Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
HYSBYSIAD Cytunodd y
Cadeirydd i amrywio trefn y rhaglen er mwyn i unigolion gael rhoi sylw i
eitemau penodol. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield, Bill Cowie, Richard Davies, Hugh Irving, Win Mullen-James a Pete
Prendergast Cofnodion: Cynghorwyr Joan
Butterfield, Bill Cowie, Richard Davies, Hugh Irving, Win Mullen-James a Pete
Prendergast |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor ddiddordeb
personol sy’n rhagfarnu yn eitem 11 ar yr Agenda - Adolygu Trwydded i Yrru
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Barry Mellor ddatgan cysylltiad personol sy’n
rhagfarnu yn Eitem 11 ar y Rhaglen - Adolygu Trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a
Cherbydau Hurio Preifat oherwydd ei fod yn adnabod y gyrrwr dan sylw yn yr
adolygiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 132 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015 fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015. PENDERFYNWYD bod cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015 yn cael eu derbyn a’u cadarnhau fel
cofnod cywir. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg
a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, tra bod yr eitemau canlynol yn cael eu trafod oherwydd ei bod yn debygol
y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y diffinnir hi ym
Mharagraff 14 Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
GOLLYNGIAD O’R GOFYNIAD I ARDDANGOS PLATIAU TRWYDDED CERBYDAU HURIO PREIFAT I ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n
amgaeedig) yn gofyn am benderfyniad yr aelodau ynghylch cais am ollyngiad o’r
gofyniad i arddangos platiau trwydded ar gerbyd hurio preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
cais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos plât trwydded cerbyd hurio preifat a
sticeri drws yn amodol ar yr amodau fel y'u nodwyd yn Atodiad C i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ynghylch – (i)
cais ar gyfer gollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau trwydded car
Gerbyd Hurio Preifat; (ii)
pwerau’r Cyngor i ganiatáu gollyngiad i
berchenogion rhag arddangos plât
trwydded gan ystyried natur weithredol y gwaith ynghyd ag ansawdd y
cerbyd dan sylw a lle byddai’r cerbyd yn cael ei weithredu; (iii)
bod yr ymgeisydd wedi rhoi ei fanylion llawn am y cerbyd a natur y busnes
(Atodiad B); (iv)
ffactorau penderfynu eraill y mae angen eu hystyried ynghyd â pholisi
drafft y Cyngor wrth ystyried ceisiadau o’r fath (Atodiad A) ac amodau a
awgrymwyd i’w hystyried (Atodiad C) pe bai aelodau o blaid caniatáu’r cais am ollyngiad. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a’r
cais. Ymhelaethodd yr Ymgeisydd ar waith a natur ei fusnes a’r
rhesymau y tu ôl i’w gais am ollyngiad er mwyn diwallu anghenion ei gleientiaid
a’i alluogi i gystadlu â busnesau sy’n cystadlu am yr un gwaith ag ef.
Darparodd ddau ddatganiad ysgrifenedig gan gleientiaid presennol i gefnogi ei
fusnes a darpariaeth arbennig ar gyfer cerbydau heb blatiau ond wedi eu
trwyddedu.. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau dadleuodd yr Ymgeisydd mai ef oedd
yn y sefyllfa orau i ddewis cerbyd i ddiwallu anghenion a disgwyliadau ei
gleientiaid a’i fod yn darparu gwasanaeth teithio penodol proffesiynol.
