Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Chuarton, Y Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghr. Richard
Davies a Peter Owen Cofnodion: Cynghorwyr
Richard Davies a Peter Owen |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi’r
Cyng. Cefyn Williams yn gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd
i ddod. Cofnodion: Yn unol â’r broses benodi mae
datganiad ysgrifenedig ar gael gan y Cynghorydd Cefyn Williams ar gyfer swydd
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2013/14. Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies, ac
eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Bill Cowie i benodi’r Cynghorydd Cefyn
Williams yn Gadeirydd. Gan nad oedd
unrhyw enwebiadau pellach – PENDERFYNWYD penodi’r
Cynghorydd Cefyn Williams fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y
flwyddyn sydd i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi’r Cyng. Stuart Davies is-gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Fe wnaeth y Cadeirydd wahodd enwebiadau
ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2013/14. Cynigiodd y Cynghorydd Bill Cowie, ac eiliwyd
ei gynnig gan Cefyn Williams i benodi’r Cynghorydd Stuart Davies fel yr
Is-Gadeirydd. Cynigiodd y Cynghorydd
Joan Butterfield, eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Pat Jones i benodi’r
Cynghorydd Barry Mellor fel Is-Gadeirydd.
Ar ôl gwneud pleidlais, cafwyd nifer gyfartal o bleidleisiau ar gyfer
bob ymgeisydd. Defnyddiodd y Cadeirydd
ei bleidlais fwrw a - PHENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Stuart Davies fel Is-Gadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau ddatgan unrhyw
gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd y
dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau
personol neu gysylltiadau sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid,
ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys o dan Adran
100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 149 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2013 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2013. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd 6 Mawrth 2013. PENDERFYNWYD
derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 6 Mawrth 2013 fel cofnod
cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn
i aelodau gymeradwyo gweithdrefnau diwygiedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer
penderfynu ar geisiadau cerbydau hacni a cheisiadau gyrwyr hurio preifat ac
adolygiadau trwyddedau gyrwyr presennol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
cymeradwyo trefniadau’r Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau
ac adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr
hurio preifat (fel y nodir yn yr
atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn
am gymeradwyaeth aelodau o weithdrefnau diwygiedig y Pwyllgor Trwyddedu ar
gyfer penderfynu ar geisiadau ac adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr hurio
preifat cyfredol. Esboniwyd bod y gweithdrefnau cyfredol wedi dyddio
wedi iddynt gael eu teilwra’n wreiddiol ar gyfer trwyddedau adloniant/eiddo
cyhoeddus ac roedd angen cyfres o weithdrefnau i ddelio’n benodol â cheisiadau
ac adolygiadau gyrwyr. PENDERFYNWYD cymeradwyo gweithdrefnau’r
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac adolygiadau cerbydau
hacni a gyrwyr hurio preifat ar gyfer gyrwyr trwyddedig cyfredol (fel y manylir
yn atodiad yr adroddiad hwn). Yn y fan hon dynododd y Cadeirydd ei fwriad i
amrywio trefn y rhaglen i fod yn addas i’r unigolion hynny a oedd wedi dod i’r
cyfarfod i gefnogi eu ceisiadau/adolygiadau trwydded ac i glywed eu hachosion
cyn unrhyw fater arall. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraffau 12,13 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047324
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047324. Penderfyniad: PENDERFYNWYD gwrthod cais rhif 047324 am drwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â – (i)
chais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif 047324 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad
manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag
euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd; (iii)
darparwyd crynodeb o euogfarnau
a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1981 tan
2007 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â diod/cyffuriau, anwedduster ac
anonestrwydd; (iv)
polisi cyfredol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a (v)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn
dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Rhoddodd y
Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei
ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded o
ystyried nifer a natur yr euogfarnau. Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor a siaradodd am ei awydd
i ddod yn yrrwr tacsi fel dewis amgen i’w gyflogaeth gyfredol a’r gofynion
corfforol. Eglurodd amgylchiadau’r troseddau a ddatgelwyd gan y gwiriad
cofnodion troseddol hefyd. Fe wnaeth yr aelodau gwestiynu’r Ymgeisydd ymhellach
ar ei fersiynau ef o ddigwyddiadau a’i atgofion o’r digwyddiadau. Cwestiynwyd
yr Ymgeisydd hefyd ynghylch problemau iechyd mwy diweddar yn ymwneud â
dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol yn sgil ei euogfarnau a’i dystysgrif
feddygol. Wrth wneud ei ddatganiad terfynol
mynegodd yr Ymgeisydd ei fod yn edifar am ei gamau blaenorol ac ategodd nad
oedd ganddo broblem gydag alcohol.
