Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorwyr
Arwel Roberts a Peter Scott Cofnodion: Y Cynghorwyr
Arwel Roberts a Peter Scott |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau i benodi Cadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer 2020/21. Cynigiodd y Cynghorydd Melvyn Mile y dylid penodi’r
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw
Williams. Cynigiodd y Cynghorydd Joan
Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Pete Prendergast yn Gadeirydd, ac
eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.
Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill, aethpwyd ati i bleidleisio ac
felly – PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Brian Jones yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2020/21.
Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Pete
Prendergast yn Is-gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry
Mellor. Cynigiodd y Cynghorydd Huw
Williams y dylid penodi’r Cynghorydd Brian Jones yn Is-gadeirydd ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Melvyn Mile. Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill,
aethpwyd ati i bleidleisio ac felly – PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Brian Jones yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Barry Mellor – Cysylltiad Personol
sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 11 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad
personol a oedd yn rhagfarnu ag eitem 11 ar y rhaglen a gadawodd y cyfarfod tra
oedd yr eitem honno’n cael ei thrafod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 458 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020. PENDERFYNWYD
derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020 a’u cadarnhau fel
cofnod cywir. |
|
ADOLYGIAD O BOLISI AC AMODAU TRWYDDEDU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 221 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol yn
ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a
Gweithredwyr a chymeradwyaeth ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar ddatganiad
drafft o Bolisi Trwyddedu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
yn - (a) cymeradwyo’r
adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol sy’n ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi)
a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat yn unol â Safonau Statudol
newydd yr Adran Gludiant ac Argymhellion Cysoni Trwyddedu Tacsi a Cherbydau
Hurio Preifat, a (b) awdurdodi
swyddogion i ymgynghori gyda’r fasnach a’r cyhoedd ehangach (gan gynnwys
sefydliadau lleol perthnasol) ar ddatganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r aelodau adolygu’r Polisi a’r Amodau
cyfredol ar Drwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i gynnwys y safonau
statudol a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth a’r argymhellion a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth Cymru, ac roedd hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i gynnal
ymgynghoriad ffurfiol ar y Polisi Trwyddedu drafft. Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â chyhoeddi
safonau statudol yr Adran Drafnidiaeth ym mis Gorffennaf 2020 (Atodiad A i’r
adroddiad) gan ganolbwyntio ar amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn a
rheoleiddio’r sector yn well ynghyd â chyhoeddi argymhellion Llywodraeth Cymru
(LlC) ym mis Mawrth 2021 (Atodiad B i’r adroddiad) i ddarparu ‘atebion cyflym’
i wella cysondeb safonau trwyddedu a gwella diogelwch y cyhoedd. O ran awdurdod deddfwriaethol, eglurwyd bod
safonau’r Adran Drafnidiaeth yn effeithiol yng Nghymru er bod cyfrifoldeb am
bolisi tacsis a cherbydau hurio preifat wedi’i ddatganoli i LlC. Fodd bynnag, pe bai LlC yn cyflwyno
deddfwriaeth i reoleiddio’r materion hynny, ni fyddai safonau’r Adran
Drafnidiaeth yn weithredol mwyach. Gan
fod safonau’r Adran Drafnidiaeth wedi’u hystyried wrth ddrafftio argymhellion
LlC, cynigiwyd y dylai’r Polisi a’r Amodau Trwyddedu gynnwys yr holl bolisïau
ac amodau ategol eraill sy'n ymwneud â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio
preifat, ac y dylid cynnal ymgynghoriad pedair wythnos ar y drafft hwnnw ac i'r
polisi terfynol gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w gymeradwyo. Wrth ystyried yr adroddiad, gofynnwyd am farn y
swyddogion am y dogfennau cynhwysfawr.
Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r broses ymgynghori arfaethedig
gyda’r nod o ennyn cymaint o ymateb â phosib’ gan y diwydiant trwyddedig a
budd-ddeiliaid a sicrhau bod dealltwriaeth dda o effaith unrhyw newidiadau
posib' i'r polisi cyfredol. Cadarnhaodd
y swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â’r newidiadau
arfaethedig i’r polisi, gan eu bod wedi’u bwriadu i wella diogelwch y cyhoedd,
gwella cysondeb a gwella’r profiad i gwsmeriaid. Roedd nifer o argymhellion LlC wedi’u cynnwys
eisoes ym mholisi cyfredol y Cyngor.
Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r prif newidiadau polisi’n cael eu hamlygu yn
ystod yr ymgynghoriad, ond roedd hefyd yn bwysig i'r rhai oedd yn cael eu
heffeithio allu gweld a deall y ddogfen gyfan a deall unrhyw oblygiadau yn ei
sgil. Rhoddwyd manylion am yr
ymgynghoriad a fyddai’n cynnwys y diwydiant trwyddedig, grwpiau perthnasol,
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a’r cyhoedd yn ehangach. Byddai’n cael ei gynnal yn fras yn unol ag
ymgynghoriadau blaenorol (ymgynghoriad ysgrifenedig a sesiynau gweithdai'n cael
eu cynnwys ar wahanol adegau mewn gwahanol leoliadau daearyddol o fewn y Sir)
cyhyd â bod hynny'n ddiogel o safbwynt Covid, a byddai gwahoddiad i unrhyw un
oedd â diddordeb neu gysylltiad gymryd rhan.
Byddai’r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried i ddylanwadu ar
y polisi terfynol i’w gyflwyno i’r Pwyllgor i gael ei gymeradwyo. Cytunodd y swyddogion i ddarparu crynodeb i’r
aelodau o’r ymatebion i'r ymgynghoriad a’r adborth a gafwyd yn rhan o’r broses. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
yn – (a) cymeradwyo’r
adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol sy’n ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsis)
a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat yn unol â Safonau Statudol
newydd yr Adran Drafnidiaeth ac Argymhellion Cysoni Trwyddedu Tacsis a
Cherbydau Hurio Preifat Llywodraeth Cymru, ac (b) awdurdodi
swyddogion i ymgynghori gyda’r diwydiant a’r cyhoedd yn ehangach (gan gynnwys
sefydliadau lleol perthnasol) ar ddatganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GERBYDAU DI-ALLYRIADAU GYDA’R FFLYD O GERBYDAU TRWYDDEDIG PDF 193 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn diweddaru aelodau ar y sefyllfa
gyfredol yn ymwneud â Chynllun Peilot Tacsis Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer
cerbydau di allyriadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau'r aelodau, derbyn a nodi'r
wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Peilot Tacsi Gwyrdd Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
sefyllfa bresennol cynllun peilot Tacsis Gwyrdd Llywodraeth Cymru (LlC) ar
gyfer cerbydau di-allyriadau a llwyddiant Sir Ddinbych i gael cyllid gan LlC ar
gyfer 4 cerbyd trydan ac isadeiledd gwefru yn rhan o'r cynllun peilot. Roedd LlC wedi gosod targed o ddatgarboneiddio'r fflyd
dacsis yn llwyr erbyn 2028 a rhagwelid y byddai'r cynllun peilot yn
cynorthwyo'r nod hwnnw. Tair ardal y
cynlluniau peilot oedd Prifddinas-ranbarth Caerdydd, Sir Ddinbych a Sir
Benfro. Byddai cyfanswm o 50 o dacsis
Nissan trydan oedd yn addas i bobl mewn cadair olwyn yn cael eu prynu, 44 ar
gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, 4 ar gyfer Sir Ddinbych a 2 ar gyfer Sir
Benfro. Byddai’r isadeiledd gwefru
cysylltiedig hefyd yn cael ei osod ym mhob ardal a byddai'r cynllun yn
gweithredu ar sail 'profi cyn prynu', a fyddai'n caniatáu i yrwyr tacsis
trwyddedig roi cynnig ar y cerbyd yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod. Roedd yn cynnwys gwefru’r cerbyd am ddim, yswiriant,
trwyddedu’r cerbyd, cymorth pe bai’n torri i lawr, ac ati. Byddai’r gyrwyr wedyn yn llenwi arolwg
gwerthuso ac yn cael gwybodaeth am gynlluniau/gymorth i brynu cerbydau
di-allyriadau neu eu llogi yn y tymor hir.
Byddai’r cynlluniau peilot ar waith am 2-3 blynedd ac roedd yr Adain Rheoli
Fflyd yn arwain ac yn gweinyddu’r prosiect yn Sir Ddinbych. Roedd Swyddog Symudedd y Fflyd yn bresennol i
ateb unrhyw gwestiynau am y cynllun. Croesawai’r aelodau’r cynllun fel modd o annog y
diwydiant tacsis i newid i gerbydau di-allyriadau ac am y manteision
amgylcheddol a fyddai’n dod yn ei sgil, a oedd yn flaenoriaeth gorfforaethol
i’r Cyngor. Wrth drafod, gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i’r swyddogion ynglŷn â gweithredu’r cynllun yn
ymarferol, gan gynnwys am yr isadeiledd gwefru oedd ei angen, a sut y byddai’n
cael ei fonitro i sicrhau'r canlyniadau gorau.
