polisi’n fanwl gan ystyried barn y fasnach dacsis a’r
fasnach hurio preifat. Yr oedd
ymgynghoriad pellach dros gyfnod o bythefnos wedi cael ei gynnal ac yn dilyn
hynny roedd y swyddogion wedi adolygu'r polisi ac wedi gwneud rhai mân
newidiadau i'r rhestr o gamweddau / troseddau gan roi ystyriaeth i farn
deiliaid trwyddedau yn dilyn bod mewn gweithdy’n ddiweddar gydag aelodau. Roedd y swyddogion hefyd yn argymell rhedeg y
cynllun dros 24 mis. Cydnabu'r Aelodau i gyfnod sylweddol o amser gael
ei dreulio yn adolygu'r polisi, yn enwedig mewn perthynas â dyrannu pwyntiau ar
gyfer troseddau penodol, ac roeddynt yn fodlon bod yr holl faterion a godwyd yn
flaenorol wedi cael eu trin. O ganlyniad
- PENDERFYNWYD (a) cymeradwyo'r Polisi Pwyntiau Cosb a’r
Weithdrefn ddiwygiedig fel y manylir arnynt yn Atodiad A i gymryd lle'r Cynllun
Pwyntiau Cosb presennol sydd i’w weld yn y "Llyfr Glas" - Amodau
Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat y Cyngor, a (b) gweithredu’r cynllun o 1 Tachwedd 2014,
gyda chyfnod gras o fis cyn cyflwyno gorfodaeth o’r cynllun. |
|
IS-DDEDDFAU CERBYDAU HACNI DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG PDF 53 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno Is-ddeddfau diwygiedig sy’n ymwneud â rheoleiddio Cerbydau Hacni i'w
cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod Model o Is-ddeddfau
arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth, fel y manylir yn yr atodiad i'r adroddiad,
yn cael ei gefnogi a bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddechrau ymgynghori
â'r holl berchnogion cerbydau hacni a gyrwyr trwyddedig. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
cyflwyno Is-Ddeddfau'n ymwneud â rheoleiddio Cerbydau Hacni i'w cymeradwyo er
mwyn ymgynghori yn eu cylch. Roedd y cyfrifoldebau cyfreithiol a’r ddeddfwriaeth
berthnasol ar gyfer trwyddedu cerbydau hacni a'u gyrwyr wedi cael eu nodi o
fewn yr adroddiad. Roedd yr is-ddeddfau
a fodolai’n ymwneud â’r Rhyl a Phrestatyn ac argymhellwyd bod y Cyngor yn
mabwysiadu Is-ddeddfau ar gyfer y Sir gyfan er mwyn sicrhau eu bod yn
adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth yn gywir ac i sicrhau bod dull teg,
tryloyw a chyson yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu ar orfodaeth a materion
eraill sy'n ymwneud â cherbydau a gyrwyr hacni.
Roedd yr Adran Drafnidiaeth wedi cynhyrchu set o Is-ddeddfau
Enghreifftiol y bu i swyddogion eu hargymell i’w mabwysiadu yn amodol ar
ymgynghori â holl berchnogion cerbydau hacni a’r holl yrwyr trwyddedig. Nododd yr Aelodau yn dilyn ymgynghori y byddai unrhyw
sylwadau yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor llawn er mwyn i aelodau gael eu
hystyried cyn eu mabwysiadu. PENDERFYNWYD
cefnogi Is-ddeddfau
Enghreifftiol arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth fel y manylir arnynt yn yr
atodiad i'r adroddiad ac awdurdodi'r swyddogion i ddechrau ymgynghori â holl
berchnogion cerbydau hacni a phob gyrwyr trwyddedig. |
|
COD YMDDYGIAD DA ARFAETHEDIG AR GYFER CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 48 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno Cod Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni
a Cerbydau Hurio Preifat i'w gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau aelodau, bod Cod
Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat, fel y manylir yn yr atodiad i'r adroddiad, yn cael ei gefnogi a bod
swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddechrau ymgynghori ar hynny. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
cyflwyno Cod Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a
Cherbydau Hurio Preifat i'w gymeradwyo er mwyn ymgynghori yn ei gylch. Pwrpas y Cod oedd gwella safonau gyrwyr cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat
ymhellach a byddai hefyd yn cynorthwyo swyddogion i fonitro cydymffurfiad
deiliaid trwydded ac i gymryd camau gorfodi lle bo angen. Roedd yn cynnwys
cyfrifoldebau gyrwyr trwyddedig tuag at y fasnach, teithwyr a thrigolion ac
mewn safleoedd tacsi ac mewn swyddfeydd, ynghyd â rhai cyfrifoldebau
cyffredinol. Pe bai’r aelodau’n
cymeradwyo Cod er mwyn ymgynghori yn ei gylch byddai canlyniadau’r ymgynghoriad
yn cael eu hadrodd yn y cyfarfod nesaf. Amlygodd y Cynghorwyr Joan Butterfield a Barry Mellor fod
gormodedd o dacsis yn gweithredu yn ardal y Rhyl a bod hynny yn arwain at
densiynau rhwng gyrwyr tacsi, yn enwedig mewn safleoedd tacsi. Codwyd cwestiynau ynglŷn â sut yr oedd
rheoli’r broblem a sut yr oedd gorfodi'r Cod, gan gynnwys cadw trefn mewn
safleoedd tacsis. Yn sgil y problemau
hyn teimlai'r Cynghorydd Mellor y byddai’n fuddiol ystyried cyfyngu ar sawl
trwydded cerbyd sy’n cael eu rhoi.
Cadarnhaodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu bod gyrwyr tacsi yn
gweithredu safon ymddygiad mewn safleoedd tacsi mewn modd anffurfiol lle'r oedd
disgwyl i gwsmeriaid gymryd y tacsi cyntaf ym mlaen y rhes, er nad yw hyn yn
gyfrwymol a bod gan y cwsmer ddewis o ran pa gerbyd i’w ddefnyddio. Tra cydnabyddir fod mwy o dacsis nag sydd o
leoedd mewn safleoedd tacsi mae gan ddeilydd y drwydded gyfrifoldeb i
ddefnyddio safleoedd tacsi yn effeithlon gan ei bod yn anymarferol i Swyddogion
Gorfodaeth eu plismona o hyd.
Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Gwasanaethau Democrataidd fod cyfeiriad at fethu â chadw disgyblaeth mewn
safleoedd tacsi wedi'i gynnwys o fewn y Cynllun Pwyntiau Cosb. Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Win
Mullen-James Cytunodd y swyddogion gynnwys amseroedd o fewn y Cod pan fo’n
anghyfreithlon seinio corn y cerbyd. PENDERFYNWYD yn amodol ar sylwadau uchod yr Aelodau, i
gefnogi'r Cod Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio
Preifat fel y manylir arno yn yr atodiad, ac i awdurdodi Swyddogion i ddechrau
ymgynghori yn ei gylch. |
|
COD GWISG DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 51 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno Cod Gwisg diwygiedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cerbydau Hurio
Preifat i'w gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cod Gwisg
Diwygiedig Arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat, fel y manylir yn yr atodiad i'r adroddiad, yn cael ei gefnogi a bod
swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddechrau ymgynghoriad ffurfiol ar hynny. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (cylchredwyd yn flaenorol) yn cyflwyno
Cod Gwisg diwygiedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat
i'w gymeradwyo er mwyn ymgynghori yn ei gylch. Pwrpas bod â Chod Gwisg ar gyfer gyrwyr trwyddedig oedd
gwella safonau a mynd i'r afael â phryderon ynglŷn â diogelwch a mynd i’r
afael â'r argraff y mae ymwelwyr a thrigolion yn ei gael pan wisgir dillad
amhriodol. Nid oedd y Cod Gwisg
Presennol yn ddigon cynhwysfawr ac wrth ei adolygu cydnabuwyd bod rhaid cael
cydbwysedd rhwng cael gyrwyr sy’n cyfleu delwedd dda o’r Sir a pheidio ag
effeithio ar ryddid unigolyn i wisgo dillad nad ydynt wedi eu rhagnodi. Ystyriodd yr Aelodau y safon dderbyniol arfaethedig o ran
gwisg o fewn y cod ynghyd â safonau annerbyniol er mwyn annog delwedd
broffesiynol o'r fasnach. Holodd y
Cynghorydd Bill Cowie beth yw’r gwahaniaeth rhwng crys t gwddf crwn a gwddf
agored ac eglurodd y Swyddog Trwyddedu y caiff crys t â choler ei ystyried yn
fwy proffesiynol. Roedd y pwyllgor yn
gefnogol i gyflwyno cod gwisg llymach er nodi fod rhywfaint o feirniadaeth wedi
ymddangos yn y wasg leol yn y cyswllt hwnnw.
