Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Alan James – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 5 ar y Rhaglen Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Alan James ddatgan cysylltiad personol
yn eitem 5 y rhaglen gan fod ei ferch yn gweithio i’r Gwasanaeth Gwella
Ysgolion Rhanbarthol (GwE). |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
18 Chwefror 2025. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
DOD Â’R GWASANAETH GWELLA YSGOLION RHANBARTHOL I BEN Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a
Theuluoedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â’r newidiadau sydd eu hangen a’r
ffordd ymlaen arfaethedig i gyflawni swyddogaethau statudol gwella ysgolion yn
dilyn cau GwE. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) Bod y Cyngor hwn yn cymeradwyo terfynu’r
cytundeb i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd
Cymru yng nghyd-destun y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion
rhanbarthol (GwE) ar 31 Mai 2025 a diddymu’r gofyn am Gyd-bwyllgor GwE yn sgil
hynny; (b) Bod y Cyngor hwn yn cadarnhau ei
rwymedigaeth dan y contract wrth ddod â’r trefniant hwn i ben, a (c) Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r
adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Diane King yr adroddiad,
gan fanylu ar y newidiadau angenrheidiol, a chynhigiodd ffordd ymlaen i fynd
i’r afael â swyddogaethau statudol gwella ysgolion yn dilyn cau’r Gwasanaeth
Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE). Sefydlwyd GwE drwy gytundeb rhwng y chwech o
awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ym mis Chwefror 2013. Ym mis Ionawr 2024, cyfeiriodd y Gweinidog
Addysg a’r Gymraeg ar y pryd i adolygiad o bartneriaethau Addysg a gwelliant
ysgolion i symud i ffwrdd i fodel rhanbarthol ehangach i sefydlu partneriaethau
ar lefel fwy lleol, a byddai GwE yn peidio â bodoli fel consortiwm rhanbarthol
ar 31 Mai, 2025. O ganlyniad, gofynnwyd
i’r Cabinet derfynu’r cytundeb hwnnw’n ffurfiol a diddymu Cyd-bwyllgor
GwE. Darparodd yr Aelod Arweiniol sicrwydd
y byddai gwella safonau mewn ysgolion yn parhau, a bod y Pennaeth Addysg yn
gweithio gyda chydweithwyr ledled Gogledd Cymru a, a byddai Adrannau AD a’r
Gyfraith yn parhau gyda’u cefnogaeth i ysgolion. Roedd codi safonau mewn ysgolion yn parhau i
fod yn flaenoriaeth allweddol. Mynychodd y Pennaeth Addysg ar gyfer yr eitem hon
hefyd. Yn ystod y drafodaeth codwyd
pryderon ynghylch y gost, ansicrwydd o ran newid, a chodwyd cwestiynau mewn
perthynas â’r symudiad i ffwrdd o weithio’n rhanbarthol yn yr achos hwn, pan
roedd yn ehangu mewn ardaloedd eraill, rhesymeg tu ôl penodi’r awdurdod
arweiniol, craffu gwaith GwE, goblygiadau ar gyfer ysgolion, a datblygiad y
gwasanaeth wrth symud ymlaen. Ymatebodd
y swyddogion i’r cwestiynau hynny a chwestiynau pellach fel a ganlyn – ·
manylion o gymhlethdod y
sefyllfa a’r amwysedd o ran costau staffio o wybod proses barhaus trefniadau
Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth yn y chwe awdurdod lleol, a dod â
threfniadau contract i ben, gyda chyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gael
yn y flwyddyn ariannol bresennol i helpu gyda’r costau hynny ·
sefydlu Bwrdd Trosiannol i
oruchwylio’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau GwE i’r awdurdodau
lleol a’r strwythurau a ddatblygwyd i ddarparu cefnogaeth i ysgolion ar lefel
awdurdod lleol unigol ·
roedd gan y costau
trosiannol natur untro a byddai’r cyllid ar ffurf grantiau, neu’n defnyddio
cronfeydd wrth gefn (byddai’r gyllideb drosiannol £2 miliwn ar gyfer Cymru
gyfan yn annhebygol o dalu am y costau); roedd costau parhaus y gwasanaeth yn
dilyn diddymiad GwE wedi cael eu cynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor
