Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Cyflwynodd y Cadeirydd Mr Nashwan
Fazlani a’i groesawu i’r cyfarfod fel Ymgynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor
Trwyddedu. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel
materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 387 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2024. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2024/25 PDF 208 KB Ystyried adroddiad
gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi
ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen waith
ddiwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) nodi
cynnwys yr adroddiad, a (b) chymeradwyo’r
rhaglen waith ar gyfer 2024/25 fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad. Cofnodion: Yr oedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a
roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth
drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi deiliaid trwyddedau yn effeithiol,
yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r
economi. Roedd y rhaglen waith wedi'i drafftio gan ystyried polisïau perthnasol
a dyddiadau adolygu, ynghyd ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a
gynigiwyd. Roedd nifer o eitemau ar y rhaglen waith wedi cael eu haildrefnu neu eu
dileu a chafodd rhaglen waith ddiwygiedig ei chyflwyno i’w hystyried. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau hynny a gafodd eu haildrefnu
/ a gafodd eu dileu a oedd yn ymwneud â – ·
Tariff Cerbydau Hacni - yn eu cyfarfod
diwethaf, roedd yr aelodau wedi cytuno i gadw’r ffioedd presennol ac adolygu’r
sefyllfa mewn 12 mis (Mehefin 2025) ·
Gweithdrefnau Arbennig - ni chafwyd
diweddariad pellach ar yr eitem hon ·
Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn -
symudwyd yr eitem hon i fis Mawrth 2025 fel bod aelodau’n gallu ystyried canlyniadau’r
ymgynghoriad ar yr adolygiad o ofynion trwyddedu. Nododd yr aelodau’r diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen waith. PENDERFYNWYD – (a) nodi
cynnwys yr adroddiad, a (b) chymeradwyo’r
rhaglen waith ar gyfer 2024/25 fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y
dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a
ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i
diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 507343
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded
cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr rhif 507343. 9.45 am – 10.30 am Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD fod Gyrrwr
Rhif 507343 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni
a Hurio Preifat a bod rhybudd ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r
euogfarnau yr oedd ganddynt. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol – (i)
pa mor addas oedd Gyrrwr Rhif 507343 i feddu ar
drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn euogfarnau a
gafwyd ym mis Gorffennaf 2024 am fod yn berchen ar gerbyd sy’n cael ei
ddefnyddio fel cerbyd hurio preifat heb drwydded a defnyddio cerbyd ar ffordd
neu mewn lle cyhoeddus heb yswiriant trydydd parti; (ii)
penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r mater
at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos; (iii)
gwybodaeth gefndir a dogfennau
cysylltiedig a ddarparwyd yn cynnwys manylion crynodeb o’r achos a’r
ddirwy/pwyntiau cosb a gafwyd ynghyd â datganiadau ysgrifenedig gan y Gyrrwr yn
cynnwys datganiad ategol a geirdaon ar sail cymeriad; (iv)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a (v)
gwahoddwyd y Gyrrwr i fynychu’r
cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau wedi
hynny. Roedd y Gyrrwr yn bresennol i gefnogi’r
adolygiad o’i drwydded. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS)
yr adroddiad a ffeithiau’r achos. O ran datganiad terfynol, cadarnhaodd y
Gyrrwr nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu. Gohiriwyd
y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a – PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 507343 yn unigolyn cymwys ac
addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod rhybudd
ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r euogfarnau a gafodd. Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad – Roedd yr aelodau wedi ystyried y
dystiolaeth yn ofalus wrth wneud eu penderfyniad. Er nad oedd posib i’r
Pwyllgor ailedrych ar ddarganfyddiadau’r euogfarn, roedd yn bosib iddynt
ystyried yr amgylchiadau cyffredinol y tu ôl iddi wrth ystyried a oedd y Gyrrwr
yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded yrru a/neu unrhyw gamau
ffurfiol i’w cymryd. Yn unol â chanllawiau polisi perthnasol
ac oherwydd bod diogelwch y cyhoedd yn ystyriaeth hollbwysig i awdurdod
trwyddedu o ran trwyddedau gyrwyr, roedd yr aelodau’n cymryd yr euogfarn o
ddifri gan ei bod yn ymwneud ag yswiriant cerbyd. Roedd yr aelodau’n hynod o
