Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cofnodion: Ceisiwyd
enwebiadau i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2018/19. Cynigiodd
y Cynghorydd Huw Williams y dylid penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd,
ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tony Thomas.
Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Alan
James yn Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor. Ni chafwyd enwebiad arall ac felly o roi’r
mater i bleidlais - PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Hugh Irving
fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD
y dylid penodi'r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd ar
y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn i ddod Cofnodion: Gofynnwyd
am enwebiadau gan y Cadeirydd ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar
gyfer 2018/19. Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams y dylid penodi’r Cynghorydd
Alan James yn Is-Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joan
Butterfield. Ni chafwyd enwebiad
arall ac felly o roi’r mater i bleidlais - PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Alan James
fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Barry Mellor ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 7 ar yr
Agenda - Adolygu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Tony Thomas ddiddordeb
personol sy’n rhagfarnu yn eitem 7 ar yr Agenda - Adolygu Trwydded i Yrru
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat gan ei fod yn adnabod y Gyrrwr dan
sylw yn bersonol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 306 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018. PENDERFYNWYD y dylid
derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 fel
cofnod cywir. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100(A) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 510126 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 510126. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD nad
oedd sail dros y gŵyn a wnaed yn erbyn
Gyrrwr Rhif 510126 ac nad oedd unrhyw gamau i’w cymryd. Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad
personol ac sy’n rhagfarnu, ac fe adawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
materion a ganlyn – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 510126 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat wedi cwyn am wahaniaethu ar sail anabledd a gwrthod teithiwr. (ii)
manylion
y gŵyn (roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig
a dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad); a (iii)
gwahodd
y Gyrrwr i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Roedd y
Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr
adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.
Roedd hi wedi cyflwyno dau eirda o ran ei chymeriad a oedd wedi cael eu
cylchredeg i’r aelodau i’w hystyried fel rhan o'r broses adolygu. Rhoddodd
y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd
ffeithiau'r achos. Eglurodd
y Gyrrwr ei fersiwn hi o’r digwyddiadau fel ymateb i’r gŵyn, a rhoddodd
wybod, o dan yr amgylchiadau, ei bod wedi gofyn am gyngor ei chyflogwyr am ba
gamau i’w cymryd ac yn dilyn eu cyfarwyddiadau nhw, roedd wedi gwrthod y
teithiwr. Ymatebodd i gwestiynau’r
aelodau mewn perthynas â datganiadau tyst a ddarparwyd a’i hymddygiad yn ystod
y digwyddiad, ynghyd â materion yn ymwneud â hyfforddiant a chanllawiau a’i
chynefindra gydag Amodau a Pholisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio
Preifat. Yn ei datganiad terfynol,
gwadodd y Gyrrwr unrhyw ymddygiad oedd yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail
anabledd yn chwyrn. Ar y pwynt hwn,
gohiriodd y pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD
nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif 510126 wedi eu profi ac felly does dim angen
camau gweithredu pellach. Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd yr
aelodau wedi ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn
ofalus, ynghyd â'r esboniad a roddwyd gan y Gyrrwr a’i ymateb i
gwestiynau. Roedd yr aelodau’n teimlo
bod y Gyrrwr wedi bod yn agored ac yn onest wrth ymateb ac roedd tyst credadwy
wedi derbyn ei fersiwn o ddigwyddiadau.