Canolig, a byddai arbedion cylchol yn sgil costau llai y gwasanaeth newydd ·
roedd y rhesymeg tu ôl y
penderfyniad hanesyddol i benodi Cyngor Gwynedd fel awdurdod arweiniol ar gyfer
GwE yn anhysbys, a byddai trefniadau gwasanaeth newydd yn cael eu harwain gan
bob awdurdod lleol unigol gydag ychydig o gydweithio gyda’r awdurdodau eraill ·
nodwyd cyfreithlondeb
sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn 2021, yn ogystal â’u cyfrifoldebau yn
nhermau gweithio’n rhanbarthol mewn meysydd penodol ·
symud i ffwrdd o fodel
rhanbarthol ehangach ar gyfer y gwasanaeth gwella ysgolion, gydag adolygiad
haen ganol i’w gwblhau yn genedlaethol ledled Cymru, ac ymgynghoriad gyda
Phenaethiaid ac ysgolion; y canlyniad oedd tueddiad i symud i ffwrdd o ddull
rhanbarthol o weithio i ganolbwyntio fwy yn lleol. Serch hynny, roedd disgwyliad bod
cydweithrediad o hyd gydag awdurdodau lleol ar brosiectau a chynlluniau
penodol, ond byddai ffocws lleol penodol yn hytrach na rhanbarthol ·
Roedd ysgolion Sir Ddinbych
fel arfer yn gwerthfawrogi gwaith GwE, a bod gwaith ac arfer da yn cael ei gymryd
ymlaen i’r gwasanaeth newydd, a chytunodd aelodau eraill am yr ymgysylltiad
cadarnhaol gyda’r gwasanaeth; roedd GwE wedi bod yn mynd i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad i drafod materion
megis addysg yn y cartref, safonau, a phresenoldeb, heb unrhyw argymhellion
negyddol ar y gwaith hwnnw · Amlygodd y Cynghorydd Gareth Sandilands, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad bresenoldeb GwE mewn cyfarfodydd wrth ystyried materion yn ymwneud ag addysg i ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
POLISÏAU AD - POLISI AFLONYDDU RHYWIOL NEWYDD A’R POLISI ADLEOLI A DDIWEDDARWYD Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb
a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Aflonyddu Rhywiol a’r diwygiadau i’r Polisi
Adleoli. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi
Aflonyddu Rhywiol a’r Polisi Adleoli, ac yn (b) cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 3 a 4 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod
i benderfyniad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad
yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu diwygiadau i’r Polisi Aflonyddu
Rhywiol a’r Polisi Adleoli. Roedd yr adroddiad yn trafod dau bolisi cadarnhaol
i gefnogi staff a’u lles, a darparwyd crynodeb o bob polisi, fel a ganlyn - Polisi Aflonyddu Rhywiol – roedd hwn yn bolisi
newydd a luniwyd yn unol â’r ddeddfwriaeth Cydraddoldeb newydd a oedd yn rhoi
dyletswydd ar gyflogwyr i gymryd camau ‘rhesymol’ i atal aflonyddu
rhywiol. Nod y polisi yw sicrhau bod
pawb yn deall beth yw aflonyddu rhywiol a’r ymddygiad proffesiynol a
ddisgwyliwn yn y Cyngor, a phennu ein cyfrifoldebau ninnau fel Cyngor i atal
aflonyddu rhywiol. Roedd hefyd yn egluro
sut i roi gwybod am aflonyddu rhywiol, y broses y dylid ei dilyn a’r cymorth
sydd ar gael. Daeth yr Asesiad o'r
Effaith ar Les i'r casgliad bod yr effaith yn gadarnhaol. I fewnosod y polisi yn niwylliant yr
awdurdod, byddai’n cael ei gefnogi gan Becyn Gwaith Atal i Reolwyr, a fydd yn
cynnwys hyfforddiant, dogfen ar gyfer cyflwyno’r polisi mewn cyfarfodydd tîm a
chyflwyniadau diogelwch, ynghyd â thempledi ar gyfer asesiadau risg i
wasanaethau eu cwblhau a’u cadw’n gyfredol. Polisi Adleoli – roedd y polisi hwn
wedi bod yn destun adolygiad llawn ac roedd yr adroddiad yn cynnig crynodeb o’r
diwygiadau a wnaed. Roedd y polisi’n
canolbwyntio ar dair sefyllfa bosib sy’n creu’r angen i adleoli: gallu, colli swydd
a meddygol. Dan y polisi presennol, dim
ond gweithwyr gyda mwy na dwy flynedd o wasanaeth parhaus a oedd yn cael eu
rhoi ar y gronfa adleoli, ac mae’r fersiwn newydd yn sicrhau bod pob gweithiwr
