Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn absenoldeb y
Cadeirydd, Y Cynghorydd Hugh Irving, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd,
Y Cynghorydd Alan James. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cynghorwyr Hugh
Irving (Cadeirydd), Melvyn Mile a Rhys Thomas Cofnodion: Y Cynghorwyr Hugh
Irving (Cadeirydd), Melvyn Mile a Rhys Thomas |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Y Cynghorydd Tony Thomas – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen Cofnodion: Nododd y Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad personol
yn eitem 5 ar y rhaglen gan fod yr ymgeisydd yn breswylydd yn ei dref ac ardal
ei ward sirol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni godwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 319 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019 fel cofnod
cywir. Cofnodion: {0><}0{>Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
a gynhaliwyd ar y 5 Rhagfyr 2018.<0} {0><}0{>Materion yn Codi - Tud 9:
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno rhestr o gerbydau penodedig sy’n
hygyrch i gadeiriau olwyn – Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Jones, cadarnhaodd y Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd fod rhestr o
gerbydau penodedig sy’n hygyrch i
gadeiriau olwyn wedi ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor. <0} {0><}0{>PENDERFYNWYD fod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018 yn cael eu derbyn a’u
cadarnhau fel cofnod gywir. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg
a'r Cyhoedd i'w gwahardd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y
sail eu bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir
ym Mharagraff 1 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am Drwydded Cerbydau Hurio
Preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat
yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2
yr adroddiad. Cofnodion: {0><}0{>Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi ei gylchredeg yn flaenorol) ar -<0} (i)
{0><}0{>gais a dderbyniwyd am Drwydded Cerbyd
Hurio Preifat;<0} (ii)
{0><}0{>swyddogion wedi methu caniatáu’r cais
gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor mewn
perthynas a’r terfyn oed o bum mlynedd i
gerbydau oedd i’w trwyddedu dan gais newydd;
<0} (iii)
{0><}0{>amodau ychwanegol perthnasol i drwyddedu mathau o
gerbydau arbenigol megis yr un dan sylw yn yr achos hwn ynghyd â ffotograffau o'r cerbyd oedd
yn sail ir cais, a <0} (iv)
{0><}0{>yr Ymgeisydd â wahoddwyd i fod yn bresennol yn y
cyfarfod er mwyn cefnogi’r cais ac ateb cwestiynau'r aelodau.<0} {0><}0{>Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad ynghyd â gweithdrefnau’r pwyllgor.<0} {0><}0{>Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad
gan ddenu sylw’r pwyllgor at bolisi'r Cyngor oedd yn nodi fod rhaid i gerbydau
oedd yn sail i gais newydd fod yn iau na phum mlwydd oed.<0} {0><}0{>Gan fod y cerbyd dan sylw yn dair ar ddeg oed nid
oedd yn cydymffurfio â’r
gofynion presennol.<0} {0><}0{>Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried cais yr Ymgeisydd i