Ystyriodd ei fod yn dda gyda’r cyhoedd a darparodd esiamplau yn ei
gyflogaeth bresennol. Darparodd yr
Ymgeisydd eirda cymeriad hefyd gan ei gyflogwr cyfredol a ddarllenwyd i’r pwyllgor
cyn y trafodaethau. Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a – PHENDERFYNWYD gwrthod
cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd
Rhif 047324. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu fel a ganlyn – Tra bod y cais o fewn canllawiau’r
polisi, dyletswydd hollbwysig y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd. Wedi ystyried ffeithiau’r achos a’r atebion a
roddwyd mewn eglurhad gan yr Ymgeisydd, roedd gan y pwyllgor bryderon penodol
mewn perthynas â’r euogfarn yn ymwneud ag alcohol, dibyniaeth ar alcohol fel y
trafodwyd a’r drosedd anwedduster. O
ganlyniad nid oedd y pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn abl ac
addas i ddal trwydded a phenderfynwyd gwrthod y cais. Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad
a’r rhesymau am hynny ac fe’i cynghorwyd nad oedd y penderfyniad yn ei atal rhag gwneud cais yn y
dyfodol. Fe’i argymhellwyd hefyd am ei hawl
i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn dau ddeg un diwrnod. [Ni chymerodd y Cynghorydd Arwel Roberts ran yn y
drafodaeth na phleidleisio dros y mater hwn gan nad oedd wedi bod yn bresennol
drwy gydol yr holl achos] |
|
ADDASRWYDD CERBYD AR GYFER TRWYDDED HURIO PREIFAT
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais Trwydded Hurio Preifat. Penderfyniad: RESOLVED
cymeradwyo cais Trwydded Hurio Preifat ar gyfer y cerbyd dan sylw a’r seddi fel
y maen nhw. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â – (i)
chais a dderbyniwyd ar gyfer
Trwydded Cerbyd Hurio Preifat; (ii)
nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn
cydymffurfio â’r manylion fel y manylir yn Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a
Hurio Preifat y Cyngor, sef yn bennaf
(1) nid oedd lleoliad y seddi’n darparu digon o le i’r teithwyr gerdded heibio
a (2) byddai gofyn i deithwyr blygu un o’r seddi eraill yn ei blaen i gael
mynediad/gadael y seddi cefn, a (iii)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny. Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ynghyd â’i Gynrychiolydd
ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Cadarnhaodd yr
aelodau hefyd eu bod wedi derbyn, drwy e-bost, wybodaeth atodol gan yr
Ymgeisydd o blaid ei gais a oedd ar gael i bawb â diddordeb cyn y cyfarfod. Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodaeth Trwyddedu’r adroddiad a gofynnodd i’r pwyllgor ystyried a fyddai’n
addas gwyro oddi wrth bolisi’r Cyngor yn ymwneud â manylion cerbyd, er mwyn
caniatáu’r cais. Esboniodd Cynrychiolydd
yr Ymgeisydd mai’r prif bryder oedd y byddai addasu manylion y cerbyd i
gydymffurfio â pholisi cyfredol y cyngor yn golygu bod yr ymgeisydd yn mynd yn
groes i gymeradwyaeth math cywir ac fe allai hyn olygu mai ef fyddai’n bersonol
atebol pe bai damwain. Cyfeiriodd hefyd
at y cyngor a gafodd gan VOSA a’r Adran Drafnidiaeth yn y cyswllt hwnnw, a
thynnodd sylw’r aelodau at y wybodaeth atodol (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn
cynnwys llythyr gan Gymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat o blaid y cais.
