Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Gohiriwyd y
cyfarfod nes 9.50am oherwydd amhariad teithio a achoswyd gan y dŵr wyneb
a’r problemau llifogydd yn yr ardal a effeithiodd ar bresenoldeb. Newidiwyd trefn eitemau’r agenda er mwyn
sicrhau bod y Cyfreithiwr yn bresennol ar gyfer yr eitemau busnes hynny yr oedd
ar y Pwyllgor angen Cynghorwr Cyfreithiol (eitemau 8-10 ar y cofnodion). |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer 2019/20. Cynigiodd y Cynghorydd Tony Thomas y dylid penodi’r
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw
Williams. Cynigiodd y Cynghorydd Joan
Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor. Gan
nad oedd unrhyw enwebiadau eraill ac o'i roi i'r bleidlais - PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Brian Jones yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau gan y Cadeirydd ar gyfer
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2019/20. Cynigiodd y Cynghorydd Joan
Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Mainon y dylid penodi’r Cynghorydd Brian
Jones yn Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Tony Thomas. Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill ac o'i roi i'r bleidlais - PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Brian Jones yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 367 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 181 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn
atodiad i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar Raglen Gwaith y Pwyllgor Trwyddedu ar
gyfer 2019/20. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn
atodiad i’r adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi yn amgaeedig) yn
cyflwyno Datganiad Drafft y Polisi sy’n ymwneud ag addasrwydd ymgeiswyr a
thrwyddedai yn y masnachau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat i’w
cymeradwyo o 1 Gorffennaf 2019. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) Mabwysiadu’r Datganiad Polisi ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau
ym musnesau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat (sydd ynghlwm wrth Atodiad
A), i’w weithredu ar 1 Gorffennaf 2019; (b) Awdurdodi swyddogion i wneud y newidiadau a nodir yn 4.8 uchod, fel bod y
Datganiad Polisi ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau ym Musnesau
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yn gyson â’r ddogfen ganllawiau
genedlaethol; a (c) Os derbynnir unrhyw gwyn neu ymholiad gan ddalwyr trwydded ynglŷn â'r Datganiad
Polisi, bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i
ymateb gan gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor
Trwyddedu oherwydd bod y cyfle i ymateb i’r ddogfen bolisi wedi dod i ben. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) yn cyflwyno Datganiad Drafft y Polisi sy’n ymwneud ag addasrwydd
ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat i’w cymeradwyo o 1 Gorffennaf 2019. Ar 5 Rhagfyr 2018, penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu
fabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Trwyddedu a rhoi cyfarwyddyd i’r Swyddogion
ddrafftio polisi a oedd yn bodloni’r gofynion yn y ddogfen dan sylw. Ers hynny mae llawer o waith wedi cael ei wneud
i ymgysylltu â deiliaid trwydded a chodi ymwybyddiaeth o'r Canllawiau, a oedd
yn cynnwys newyddlen i holl aelodau’r fasnach drwyddedig, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a nifer o gymorthfeydd trwyddedu
drwy’r sir. Y bwriad oedd cymhwyso’r
polisi i’r holl ddeiliaid trwydded newydd o 1 Gorffennaf 2019, a dim ond os
bydd euogfarnau ychwanegol yn cael eu cronni y byddai'r deiliaid trwydded
presennol yn cael eu hadolygu. O
ystyried bod y Cyngor yn mabwysiadu polisi cenedlaethol, nodwyd y gellid gwneud
newidiadau yn genedlaethol a gofynnwyd i'r aelodau ystyried a ddylid awdurdodi
swyddogion i fabwysiadu mân newidiadau heb adrodd yn ôl i'r Pwyllgor. Lle gwnaed newidiadau sylweddol, argymhellwyd
bod swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau yn y cyfarfod nesaf
sydd ar gael. Yn ystod y drafodaeth, roedd yr aelodau'n siomedig iawn i
nodi mai dim ond tri deiliad trwydded oedd wedi mynd i’r cymorthfeydd
trwyddedu, yn enwedig o gofio'r ymdrechion sylweddol a wnaed gan swyddogion i
ymgysylltu â'r fasnach. Yn ogystal â'r
ymgyrch cyfryngau cymdeithasol, cadarnhaodd swyddogion fod newyddlen wedi'i
anfon at bob deiliad trwydded yn y sir.