wyro oddi wrth bolisi’r Cyngor a chaniatáu’r cais. <0} {0><}0{>Nododd yr Ymgeisydd ei fwriad i amnewid cerbyd arall i’w drwyddedu ond ar ôl ystyried y mater cadarnhaodd ei fwriad i fwrw ymlaen gyda'r cais gwreiddiol, oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad i'r pwyllgor. <0} {0><}0{>Wrth gyflwyno ei achos nododd yr ymgeisydd ei fod wedi hen ennill ei blwyf ac yn adnabyddus fel gweithredwr ceir limwsîn ar gyfer hurio preifat arbenigol. Roedd yn darparu cerbydau ar gyfer achlysuron arbennig megis priodasau, bedyddiadau, ayyb. <0} {0> |
|
SESIWN AGORED Ar ôl gorffen y
gwaith uchod, cafodd y cyfarfod ei ail-gychwyn yn gyhoeddus. |
|
POLISI EITHRIO CERBYD HURIO PREIFAT ARFAETHEDIG PDF 210 KB I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn
cyflwyno Polisi Eithrio Cerbyd Hurio Preifat Arfaethedig, i'w ystyried a'i
gymeradwyo ar gyfer ymgynghori ffurfiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) cefnogi a chymeradwyo'r Polisi Eithrio Plât Cerbydau Hurio Preifat, fel y
nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol, a (b) yn dilyn ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau i’r
Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi arfaethedig, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn
dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Eithrio Plât Cerbydau Hurio Preifat
o 1 Mehefin 2019 ymlaen. Cofnodion: {0><}0{>Cyflwynwyd adroddiad gan y
Swyddog Trwyddedu (wedi ei rannu yn flaenorol) yn manylu am y Polisi Eithrio
Platiau Hurio Preifat arfaethedig i’w ystyried a'i gymeradwyo i ymgynghoriad
ffurfiol. <0} {0><}0{>Adroddodd swyddogion am
gyfreithlonrwydd materion yn ymwneud ag arddangos platiau hurio preifat ynghyd â disgresiwn y Cyngor i roi
caniatâd arbennig rhag arddangos platiau trwyddedu.<0} {0><}0{>Byddai’r polisi arfaethedig yn cynnig arweiniad i
ymgeiswyr posib ar yr isafbwynt safonau o ran y math o gerbydau y byddai’r
cyngor yn ystyried ar gyfer eithriad o’r gofynion i arddangos platiau trwydded
ac yn caniatáu’r Cyngor i wneud penderfyniadau tryloyw ar eithriadau addas. <0} {0><}0{>Cefnogwyd y polisi gan yr
aelodau fel ffordd o gynnig cysondeb wrth weithredu gyda cheisiadau am eithriad
platiau ac i sicrhau nad oedd oedi diangen yn y broses o ymgeisio. <0} {0><}0{>Yn dilyn hyn-<0} {0><}0{>PENDERFYNWYD fod- <0} {0><}0{>(a)<0} {0><}0{>y Polisi Eithrio Platiau Hurio Preifat arfaethedig, fel y nodir yn Atodlen
A i’r adroddiad i’w gefnogi a'i gymeradwyo i ymgynghoriad ffurfiol, ac <0} {0><}0{>(b)<0} {0><}0{>yn dilyn ymgynghoriad swyddogion i adrodd yn ôl am unrhyw
wrthwynebiad i’r Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ystyried a chymeradwyo'r polisi
arfaethedig, neu os na fydd ymatebion wedi eu derbyn, cymeradwyo'r Polisi Eithrio Platiau Hurio Preifat i gael
ei fabwysiadu o'r 1 Mehefin 2019. |
|
POLISI DEFNYDD ARFAETHEDIG CERBYD HACNI PDF 184 KB I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi'n amgaeedig), i
aelodau adolygu'r Polisi Defnydd Arfaethedig Cerbyd Hacni. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi ac
awdurdodi Swyddogion i adolygu’r Polisi Defnydd Arfaethedig Cerbyd Hacni mewn
tair blynedd arall. Cofnodion: {0><}0{>Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad (wedi ei rannu yn flaenorol) yn cyflwyno Polisi Defnydd Arfaethedig
Cerbyd Hacni i adolygiad, fel oedd yn ofynnol bob tair blynedd. <0} {0><}0{>Mabwysiadwyd y polisi gan y
Cyngor yn 2015 fel ffordd o reoli defnydd a gorfodaeth trwyddedau cerbydau
hacni Sir Ddinbych â ganiatawyd o fewn y sir. <0} {0><}0{>Ystyriai’r polisi os mai'r
bwriad oedd i'r cerbyd weithredu o fewn y sir neu'n bennaf ar gyfer gwaith