Cadarnhaodd swyddogion pe bai aelodau o blaid caniatáu’r cais y byddai’r
telerau a’r amodau perthnasol yn weithredol yn uno â cherbydau hurio preifat
eraill a oedd wedi eu trwyddedu yn amodol ar ofyniad i arddangos plât trwydded
a sticeri drws. Cadarnhawyd hefyd mai polisi presennol y Cyngor oedd trwyddedu
cerbydau hyd at bump oed oni bai bod y cerbyd mewn cyflwr eithriadol, er bod y
polisi hwnnw’n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Neilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos – PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r cais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos plât a sticeri drws
cerbyd hurio preifat ar sail yr amodau yn Atodiad C. Dyma’r rhesymau a roddwyd am benderfyniad gan y Pwyllgor
Trwyddedu - Ar ôl ystyried yr adroddiad a chais yr Ymgeisydd, bu peth
trafodaeth ynghylch a oedd manyleb y cerbyd yn bodloni gofynion eithrio o ran
ansawdd moethus ac roedd barn gymysg am hynny. Roedd aelodau’n fodlon fod natur
y gwaith yn bodloni’r meini prawf ar gyfer eithrio yn yr achos hwn ac yn
gyffredinol cytunwyd bod ansawdd y cerbyd hefyd yn bodloni’r meini prawf o ran
manyleb gan ystyried anghenion cleientiaid yr Ymgeisydd a’r gwasanaeth pwrpasol
a ddarparwyd. O ganlyniad cytunwyd i ganiatáu’r cais. Roedd yr amodau wedi eu
gosod er mwyn helpu i reoleiddio a gorfodi. Wrth fynd heibio, cyfeiriwyd at y polisi drafft ar gyfer
delio â cheisiadau i eithrio rhag arddangos platiau trwydded cerbydau hurio a
sticeri drws. Nodwyd y byddai’r polisi’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn i’w
gymeradwyo ac awgrymwyd defnyddio mwy o hyblygrwydd o ran manyleb y cerbyd gan
ystyried anghenion rhai cleientiaid o safbwynt disgresiwn a bod yn anhysbys. Felly cyflwynwyd penderfyniad a rhesymau’r pwyllgor i’r
Ymgeisydd. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1123/TXJDR
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n
amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1123/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat Gyrrwr Rhif 15/1123 / TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 15/1123/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat ar ôl cael 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am
gyflwyno cerbyd trwyddedig am brawf mewn cyflwr anniogel a pheryglus; (ii)
roedd
manylion am y diffygion a nodwyd ar ôl i’r cerbyd gael ei gyflwyno am brawf
Cydymffurfio/MOT wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â datganiadau tyst a’r
dogfennau cysylltiedig, a (iii)
roedd
y Gyrrwr wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded
ac ateb cwestiynau’r aelodau wedi hynny. Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodaeth yr adroddiad a manylodd ynghylch ffeithiau’r achos. Mewn achosion
lle mae 20 neu fwy o bwyntiau cosb gan yrrwr mewn cyfnod o 24 mis, yr arfer yw
cyfeirio’r mater i’r pwyllgor ei adolygu. Cyflwynodd y Gyrrwr ymateb ysgrifenedig i gefnogi ei achos gan ddweud ei
fod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddiogelwch teithwyr ac na fyddai’n cludo
teithwyr mewn cerbyd os gwyddai ei fod mewn cyflwr peryglus. Roedd y cerbyd
wedi bod yn cael ei drwsio yn syth cyn ei gyflwyno ar gyfer MOT/Cydymffurfio a
bu anghytuno ynglŷn â rhai o’r pethau a oedd wedi methu’r prawf. Cyn
belled ag y gwyddai’r Gyrrwr roedd y cerbyd wedi bod mewn cyflwr da ar wahân i
un broblem gyda’r brêcs. Roedd wedi bod yn yrrwr tacsis am gryn amser heb
gŵyn flaenorol yn ei erbyn. Manteisiodd yr Aelodau
ar y cyfle i holi’r Gyrrwr am amgylchiadau’r achos yn cynnwys cyflwr
cyffredinol y cerbyd a’r drefn gynnal a arweiniodd at dynnu sylw at y ffaith
bod y cerbyd mewn cyflwr peryglus ac yntau’n gyrru’r cerbyd gan wybod hynny.