yn cael eu rhoi ar y rhestr adleoli, waeth beth fo hyd eu gwasanaeth. Roedd y polisi hefyd yn cynnwys ‘cwestiynau
cyffredin’ buddiol a gafodd eu diweddaru. Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Rheolwr Gwasanaeth Pobl ac AD yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Roedd y polisïau wedi’u datblygu mewn
ymgynghoriad gyda’r Undebau Llafur ac wedi’u cymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor
Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr. Trafododd y Cabinet y polisïau gyda’r Aelod Arweiniol a’r
swyddogion. Roedd y Polisi Aflonyddu
Rhywiol yn bolisi cyflogaeth i staff, a byddai ymddygiad aelodau etholedig mewn
perthynas ag aflonyddu rhywiol, ac yn y blaen yn cael ei gynnwys yn y Cod
Ymddygiad Aelodau. Ar gais yr Aelod
Arweiniol, cytunwyd y byddai modiwl eDdysgu ar gael i aelodau etholedig i gefnogi
eu dealltwriaeth o’r mater. Roedd yr
Undebau Llafur wedi cymryd rhan weithredol mewn llunio’r polisi, a oedd wedi
cael ei dderbyn yn dda gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac roedd yr Undebau
Llafur wedi gwerthfawrogi eu cyfranogiad yn y broses honno. Diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r holl fudd-ddeiliaid
am eu cyfraniadau a’u cyfranogiad gyda’r polisi newydd. Roedd y camau nesaf yn cynnwys mewnosod y
polisi i ddiwylliant yr awdurdod a chodi ymwybyddiaeth, a fyddai’n debygol o
arwain at gynnydd i’r nifer o achosion a adroddir. Byddai effeithiolrwydd y polisi yn bennaf yn
cael eu mesur i ddechrau gan y nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu hadrodd, a
dros gyfnod hirach o amser sy’n cael ei adlewyrchu yn yr arolwg staff. Gofynnwyd am eglurhad dros eiriad y Polisi Adleoli a’i oblygiadau o ganlyniad i’r newid o ran symud i ffwrdd o isafswm o ddwy flynedd o wasanaeth cyn adleoli. Amlygodd y Cynghorydd Emrys Wynne yn benodol yr amddiffyniad ar gyfer staff sydd dan y polisi dwy flynedd ar hyn o bryd, yn benodol o ganlyniad i ymddiswyddiad, ac i ddiogelu’r adleoliadau dilynol a all effeithio rhai aelodau o staff yn negyddol. Gan gydnabod y pryderon hynny, amlygwyd bod y rhesymau ar gyfer adleoliad ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
POLISI SY’N CEFNOGI MAETHU Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb
a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Cefnogi Maethu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi
Cefnogi Maethu, ac yn (b) cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i
benderfyniad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad
sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Cefnogi Maethu. Roedd y polisi’n arddangos bod y Cyngor yn
gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae gofalwyr maeth yn eu gwneud i gymdeithas a
bywydau plant sy’n derbyn gofal. Roedd
yn nodi’r ymrwymiad ychwanegol a’r gofynion ar gyfer gofalu am blant sy’n
derbyn gofal gan ddarparu absenoldeb arbennig ychwanegol i aelodau o staff sy’n
ofalwyr maeth, a’r sawl sydd yn y broses gael asesiad. Amlygodd yr Asesiad o Effaith ar Les sut
byddai’r polisi’n cynorthwyo wrth recriwtio a chadw gofalwyr maeth i helpu gyda
diogelu plant sy’n derbyn gofal o fewn eu cymunedau eu hunain, a sicrhau ei bod
yn cadw cysylltiadau cryf gyda theuluoedd, ffrindiau a’r ysgol. Cafodd y polisi ei gymeradwyo gan y Tîm
Gweithredol Corfforaethol, yr Undebau Llafur a’r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar
gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant bod y
polisi wedi bod yn ychwanegiad pwysig i’r cynnig craidd i ofalwyr maeth, a
byddant yn codi ymwybyddiaeth bellach ac yn annog staff i ddod ymlaen i gefnogi
plant yn lleol. Roedd cynyddu’r nifer o
ofalwyr maeth mewnol yn flaenoriaeth, a byddai’r polisi yn cefnogi’r broses, ac
