Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd Win Mullen-James Cofnodion: Y Cynghorydd Win
Mullen James |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams fel
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2015/16.
Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn
Williams yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Owen. Cynigiodd
y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Barry Mellor yn
Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Pete Prendergast. Yn dilyn pleidlais gudd – PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams yn
Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD
y dylid penodi'r Cynghorydd Barry Mellor fel Is-Gadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar
gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2015/16. Cynigiodd Joan Butterfield y dylid
penodi’r Cynghorydd Barry Mellor yn Is-Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Pete Prendergast. Wedi hynny – PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Barry Mellor yn
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 142 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015. PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015 fel cofnod
cywir. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU YNGLŶN Â CHOD GWISG GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 80 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD
gofyn i swyddogion
ddiwygio Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn caniatáu
siorts wedi'u teilwra hyd at y pen-glin, ond bod yn fwy cyfarwyddol, h.y. dim
siorts denim na siorts chwaraeon. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (IM)
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes)
a oedd yn cyflwyno i Aelodau sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn eu penderfyniad i
wahardd gyrwyr trwyddedig rhag gwisgo siorts fel rhan o’r Cod Gwisg a
gymeradwywyd ar gyfer gyrwyr yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Bu gan y cyfryngau gryn ddiddordeb yn y
penderfyniad a chafodd deiseb yn dwyn y teitl "Deiseb er mwyn i yrwyr
tacsi Sir Ddinbych gael parhau i wisgo siorts” ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis
Mai 2015. Yng ngoleuni'r sylwadau a
gafwyd ac o ystyried geiriad fersiwn ddrafft y Cod Gwisg yn amodol ar
ymgynghori ynglŷn â chaniatáu siorts hyd at y pen-glin wedi'u teilwra,
gofynnwyd i'r Aelodau ystyried a oes digon o ymgynghori neu drafodaeth wedi
digwydd er mwyn gwahardd siorts rhag cael eu gwisgo. Trafododd yr Aelodau rinweddau’r penderfyniad i
wahardd gyrwyr rhag gwisgo siorts ac roedd safbwyntiau cymysg yn y cyswllt
hwn. Siaradodd y Cynghorwyr Joan
Butterfield, Bill Cowie a Barry Mellor o blaid codi'r gwaharddiad a chaniatáu
siorts hyd ar y pen glin wedi eu teilwra ond dim siorts denim na siorts
chwaraeon. O ystyried barn y fasnach
dacsis ystyriwyd bod y gwelliant hwn yn rhesymol er mwyn sicrhau cysur y gyrwyr
mewn tywydd poeth a pharhau i gyfleu delwedd broffesiynol o'r fasnach. Nodwyd bod yr ymgynghoriad wedi'i seilio ar
ganiatáu siorts at y pen-glin wedi'u teilwra a bod y cynnig hwnnw wedi ei
dderbyn gan y deiliaid trwydded hynny a fynychodd y sesiwn gweithdy. O ganlyniad, ni ystyriwyd ei bod yn
angenrheidiol ymgynghori unwaith eto ynglŷn â’r cynnig hwnnw. Siaradodd y Cynghorydd Hugh Irving o blaid
cadw gwaharddiad llwyr ar wisgo siorts i hyrwyddo delwedd broffesiynol o’r
fasnach a gwnaeth gymariaethau â chod gwisg/lifrai sefydliadau eraill a
chyfeirio at y fasnach dacsis mewn gwledydd eraill. Teimlai y dylai gyrwyr tacsi fodloni safonau
tebyg i sicrhau y gwneir argraff ffafriol ar gwsmeriaid ac ar ymwelwyr â'r
ardal. Hefyd, tynnodd sylw at ba mor
anodd fyddai barnu ar yr amrywiaeth o siorts y gellir eu gwisgo. Ymatebodd aelodau eraill ei bod yn annheg
gwneud cymariaethau â sefydliadau llawer mwy a phroffesiynau gwahanol, yn
arbennig o ystyried bod llawer o’r gyrwyr yn hunan-gyflogedig. Nodwyd hefyd bod cod gwisg y Cyngor ei hun yn
caniatáu gwisgo siorts cyhyd â’u bod yn drwsiadus ac yn broffesiynol. Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid cadw’r
Cod Gwisg fel y cytunwyd arno ar 4 Mawrth 2015 ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Peter Owen. Cynigiodd y
Cynghorydd Joan Butterfield y dylid diwygio'r Cod Gwisg er mwyn caniatáu siorts
wedi'u teilwra hyd at y pen-glin, ond y dylid bod yn fwy rhagnodol, h.y. dim
siorts denim na siorts chwaraeon. Yn
dilyn pleidlais - PENDERFYNWYD
gofyn i swyddogion
ddiwygio'r Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn caniatáu
siorts hyd at y pen-glin wedi'u teilwra, ond y dylid bod yn fwy rhagnodol, h.y.