Cyffelybodd yr aelodau broffesiwn y gyrrwr tacsi i broffesiwn y gyrrwr
bws a nodi bod lifrai’n ofynnol ar gyfer gyrwyr bysus a bod hynny’n cyfleu
delwedd fwy proffesiynol a thaclus.
Nodwyd y byddid yn defnyddio System Pwyntiau Cosb ar gyfer achosion o
dorri'r cod gwisg. PENDERFYNWYD
cefnogi'r Cod Gwisg
arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat fel y
manylir yn yr atodiad i’r adroddiad, ac awdurdodi Swyddogion i ddechrau
ymgynghori’n ffurfiol yn ei gylch. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2014/15 PDF 44 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
Rhaglen Gwaith y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
Trwyddedu. Cadarnhawyd y gall aelodau
gyflwyno ceisiadau i gynnwys eitemau ar y rhaglen waith drwy'r Cadeirydd. PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 051260
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbydau
hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 051260. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbydau hurio
preifat gan Ymgeisydd Rhif 051260 yn
cael ei wrthod. Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams gysylltiad
personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod tra trafodwyd yr eitem hon. Cymerodd y Cynghorydd Barry Mellor
(Is-Gadeirydd) y Gadair.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 051260 am drwydded i yrru cerbydau hurio
preifat; (ii)
nid
oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r wybodaeth a
ddatgelwyd yn dilyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd; (iii)
roedd
crynodeb o'r euogfarnau a ddatgelwyd wedi eu darparu a oedd yn ymwneud â nifer
o droseddau sy'n rhychwantu cyfnod o 1965 i 1995 gan gynnwys digwyddiadau sy'n
ymwneud â dwyn, troseddau traffig, meddwdod a throseddau ac anonestrwydd eraill
sy’n gysylltiedig; (iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (v)
y
ffaith bod yr Ymgeisydd wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i
gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Darparodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o'r adroddiad
ac eglurodd fod y mater wedi cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu
addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yng ngoleuni'r euogfarnau a
ddatgelwyd. Dywedodd hefyd nad oedd yr
Ymgeisydd yn bresennol gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ers y
cyfarfod diwethaf oherwydd nad oedd yr Ymgeisydd yn bresennol. O ystyried bod yr Ymgeisydd wedi cael dau
gyfle i fynychu gwrandawiad yn ymwneud â’i gais, ac heb gael esboniad o’r
rheswm dros fod yn absennol, cytunodd y pwyllgor i fwrw ymlaen yn ei
absenoldeb. Ar ôl ystyriaeth ofalus - PENDERFYNWYD gwrthod cais ymgeisydd rhif 051260 am drwydded i
yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat. Dyma oedd y
rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd y
pwyllgor wedi ystyried y cais yn seiliedig ar y ffeithiau fel y cawsant eu nodi
yn yr adroddiad yn unig. Mae difrifoldeb
y troseddau a ddatgelwyd yn golygu nad oedd y pwyllgor wedi ei fodloni bod yr
Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i yrru cerbydau hurio preifat. Gan na chafwyd unrhyw esboniad am ei fethiant
i ddatgelu ei euogfarnau wrth gyflwyno ei gais a natur yr euogfarnau hynny nid
oedd y pwyllgor yn fodlon cymeradwyo'r cais. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 00327 Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn
i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o
ran Gyrrwr Rhif 00327. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod rhybudd ffurfiol yn cael ei roi i Yrrwr Rhif
00327 ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 00327 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
cwyn a
wnaed yn erbyn y Gyrrwr am ymosodiad ym mis Gorffennaf 2014 yr ymchwiliwyd iddi
gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â
datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi i’r adroddiad); (iii)
bod
Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod y Gyrrwr wedi cyfaddef i ymosodiad
cyffredin wrth gael ei gyfweld a’i fod wedi cael Rhybudd Datrys Cymunedol, a (iv)
cafodd
y Gyrrwr ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei drwydded er
mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Manylodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (HB) ynglŷn
â ffeithiau'r achos a dywedodd fod y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod. Siaradodd y Gyrrwr ger bron y pwyllgor i
bledio’i achos o ran adolygu ei drwydded ac ymhelaethodd ynglŷn ag amgylchiadau'r
digwyddiad ac egluro ei fersiwn ef o'r digwyddiadau. Roedd yn haeru nifer o’r ffeithiau sydd wedi
eu cynnwys yn natganiad y teithiwr, sef y tyst dan sylw, ynghyd â'r cyfrif a
ddarparwyd gan yr achwynydd. Cwestiynodd
hefyd hygrededd ac ymddygiad yr achwynydd.
