Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
MATER RHAGARWEINIOL – ADOLYGIADAU TRWYDDED (EITEMAU RHAGLEN 8 A 9) Cyn cychwyn y
cyfarfod, mynegodd rhai aelodau amheuon bod dau adolygiad trwydded wedi’u
cyflwyno i wneud penderfyniad arnynt, er gwaethaf yr achosion troseddol
arfaethedig, a allai olygu eu bod yn cael eu dwyn yn ôl gerbron y
pwyllgor a/neu brofi’n niweidiol mewn sefyllfa apêl. Dywedodd y Pen Gyfreithiwr
bod canlyniad y prawf yn amherthnasol i raddau helaeth o gofio nad oedd y
pwyllgor â’r gwaith o ystyried euogrwydd gyrwyr neu fel arall, ond a ydynt yn
cael eu hystyried yn addas a phriodol i ddal trwydded ar sail yr honiadau a
godwyd a'r wybodaeth a roddwyd iddynt. Ar gyfer y pwyllgor, roedd gwahanol
ystyriaethau ac elfennau gwahanol iawn o’r gyfraith. Roedd yn fodlon bod gan y
pwyllgor ddigon o wybodaeth i benderfynu ar yr adolygiadau trwydded. O ran y
mater yn cael ei ddwyn yn ôl i'r pwyllgor, byddai natur unrhyw gollfarn yn yr
achos hwn yn arwain at swyddogion yn penderfynu ar y mater dan awdurdod
dirprwyedig. Roedd gan yr aelodau farn gymysg ynghylch a ddylai'r mater symud
ymlaen at wrandawiad ar hyn o bryd, ac yn dilyn trafodaeth, cytunodd y pwyllgor
i ohirio ystyried y ddau adolygiad trwydded wrth aros am ganlyniad yr achos
troseddol. Cytunwyd hefyd bod cyfarfod arbennig o'r pwyllgor yn cael ei gynnull
cyn gynted â phosibl wedi hynny i benderfynu ar addasrwydd y deiliaid trwydded. Mynegwyd penderfyniad y pwyllgor ar wahân i’r gyrwyr trwyddedig dan
sylw. Nododd y Cadeirydd ddadleuon yn
erbyn yr oedi a gyflwynwyd gan gynrychiolydd cyfreithiol Gyrrwr rhif 047857,
ond gwrthododd ei chais i symud ymlaen gydag adolygiad cyn i ganlyniad y prawf
fod yn hysbys. Nodwyd hefyd bod cais i
ohirio yn yr achos hwn wedi’i wneud gan gynrychiolydd cyfreithiol Gyrrwr Rhif
047689. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield, Richard Davies, Stuart Davies, Hugh Irving, Pat Jones a Barry
Mellor Cofnodion: Cynghorwyr Joan
Butterfield, Richard Davies, Stuart Davies, Hugh Irving, Pat Jones a Barry
Mellor |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 143 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Medi 2014 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2014
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Medi 2014. Cywirdeb – Rhoddodd y Cynghorydd Peter Owen wybod nad oedd ei
ymddiheuriadau am absenoldeb wedi’u cofnodi yn y cofnodion. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2014
fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
manylu ar gynigion i ddiwygio amodau sy'n ymwneud â thipio seddau mewn cerbydau
trwyddedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod - (a) cynigion i ddiddymu amod 2. 1 (h) a gynhwysir yn yr Amodau Trwyddedu
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat sy'n ymwneud â thipio seddau yn cael
eu cefnogi a bod ymgynghori ffurfiol yn cychwyn â'r holl ddeiliaid trwyddedau
wedi hynny, a (b) bod
adolygiad o'r fanyleb cerbydau hacni
sy’n ymwneud â dileu'r amod yn ymwneud â thipio seddau yn cael ei gynnal a bod
canfyddiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i gyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol i'w
hystyried. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion am gynigion i ddiwygio amodau yn
ymwneud â thipio seddau mewn cerbydau trwyddedig. Esboniodd y Swyddogion y rhesymeg y tu ôl i’r cynnig i
gael gwared ar amod 2.1(h) yn ymwneud â thipio
seddi mewn cerbydau hurio preifat, er mwyn caniatáu pobl i fynd i mewn
ac allan o’r cerbyd yn dilyn y canllaw Adran Drafnidiaeth diweddaraf (yn
amgaeedig i’r adroddiad hwn), a phryderon a godwyd gan weithredwyr. Yn sgil effaith fflyd cerbydau hacni a