Roedd yr aelodau yn awyddus i sicrhau bod ardaloedd gwledig y sir hefyd
yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a fyddai’n dod yn sgil y cynllun peilot. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau
fel a ganlyn – ·
roedd gan y Cyngor 4 cerbyd yn ei feddiant yn disgwyl i gael eu trwyddedu
ac roedd proses gaffael ar gyfer y peiriannau gwefru 50kW i fodloni anghenion
gweithredol y diwydiant tacsis ar ddod. Rhagwelid y byddai’r
peiriannau gwefru’n cael eu gosod o fewn yr 8-10 wythnos nesaf, a byddai’r
cynllun peilot yn cychwyn wedyn ·
byddai’r cerbydau’n cael eu cynnig ar sail ‘profi cyn prynu’ am 30 diwrnod
a byddai pobl yn cael eu hannog i’w defnyddio gyda sicrwydd y byddai’r
isadeiledd a’r system danwydd yn eu lle i gefnogi’r diwydiant i droi at
ddefnyddio cerbydau di-allyriadau ·
byddai cyllid grant yn cael ei ddarparu am ddwy flynedd i ddechrau, gyda
phosibilrwydd o drydedd pe bai’r data’n dweud bod y cynllun peilot yn
llwyddiannus ·
roedd ymdrech aflwyddiannus cwmni tacsis lleol i newid i gerbydau trydan
(fel y soniwyd yn y wasg) i raddau helaeth oherwydd y diffyg isadeiledd gwefru
ar hyn o bryd i ddarparu ar gyfer model busnes penodol y gweithredwr hwnnw. Fodd bynnag, roedd yr
isadeiledd gwefru’n cael ei ddatblygu i fodloni modelau busnes pob gweithredwr
ac roedd disgwyl i'r gweithredwr hwnnw fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o'r
cynllun peilot. Mewn ymateb i bryderon y byddai’r sylw negyddol yn y wasg
yn effeithio'n andwyol ar y nifer a fyddai am fod yn rhan o'r cynllun, roedd y
swyddogion yn sicrhau'r aelodau bod diddordeb hynod wedi bod yn y Rhyl a
Phrestatyn · yn rhan o delerau'r grant, byddai’r cynllun yn cael ei dreialu yn ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
ADOLYGU’R POLISI MASNACHU AR Y STRYD PDF 210 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm), yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad o'r polisi masnachu
ar y stryd a’r camau nesaf a argymhellir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
yn - (a) cymeradwyo’r
polisi masnachu ar y stryd drafft (Atodiad A i’r adroddiad) ar gyfer
ymgynghoriad, a (b) cefnogi sefydlu
is-grŵp i ystyried y polisi ymhellach i gynnwys y Cadeirydd a/neu’r
Is-Gadeirydd i gynrychioli’r Pwyllgor Trwyddedu ynghyd â chynrychiolydd o bob
Grŵp Ardal yr Aelodau. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am
yr adolygiad o bolisi’r Cyngor ar fasnachu ar y stryd ac argymhellodd y camau
nesaf ynghyd â’r polisi drafft i’r aelodau ei ystyried. Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â
phrosesau deddfwriaethol y drefn ar gyfer masnachu ar y stryd a’r modd yr oedd
pethau’n gweithredu ar hyn o bryd yn y Sir.