hurio preifat y tu allan i’r sir. <0} {0><}0{>Ar ôl adolygu’r polisi, ystyriodd y
swyddogion ei fod yn dal yn addas i'r dibenion. Nid oedd unrhyw newidiadau wedi
eu hargymell, gydag adolygiad arall mewn tair blynedd.<0} {0><}0{>PENDERFYNWYD fod cynnwys yr adroddiad i'w nodi a fod y swyddogion
i'w hawdurdodi i adolygu’r Polisi Defnydd Arfaethedig Cerbyd Hacni mewn tair blynedd.<0} |
|
YMATEB DRAFFT I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR WELLA CLUDIANT CYHOEDDUS PDF 213 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno ymateb drafft y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar wella cludiant cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai
aelodau’n - (a) nodi a chefnogi cynnwys yr adroddiad a’r ymateb arfaethedig, a (b) yn unol a safbwyntiau aelodau, awdurdodi Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd i gyflwyno’r drafft terfynol fel ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru ar Wella Cludiant Cyhoeddus, gan ei fod yn berthnasol i drwyddedu tacsi a
hurio preifat. Cofnodion: {0><}0{>Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (wedi ei rannu yn barod) yn cyflwyno ymateb
ddrafft y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar wella trafnidiaeth
gyhoeddus<0} {0><}0{>Hysbyswyd yr Aelodau am Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
gynigion i ddeddfu ar ddiwygio cynllunio a darparu gwasanaethau bws lleol a
thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru. <0}{0><}0{>Ystyriai’r adroddiad agwedd y
tacsis a hurio’n breifat yn unig a roedd y swyddogion wedi drafftio ymateb i’r
cwestiynau a ofynnwyd gan Llywodraeth Cymru i’w hystyried gan yr aelodau. <0} {0><}0{>Bwriad yr ymateb oedd cyflwyno
gwybodaeth i’r Briff Cabinet er mwyn galluogi ymateb benodol ar holl agweddau'r
ymgynghoriad cyn cyflwyno’r ymateb swyddogol cyn y dyddiad cau ar 27 Mawrth
2019. Roedd pedwar prif faes trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat wedi eu
nodi ar gyfer ystyriaeth. Roedd y rhain yn cynnwys cynigion i osod safonau
cenedlaethol; caniatáu awdurdod trwyddedu i gymryd camau gorfodi yn erbyn
unrhyw gerbyd oedd yn weithredol yn ei hardal; creu mecanwaith ar gyfer rhannu
gwybodaeth berthnasol ar gyfer pwrpasau diogelu, a chynigion i ail-gyfeirio
swyddogaethau trwyddedu tacsis a hurio preifat i awdurdod drwyddedu
genedlaethol – Awdurdod Drafnidiaeth ar y Cyd (ADC)<0} {0><}0{>Trafodwyd goblygiadau’r cynigion gyda’r swyddogion a chadarnhawyd fod y Panel Trwyddedu Technegol (yn cynrychioli holl awdurdodau lleol Cymru) wedi cytuno gyda ymateb ar y cyd, gyda phob awdurdod lleol yn cael y cyfle i gynnwys sylwadau ychwanegol wedi eu teilwra i’w anghenion lleol fel yn briodol. <0} {0><}0{>Adroddodd y swyddogion hefyd ar gwmpas yr ymgynghoriad i roi gwybod i gyfarfod Briffio'r Cabinet. Cadarnhaodd Y Cynghorydd Brian Jones fod Fforwm Ymgynghori Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi ystyried y cynigion hefyd ac y byddant yn cynnig mewnbwn er mwyn galluogi’r Cyfarfod Briffio i ystyried sefyllfa Sir Ddinbych. <0} {0> |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR WAITH YR ADAIN DRWYDDEDU PDF 227 KB I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi'n amgaeedig), yn
diweddaru aelodau ar waith yr Adain Drwyddedu yn ystod 2018. Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn ddarostyngedig i sylwadau aelodau, i nodi cynnwys