manylebau cerbydau gwahanol, argymhellwyd y dylid adolygu manyleb cerbydau
hacni, a bod y canfyddiadau’n cael eu hadrodd yn ôl mewn cyfarfod yn y dyfodol
er ystyriaeth aelodau. Ystyriodd yr Aelodau ganllaw yr Adran Drafnidiaeth, ac fe
wnaethant hefyd nodi bod yr holl geisiadau cerbydau hurio preifat blaenorol a
gyflwynwyd i’r pwyllgor oherwydd nad oeddent yn bodloni amod 2.1(h), wedi’u
cymeradwyo. O ran amserlen ar gyfer yr
adolygiad o fanyldeb cerbydau hacni arfaethedig, dywedodd swyddogion am eu
bwriad i ddechrau’r broses ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor cyn gynted â
phosibl. PENDERFYNWYD bod - (a) cynigion
i gael gwared ar amod 2.1(h) a gynhwysir yn Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a
Hurio Preifat yn ymwneud â thipio seddi’n cael eu cefnogi, a bod ymgynghoriad
ffurfiol yn dechrau gyda phob deiliad trwydded wedi hynny, a (b) bod
adolygiad o fanyleb cerbyd hacni yn ymwneud â chael gwared ar yr amod yn
ymwneud â thipio seddi’n cael ei gynna,l a bod y canfyddiadau’n cael eu hadrodd
yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol o'r pwyllgor er ystyriaeth. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2014/15 PDF 50 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y newidiadau
arfaethedig i'r rhaglen waith fel y nodir o fewn paragraff 3.4 yr adroddiad yn
cael eu cymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) yn manylu ar fân newidiadau i raglen gwaith i’r
dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ers ei chymeradwyo ym Mawrth 2014. Rhoddodd y Swyddogion wybod am y gwaith a wnaed yn dilyn
archwiliad mewnol o weithdrefnau trwyddedu tacsis er mwyn gwella gwiriadau
cefndir ar gyfer trwyddedu tacsis, ynghyd â deddfwriaeth newydd yn gofyn am
adolygiad o'r Polisi Sefydliad Rhyw.
Nododd yr Aelodau effaith y gofynion hynny ar y rhaglen gwaith ac
awgrymasant newidiadau i'r rhaglen gwaith o ganlyniad. Felly - PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi, a bod y newidiadau
arfaethedig i'r rhaglen gwaith fel y manylir ym mharagraff 3.4 o'r adroddiad,
yn cael eu cymeradwyo. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 14/0985/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif
14/0985/TXJDR. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 14/0985/TXJDR yn cael ei roi gyda rhybudd
ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 14/0985/TXJDR am drwydded i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat; (ii)
nid
yw swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais oherwydd croniad yr
Ymgeisydd o 10 pwynt cosb dilys ar y Drwydded Gyrwyr DVLA hon; (iii)
crynodeb
o'r ardystiadau moduro, ynghyd â manylion am hanes blaenorol yr Ymgeisydd fel
gyrrwr trwyddedig; (iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (v)
gofynnwyd
i’r Ymgeisydd fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i
gwestiynau aelodau ar hynny. Rhoddodd y Swyddog
Trwyddedu (NJ) grynodeb o'r adroddiad a dywedodd nad oedd yr Ymgeisydd yn
bresennol, ond gweithiodd yn rheolaidd i ffwrdd oddi cartref, a allai egluro ei
absenoldeb. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif
14/0985 / TXJDR yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei
roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Nododd y pwyllgor fath a
natur y collfarnau moduro a gronnwyd gan yr Ymgeisydd, ynghyd â'i hanes
blaenorol, ac ar y sail honno ystyrir iddo fod yn berson addas a phriodol i
ddal trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Fodd bynnag, yn wyneb nifer y pwyntiau cosb a
gronnwyd, ystyriwyd ei fod hefyd yn briodol bod rhybudd ffurfiol yn cael ei
gyhoeddi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047689