Roedd y Pwyllgor Trwyddedu yn teimlo bod y Gyrrwr wedi ymateb yn
rhesymol dan yr amgylchiadau, gan geisio cyfarwyddyd gan ei chyflogwr a
gweithredu yn unol ag o. Yn dilyn hynny,
cytunwyd i beidio â derbyn y gŵyn yn yr achos hwn ac nad oedd angen unrhyw
gamau gweithredu pellach. Cafodd y
penderfyniad a'r rhesymau dros y penderfyniad eu cyfleu i'r Gyrrwr. Oherwydd y
diffyg hyfforddiant a chanllawiau a roddwyd i’r Gyrrwr yn yr achos hwn,
awgrymwyd ei bod hi’n ceisio eglurder gan ei chyflogwyr presennol/yn y dyfodol
am eu polisi a’u gweithdrefnau i sicrhau ei bod hi’n barod petai sefyllfa debyg
yn codi. Nododd yr aelodau hefyd bod y
Gyrrwr bellach yn hollol gyfarwydd â’r Amodau a Pholisi Trwyddedu Cerbydau
Hacni a Hurio Preifat a gofynnwyd iddi barhau i gydymffurfio â’r rheolau a’r
rheoliadau hynny. Amlygodd yr aelodau bwysigrwydd hyfforddiant a chanllawiau priodol ar gyfer gyrwyr trwyddedig a thrafodont a ellid gwneud mwy i sicrhau bod cyflogwyr yn darparu canllawiau clir er budd y gyrwyr a’r cwsmeriaid. Roedd y swyddogion yn teimlo y byddai’n gyfle da i asesu’r ddarpariaeth fel rhan o waith parhaus i gyflwyno rhestr o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, a fyddai hefyd yn rhoi mwy o eglurder a rhoi rhwymedigaethau pellach ar yrwyr a pherchnogion y cerbydau hynny. Felly, cytunwyd bod y swyddogion yn ymchwilio ymhellach i’r mater hwn gan adrodd yn ôl i gyfarfod y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn
sesiwn agored. |
|
CAIS I ROI HYSBYSEBION AR GERBYD HACNI PDF 283 KB I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
ceisio penderfyniad gan yr aelodau ar gais gan Berchennog Cerbydau Hacni am
ganiatâd i arddangos arwyddion ar ei gerbydau trwyddedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) y dylid gwrthod y cais i arddangos arwyddlun (b) Y dylai’r frawddeg arfaethedig yn ymwneud â’r gofyniad polisi ar gyfer cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat perthnasol i’r peintwaith ddarllen: ‘Bydd y
peintwaith o orffeniad proffesiynol ac yn un lliw cyson dros gorff y cerbyd
cyfan’, a (c) gofyn i swyddogion adolygu’r polisi o ran arddangos arwyddion a hysbysiadau ar gerbydau hacni notices on hackney carriage vehicles Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn
â’r canlynol – (i)
cais gan Berchennog
Cerbyd Hacni i gael cymeradwyaeth i arddangos arwyddlun baner Cymru i orchuddio
boned ei gerbydau trwyddedig (dangoswyd lluniau a gynhyrchwyd ar gyfrifiadur yn Atodiad A o’r
adroddiad); (ii)
polisi cyfredol y Cyngor
a manyleb y cerbyd yn nodi’r gofynion
derbyniol o ran gwaith paent, arwyddion, hysbysebu a chynllun lliwiau Cerbydau Hacni (Atodiad B yr adroddiad); (iii)
yr angen i ystyried
goblygiadau posib wrth ganiatáu i arddangos arwyddlun chwaraeon ac arwyddion gwladgarol a allai ddenu sylw digroeso
neu gynyddu’r posibilrwydd am ymddygiad troseddol, ac (iv)
amlygodd yr anghysondebau
rhwng gofynion y polisi mewn perthynas
â’r gwaith paent ar gyfer
cerbydau hacni a hurio preifat a cheisio eglurder yn ymwneud â hynny. Nid oedd yr Ymgeisydd
yn medru mynychu’r cyfarfod ac roedd wedi cyflwyno
ei ymddiheuriadau ond gofynnodd i’r
cais am hysbysebu gael ei ystyried
yn ei absenoldeb. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad
a’r rhesymeg tu ôl i’r
cais oedd gerbron y pwyllgor o ystyried y goblygiadau posib wrth ganiatáu
arwyddluniau o’r math yma a allai ddenu
sylw digroeso. Gofynnwyd i’r aelodau ystyried
unioni’r anghysondebau rhwng y gofynion ar gyfer cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat o ran gwaith paent. Yn ystod eu trafodaeth,
bu’r aelodau’n ystyried maint a graddfa’r dyluniad, ac nad oedd yn
addas i'w roi ar gerbyd
trwyddedig. Roedden nhw’n gytûn
hefyd y gallai arddangos arwyddluniau chwaraeon ac arwyddion gwladgarol fel hwn ddenu ymateb
ymosodol ac roedd posibilrwydd o ymddygiad troseddol gwrth-gymdeithasol. Cydnabuwyd bod y pwyllgor wedi cymeradwyo
cais tebyg i arddangos arwyddlun llai yn eu
cyfarfod ym mis Medi 2017 ac roeddent wedi cytuno
i bennu bob cais yn ôl eu
rhinweddau eu hunain. Fodd bynnag, oherwydd
pryder ymysg aelodau am arwyddion o’r natur hwn,