Cyfeiriodd Gymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat at – ·
Ganllaw Arfer Orau’r Adran Drafnidiaeth ·
barnau o ddwy her gyfreithiol aeth i’r Llys Ynadon ·
datganiad gan Ford UK yn ymwneud ag addasiadau seddi Yn sgil y dystiolaeth a gyflwynwyd, gofynnodd
Cynrychiolydd yr Ymgeisydd i’r pwyllgor ganiatáu’r cais ar gyfer y cerbyd dan
sylw, gyda lleoliad presennol y seddi . Gofynnodd hefyd i’r agwedd hon ar
ganllawiau’r polisi gael ei hystyried fel rhan o adolygiad polisi trwyddedu
cerbydau hacni a hurio preifat cyfredol. Wrth ymateb i gwestiynau, rhoddodd yr Ymgeisydd
a’i Gynrychiolydd esboniad ynghylch lleoliad y seddi mewn mwy o fanylder, gan
gynnwys mynediad a ffordd allan o gefn y cerbyd, ynghyd â’r goblygiadau pe
bai’r seddi yn cael eu tynnu ymaith. Cadarnhawyd bod yr Ymgeisydd wedi cael
copi o amodau’r cyngor cyn prynu’r cerbyd.
O ran y gofod lleiaf sydd ei angen i deithwyr, rhoddodd Cynrychiolydd yr
Ymgeisydd wybod bod bwlch y sedd flaen yn mesur yr un faint â sedd gefn y
cerbyd dan sylw a oedd yn dod o dan yr isafswm a nodwyd yn yr amodau. Yn ei ddatganiad terfynol gofynnodd
Cynrychiolydd yr Ymgeisydd i aelodau ganiatáu’r cais. Os nad oedd y pwyllgor o blaid caniatáu’r
cais gyda lleoliad presennol y seddi, gofynnodd a oedd modd cael tystysgrif yn
rhyddhau’r Ymgeisydd o unrhyw atebolrwydd pe bai damwain. Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a – PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais ar gyfer
Trwydded Cerbyd Hurio Preifat mewn perthynas â’r cerbyd dan sylw gyda lleoliad
presennol y seddi. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu fel a ganlyn – Roedd aelodau wedi ystyried y cais yn ofalus a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn ac roeddent wedi ystyried eu cyfrifoldebau mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau. Roedd y pwyllgor yn fodlon fod y cerbyd yn y cais yn diwallu gofynion cyfreithiol i’w ddefnyddio fel cerbyd ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047331
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047331. Penderfyniad: PENDERFYNWYD gwrthod cais rhif 047331 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â – (i)
chais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif 047331 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad
manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag
euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd; (iii)
darparwyd crynodeb o euogfarnau
a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1997 tan
2010 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â meddwdod, troseddau gyrru a
thraffig; (iv)
polisi cyfredol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a (v)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn
dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Rhoddodd y
Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei
ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yn
sgil yr euogfarnau a ddatgelwyd. Fe
anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais gan ddisgrifio ei gefndir
a’i amgylchiadau personol pan gyflawnwyd y troseddau. Roedd yn awyddus i’r aelodau ddeall bod ei
agwedd wedi newid ers iddo symud i’r ardal rhai blynyddoedd yn ôl gan ddod yn
oedolyn cyfrifol mewn cyflogaeth gydag ymrwymiadau teuluol. Esboniodd bod ei gyflogaeth bresennol yn
dymhorol ac roedd yn dymuno dod yn yrrwr tacsi i gynnal ei hun a’i deulu. Holodd yr aelodau'r Ymgeisydd ynghylch ei
euogfarnau, yn enwedig yn sgil cosbau sylweddol a gafodd a gwaharddiadau mynych
rhag gyrru, ac roeddent eisiau sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y
dyfodol. Manylodd yr Ymgeisydd ynghylch
digwyddiadau penodol wrth ymateb i gwestiynau aelodau, a sicrhaodd y pwyllgor
ei fod yn yfed alcohol mewn digwyddiadau cymdeithasol fel priodasau yn
unig. Wrth roi ei ddatganiad terfynol,
rhoddodd sicrwydd i aelodau ei fod yn gwerthfawrogi ei drwydded yrru ac roedd
wedi newid mewn cymeriad. Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a – PHENDERFYNWYD gwrthod
cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd
Rhif 047331. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu fel a ganlyn – Fe ystyriodd
yr aelodau'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a’r ymateb a roddwyd gan yr
Ymgeisydd i gwestiynau. Er bod
caniatáu’r cais yn unol â chanllawiau polisi unigol, prif ystyriaeth y pwyllgor
oedd diogelwch y cyhoedd ac yn sgil euogfarnau cyson a mynych yn ymwneud yn
benodol â throseddau moduro gan gynnwys gyrru’n beryglus; gyrru heb yswiriant,
a gyda gormod o alcohol, nid oedd aelodau’n fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn
abl ac addas i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Yn unol â hynny penderfynwyd gwrthod y cais. Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad
a’r rhesymau am hynny ac fe’i cynghorwyd am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys
Ynadon o fewn dau ddeg un diwrnod. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYD HURIO PREIFAT - RHIF 047319