bryderus am y mater hwn, gan nodi bod y Gyrrwr wedi gwneud penderfyniadau gwael
iawn. Roeddent yn ystyried nad oedd ei ymddygiad yn cyrraedd y safon uchel oedd
yn ofynnol gan yrwyr trwyddedig. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr
aelodau wedi rhoi llawer o bwysau ar hanes blaenorol y Gyrrwr, oedd yn
rhagorol. Roedd yn galonogol bod y Gyrrwr wedi cydweithredu’n llawn â’r
Awdurdodau Trwyddedu oedd yn rhan o’r achos. Cawsant eu calonogi hefyd gan
gyfaddefiad llawn a didwyll y Gyrrwr i’r Swyddogion Trwyddedu a rhoddwyd pwysau
mawr ar hynny wrth wneud eu penderfyniad bod y Gyrrwr yn parhau yn unigolyn
cymwys ac addas i feddu ar drwydded. Cafodd yr aelodau eu calonogi hefyd gan
y ffaith bod y Gyrrwr wedi cymryd camau ers yr euogfarn i sicrhau ail gerbyd
trwyddedig y gellid ei ddefnyddio pe bai’r Gyrrwr yn yr un sefyllfa eto. Roedd
yr aelodau’n fodlon â’r camau adferol a gymerwyd. Wedi ystyried yr amgylchiadau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 577925 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am
drwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 577925. 10.30 am – 11.30 am Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD fod Ymgeisydd Rhif 577925 yn unigolyn cymwys ac addas i
feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod y cais yn cael ei
gymeradwyo yn amodol ar gwblhau’r holl wiriadau arferol sy’n gysylltiedig â’r
math yma o gais yn llwyddiannus, a chwblhau’r Prawf Gwybodaeth i’r safon
gofynnol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol – (i)
cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 577925; (ii)
penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r
cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos; (iii)
roedd yr Ymgeisydd wedi cael euogfarn ym mis
Tachwedd 2011 am gynllwynio/cynhyrchu cyffur rheoledig canabis Dosbarth B,
ynghyd ag euogfarnau moduro a gafwyd rhwng Gorffennaf 2021 a Rhagfyr 2022 am
oryrru (mae ganddo chwe phwynt cosb dilys ar ei drwydded yrru DVLA ar hyn o
bryd); (iv)
darparwyd gwybodaeth gefndir a
dogfennau cysylltiedig yn ymwneud â’r achos yn cynnwys manylion yr euogfarnau a
gafwyd ac eglurhad yr Ymgeisydd o’r digwyddiadau, datganiad personol a geirda o
ran cymeriad gan ei gyflogwr presennol; (v)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a (vi)
gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r
cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny. Roedd yr
ymgeisydd yn bresennol i gefnogi ei gais. Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos. Cyfeiriodd
yr Ymgeisydd at ei ddatganiad ysgrifenedig oedd yn rhan o’r adroddiad a
darllenodd ddatganiad ysgrifenedig a baratowyd ymlaen llaw i gefnogi ei gais.
Rhoddodd rywfaint o gyd-destun i’r euogfarnau a gafwyd, a’i amgylchiadau
personol yn cynnwys hanes ei yrfa hyd yma a’i rinweddau personol, gyda’r bwriad
o ddangos ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded. Ymatebodd
yr Ymgeisydd i gwestiynau am ei gyflogaeth ar hyn o bryd, oedd hefyd yn ymwneud
â chludo teithwyr yn ogystal â gwaith gyrru arall a wnaed, y cymhelliad y tu ôl
i’w gais a manylion pellach am ei euogfarnau, mesurau lliniaru, adferiad ac
ymddygiad a chymeriad da wedi hynny. Ymatebodd
y Swyddogion i gwestiynau hefyd, gan gadarnhau y byddai’r euogfarn a gafwyd ym
mis Tachwedd 2011 wedi’i disbyddu erbyn Tachwedd 2024. Os oedd yr aelodau o blaid caniatáu'r cais,
byddai’n amodol ar gwblhau’r prawf gwybodaeth a gwiriadau arferol yn foddhaol. O ran datganiad terfynol, cadarnhaodd y Gyrrwr nad oedd ganddo unrhyw beth
i’w ychwanegu. Gohiriwyd
y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a – PENDERFYNWYD
bod Ymgeisydd Rhif 577925 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded
Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn
amodol ar gwblhau’r holl wiriadau arferol sy’n gysylltiedig â’r math yma o gais
yn llwyddiannus, a chwblhau’r Prawf Gwybodaeth i’r safon ofynnol. Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad – Ystyriodd y Pwyllgor bod yr Ymgeisydd wedi ei
gael yn euog am drosedd ddifrifol yn ymwneud â chyffuriau, a rhoddwyd cryn
bwysau i’r euogfarn honno gan mai nod cyffredinol yr awdurdod trwyddedu wrth
wneud ei waith yn ymwneud â thrwyddedu gyrwyr oedd gwarchod y cyhoedd. Ystyriodd hefyd bod hwn yn fater difrifol yn
unol â’u canllawiau polisi’n ymwneud â throseddau’n gysylltiedig â chyffuriau. Ystyriodd yr aelodau’r canllawiau polisi oedd yn nodi na ddylid rhoi trwydded am 10 mlynedd wedi i’r ddedfryd am drosedd yn ymwneud â chyffuriau ddod i ben. Fodd bynnag, penderfynodd yr aelodau wyro oddi wrth y canllawiau hyn oherwydd nad oes llawer o amser nes bydd y 10 mlynedd wedi mynd heibio. Ystyriodd yr aelodau bod llawer o amser wedi mynd heibio ers yr euogfarn a’r ddedfryd a bod yr Ymgeisydd wedi cymryd camau i’w adsefydlu ei hun, a chawsant eu calonogi nad oedd wedi cyflawni troseddau tebyg ... view the full Cofnodion text for item 7. |