Roedd hynny’n cael ei adolygu er mwyn darparu polisi oedd yn addas at ei
ddiben ac a oedd hefyd yn mynd i'r afael â phryderon pob un y gallai fod yn
effeithio arnynt. Roedd diffiniad masnachu ar y stryd wedi’i nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r
eithriadau cyfreithiol ar gyfer mathau penodol o fasnachu a’r rhai a oedd yn
cael eu rheoleiddio trwy ddulliau neu awdurdodau eraill. Roedd y Pwyllgor wedi cytuno ar
ymgynghoriad cychwynnol ar bolisi drafft ym mis Rhagfyr 2016, a chynhaliwyd
ymgynghoriad cyhoeddus wedi hynny ac ni chafwyd unrhyw sylwadau. Fodd bynnag, roedd adborth wedi’i dderbyn
wedyn gan unigolion eraill, aelodau a thimau’r Cyngor yn sgil yr heriau yr oedd
busnesau'r stryd fawr yn eu hwynebu, a oedd yn fwy difrifol oherwydd y pandemig
Coronafeirws. Ystyrid bod angen mwy o
waith cyn y gallai polisi oedd yn addas at ei ddiben gael ei gyflwyno'n ôl i'r
Pwyllgor. Yn dilyn hynny, roedd gofyn i’r aelodau ystyried y polisi drafft diweddaraf
i ymgynghori ymhellach arno a sefydlu Is-grŵp i drafod y polisi ymhellach. Wrth ystyried yr adroddiad, cytunodd yr aelodau ei
bod yn bwysig sicrhau sut y gallai’r polisi gefnogi busnesau sefydlog a
masnachwyr ar y stryd fel ei gilydd yn y ffordd orau, yn enwedig gan fod gwedd
canol trefi a’r stryd fawr yn newid a gan ystyried effaith y pandemig
Coronafeirws. Oherwydd yr heriau, cytunwyd bod angen hyblygrwydd yn y polisi a
chydnabyddiaeth bod rhai busnesau sefydlog wedi addasu eu harferion i weithredu
eu busnes mewn ymateb i'r pandemig, gan gynnwys defnyddio lle y tu allan. Pwysleisiwyd yr anghysondeb ar draws y Sir
ar hyn o bryd o ran arferion masnachu hefyd, a oedd i raddau helaeth gan nad
oedd polisi ffurfiol mewn grym a bod dibyniaeth ar y rheoliadau cyfredol. Eglurodd y swyddogion y byddai masnachwyr
sefydlog oedd yn defnyddio’r palmant angen trwydded balmant gan yr Adran
Briffyrdd ond nid oedd y rhai a oedd yn masnachu o fewn cwrtil eu heiddo (6-9
troedfedd) angen trwydded. Ychwanegodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod llefydd bwyta angen caniatâd
cynllunio ar gyfer byrddau a chadeiriau mewn ardal benodol y tu allan i’r
eiddo. Er bod y swyddogion yn awyddus i bolisi gael ei gyflwyno ar y cyfle cyntaf,
roedd yn allweddol bod y polisi'n gadarn ac yn addas at ei ddiben. Trafododd yr aelodau argymhellion yr adroddiad ac
roedd y Cynghorydd Brian Jones yn teimlo y byddai'n fuddiol ffurfio
Is-grŵp gyda chynrychiolaeth aelodau etholedig o bob cwr o’r Sir i
ystyried y polisi’n fanylach. Roedd rhywfaint o drafod p’un a fyddai’n well i'r Is-grŵp gynnwys
aelodaeth drawsbleidiol neu o wahanol ardaloedd daearyddol a chytunwyd wedi
hynny y byddai'r elfen ddaearyddol yn well. Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones, ac eiliodd y
Cynghorydd Joan Butterfield, y dylid cymeradwyo’r polisi drafft i ymgynghori
arno a chefnogi creu Is-grŵp a fyddai'n cynnwys Cadeirydd a/neu
Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a chynrychiolaeth o bob un o Grwpiau Ardal yr
Aelodau. Wrth bleidleisio – PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
yn – (a) cymeradwyo’r
polisi masnachu ar y stryd drafft (Atodiad A i’r adroddiad) i ymgynghori arno,
a (b) cefnogi sefydlu Is-grŵp i ystyried y polisi ymhellach, gan gynnwys y Cadeirydd ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU Cael diweddariad
ar lafar gan Reolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a nodi’r diweddariad ar lafar a chyflwyno rhaglen gwaith i'r dyfodol i gyfarfod
nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo. Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ddiweddariad
ar lafar gan egluro’r anawsterau wrth gynnal rhaglen gwaith i'r dyfodol i’r
Pwyllgor dros y deuddeng mis diwethaf oherwydd effaith y pandemig Coronafeirws,
a’r ymdrechion i ymateb iddo. Yn dilyn
hynny, argymhellwyd y dylai’r swyddogion ailddrafftio’r rhaglen gwaith i’r
dyfodol i gynnwys nifer o eitemau pwysig mewn perthynas â thacsis (gan gynnwys
unrhyw fentrau anogaeth ar gyfer cerbydau trydan neu gynlluniau a fyddai’n dod
i’r amlwg) a’r polisi ar fasnachu ar y stryd, ynghyd â nifer o adolygiadau llai
oedd eu hangen, a chyflwyno rhaglen ffurfiol o waith i’r dyfodol i gyfarfod
nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo. PENDERFYNWYD
derbyn a nodi’r diweddariad ar lafar a bod rhaglen ffurfiol o waith i'r dyfodol
yn cael ei chyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar y
sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i
diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 yn Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf. [Ar y pwynt hwn (11.10 am) cymerodd y pwyllgor
egwyl fer.] Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 551134
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i
yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 551134. 11.00 am Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 551134. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio,
Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) wedi
– (i)
i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif 551134 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno
oherwydd amgylchiadau penodol yr achos; (iii)
i’r Ymgeisydd gael 8 o bwyntiau cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA am oryrru ym
mis Gorffennaf 2018 (3 phwynt) a
Gorffennaf 2019 (5 pwynt) a chael collfarn am Gynllwynio/Trin Nwyddau wedi’u
Dwyn yn 2010, a oedd i gyd wedi’u datgan gan yr Ymgeisydd a’u cadarnhau yn
dilyn y gwiriadau arferol; (iv)
i ragor o wybodaeth gael ei derbyn ynglŷn â’r achos, gan gynnwys hanes
yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig gydag awdurdod lleol arall ynghyd â’i
addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig a geirdaon (wedi’u hatodi i’r adroddiad); (v)
ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas
yw ymgeiswyr; ac
(vi)
i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd
yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd
yr Uwch Swyddog Trwyddedu (JT) yr adroddiad a ffeithiau'r achos. Darparodd
yr Ymgeisydd rywfaint o wybodaeth gefndir a'r rhesymau y tu ôl i'w gais ar ôl
symud i'r ardal. Fe wnaeth hefyd ddarparu manylion ei
gyflogaeth ar hyn o bryd, fel gyrrwr trwyddedig ag awdurdod lleol arall, a
soniodd am y gwaith roedd yn ei wneud yn Sir Ddinbych o ran contractau ysgol a
hurio preifat. Rhoddodd yr Ymgeisydd sicrwydd
ynglŷn â’i ymddygiad wrth yrru a chyfeiriodd at ei eirdaon a oedd yn brawf
o’i gymeriad. Fe wnaeth hefyd ateb cwestiynau a ofynnwyd gan yr aelodau
gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, a darparu mwy o eglurhad
ynglŷn â'i drefniadau gwaith ar hyn o bryd rhwng ardaloedd awdurdodau lleol
a manylu ar yr amgylchiadau oedd ynghlwm â'r troseddau goryrru. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw bwyntiau cosb eraill i ddod
ar ei drwydded a dywedodd ei fod yn fwy gwyliadwrus ar ôl cael y gosb am oryrru
a’i fod yn ymddwyn yn ddiogel wrth yrru.
Dywedodd
yr Ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth arall i’w ychwanegu at ei gais. Fe
giliodd y Pwyllgor i ystyried y cais ond wrth drafod roedd angen eglurhad
ynglŷn â phwynt arall ac fe alwyd pawb yn ôl.
Cadarnhaodd
y swyddogion fod gwaith hurio preifat wedi’i archebu ymlaen llaw yn cael ei
ganiatáu ar draws ardaloedd awdurdodau lleol cyhyd â bod y gyrrwr a’r cerbyd
wedi’u trwyddedu gan awdurdod lleol. Fe giliodd y Pwyllgor eto i
barhau i drafod ac yn dilyn hynny – PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 551134. Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad – Roedd yr
aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent
i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniad llafar yr Ymgeisydd a'i atebion
i gwestiynau. Roedd yr
aelodau hefyd wedi ystyried adrannau perthnasol polisi’r Cyngor ynghlwm â
pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr. Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor 4.42 yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch Addasrwydd Ymgeiswyr a Thrwyddedau yn y Masnachau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Roedd yn datgan, lle’r oedd gan ymgeisydd 7 pwynt neu fwy ar eu trwydded DVLA am fân droseddau traffig neu debyg, na fyddai trwydded yn cael ei rhoi oni bai fod o leiaf 5 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau’r ddedfryd a roddwyd. Casglodd y Pwyllgor y byddai cwblhau'r ddedfryd (a oedd yn 4 blynedd o'r trosedd cyntaf ... view the full Cofnodion text for item 11. |