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer trwydded gyrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif
047319 Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
cais rhif 047319 am drwydded i
yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â – (i)
chais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif 047319 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad
manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag
euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd; (iii)
darparwyd crynodeb o euogfarnau
a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1989 tan
2009 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â meddwdod ac anonestrwydd; (iv)
polisi cyfredol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a (v)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn
dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Rhoddodd y
Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei
ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yn
sgil yr euogfarnau a ddatgelwyd. Anerchodd yr Ymgeisydd y
pwyllgor i gefnogi ei gais gan gyfaddef ei droseddau a mynegi edifeirwch am
weithredoedd blaenorol. Esboniodd ei amgylchiadau personol, gan ddweud ei fod
wedi symud i Gymru rhai blynyddoedd yn ôl gan amlygu ei ymrwymiadau teuluol a’i
gyfrifoldebau, a chyfeiriodd at ei gysylltiad gyda’r fasnach dacsi a’i
ddymuniad i ddod yn yrrwr tacsi. Fe
wnaeth yr Ymgeisydd hefyd esbonio amgylchiadau’r troseddau, gan egluro materion
wrth ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny. Roedd yr aelodau eisiau sicrwydd
ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol ac fe fanylodd yr Ymgeisydd ar ei ffordd o
fyw gyfredol a’i gysylltiadau cymunedol a’r berthynas ddibynadwy gyda’i gyflogwr
cyfredol. Sicrhaodd y pwyllgor ei fod
wedi dysgu o’i gamgymeriadau yn y gorffennol ac wedi newid ei fywyd. Darllenwyd geirda gan gyflogwr yr Ymgeisydd
i’r pwyllgor gan dystio i’w gymeriad da.
Yn ei ddatganiad terfynol, diolchodd yr Ymgeisydd i aelodau am y cyfle i
gyflwyno ei achos a gofynnodd i’r pwyllgor edrych yn ffafriol ar ei gais. Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a – PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais ar gyfer
trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047319. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y
pwyllgor trwyddedu fel a ganlyn – Roedd y pwyllgor wedi ystyried
ffeithiau’r achos yn ofalus ac wedi gwrando ar gyflwyniad yr Ymgeisydd a’i
ymateb i gwestiynau’r aelodau ac wedi eu plesio gydag ymddygiad yr Ymgeisydd ac
yn ystyried ei fod yn dweud y gwir wrth roi sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad
cyfredol ac yn y dyfodol. O ganlyniad,
ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn abl ac addas i ddal trwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat. Roedd
euogfarnau blaenorol yr Ymgeisydd wedi peri pryder i’r pwyllgor fodd bynnag, ac
fe’i rhybuddiwyd y byddai unrhyw drosedd yn y dyfodol a fyddai’n peri iddo ddod
gerbron y pwyllgor yn cael ymdriniaeth lem. Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y
penderfyniad a’r rhesymau am hynny. [Dymunodd y Cynghorydd Stuart Davies ei
roi ar gofnod ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.] |
|
ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 044473
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau adolygu trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat
Ymgeisydd Rhif 044473. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) ystyried addasrwydd Gyrrwr
Rhif 044473 i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn
ystod y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r gyrrwr fynychu’r cyfarfod nesaf i
gyflwyno ei achos, ac (b) anfon llythyr at Yrrwr Rhif
044473 yn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad uchod, a gofyn iddo fynychu’r cyfarfod
nesaf a phwysleisio difrifoldeb y mater hwn. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud ag – (i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 044473 i
ddal trwydded i yrru cerbydau Hacni a cherbydau Hurio Preifat; (ii)
pryderon yn cael eu codi gan
Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu ynglŷn ag ymddygiad gyrrwr trwyddedig ar
sawl achlysur gwahanol (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion
wedi’u hatodi i’r adroddiad); (iii)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny Nid oedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod er iddo gael gwahoddiad i fod yn bresennol. Yn absenoldeb esboniad gan y gyrrwr
ynglŷn â’i ddiffyg presenoldeb, penderfynodd y Pwyllgor fwrw ati yn ei
absenoldeb. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (HB) yr
adroddiad a rhoddodd grynodeb am ffeithiau’r achos. Cymerodd yr aelodau’r cyfle i holi cwestiynau
ac eglurodd y swyddogion gysylltiad y gyrrwr â’r busnes a’r tacsi y cyfeiriwyd
atynt yn y digwyddiadau ac ymddygiad y gyrrwr yn ystod y digwyddiadau dan sylw.