Cyfeiriwyd at waith caled y swyddogion a'r aelodau wrth adolygu a
mabwysiadu polisïau'n barhaus er mwyn codi safonau ac effeithio ar welliannau o
fewn y fasnach drwyddedig. Y Datganiad Polisi oedd y ddogfen ddiweddaraf o fewn
y broses honno o welliant parhaus. Heb
ystyried y diffyg ymateb gan y fasnach er gwaethaf yr ymdrechion gorau i'w
cynnwys yn y broses, derbyniwyd bod pob deiliad trwydded wedi cael digon o gyfle
i ymateb ac felly cytunodd yr aelodau i fabwysiadu'r polisi ac awdurdodi
swyddogion i fabwysiadu unrhyw newidiadau dilynol a wnaed yn genedlaethol. Fodd bynnag, cynigiodd y Cynghorydd Joan
Butterfield, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James, os derbynnir unrhyw gwyn
neu ymholiad yn y dyfodol gan ddeiliaid trwydded ynglŷn â'r ddogfen, fod
swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i ymateb gan
gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor oherwydd bod y
cyfle i ymateb i’r Datganiad Polisi wedi dod i ben. O'i roi i’r bleidlais - PENDERFYNWYD – (a) Mabwysiadu’r
Datganiad Polisi ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau ym musnesau
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat (sydd ynghlwm wrth Atodiad A), i’w weithredu
ar 1 Gorffennaf 2019; (b) Awdurdodi
swyddogion i wneud y newidiadau a nodir yn 4.8 uchod, fel bod y Datganiad
Polisi ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau ym Musnesau Cerbydau Hacni
a Cherbydau Hurio Preifat yn gyson â’r ddogfen ganllawiau genedlaethol; a (c) Os derbynnir
unrhyw gwyn neu ymholiad gan ddalwyr trwydded ynglŷn â'r Datganiad Polisi,
bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i ymateb
gan gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trwyddedu
oherwydd bod y cyfle i ymateb i’r ddogfen bolisi wedi dod i ben. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am Drwydded Cerbydau Hurio
Preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio
Preifat yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar – (i)
gais yn cael ei dderbyn am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat; (ii)
swyddogion nad oeddent wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais gan nad
oedd y cerbyd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu yn cydymffurfio â pholisi'r
Cyngor o ran y terfyn oedran pum mlynedd ar gyfer cerbydau a drwyddedwyd o dan
gais newydd; (iii)
amodau ychwanegol yn gymwys i drwyddedu mathau o gerbydau arbenigol fel yr
un a gyflwynir yn yr achos hwn, ynghyd â ffotograffau o'r cerbyd dan sylw’r
cais, a (iv)
gwahoddwyd yr ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac ateb
cwestiynau’r aelodau. Roedd
yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Crynhodd
y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad ac eglurodd fod yr Ymgeisydd wedi cyflwyno'r
cerbyd fel cerbyd wrth gefn ar gyfer trwyddedu yng nghyfarfod diwethaf y
Pwyllgor, ond ar ôl meddwl roedd wedi symud ymlaen gyda'r cerbyd gwreiddiol fel
y manylwyd ar ei ffurflen gais, a ganiatawyd wedi hynny. Fodd bynnag, nid oedd yr Ymgeisydd erioed wedi
defnyddio'r cerbyd trwyddedig ac yn hytrach byddai'n well ganddo drwyddedu'r
cerbyd wrth gefn. Mae polisi'r Cyngor yn nodi na ddylai
cerbydau sy'n destun cais newydd fod yn hŷn na phump oed ac roedd y cerbyd
a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn un ar ddeg oed.
O
ganlyniad, gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais yr Ymgeisydd i wyro oddi wrth
polisi'r Cyngor a chaniatáu'r cais. Cyflwynodd
yr Ymgeisydd ei achos gan ddweud ei fod yn weithredwr cerbydau arbenigol
cyfrifol, hirsefydlog ond ei fod wedi mynd yn groes i'r fanyleb newydd o ran
oedran cerbyd. Cyfeiriodd at ei gyflwyniad gerbron y
Pwyllgor Trwyddedu diwethaf pan gafodd drwydded cerbyd, yn groes i'r terfyn
oedran pump oed, ar sail y math o gerbyd, sef cerbyd moethus arbenigol a
ddefnyddir ar gyfer achlysuron a digwyddiadau penodol a drefnir ymlaen llaw. Ers prynu'r cerbyd hwnnw, roedd wedi caffael model
newydd, gwell - a dyna pam y gwnaeth gais dilynol i'r Pwyllgor Trwyddedu. Wrth ymhelaethu ar rinweddau'r cerbyd arfaethedig ar
gyfer trwyddedu, rhoddodd dystiolaeth o amserlenni cynnal a chadw a gwasanaeth
ynghyd â sicrwydd ynghylch safonau cerbydau uchel.