yr adroddiad. Cofnodion: {0><}0{>Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad
(wedi ei rannu yn flaenorol) yn diweddaru'r aelodau ar waith Yr Adain Drwyddedu
yn ystod 2018 a oedd yn canolbwyntio ar faterion rheolaethol a gweithredol. <0} {0><}0{>Roedd yr adroddiad yn darparu data
ystadegol ar nifer y trwyddedau a gyhoeddwyd, cwynion a’r ceisiadau gwasanaeth a dderbyniwyd yn
cwmpasu’r prif swyddogaethau – Alcohol ac Adloniant; Hacni a Thrwyddedu Hurio
Preifat; Hapchwarae, Lotrïau a Gemau; Masnachu Ar Y Stryd; Casgliadau
Elusennol, Metel Sgrap ynghyd â materion ategol eraill gan gynnwys recordio data,
perfformiad a chyfathrebu.<0} {0><}0{>Roedd materion Rheoli yn cynnwys
cyfeiriad at bolisïau, ffioedd, cwynion am y gwasanaeth ynghyd ag
ystyriaeth i lwyth
gwaith y dyfodol. <0} {0><}0{>Ymhelaethodd y Swyddogion ar nifer o agweddau o'r
adroddiad gan egluro rhai materion penodol mewn ymateb i gwestiynau
aelodau. <0} {0><}0{>Yn ystod y drafodaeth cytunodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i adolygu’r protocol ar ymgysylltu ag aelodau wardiau lleol lle fo materion wedi eu nodi yn eu hardaloedd penodol er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn berthnasol ac yn briodol i bwrpasau trwyddedu.<0}{0><}0{> Mewn ymateb i gwestiwn am sgoriau hylendid bwyd cadarnhaodd swyddogion fod archwiliadau yn cael eu cynnal bob deunaw mis ond pan fo sgôr isel, byddai’r Cyngor yn ail-archwilio ar gais o fewn tri mis am ffi. <0} {0><}0{>Manylwyd ymhellach gan y Swyddogion hefyd ar y cydweithio oedd yn digwydd ar draws yr ardaloedd gwasanaethu yn ystod archwiliadau mannau trwyddedig. <0} {0><}0{>Talwyd teyrnged gan yr aelodau i'r gwaith caled a wnaed gan y tîm Trwyddedu er mwyn codi safonau a sicrhau arferion da ar draws y nifer o swyddogaethau trwyddedu. Roeddynt yn falch o nodi fod camau wedi eu cymryd i ddogfennu'r gwaith hwn a sicrhau monitro prosesau yn y dyfodol a fyddai’n arwain at well tryloywder<0} {0><}0{>Hoffai’r Pwyllgor gyfleu eu diolchiadau i’r Tîm Trwyddedu a gofynnwyd i’r gwerthfawrogiad ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 181 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen
gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad. Cofnodion: {0><}72{>Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi ei rannu yn flaenorol) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu am 2019. <0} {0><}0{>Roedd y rhaglen waith yn
hyblyg er mwyn gallu ymateb i bwysau neu newidiadau fel yr oeddynt yn codi, ac
anogwyd aelodau i gysylltu â swyddogion ynglŷn ag unrhyw
faterion yr hoffent gael ei gynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol.<0} {0><}0{>Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian
Jones at yr arfer gan rai gweithredwyr o gynnig prisiau gostyngedig
a nododd broblemau cysylltiol yn ymwneud â hyn a allai
ddwysau yn y dyfodol. <0} {0><}0{>Cynghorodd y Swyddogion fod y
tariff a osodwyd gan y Cyngor yn cyfeirio at symiau uchafswm a ellir eu codi, a
fod rhyddid i weithredwyr godi llai na’r pris tariff a osodwyd.<0} {0><}0{>Cadarnhaodd y Swyddogion hefyd nad oeddynt yn ymwybodol o unrhyw
broblemau yn gysylltiedig â’r arfer gan weithredwyr o godi prisiau rhatach nag
eraill yn ddiweddar. <0} {0><}0{>PENDERFYNWYD fod y rhaglen gwaith i’r
dyfodol fel y'u manylwyd yn yr atodiad i'r adroddiad yn cael ei chymeradwyo. <0} {0><}0{>Daeth
y cyfarfod i ben am 11.00 a.m<0}. |