Cafwyd eglurhad, yn ystod y weithred tacsi aml asiantaeth yn Chwefror 2013,
roedd cerbydau trwyddedig wedi’u harolygu’n gyffredinol a phrofwyd cerbydau
eraill hefyd. Roedd swyddogion yn
bryderus ynghylch methiant y Gyrrwr i ymgysylltu â nhw a swyddogion eraill, yr
agwedd a ddangosodd a’r modd yr anwybyddodd awdurdod. Amlygodd Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd bod
Swyddogion Gorfodaeth â rôl heriol ac anodd ac wedi cynnal cysylltiadau
cadarnhaol gyda Thrwyddedigion yn bennaf, ac ni fyddai materion yn dod gerbron
y pwyllgor oni bai eu bod yn sylweddol. Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a – PHENDERFYNWYD (a) gohirio ystyried addasrwydd
gyrrwr rhif 044473 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat tan gyfarfod nesaf y pwyllgor i ddarparu cyfle pellach i’r gyrrwr fod
yn bresennol a chyflwyno ei achos (b) anfon llythyr at yrrwr rhif
044473 yn rhoi gwybod iddo am benderfyniad uchod y pwyllgor, gan ofyn iddo fod
yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor a phwysleisio difrifoldeb y mater
iddo. Wedi ystyried y dystiolaeth, fe wnaeth
y pwyllgor fynegi pryderon difrifol ynghylch
ymddygiad y Gyrrwr yn yr achos hwn ac fe wnaethant ystyried eu pwerau yn
nhermau gwahardd a diddymu. Yn absenoldeb y gyrrwr a chlywed ei ochr ef fodd
bynnag, cytunodd y pwyllgor y dylid rhoi cyfle pellach i’r Gyrrwr fod yn
bresennol i gyflwyno ei achos i’r Pwyllgor Trwyddedu cyn gwneud
penderfyniad. O ganlyniad penderfynwyd
gohirio ystyried addasrwydd y gyrrwr tan gyfarfod nesaf y pwyllgor a’i wahodd i
fod yn bresennol, gan roi gwybod iddo am benderfyniad y pwyllgor a difrifoldeb
y mater. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl
cwblhau’r eitemau uchod, aeth y cyfarfod yn ei flaen mewn sesiwn agored. |
|
GWEITHDREFNAU AR GYFER POLISÏAU NEWYDD A DIWYGIEDIG PDF 62 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i
aelodau gymeradwyo’r gweithdrefnau i’w mabwysiadu ar gyfer drafftio polisïau
newydd a diwygio polisïau cyfredol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r gweithdrefnau ar gyfer llunio polisïau trwyddedu newydd ac adolygu
polisïau cyfredol (fel y nodir yn yr atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth aelodau o’r gweithdrefnau i’w mabwysiadu
ar gyfer drafftio polisïau newydd a diwygiedig. Ar wahân i ofynion statudol, nid oedd unrhyw
weithdrefnau ysgrifenedig ar waith i swyddogion eu dilyn wrth ddrafftio
polisïau trwyddedu newydd neu wrth adolygu polisïau trwyddedu presennol. Dylai cymeradwyo cyfres o weithdrefnau leihau
unrhyw risg o wneud y Cyngor yn agored i wall gweinyddol a heriau. Tynnwyd sylw’r aelodau at y canlynol – ·
byddai
polisïau newydd yn cynnwys ymgynghoriad llawn, gan gynnwys sgrinio’r polisi
drwy ddefnyddio Pecyn Cymorth Asesu Effaith ar Gydraddoldeb, ac adrodd
amlinelliad y polisi a chwmpas yr ymgynghoriad i aelodau. ·
ar
gyfer polisïau cyfredol sydd angen diwygiadau cyffredinol, byddai swyddogion yn
trafod diwygiadau bwriedig gydag aelodau, ynghyd ag unrhyw ofyniad ymgynghori a
byddent yn gofyn i aelodau argymell
mabwysiadu’r diwygiadau i’r Aelod arweiniol ·
byddai
Pennaeth y Gwasanaeth yn cymeradwyo diwygiadau polisi bach gan gynnwys
diweddariadau deddfwriaethol neu mewn achosion lle ystyriwyd na fyddai’r newid