dim siorts denim na siorts chwaraeon |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0269/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR. Penderfyniad: PENDERFYNWYD
rhoi rhybudd i Yrrwr Rhif
15/0269/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: [Daethpwyd â'r eitem hon yn ei blaen ar y rhaglen
gyda chydsyniad y Cadeirydd.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrwyr Rhif 15/0269/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y
Cyngor am ysmygu mewn cerbyd di-fwg ar ddau achlysur gwahanol ym mis Ionawr
2015; (ii)
Riportiwyd
y Gyrrwr am ysmygu ar y ddau achlysur ynghyd ac un achos o ollwng sbwriel a
chafodd dri Rhybudd Cosb Benodedig (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â
datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi’u hatodi i’r adroddiad), a (iii)
Roedd
y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygid ei
drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
threfnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Gorfodaeth yr adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos. Mewn achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau
cosb wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis
caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w adolygu. Cafodd y Gyrrwr gyfle i
annerch y Pwyllgor ac roedd yn derbyn mai ef oedd yn gyfrifol am yr achosion
hyn o dorri'r Cod fel y manylir yn yr adroddiad ac ymddiheurodd am yr hyn a
wnaeth. Cyfeiriodd at ei amgylchiadau
personol ar adeg y digwyddiadau fel eglurhad ond gan dderbyn nad oedd hynny yn
esgusodi ei ymddygiad. Mewn ymateb i
gwestiynau, dywedodd y Gyrrwr ei fod yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a
rhoddodd sicrwydd ei fod yn y cyfamser wedi rhoi'r gorau i ysmygu ac na fyddai
unrhyw dramgwydd pellach yn digwydd. Yr
oedd wedi bod yn yrrwr trwyddedig ers pymtheng mlynedd gyda hanes dilychwyn ac
roedd yn darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid.
Wrth wneud ei ddatganiad terfynol ymddiheurodd y Gyrrwr unwaith yn
rhagor am yr hyn a wnaeth a rhoi sicrwydd ynghylch ei ymddygiad i’r dyfodol. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD
rhoi rhybudd ffurfiol i
Yrrwr Rhif 15/0269/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad i’r dyfodol. Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad ac atebion y Gyrrwr i gwestiynau. Gwelodd y Pwyllgor fod y Gyrrwr yn onest
ynglŷn â’r digwyddiad ac yn ddiffuant yn ei edifeirwch. Cymerwyd sicrwydd o ymddygiad da blaenorol y
Gyrrwr ac o'r ffaith ei fod wedi rhoi'r gorau i ysmygu yn y cyfamser. Roedd y Pwyllgor yn derbyn y sicrwydd a
ddarparwyd gan y gyrrwr ynghylch ei ymddygiad i’r dyfodol ac roeddynt o’r farn
bod rhoi rhybudd ffurfiol yn briodol yn yr achos hwn. Felly, cafodd
penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Gyrrwr. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 14/0459/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 14/0459/TXJDR. Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 14/0459/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd am
gyfnod o bythefnos. Cofnodion: [Daethpwyd â'r eitem hon yn ei blaen ar y rhaglen
gyda chydsyniad y Cadeirydd.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrwyr Rhif 14/0459/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y
Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a
pheryglus; (ii)
Roedd
manylion y diffygion a nodwyd yn dilyn cyflwyno’r cerbyd am brawf
Cydymffurfio/MOT wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â datganiadau tyst a
dogfennau cysylltiedig, ac (i)
Roedd
y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygid ei
drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
threfnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Gorfodaeth yr adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos. Mewn achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau cosb wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis caiff y
mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w adolygu. Darllenodd y Cadeirydd
ddatganiad ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y Gyrrwr i gefnogi’r adolygiad o’i
drwydded ac ynddo mae’n cydnabod diffygion y cerbyd a’i gyfrifoldeb ef yn hynny
o beth. Eglurodd y Gyrrwr i’r materion
ddeillio o anwybodaeth a’i fod ers hynny wedi sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol
o'r gofynion angenrheidiol. Gwnaed
gwaith trwsio sylweddol ar y cerbyd ac mae bellach wedi pasio’r profion
angenrheidiol. Gellid cymryd sicrwydd
pellach o’r ffaith bod contract atgyweirio a chynnal a chadw ar gyfer y
cerbyd. Bu i’r Gyrrwr ymateb i
gwestiynau ynglŷn â sut y câi’r cerbyd ei gynnal a’i gadw’n flaenorol a'r
mesurau a gymerwyd i sicrhau ei fod yn addas i'w ddefnyddio. Cydnabu hefyd ddifrifoldeb y drosedd. Yn ei ddatganiad terfynol rhoddodd y Gyrrwr
sicrwydd ynglŷn â chynnal a chadw’r cerbyd yn y dyfodol. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD atal trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat Gyrrwr Rhif 14/0459/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd am gyfnod o
bythefnos. Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu
– Yn ystod y drafodaeth rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth
ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd ac i ddatganiadau'r Gyrrwr i gefnogi’r
adolygiad o’i drwydded. Canfu'r
Pwyllgor, er gwaethaf y diffygion mecanyddol, fod yn rhaid bod y gyrrwr yn
ymwybodol fod diffygion gan y cerbyd gan fod rhai ohonynt yn amlwg iawn. Mynegwyd pryderon difrifol bod y Gyrrwr wedi
gyrru cerbyd trwyddedig gyda diffygion, ac yntau’n ymwybodol ohonynt, gan roi’r
cyhoedd mewn perygl. Fodd bynnag
rhoddwyd clod i'r Gyrrwr am sicrhau fod y diffygion wedi cael eu hunioni ac yn
y cyfamser mae’r cerbyd wedi pasio’r profion angenrheidiol. Cymerwyd sicrwydd hefyd o’r contract cynnal a
chadw/atgyweirio cerbydau a sicrhawyd i’r cerbyd. O ganlyniad, ystyriai’r Pwyllgor fod atal y
drwydded am bythefnos ar sail diogelwch cyhoeddus yn rhesymol yn yr achos hwn. Felly, cafodd
penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Gyrrwr. Wrth fynd heibio, mynegodd
yr Aelodau bryder bod y cyfrifoldeb am gyflwr cerbydau trwyddedig ar
ysgwyddau’r perchennog/gyrrwr yn unig ac roeddynt o’r farn y dylai cwmnïau
tacsi hefyd gymryd cyfrifoldeb wrth is-gontractio gwaith. Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion ymchwilio
ymhellach i'r mater hwn ac adrodd yn ôl. Ar y pwynt hwn (11.10
am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau trafod y materion
uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
POLISI ARFAETHEDIG YNGLŶN AG EITHRIO RHAG ARDDANGOS PLÂT CERBYD HURIO PREIFAT PDF 87 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn argymell
cymeradwyo'r Polisi Eithrio Arddangos Plât Cerbyd Hurio Preifat arfaethedig ar
gyfer ymgynghori ffurfiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) bod y Polisi Eithrio Plât Hurio Preifat arfaethedig, fel y caiff ei nodi yn
Atodiad A i'r adroddiad, yn cael ei gefnogi a'i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori
ffurfiol, ac (b) yn dilyn ymgynghoriad, bod swyddogion yn adrodd yn ôl unrhyw ymatebion i'r
Cyngor Llawn i'w hystyried a chymeradwyo’r polisi newydd arfaethedig. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
argymell cymeradwyo’r polisi arfaethedig ynglŷn ag Eithrio rhag Arddangos
Plât Cerbydau Hurio Preifat er mwyn ymgynghori yn ei gylch. Adroddodd Swyddogion ar y materion cyfreithiol
sy’n llywodraethu’r mater hwn o ran arddangos platiau adnabod cerbydau llogi
preifat gan gynnwys disgresiwn y Cyngor i ganiatáu eithrio rhag arddangos
platiau trwydded. Byddai’r polisi
arfaethedig yn galluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau tryloyw ac i ddarparu
canllawiau i ymgeiswyr posibl ynglŷn ag eithriadau addas. Roedd yr Aelodau'n cefnogi'r polisi fel modd
i ddarparu dull gweithredu cyson wrth ymdrin â cheisiadau i eithrio rhag