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047689. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod yr adolygiad o drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat a roddwyd i Yrrwr Rhif 047689 yn cael ei ohirio nes
ceir canlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn. Cofnodion: Gwnaethpwyd cais ysgrifenedig i ohirio ar ran
Gyrrwr Rhif 047689. Er gwaethaf y cais hwnnw, ystyriwyd bod y mater yn mater
rhagarweiniol yn union cyn y cyfarfod, ac roedd Gyrrwr Rhif 047689 wedi cael
gwybod am y canlyniad. O ganlyniad, dyma
a wnaeth yr aelodau - PENDERFYNU oedi ynghylch adolygu trwydded i Yrru Cerbydau
Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif
047689, tra arhosir am ganlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047857
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047857. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod yr adolygiad o drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat a roddwyd i Yrrwr Rhif 047857 yn cael ei ohirio nes
ceir canlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn. Cofnodion: Roedd y pwyllgor wedi ystyried a ddylid bwrw
ymlaen ai peidio â'r adolygiad trwydded fel mater rhagarweiniol yn union cyn y
cyfarfod. Roedd y penderfyniad i
ohirio'r mater wedi cael ei gyfleu i Yrrwr Rhif 047857 a'i gynrychiolydd
cyfreithiol, a oedd wedi dadlau o blaid clywed yr adolygiad. Roedd y cais i fynd ymlaen â'r gwrandawiad
adolygu ar y cyfnod hwn wedi’i wrthod. O
ganlyniad, fe wnaeth yr aelodau - PENDERFYNU oedi ynghylch adolygu trwydded i Yrru Cerbydau
Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif
047857, tra arhosir am ganlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 048126
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 048126. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PHENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 048126 ar
sail diogelwch y cyhoedd yn syth. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 048126 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
roedd
cwyn wedi cael ei gwneud yn erbyn Gyrrwr Rhif 048126 ar 23 Medi 2014, yr
ymchwiliwyd iddi gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r
ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi
i’r adroddiad); (iii)
bod y
Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei
drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Cyflwynodd yr
Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol (TWE) yr adroddiad a chadarnhaodd nad
oedd yr Ymgeisydd yn bresennol, er iddo gael ei wahodd i fod yn bresennol. Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i holi
cwestiynau gyda'r swyddogion ynghylch ffeithiau'r achos, a gofynnwyd am
eglurhad ar nifer o faterion. Ar y pwynt hwn
torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD diddymu
Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 048126 ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith. Dyma oedd y
rhesymau ynghylch penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Fe wnaeth y
pwyllgor ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ofalus, gan gynnwys natur y
gŵyn a'r defnydd o'r cerbyd hacni.
Canfu yr Aelodau bod y Gyrrwr wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi torri ei
safle o ymddiriedaeth fel gyrrwr tacsi, ac felly ystyriwyd nad oedd yn berson
addas a phriodol i ddal trwydded. Yn
ogystal, ystyriodd y pwyllgor fod ei weithredoedd wedi dod ag anfri ar y
Cyngor. Yn sgil natur a difrifoldeb y
digwyddiad, ni allai’r aelodau fod yn sicr parthed diogelwch y cyhoedd, a
phenderfynodd y pwyllgor ddiddymu’r drwydded ar sail diogelwch y cyhoedd. Daeth y cyfarfod i ben am 10.35 a.m. |