teimlwyd y dylid adolygu’r polisi ymhellach. Roedd rhai aelodau hefyd
eisiau gweld unffurfiaeth rhwng pob cerbyd hacni
ac roedden nhw’n pryderu y gallai cymeradwyo unrhyw arwydd neu hysbyseb
yn groes i’r nod hwnnw. Teimlwyd, er y gallai peth
hysbysebu fod yn ddefnyddiol, fel hysbysebu dros
dro ar gyfer
digwyddiadau penodol neu at ddibenion elusennol, y dylid cyfyngu ar werthu
lle hysbysebu ar gerbydau trwyddedig
at ddibenion masnachol cyffredinol ac y dylid ystyried rhoi mwy
o eglurder gyda hysbysebion sy’n cael eu caniatáu
fel rhan o adolygiad o’r polisi
yn y dyfodol. Mewn perthynas â’r anghysondebau
rhwng y gofynion polisi ar gyfer
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn ymwneud
â phaent, cytunodd yr aelodau y dylai’r
un polisi fod yn berthnasol i’r
ddau fath, ac y dylid newid gofynion
cerbydau hacni i gyfateb i ofynion cerbydau hurio preifat er mwyn
sicrhau ymagwedd gyson. PENDERFYNWYD
– (a) gwrthod y cais i arddangos arwyddluniau; (b) bod
y frawddeg yn y polisi sy’n cyfeirio
at baent cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn
nodi ‘Bydd y gwaith paent wedi’i
orffen yn broffesiynol ac yn unlliw cyson drwy
gydol oes y cerbyd’, a (b) gofyn i swyddogion adolygu’r polisi mewn perthynas ag arwyddion a hysbysebion ar gerbydau hacni. Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ar ôl ystyried yr adroddiad, a chais yr Ymgeisydd, roedd yr aelodau o’r farn nad oedd maint a graddfa’r dyluniad yn addas ar gyfer ei roi ar gerbyd trwyddedig. Roedd yr aelodau’n teimlo hefyd y gallai’r arwyddlun ddenu sylw digroeso ac ymateb ymosodol gyda’r posibilrwydd o ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol. ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
DIWEDDARIAD AR BOLISI EUOGFARNAU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT PDF 193 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn rhoi
diweddariad i’r aelodau ar bolisi Euogfarnau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio
Preifat. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod aelodau yn - (a) Awdurdodi swyddogion i barhau i asesu’r effaith ar fabwysiadu Polisi
Perthnasedd Euogfarnau'r Sefydliad Trwyddedu ochr yn ochr ag adolygiad
Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol. (b) Rhoi cyfarwyddyd i swyddogion adolygu’r Polisi Euogfarnau presennol ac
adrodd yn ôl yn y cyfarfod Pwyllgor nesaf. Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a gylchredwyd eisoes) yn diweddaru’r aelodau am
yr adolygiad o’r Polisi Euogfarnau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat. Atgoffwyd
yr Aelodau am y gwaith a wnaed gan y Sefydliad Trwyddedu (IOL) i ddatblygu
polisi euogfarnau cenedlaethol a’r canllawiau terfynol am bennu addasrwydd
ymgeiswyr a’r rhai sy’n meddu ar drwydded a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018. Y bwriad oedd i Awdurdodau Lleol fabwysiadu’r
ddogfen er mwyn safoni’r gofynion, fodd bynnag, roedd ymholiadau yng Ngogledd
Cymru yn awgrymu mai dim ond Ynys Môn oedd wedi dangos diddordeb mewn
mabwysiadu’r ddogfen. Oherwydd hynny,
roedd risg mai Sir Ddinbych fyddai’r unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru
fyddai’n mabwysiadu’r ddogfen a allai arwain at ymgeiswyr, nad oeddent yn
bodloni gofynion y polisi, yn cael trwyddedau gan awdurdodau cyfagos a
gweithredu yn Sir Ddinbych dan rai amgylchiadau. Roedd Panel Technegol Trwyddedu (Cymru) hefyd
wedi cytuno bod angen craffu ar y polisi ymhellach cyn y gallent gefnogi ei fod
yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru. Yn
ogystal â hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu papur gwyn yn nodi cynigion
ar gyfer trwyddedu yng Nghymru yr oeddent yn gobeithio ei wneud yn
ddeddfwriaeth cyn diwedd tymor cyfredol y Cynulliad. Roeddent wedi awgrymu bod polisi IOL neu
ddogfen debyg yn cael ei gynnwys mewn unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar gyfer
Cymru. Mewn
ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y swyddogion bod Sir Ddinbych yn aelod o Banel
Technegol Trwyddedu (Cymru). Roedd
cynrychiolwyr ar IOL yn cynnwys swyddogion mewn swyddi uwch ac roedd Cymru yn
cael ei chynrychioli fel rhan o’r fforwm hwnnw.