yn darparu amser i ffwrdd o’r gwaith i staff sy’n ymgymryd â hyfforddiant
angenrheidiol a chyfarfodydd gofynnol. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd – ·
manylion o’r camau sy’n
rhan o’r broses o ddod yn ofalwr maeth, ac yn ystod y camau asesu byddai
gofalwyr maeth posib angen amser i ffwrdd o’r gwaith i ymgymryd â’r broses, yn
benodol er mwyn mynd ar hyfforddiant tri diwrnod gofynnol ·
byddai’r polisi hefyd yn
golygu ffordd o gyhoeddi bod y Cyngor yn awdurdod sy’n cefnogi maethu, ac yn
cynnig cyfle arall i godi ymwybyddiaeth ·
ymhelaethwyd ymhellach ar y
prosiect i wella’r ‘cynnig craidd’ i ofalwyr maeth, gan gadarnhau y byddai
Swyddog Prosiect yn cychwyn ym mis Ebrill i barhau gyda’r gwaith a nodi mentrau
a chynigion ar draws yr holl wasanaethau a hyrwyddo’r mater, yn benodol mewn
ysgolion, a gwaith pellach mewn perthynas â hynny wrth symud ymlaen ·
roedd tua 45 o deuluoedd
maethu yn y sir ar hyn o bryd, a’r nod ar gyfer y flwyddyn nesaf oedd diogelu
10 aelwyd newydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth mawr; roedd 3 allan o’r 8 cwpl a
ddaeth i’r sesiwn hyfforddi recriwtio diwethaf yn gweithio i’r Cyngor, ac wedi
cymryd absenoldeb arbennig i fynd i’r sesiwn ·
yn gyfreithiol, gallwch fod
yn ofalwr maeth ar gyfer un darparwr ac nid sawl un ·
byddai rheolwr atebol y
gweithiwr yn cymeradwyo’r absenoldeb yn ôl disgresiwn, a oedd yn unol â’r holl
geisiadau eraill am amser i ffwrdd, a rhoddwyd sicrwydd bod y dybiaeth y
rhoddir absenoldeb ac eithrio bod amgylchiadau eithriadol yn cael ei fonitro’n
agos. Croesawodd y Cabinet y polisi fel ffordd gadarnhaol o
annog a chefnogi gofalwyr maeth presennol a darpar ofalwyr maeth drwy’r broses
faethu a chyfrifoldebau parhaus. Talwyd
teyrnged i rôl werthfawr gofalwyr maeth a’r buddion i blant a phobl ifanc, ac
ailadroddwyd ymrwymiad y Cyngor i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i gynyddu’r
nifer o ofalwyr maeth mewnol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi
Cefnogi Maethu, ac yn (b) cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i
benderfyniad. |
|
TROSGLWYDDO BARGEN DWF GOGLEDD CYMRU I GYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeedig) ynghylch y cynnig i
drosglwyddo Bargen Dwf Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
yn unol â’r penderfyniad mewn egwyddor a wnaed gan y Cabinet blaenorol yn
Rhagfyr 2021. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Cytuno i sefydlu Cytundeb Partneriaeth a
Chyllido (Atodiad 2 i’r adroddiad) a throsglwyddo swyddogaeth y Corff Atebol,
cyfrifoldeb dros gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r trefniadau cyllido ar
gyfer y Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2025
neu cyn hynny; (b) Cytuno i amnewid a neilltuo, fel y bo’r
gofyn, i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r hawliau a
rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd fel
Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“y Bwrdd
Uchelgais”) i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (“y Cyd-bwyllgor
Corfforedig”); (c) Cytuno i drosglwyddo ac
amnewid a/neu neilltuo’r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a
ariennir gan Fargen Dwf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a
phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais
i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig; (d) Cytuno i drosglwyddo a/neu neilltuo’r holl
falansau ariannol, arian yn ddyledus ac asedau yng ngofal Cyngor Gwynedd ar ran
y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru; (e) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr,
mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a
gweithredu’r cytundebau, y gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill
ar eu ffurf derfynol, fel y bo’n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y
cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b) a (c) uchod; (f) Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Partneriaeth a
Chyllido, cytuno i derfynu’r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru i ben; (g) Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i
Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a’i fod yn derbyn cyfrifoldeb am wneud
penderfyniadau ar gyfer gweithredu Bargen Dwf Gogledd Cymru yn amodol ar
amnewid y Fargen Dwf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy'n cynnwys telerau
allweddol y Cytundeb Cydweithio ("GA2") rhwng y chwech o Gynghorau
Cyfansoddol a’r pedwar o bartïon Addysg, a (h) Chytuno i roi’r penderfyniadau uchod ar
waith yn ddiymdroi heb eu galw i mewn, yn unol ag adran 7.25 o Gyfansoddiad y
Cyngor, fel y gellir trosglwyddo ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad
hwn yn ymdrin â’r cynnig i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru i
Gydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, yn unol â’r penderfyniad mewn egwyddor a
wnaeth y Cabinet blaenorol ym mis Rhagfyr 2021. Roedd sefydliad a chyfrifoldebau Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2020 a Chyd-bwyllgor Corfforedig
Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2021 wedi’u nodi yn yr adroddiad, ynghyd â
phenderfyniad mewn egwyddor y Cynghorau Cyfansoddol yn 2021/22 i drosglwyddo’r
Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru. Roedd y penderfyniad
gwreiddiol yn benderfyniad mewn egwyddor gan fod y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud
â’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn parhau i ddatblygu, gyda chyfres derfynol o
reoliadau ym mis Ebrill 2023.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at Weithdy’r Cyngor diweddar a hwyluswyd gan
Ambition North Wales, a oedd yn boblogaidd iawn gyda thrafodaeth dda ac adborth
gan aelodau. Arweiniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes y Cabinet drwy elfennau
technegol y trosglwyddiad a’r argymhellion ar gyfer ystyriaeth. Sir Ddinbych oedd yr olaf o’r chwe awdurdod
lleol i dderbyn yr adroddiad, ac roedd yr awdurdodau eraill wedi cytuno i’r
trosglwyddiad ac roedd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru wedi cytuno i
arwyddo’r cytundeb. Er mwyn i’r trosglwyddiad ddigwydd erbyn 31 Mawrth 2025,
gofynnwyd i’r Cabinet gytuno bod y penderfyniadau yn cael eu gweithredu heb alw
i mewn. Trafododd y Cabinet fuddion yr adroddiad ymhellach gyda'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraeth a Busnes yn ymateb i gwestiynau, gan ymhelaethu ar
fanteision y trosglwyddiad oherwydd y cyfuniad aelodaeth y ddau gorff, osgoi
cael sawl corff rhanbarthol gyda swyddogaethau tebyg, a manteision cyfreithiol
a gweithredol Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn dod yn endid
corfforaethol ei hun. Os yw argymhellion
yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo, byddai Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd
Cymru’n dod yn gorff atebol mewn perthynas â’r Fargen Dwf gyda throsglwyddiad
pob cyfrifoldeb o Gyngor Gwynedd fel awdurdod cynnal a chorff cyfrifol i’r
Cyd-bwyllgor, gan gynnwys staff a fyddai’n cael eu cyflogi ganddynt. Roedd penodi Cyngor Gwynedd fel awdurdod
cynnal presennol a chorff atebol yn benderfyniad hanesyddol yn dilyn trafodaeth
rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau addysgol wrth sefydlu Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Cytuno i sefydlu Cytundeb Partneriaeth a
Chyllido (Atodiad 2 i’r adroddiad) a throsglwyddo swyddogaeth y Corff Atebol,
cyfrifoldeb dros gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r trefniadau cyllido ar
gyfer y Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2025