Er mwyn tystio i’w gymeriad da, roedd y Gyrrwr wedi darparu geirdaon
ysgrifenedig i'w hystyried ac fe ymhelaethodd ynglŷn â’i yrfa hir yn
gwasanaethu fel gyrrwr tacsi heb fod unrhyw drafferthion blaenorol. Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau'r aelodau ynghylch yr
honiad o fwlio; safon ymddygiad yn y safle tacsi ac ymddygiad yr
achwynydd. Dywedodd hefyd nad oedd yn
ymwybodol cyn hynny fod yr hyn a wnaeth yn gyfystyr ag ymosodiad cyffredin. Yn ei ddatganiad terfynol ymhelaethodd y Gyrrwr
ynglŷn â’r safon ymddygiad y mae gyrwyr tacsi yn ei arfer yn y safle tacsi
a chydnabod bod gan gwsmeriaid ddewis o ran pa gerbyd i’w ddefnyddio. Dywedodd eto nad oedd y naill deithiwr na’r
llall yn yr achos hwn wedi dweud wrtho eu bod yn dymuno defnyddio cerbyd
gwahanol. Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 00327 ynglŷn
â’i ymddygiad i’r dyfodol. Dyma oedd y
rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd yr
Aelodau wedi ystyried cynnwys yr adroddiad a’r sylwadau a gyflwynwyd gan y
Gyrrwr yn yr achos hwn yn ofalus. Roedd
wedi ei dderbyn fod y Gyrrwr wedi cyflawni ymosodiad cyffredin a bod ffrae wedi
digwydd ond roedd y pwyllgor o’r farn fod lliniaru digonol wedi digwydd i
beidio ag atal neu ddiddymu'r drwydded ac y byddai rhybudd ffurfiol ynglŷn
â’i ymddygiad i’r dyfodol yn briodol.
Cafodd y gyrrwr ei rybuddio i wneud yn siŵr ei fod yn datrys unrhyw
faterion o'r fath drwy ddulliau eraill yn y dyfodol. Cafodd
penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 045728 Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn
i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o
ran Gyrrwr Rhif 045728. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 045728 ar sail diogelwch y cyhoedd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 045728 i ddal trwydded
i yrru cerbydau hurio preifat; (ii)
cwyn a gafwyd ym mis Gorffennaf 2014 yn dweud
bod y Gyrrwr wedi cyflawni ymosodiad yn ystod digwyddiad ym mis Mehefin 2014 yr
ymchwiliwyd iddo gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r
ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi
i’r adroddiad); (iii)
bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod y
Gyrrwr wrth gael ei gyfweld wedi cyfaddef i'r drosedd a chafodd rybudd am
Ymosodiad Cyffredin; (iv)
bod y Gyrrwr wedi gwrthod mynychu cyfweliad
gyda Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu ac ers hynny wedi dinistrio a ddychwelyd
ei fathodyn gyrrwr trwyddedig, a (v)
bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn
bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei drwydded er mwyn gallu ateb
cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Manylodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (HB) ynglŷn
â ffeithiau'r achos a dywedodd nad oedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod. Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat Gyrrwr Rhif 045728 ar sail diogelwch y cyhoedd. Dyma oedd y
rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd y pwyllgor wedi ystyried
yr adroddiad a'r dogfennau cysylltiedig yn ofalus a nodwyd bod y Gyrrwr wedi
cyfaddef i achos o ymosodiad cyffredin a bod rhybudd wedi'i roi gan yr
Heddlu. O ystyried natur ddifrifol yr
ymosodiad a olygodd bod rhaid i’r dioddefwr gael triniaeth yn yr ysbyty a'r
ffaith na chynhigiwyd unrhyw liniaru gan y Gyrrwr roedd y pwyllgor o'r farn nad
oedd y gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal trwydded. Gan na allai’r aelodau fod yn sicr parthed
diogelwch y cyhoedd penderfynodd y pwyllgor ddiddymu’r drwydded ar sail
diogelwch y cyhoedd. Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m. |