Mewn
ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd ymhellach ar natur a gweithrediad ei fusnes. Nododd yr Ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth pellach
i'w ychwanegu o ran datganiad terfynol. Oedwyd
y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a - PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio
Preifat yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad. Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu - Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a'r achos a
gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ofalus ac wedi nodi natur a math y busnes a
weithredir, a'i fod yn weithredwr ag iddo enw da am wasanaethau arbenigol o'r
fath. Ar y sail honno ac ar ôl ystyried yn benodol y math o
gerbyd y bwriedir ei drwyddedu, cytunodd yr aelodau y gwnaed achos i wyro oddi
wrth eu polisi terfyn oedran yn yr achos hwn a chaniatáu'r cais fel ag yr oedd,
yn amodol ar yr amodau ychwanegol sy'n berthnasol i'r math o gerbyd arbenigol. Roedd penderfyniadau a rhesymau’r Pwyllgor felly wedi eu
cyfleu i’r Ymgeisydd. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 533519 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 533519. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 533519 am drwydded gyrru cerbyd hacni a cherbyd
hurio preifat. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) - (i)
cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 533519 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
yr Ymgeisydd wedi methu â datgelu tri euogfarn droseddol a rhybudd gan yr
heddlu yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd rhwng 1977 - 2000 a ddatgelwyd yn
dilyn gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd; (iii)
dogfennaeth berthnasol yn ymwneud â'r achos, gan gynnwys cyfweliad ffurfiol
yr Ymgeisydd ac esboniad o'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r euogfarnau a'r
rhesymeg dros beidio â datgelu wedi eu hatodi i'r adroddiad, ac (iv)
estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i
ateb cwestiynau'r aelodau. Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol gyda pherthynas a
chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Crynhodd
y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad a ffeithiau’r achos. Rhoddodd
yr Ymgeisydd rywfaint o gyd-destun i'r euogfarnau hanesyddol a'i amgylchiadau
personol yn ystod y cyfnod hwnnw, ac eglurodd hefyd sut mae ei fywyd wedi newid
ers hynny gyda'r bwriad o ddangos ei fod yn unigolyn cyfrifol a dibynadwy ac yn
berson addas a phriodol i feddu ar drwydded.
Darparwyd
geirda gan gyflogwr presennol yr Ymgeisydd yn tystio i'w gymeriad da, ei
gysylltiadau cwsmeriaid rhagorol a'i agwedd bositif, ac roedd perthynas gydag o
a siaradodd ar ei ran hefyd. Ymatebodd hefyd i gwestiynau a
godwyd gan aelodau gyda’r nod o ganfod ei addasrwydd i feddu ar drwydded. Mewn perthynas â'i fethiant i ddatgelu euogfarnau,
eglurodd yr Ymgeisydd na fu unrhyw fwriad i dwyllo o ystyried ei fod wedi
darparu'r holl fanylion angenrheidiol i alluogi gwiriad yr heddlu, ond roedd
wedi meddwl mai ymwneud yn benodol â dedfrydau carchar ydoedd a bod ei
euogfarnau wedi hen dreulio. Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a - PHENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 533519 am drwydded gyrru cerbyd hacni a cherbyd
hurio preifat. Dyma resymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu - Roedd yr
Aelodau wedi ystyried y cais a’r achos a wnaed gan yr Ymgeisydd i ganiatáu
trwydded yn ofalus. Nododd y
Pwyllgor fod yr euogfarnau wedi cael eu gosod gryn amser yn ôl a bod yr
Ymgeisydd wedi cael digwyddiadau newid bywyd sylweddol ers hynny. Roedden nhw’n
fodlon bod y perygl o aildroseddu yn isel. Canfu'r Pwyllgor fod yr Ymgeisydd yn ddilys yn ei
gyflwyniadau ac yn onest wrth ymateb i gwestiynau, a derbyniwyd ei esboniad o
ran y diffyg datgelu gan gredu nad oedd ganddo nod bwriadol i dwyllo. Ystyriwyd bod yr Ymgeisydd wedi dangos, trwy ei
gyflwyniadau, cyfeirnod cymeriad a chefnogaeth deuluol, ei fod yn gyfrifol, yn
ddibynadwy ac o gymeriad da ac felly'n berson addas a phriodol i feddu ar
drwydded. Fodd bynnag,
pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd datgelu'n llawn ac yn gywir yn y dyfodol
wrth yr Ymgeisydd. Roedd
penderfyniadau a rhesymau’r Pwyllgor felly wedi eu cyfleu i’r Ymgeisydd. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.00 a.m. |