Oherwydd y ffrydiau gwaith gwahanol a’r posibilrwydd o amrywiadau, roedd
y pwyllgor o blaid disgwyl am ganlyniad papur gwyn Llywodraeth Cymru ac
archwiliad Panel Technegol Trwyddedu o’r ddogfen bolisi. Yn y cyfamser, cytunwyd bod Polisi Euogfarnau
cyfredol y Cyngor yn cael ei adolygu er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw
feysydd amwys yn cael eu dileu neu eu hegluro. PENDERFYNWYD
bod
aelodau yn - (a) awdurdodi
swyddogion i barhau i asesu’r effaith ar fabwysiadau Polisi Perthnasedd
Euogfarnau Trwyddedu ar y cyd ag adolygiad Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i
gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol. (b) rhoi
cyfarwyddiadau i swyddogion i adolygu’r Polisi Euogfarnau cyfredol ac adrodd yn
ôl i gyfarfod nesaf y Pwyllgor. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2018/19 PDF 108 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn
amodol ar ychwanegu’r eitemau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, y dylid
cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylir yn
Atodiad A yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar
raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2018/19. Amlygodd
Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd newidiadau i’r rhaglen waith i alluogi
swyddogion i ganolbwyntio ar weinyddiaeth busnes craidd yn ystod misoedd yr haf
a’r hydref gydag unrhyw fusnes heb ei gynllunio, fel gwrandawiadau gyrwyr yn
parhau fel bo angen. NRoedd y rhaglen waith yn canolbwyntio’n bennaf ar faterion
polisi rhwng mis Rhagfyr 2018 – Medi 2019.
Cadarnhawyd hefyd y byddai’r eitemau a drafodwyd yn gynharach yn y
rhaglen, mewn perthynas â mynediad i gadeiriau olwyn ac adolygu’r polisi mewn
perthynas ag arwyddion/hysbysebion yn cael eu hychwanegu at y rhaglen gwaith
i’r dyfodol. Cododd
yr aelodau bryder am y gostyngiad yn nifer y staff sydd ar gael oherwydd
absenoldeb salwch a dywedodd y swyddogion bod mesurau mewn grym i liniaru’r
gostyngiad dros dro mewn adnoddau gan gytuno i ddiweddaru’r aelodau ar y mater
fel bo angen. Soniodd y swyddogion hefyd
am gyfarfod cadarnhaol i drafod materion trwyddedu gyda Phrif Arolygydd Andrew
Williams oedd yn llwyr ymwybodol o safbwynt yr awdurdod ac yn hollol gefnogol
ohono a byddai swyddogion yn parhau i feithrin perthynas dda gyda’r
Heddlu. Roedd yr Aelodau’n canmol gwaith
caled, ymrwymiad ac ymroddiad y staff trwyddedu ac roeddent yn dymuno cofnodi a
chyfleu eu gwerthfawrogiad mewn perthynas â hynny. PENDERFYNWYD yn
amodol ar ychwanegu’r eitemau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, i
gymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel a welir yn
Atodiad 1 yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 am. |