Mewn ymateb i gwestiynau ailadroddodd y
Gyrrwr ei fod wedi mynd â’r cerbyd i’w drwsio wythnos cyn yr archwiliad a bod
gwaith wedi ei wneud arno gan gofio cyflwr y cerbyd. Roedd llwch y tu mewn a
thu allan i’r cerbyd ar ôl y gwaith trwsio ac roedd wedi ceisio ei lanhau yn yr
amser cyfyngedig a oedd ar gael. Roedd wedi gyrru’n syth o’r garej i’r orsaf
brawf pan sylwodd fod problem gyda’r brêcs ond ni allai ddwyn i gof eu bod wedi
dweud wrtho ar yr adeg y methodd y prawf nad oedd y cerbyd yn ddiogel i’w yrru.
Roedd wedi gyrru’r cerbyd o’r orsaf brawf gyda’r bwriad o’i drwsio. Sicrhaodd y
Gyrrwr y pwyllgor ei fod yn archwilio ‘r cerbyd bob dydd a’i fod yn cael ei
wasanaethu bob tri mis. Wrth wneud datganiad
terfynol dywedodd y Gyrrwr ei fod yn ystyried ei hun yn yrrwr da a’i fod yn
fodlon derbyn awgrymiadau gan y pwyllgor ynglŷn â threfn gynnal a chadw’r
cerbyd yn y dyfodol yn sgil y methiannau presennol. Neilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos - PENDERFYNWYD
atal y drwydded yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat a roddwyd i Yrrwr
Rhif. 15/1123/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd yn
syth. Dyma resymau a roddwyd am benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu – Yn ystod trafodaethau rhoddodd aelodau ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a gyflwynwyd a chais y Gyrrwr i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded. Nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod adroddiad y Gyrrwr o’r digwyddiadau’n gredadwy oherwydd byddai wedi gwybod bod y cerbyd mewn cyflwr budr iawn, yn ogystal â’r llwch ar ôl y gwaith trwsio, gan fod rhai i’w gweld yn amlwg ac roedd nifer o arwyddion eraill nad oedd yn cael ei gynnal yn briodol. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, cyflwynodd y Gyrrwr ei gerbyd i gael ei archwilio ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0427/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n
amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0427/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd y dylid galw cyfarfod arbennig o'r
Pwyllgor Trwyddedu cyn gynted ag y bo'n ymarferol er mwyn ystyried adolygiad y
drwydded. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Barry Mellor ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu
yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn adnabod y gyrrwr dan sylw ac felly ni allai
gymryd rhan yn y drafodaeth yn yr achos hwn. O ganlyniad nid oedd cworwm ac nid
oedd y pwyllgor yn gallu bwrw ymlaen i wrando ar yr achos. Cytunwyd i gynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor
Trwyddedu cyn gynted ag yr oedd yn ymarferol gwneud hynny i ystyried adolygu’r
drwydded. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau’r
busnes uchod dychwelodd y cyfarfod i sesiwn agored. |
|
POLISI GWERTHWYR METEL SGRAP ARFAETHEDIG PDF 49 KB I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn
cyflwyno Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 - Datganiad o Bolisi Trwyddedu, i'w
ystyried a'i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- (a)
cymeradwyo –
Datganiad Polisi Trwyddedu – Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 fel y manylwyd yn
Atodiad A yr adroddiad; (b)
cymeradwyo
cyfnod addas o ymgynghori i'r rhai sydd wedi’u trwyddedu gan Sir Ddinbych o dan
gylch gwaith y Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu
Trafnidiaeth Prydain, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithasu Diwydiant, a (c) i awdurdodi
swyddogion i ystyried unrhyw ymatebion perthnasol a dderbyniwyd o ganlyniad i'r
ymgynghoriad, a lle y bo'n berthnasol bod y polisi, yn cael ei ddiwygio cyn ei
gyflwyno i'r Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno Deddf Delwyr Metel
Sgrap 2013 - Datganiad o Bolisi Trwyddedu i’w ystyried a’i gymeradwyo ar gyfer
ymgynghori. Roedd y Cyngor wedi cymeradwyo’r broses gais yn flaenorol gan ddirprwyo
pŵer a ffioedd ar gyfer trwyddedau angenrheidiol o dan y Ddeddf Delwyr
Metel Sgrap. Hysbyswyd Aelodau ynghyd dull ar y cyd gydag awdurdodau eraill
Cymru i baratoi polisi drafft a oedd yn ceisio helpu swyddogion gyda’r drefn
orfodaeth a sicrhau cysondeb wrth ddelio gyda cheisiadau. Byddai’r polisi hefyd
yn ganllaw i ymgeiswyr newydd, deiliaid trwydded presennol a’r cyhoedd
ynglŷn â’r ffordd y byddai’r Ddeddf yn cael ei gweinyddu a’i gorfodi. Yn
sgil ymgynghori â phartïon perthnasol byddai adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno
i’r Cabinet ei fabwysiadu (nid i Gyngor Llawn fel y cyfeirid ato yn yr
adroddiad). Cadarnhaodd Swyddogion y byddai angen trwydded hefyd ar fasnachwyr
teithiol. PENDERFYNWYD – (a) cymeradwyo Deddf Delwyr
Metel Sgrap 2013 – Datganiad o Bolisi Trwyddedu fel y manylir yn Atodiad A; (b)
bod cynnal cyfnod ymgynghori addas
i’r rhai sydd wedi eu trwyddedu gan Sir Ddinbych o dan Ddeddf Delwyr Metel
Sgrap yn 2013, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Cyfoeth
Naturiol Cymru a Chymdeithasau Diwydiant yn cael ei gymeradwyo, ac (c) awdurdodi swyddogion bod unrhyw
ymatebion perthnasol a dderbynnir o ganlyniad i’r ymgynghoriad yn cael eu
hystyried ac os yw’n berthnasol bod y polisi’n cael ei ddiwygio’n unol â hynny
cyn ei gyflwyno i’r Cabinet. |
|
YSTYRIED HYFFORDDIANT I YRWYR TRWYDDEDIG PDF 54 KB I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig)
ynghylch cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol ar gyfer gyrwyr a
gweithredwyr trwyddedig. Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- (a)
bod swyddogion
yn cael eu cyfarwyddo i gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol ar
gyfer pob gyrrwr a gweithredwyr cerbydau hacni trwyddedig a hurio preifat Sir
Ddinbych yn ystod 2016, ac (b)
bod swyddogion
yn cael cyfarwyddyd i baratoi cynnig ar gyfer hyfforddiant ffurfiol ar gyfer
gyrwyr a gweithredwyr trwyddedig. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn argymell
hyfforddiant mandadol ar ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar gyfer gyrwyr trwyddedig
yn dilyn nifer o faterion diogelu diweddar o broffil uchel o gwmpas y sir, yn
arbennig mewn perthynas â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant a chysylltiadau â
cherbydau trwyddedi awdurdod lleol. Cyfeiriwyd yn benodol at ganfyddiadau ymchwiliad
yr Athro Alexis Jay i gamfanteisio ar blant yn Rotherham rhwng 1997 a 2013 a
oedd yn tynnu sylw at rôl amlwg gyrwyr tacsi a oedd â chysylltiad uniongyrchol
â phlant a oedd yn cael eu cam-drin. Roedd cynllun hyfforddi ar gyfer gyrwyr
trwyddedig yng Nghonwy wedi ei gyflwyno ym Medi 2015 ac roedd partneriaid
diogelwch cymunedol hefyd yn annog y dull hwn yn Sir Ddinbych. Croesawodd aelodau’r bwriad i gyflwyno cynllun hyfforddi mandadol i
helpu i ganfod materion cam-fanteisio a diogelwch a gofynnwyd am ymestyn yr
hyfforddiant hefyd i weithredwyr hurio preifat. Nodwyd fod rhai gyrwyr a