arddangos plât a – PHENDERFYNWYD - (a) Cefnogi’r polisi arfaethedig
ynglŷn ag Eithrio rhag Arddangos Plât Cerbydau Hurio Preifat, fel y nodir
yn Atodiad A yr adroddiad, a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol, ac (b) yn dilyn ymgynghori bod y
swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Cyngor Llawn gael ystyried unrhyw ymatebion er
mwyn cymeradwyo’r polisi newydd arfaethedig. |
|
ADOLYGU POLISI CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
diweddaru aelodau ar yr adolygiad o'r Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat presennol a’r camau gweithredu arfaethedig. Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y Gwasanaeth Fflyd yn cael
ei wahodd i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi i roi cyflwyniad ar y fanyleb a
phrofi cerbydau, a (b) bod y Cynghorwyr Pete Prendergast a Cefyn Williams (Cadeirydd) yn cael eu
henwebu i fynychu'r sesiynau gweithdy a drefnwyd fel y nodir yn y cynllun
gweithredu (Atodiad B i adroddiad y rhaglen waith). Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn
rhoi diweddariad i’r aelodau ar yr adolygiad o'r Polisi Cerbydau Hacni a
Cherbydau Hurio Preifat presennol a’r camau gweithredu arfaethedig. Byddai’r adolygiad yn archwilio addasrwydd pob cerbyd ac
yn cynnwys polisi oedran presennol, y polisi oedran hynaf, a yw’r polisi o ran
lliw cerbydau’n briodol, a hygyrchedd cerbydau.
O ran manyleb a phrofi cerbydau awgrymwyd bod swyddogion o'r
Gwasanaethau Fflyd yn mynychu cyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol i roi cyngor
ac arweiniad ynglŷn â diogelwch cerbydau a rheoliadau, yn benodol felly
ynglŷn â phrofion cerbydau. Paratowyd
cynllun gweithredu i symud yr adolygiad yn ei flaen a gofynnwyd i’r aelodau
enwebu un neu ddau o gynrychiolwyr i fynychu'r sesiynau gweithdy sydd wedi'u
cynllunio er mwyn hwyluso'r broses honno ac er mwyn darparu mewnbwn yn gynnar
yn y broses. PENDERFYNWYD - (a) nodi cynnwys yr adroddiad a
gwahodd y Gwasanaethau Fflyd i bwyllgor mis Medi i roi cyflwyniad ynglŷn â
manyleb a phrofion cerbydau, ac (b) Enwebu’r Cynghorwyr Pete
Prendergast a Cefyn Williams (Cadeirydd) i fynychu'r sesiynau gweithdy sydd
wedi eu trefnu fel y manylir yn y cynllun gweithredu (Atodiad B adroddiad y
rhaglen gwaith). |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2015/16 PDF 89 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn nodi
blaenoriaethau’r Adran Drwyddedu ac yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y
pwyllgor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) tynnu’r broses o reoleiddio Cerbydau Hacni oddi ar Raglen Gwaith i’r
Dyfodol 2015/16, a (b) chymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu a
blaenoriaethau’r Adain Trwyddedu ar gyfer 2015/16. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ynglŷn â blaenoriaethau’r Adain
Drwyddedu ynghyd â rhaglen waith arfaethedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer
2015/16. Ymhelaethodd y swyddogion ar y blaenoriaethau a nodwyd
sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen waith ynghyd â chyfres o gynlluniau gweithredu
gan gynnwys amserlen ar gyfer eu cwblhau dros y deunaw mis nesaf. Yng ngoleuni trafodaethau a gafwyd mewn
digwyddiad hyfforddi aelodau’n ddiweddar, argymhellwyd y dylid tynnu
rheoleiddio cerbydau hacni oddi ar y rhaglen waith. Tra derbynnid y rhesymau dros beidio â mynd
ar drywydd cyfyngu ar niferoedd tacsis ailadroddodd y Cynghorydd Joan
Butterfield ei phryderon ynglŷn â’r rhengoedd tacsi a dywedodd y byddai
hi'n codi'r mater yn uniongyrchol gyda'r Adran Priffyrdd ynghyd ag effaith y
cynnig i gyflwyno rhaglen o bylu'r pa mor llachar yw goleuadau stryd y sir. PENDERFYNWYD - (a) Tynnu rheoleiddio Cerbydau
Hacni oddi ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol 2015/16. (b) Cymeradwyo rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Pwyllgor trwyddedu a blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ar gyfer
2015/16. Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m. |