Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd Stuart Davies. Cofnodion: Y Cynghorydd Stuart Davies. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: MATERION BRYS: TACSIS SY’N HYGYRCH I GADEIRIAU
OLWYN- PENDERFYNWYD bod
y swyddogion yn archwilio a oedd tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn sy’n gweithredu
yn yr ardal yn darparu gwasanaeth tacsi priodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau
olwyn ac adrodd yn ôl i’r aelodau ynglŷn â hynny. Cofnodion: Penderfynodd y Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y
mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo:- TACSIS YN HYGYRCH I
GADEIRIAU OLWYN Tynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield sylw at
achos diweddar lle’r oedd nifer o dacsis hygyrch i gadeiriau olwyn yn
gweithredu yn ardal y Rhyl, wedi gwrthod derbyn archeb i gludo defnyddiwr mewn
cadair olwyn. Cyfeiriodd at drwyddedau cerbydau hacni ychwanegol a gyhoeddwyd yn benodol
ar gyfer cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn er mwyn darparu’r gwasanaeth hwnnw,
a mynegodd bryderon difrifol bod tacsis sy’n hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn
gwrthod ei roi. Roedd y swyddogion yn ymwybodol bod nifer o dacsis wedi cael eu hysbysebu
fel cludwyr cadeiriau olwyn arbenigol a chytunwyd i edrych i mewn i'r mater
ymhellach. PENDERFYNWYD bod
swyddogion yn ymchwilio a yw tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn sy’n
gweithredu yn yr ardal yn darparu gwasanaeth tacsi addas i ddefnyddwyr
cadeiriau olwyn, ac adrodd yn ôl i'r aelodau ar hynny. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 180 KB Derbyn - (a) cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 (copi wedi’i amgáu), a (b) chofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a
gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 a 23
Mehefin 2016 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 a’r Pwyllgor
Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016. PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 a 23
Mehefin 2016 fel cofnod cywir. |
|
ADOLYGU'R POLISI MASNACHU AR Y STRYD PDF 107 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
hysbysu aelodau o'r cynnydd mewn perthynas ag adolygiad o bolisi presennol
masnachu ar y stryd yn Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Trwyddedu yn- (a) Awdurdodi
swyddogion i barhau i weithio ar ddrafft Polisi Masnachu ar y Stryd, gan
ystyried unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol sydd i ddod a allai effeithio ar
reoleiddio masnachu ar y stryd fel y’u drafftiwyd gan Lywodraeth y DU, ac (b) awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar bolisi drafft a gan gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law, llunio drafft terfynol i'r Aelodau ei ystyried yn eu cyfarfod ym mis Mawrth 2017. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan
y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn
hysbysu aelodau o gynnydd o ran yr adolygiad o'r polisi masnachu ar y stryd
cyfredol yn Sir Ddinbych. Rhoddodd Swyddogion rywfaint o gefndir i
weithrediad cyfredol y gyfundrefn masnachu ar y stryd a oedd yn cael ei
hadolygu, er mwyn mynd i'r afael ag anawsterau yn y system a rheoleiddio a
chefnogi masnachu ar y stryd yn well yn y sir. Roedd y diffiniad o fasnachu ar y stryd wedi cael
ei nodi yn yr adroddiad ynghyd ag eithriadau cyfreithiol ar gyfer mathau
penodol o fasnachu, a'r rhai a reoleiddir gan ddulliau neu awdurdodau eraill. Gofynnwyd am farn yr Aelodau ar ddrafft
cychwynnol (yn amgaeedig gyda’r adroddiad) ac roedd swyddogion yn bwriadu
parhau i weithio ar y drafft, gan ystyried unrhyw ofynion deddfwriaethol
newydd, cyn cynhyrchu strategaeth ddrafft derfynol ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus ac ystyriaeth wedi hynny gan y pwyllgor. Roedd trafodaeth ar y materion polisi yn cynnwys y
canlynol - ·
cafodd
y cynnig i gyflwyno system o "ganiatâd bloc dros dro" fel y manylir
ym mharagraff 4.3.3 o'r adroddiad ei gefnogi'n llawn gan y Cynghorydd Barry
Mellor, er mwyn ei gwneud yn haws i drefnwyr digwyddiadau cymunedol ac annog
presenoldeb ·
cyfeiriwyd
at y strydoedd gwaharddedig ar gyfer dibenion masnachu ar y stryd yn y Rhyl a Phrestatyn,
a chadarnhaodd swyddogion y byddai rhan o'r adolygiad yn cynnwys p'un a fyddai
unrhyw newid i'r system gyfredol o strydoedd â chaniatâd a rhai gwaharddedig yn
briodol, gan gymryd i ystyriaeth y gwahanol ardaloedd o fewn y sir er mwyn
caniatáu mwy o hyblygrwydd o fewn y cynllun ·
nodwyd
bod y Cynghorydd Bill Cowie wedi ei enwebu fel cyswllt y pwyllgor ar
ddatblygiad y polisi drafft a chadarnhaodd swyddogion y byddent yn croesawu ei
gyfraniad wrth ddatblygu'r drafft terfynol ymhellach - canmolodd y Cynghorydd
Cowie y gwaith hyd yma ar y drafft cychwynnol ac fe gefnogodd waith parhaus y
swyddogion ar yr adolygiad fel y nodwyd yn yr adroddiad. Holodd yr Aelodau a oedd rheoleiddio
gweithgareddau penodol sy'n peri pryder yn rhan o gylch gwaith masnachu ar y