neu cyn hynny; (b) Cytuno i amnewid a neilltuo, fel y bo’r
gofyn, i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r hawliau a
rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd fel
Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“y Bwrdd
Uchelgais”) i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (“y Cyd-bwyllgor
Corfforedig”); (c) Cytuno i drosglwyddo ac
amnewid a/neu neilltuo’r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a
ariennir gan Fargen Dwf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a
phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais
i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig; (d) Cytuno i drosglwyddo a/neu neilltuo’r holl
falansau ariannol, arian yn ddyledus ac asedau yng ngofal Cyngor Gwynedd ar ran
Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. (e) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr,
mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a
gweithredu’r cytundebau, y gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill
ar eu ffurf derfynol, fel y bo’n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y
cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b) a (c) uchod; (f) Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Partneriaeth a
Chyllido, cytuno i derfynu’r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru i ben; (g) Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
GOSOD FFIOEDD CARTREFI GOFAL PRESWYL A NYRSIO 2025/26 Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod ffioedd
Cartrefi Gofal Preswyl a Nyrsio Pobl Hŷn ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo cynyddu Ffioedd
Gofal, yn ychwanegol i ffioedd 2024/25, o ran Cartrefi Nyrsio a Phreswyl i Bobl
Hŷn ar gyfer 2025/2026 fel a ganlyn - ·
3.8% ar gyfer
Gofal Preswyl Safonol ·
6.6% ar gyfer
Gofal Preswyl i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI) ·
5.9% ar gyfer
Gofal Nyrsio Safonol ·
7.2% ar gyfer
Gofal Nyrsio i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI) (b) cymeradwyo y bydd unrhyw
ddarparwr nad yw’n derbyn y ffioedd arfaethedig yn dilyn ymarfer Care Cubed, er
mwyn pennu pris teg am eu gofal (ymarfer llyfr agored yn flaenorol). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton adroddiad yn
gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod ffioedd Cartrefi Gofal Preswyl
a Nyrsio Pobl Hŷn ar gyfer 2025/26. Roedd ffioedd Cartrefi Gofal yn cynrychioli maes
sylweddol o wariant, gyda thua £14.1 miliwn yn cael ei ddyrannu i 382 o
leoliadau mewn 85 cartref gofal. Roedd
darpariaeth gofal yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor gyda buddsoddiad parhaus i
ddiogelu’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn.
Roedd diweddariad ar ymgysylltiad gyda darparwyr gofal wedi’i nodi yn yr
adroddiad, ynghyd â’r ffioedd arfaethedig, a oedd wedi ystyried ffactorau megis
y Cyflog Byw Gwirioneddol, newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol, gan
gynnwys y newid trothwy, a chwyddiant.
Roedd hi’n hanfodol bod dull teg a chynaliadwy o weithio yn cael ei
gynnal o ran ariannu gofal, ac roedd buddsoddiad y Cyngor yn Care Cube, sef
methodoleg sy’n cael ei nodi gan ddata ac yn darparu dull cyson o weithio sy’n
seiliedig ar dystiolaeth i osod ffioedd, yn ddatblygiad allweddol. Roedd y buddsoddiad yn sicrhau bod ffioedd yn
cael eu gosod yn dryloyw ac yn gyfrifol, gan greu cydbwysedd rhwng cefnogi
darparwyr gofal gyda ffioedd teg a chynaliadwy a diogelu gwerth am arian ar
gyfer trethdalwyr. Roedd yn alinio
gyda’r ymrwymiad rhanbarthol i degwch a chysondeb ledled Cymru hefyd. Pwysleisiodd y Cynghorydd Heaton bod y Cyngor yn
gwerthfawrogi ei ddarparwyr gofal, ac ni ddylent deimlo eu bod yn cael eu
talu’n annheg o ganlyniad i’r cynnig.