drwyddedid gan awdurdodau eraill hefyd yn gweithredu yn Sir Ddinbych ond nad
oedd gan y Cyngor unrhyw gyfrifoldeb am ddarparu hyfforddiant iddynt. Fodd
bynnag, cydnabuwyd y gallai’r Cyngor arfer peth rheolaeth wrth ddyfarnu
contractau ysgolion i weithredwyr y tu allan i’r sir. Cytunodd swyddogion i
gysylltu â chydweithwyr cludiant ysgolion er mwyn gwneud hyfforddiant diogelwch
i yrwyr trwyddedig sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych yn amod mandadol o fewn
contractau ysgolion yn y dyfodol. Wrth ystyried y fformat hyfforddi dywedodd
swyddogion y byddai pecyn hyfforddiant wedi ei deilwra ar gyfer Sir Ddinbych yn
cael ei ddefnyddio a byddai’n cynnwys nifer o ddigwyddiadau drwy’r sir. Roedd
aelodau hefyd yn awyddus i ddatblygu hyfforddiant ffurfiol, fel BTEC neu
gymhwyster cyfatebol i yrwyr trwyddedig. PENDERFYNWYD– (a)
bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo
i gyflwyno hyfforddiant mandadol ar ymwybyddiaeth diogelwch i holl yrwyr
cerbydau hacni trwyddedig yn Sir Ddinbych a gyrwyr a gweithredwyr hurio preifat
yn ystod 2016, a (b)
bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo
i baratoi cais ar gyfer hyfforddiant ffurfiol i yrwyr a gweithredwyr
trwyddedig. |
|
ADOLYGIAD O BOLISI A GWEITHDREFN PWYNTIAU COSB CYFREDOL PDF 49 KB I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig), yn
cyflwyno Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig i’w cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- (a)
cymeradwyo'r
Polisi Pwyntiau Cosb a’r Weithdrefn ddiwygiedig fel y manylir arnynt yn Atodiad
A i gymryd lle'r Cynllun Pwyntiau Cosb presennol, a (b)
bod y cynllun yn
cael ei weithredu ar unwaith. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen
llaw) a oedd yn cyflwyno Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb Diwygiedig i’w
cymeradwyo yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol. Roedd y ddogfen yn manylu ynghylch y modd yr oedd y Cyngor yn delio â
mân achosion o dorri amodau trwyddedau
tacsis ac roedd yn cynnwys nifer o newidiadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor
Trwyddedu ym Medi 2015. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn ystod y cyfnod
ymgynghori ac ni wnaed unrhyw newid pellach i’r cynllun. Ymatebodd swyddogion i gwestiynau ynglŷn â gorfodi’r polisi a
chadarnhawyd bod gan y Cyngor ar hyn o bryd ddau Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu.
Mynegodd y Cynghorydd Stuart Davies bryderon ynglŷn â hurio traws ffiniol
ond cadarnhaodd swyddogion fod yr arfer yn gyfreithlon. Dylai unrhyw bryderon
ynglŷn â thrwyddedu’r cerbydau hynny gael sylw gan yr awdurdod trwyddedu
perthnasol. Nodwyd hefyd fod nifer y pwyntiau cosb am ysmygu mewn cerbyd
trwyddedig wedi codi i 10 pwynt ac os cafwyd rhywun yn euog byddai hysbysiad
cosb sefydlog yn cael ei gyflwyno. PENDERFYNWYD – (a)
cymeradwyo’r Polisi a’r Weithdrefn
Pwyntiau Cosb diwygiedig fel y manylir yn Atodiad A yn lle’r Cynllun Pwyntiau
Cosb 2014 presennol (b) bod y cynllun yn cael ei
weithredu’n syth. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 70 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ar flaenraglen waith y Pwyllgor Trwyddedu
ar gyfer 2016. Yr unig newid ers y cyfarfod diwethaf oedd adolygu’r Polisi
Sefydliadau Rhyw, roedd yr eitem hon wedi llithro ac wedi newid o Fawrth i
Ragfyr 2016. PENDERFYNWYD
bod rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu’n cael ei chymeradwyo. Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m. |