stryd ai peidio, gan gynnwys trwyddedau parcio a roddwyd i gontractwyr sy'n
gweithio o fewn canol trefi (a oedd wedi achosi rhywfaint o anghytuno yng
Nghanol Tref y Rhyl) a masnachwyr twyllodrus a oedd yn gweithredu o gerbydau,
yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd y swyddogion bod y ddau fater yn disgyn y tu allan i'r gyfundrefn
masnachu ar y stryd. Roedd trwyddedau parcio yn cael eu hawdurdodi gan Adain Gwaith Stryd
Priffyrdd a gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau drafod unrhyw bryderon yn hynny o
beth yn uniongyrchol gyda'r Pennaeth Priffyrdd. O ran masnachwyr twyllodrus, dylai aelodau
gyfeirio eu pryderon at yr Adain Safonau Masnach ar gyfer ymchwiliad. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Trwyddedu yn - (a) awdurdodi'r
swyddogion i barhau â'r gwaith ar y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft, gan
ystyried unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol sydd ar ddod a allai effeithio ar
reoleiddio masnachu ar y stryd fel y'i drafftiwyd gan Lywodraeth y DU, ac (b) awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar bolisi drafft, a chymryd i ystyriaeth
unrhyw sylwadau a ddaw i law, a llunio drafft terfynol i aelodau ei ystyried yn
eu cyfarfod ym mis Mawrth 2017. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 35 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016. PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1594/TXJDR
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR wedi’u profi ac na ddylid gweithredu o gwbl. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR i ddal trwydded i
yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau
cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig i’w
brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus; (ii)
bod manylion ynghylch y diffygion a nodwyd yn dilyn
cyflwyno’r cerbyd ar gyfer Prawf Cydymffurfio/MOT Mai 2016 a chyhoeddi 20 pwynt
cosb wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a
dogfennaeth; (iii)
y Gyrrwr wedi apelio’r penderfyniad i ddyfarnu'r 20 pwynt
cosb ar y sail, ei fod wedi cyflwyno’r cerbyd ar gyfer y prawf o flaen llaw
mewn garej wahanol, a bod y gwaith trwsio angenrheidiol wedi cael ei wneud yn
unol â methiant y prawf a hysbysiadau cynghori (nid oedd y ddwy eitem a nodwyd
fel 'peryglus' yn y prawf dilynol ym Mai wedi cael eu nodi yn ystod y prawf
cyntaf) – y Gyrrwr wedi methu â darparu tystiolaeth ddogfennol o'i hawliadau ac
ar ôl ymchwiliadau, fe wrthododd y swyddogion yr apêl, a (iv)
bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y
cyfarfod i gefnogi adolygiad o’i drwydded, er mwyn gallu ateb cwestiynau’r
aelodau ynglŷn â hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei chais a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr
adroddiad a threfnau’r pwyllgor. Amlinellodd y Swyddog
Gorfodi Trwyddedu'r achos fel y manylir yn yr adroddiad. Derbyniodd y Gyrrwr y
ffeithiau fel y nodwyd yn yr adroddiad, ar wahân i'r methiant i gredu ei fod
wedi cyflwyno’r cerbyd i'r Orsaf Brofi ymlaen llaw. Dadleuodd ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol
i sicrhau addasrwydd y cerbyd ac fe fanylodd ar y digwyddiadau a arweiniodd at
Fethu’r Prawf Cydymffurfio/MOT a oedd yn cynnwys (1) adnewyddu'r cerbyd mewn
siop rhannau ceir; (2) cyflwyno’r cerbyd mewn Gorsaf Brofi lle cafodd
cyn-archwiliad ei wneud a nododd bump o ddiffygion; (3) cyflwyno'r cerbyd i
garej wahanol a drwsiodd y diffygion a nodwyd, a (4) cyflwyniad terfynol o’r
cerbyd ar gyfer Prawf Cydymffurfio/MOT angenrheidiol a arweiniodd at fethu’r
prawf. Darparodd y Gyrrwr dystiolaeth o
daliadau a wnaed i bob un o'r tair garej ar wahân a nodwyd yn ei gyflwyniad, er
nad oedd tystiolaeth o'r gwaith a wnaed a’r diffygion a nodwyd wedi cael eu rhoi. Rhoddwyd tystiolaeth ddogfennol ar ffurf
datganiad tyst yn cadarnhau casglu’r cerbyd o'r Orsaf Brofi a’i gyflwyno i
garej ar wahân ar gyfer gwaith trwsio.
Yn olaf, cyflwynwyd llythyr gan Frocer Yswiriant y Gyrrwr i gefnogi ei
achos. Wrth gloi ei gyflwyniad, dywedodd
y Gyrrwr ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth ac wedi
ymddiried mewn gweithwyr proffesiynol tair garej ar wahân a oedd wedi methu
adnabod y diffygion fel y rhestrir ar yr hysbysiad methiant. Rhoddodd sicrwydd bod camau wedi’u cymryd ar
unwaith i drwsio’r diffygion unwaith y cawsant eu nodi ac nad oedd y cerbyd
wedi bod yn berygl i'r cyhoedd, gan nad oedd wedi bod yn gwasanaethu yn ystod y
cyfnod yn arwain at fethu’r prawf. Yn
olaf, fe roddodd y Gyrrwr rhywfaint o wybodaeth gyffredinol am reoli ei fusnes
a chynnal a chadw ei gerbydau trwyddedig heb ddigwyddiad blaenorol. Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i godi cwestiynau gyda'r Gyrrwr er mwyn egluro trefn y digwyddiadau ymhellach a'r camau yr oedd wedi’u cymryd mewn ymateb i amgylchiadau penodol i sicrhau bod y cerbyd mewn cyflwr diogel ac addas i'r ffordd fawr, ynghyd â chwestiynau ynghylch rheolaeth gyffredinol ei fusnes a threfn cynnal a chadw cerbydau. Ymatebodd y ... view the full Cofnodion text for item 7. |