yn effeithio ar bwrpas y polisi PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gweithdrefnau
ar gyfer drafftio polisïau trwyddedu newydd ac adolygu polisïau cyfredol (fel y
manylir yn yr atodiad i’r adroddiad hwn). |
|
GWEITHDREFNAU TRWYDDEDU PDF 66 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i
aelodau gymeradwyo’r gweithdrefnau, gan gynnwys dirprwyo i swyddogion, ar gyfer
delio â cheisiadau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) cymeradwyo’r 8 gweithdrefn
cerbydau hacni a hurio preifat (fel y nodir yn yr
atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad) a’u gweithredu
o 1 Awst 2013, a (b) chymeradwyo’r dirprwyon, fel y
nodir yn y gweithdrefnau, i ffurfio rhan o’r cynllun dirprwyo o 1 Awst 2013. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ)
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth aelodau ynghylch wyth gweithdrefn, gan
gynnwys dirprwyo swyddog ar gyfer delio â cheisiadau trwyddedu cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat. Cynhaliwyd adolygiad helaeth o’r drefn
drwyddedu, gyda’r bwriad o sicrhau bod prosesau trwyddedu mor gadarn â phosibl
a bod y cyhoedd yn teithio’n ddiogel ac yn cael gwasanaeth da. Craffwyd ar y gweithdrefnau drafft hefyd gan
Arbenigwr Cyfreithiol Trwyddedu ac ymdriniwyd â’r canlynol - ·
Dogfennau Yswiriant a Chydymffurfiad wedi dod i ben ·
Caniatáu/Adnewyddu Trwydded Gweithredwr Hurio Preifat ·
Caniatáu/Adnewyddu Trwydded Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ·
Caniatáu/Adnewyddu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ·
Gwahardd/Diddymu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ·
Gwahardd/Diddymu Trwydded Cerbydau Hacni a Cherbyd Hurio Preifat ·
Trosglwyddo diddordeb/cerbyd newydd â Thrwydded Cerbydau Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat ·
Hysbysiad o Euogfarn Gyrrwr Cerbydau Hacni a Cherbyd Hurio Preifat Dywedodd y Cadeirydd fod y
gweithdrefnau’n gynhwysfawr iawn ac fe gydnabuwyd y gwaith caled a wnaed i’w
hadolygu. PENDERFYNWYD – (a) cymeradwyo wyth gweithdrefn
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat (fel y manylir yn yr atodiad i’r
adroddiad hwn) yn weithredol o 1 Awst 2013, a (b) cymeradwyo’r dirprwyaethau a
fanylir yn y gweithdrefnau i ffurfio rhan o’r cynllun dirprwyo yn weithredol o
1 Awst 2013. |
|
RHAGLEN WAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2013/14 PDF 68 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n
cyflwyno rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer ei chymeradwyo ac yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynglŷn â materion perthnasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
nodi cynnwys rhaglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar raglen waith i’r
dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu. Roedd adolygiad o’r polisi cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat yn symud ymlaen yn dda a byddai adroddiad ar
hynny yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor yn Rhagfyr 2013 cyn dechrau ymgynghoriad
ffurfiol. Darparwyd manylion am yr
ymgynghoriad hefyd. PENDERFYNWYD
nodi rhaglen waith
y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 p.m. |