Roedd gan y Cyngor bolisi drws agored a byddai defnyddio Care Cubed yn
sicrhau pris sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gofal ac yn cefnogi sector
gofal cynaliadwy. Ymatebodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a
Digartrefedd i gwestiynau, gan ymhelaethu ar Care Cubed fel ffordd dryloyw o
alluogi trafodaethau gyda darparwyr sydd â’r bwriad o ddatrys anghydfod o ran
ffioedd gofal, gan ystyried amgylchiadau unigol yn sgil gwahaniaethau mewn
darparwyr, megis maint cartrefi gofal, categori gofal, ac ati. Roedd y mwyafrif o awdurdodau lleol yng
Ngogledd Cymru wedi buddsoddi yn Care Cubed, ac roedd y data’n fwy cyfoethog po
fwyaf a ddefnyddiwyd, er mwyn canolbwyntio ar yr ardal leol a darparu meincnod
cliriach, yn ogystal â dadansoddi’r manylion a allai arwain at ffi wahanol na’r
hyn sydd eisoes yn bodoli. Roedd tri darparwr
cartref gofal wedi ymateb i’r ymgynghoriad ffioedd, ac unwaith roedd y ffioedd
wedi cael eu cymeradwyo, byddai swyddogion yn ymgysylltu gyda nhw i gwblhau’r
ymarfer Care Cubed. Yn nhermau’r broses
o osod cyllideb, roedd cydweithio agos gyda’r Tîm Cyllid i fonitro’r ffioedd
gofal wrth symud ymlaen, yn seiliedig ar y tybiaethau yn y ffioedd arfaethedig,
gyda thri darparwr yn unig a oedd wedi herio’r ffioedd hynny ar hyn o
bryd. Serch hynny, roedd galw ar gyfer y
flwyddyn i ddod yn anhysbys, a petai’n angenrheidiol, byddai’r pwysau ar y gyllideb
yn cael ei addasu yn ystod y flwyddyn, ond roedd yr ymdrechion gorau’n cael eu
gwneud i reoli hynny’n effeithiol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo cynyddu Ffioedd
Gofal, yn ychwanegol i ffioedd 2024/25, o ran Cartrefi Nyrsio a Phreswyl i Bobl
Hŷn ar gyfer 2025/2026 fel a ganlyn - ·
3.8% ar gyfer
Gofal Preswyl Safonol ·
6.6% ar gyfer
Gofal Preswyl i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI) ·
5.9% ar gyfer
Gofal Nyrsio Safonol ·
7.2% ar gyfer Gofal
Nyrsio i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI) (b) cymeradwyo y bydd unrhyw
ddarparwr nad yw’n derbyn y ffioedd arfaethedig yn dilyn ymarfer Care Cubed, er
mwyn pennu pris teg am eu gofal (ymarfer llyfr agored yn flaenorol). |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24) ·
rhagwelwyd y byddai
tanwariant o £102,000 mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
y risgiau a’r
rhagdybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth ·
arbedion effeithlonrwydd
gan wasanaethau ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384 miliwn) a chynnydd ar wneud
arbedion a gymeradwywyd oedd yn parhau i gael eu holrhain/monitro ·
y wybodaeth ddiweddaraf am
Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
Aelodau drwy’r adroddiad. Roedd disgwyl
tanwariant o £102,000 ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol o gymharu â
thanwariant o £4.559 miliwn fis diwethaf.
Roedd y symudiad yn ymwneud yn bennaf â’r swm a neilltuwyd i gronfeydd
wrth gefn a glustnodwyd (£3.956 miliwn) a gymeradwywyd gan y Cabinet diwethaf a
phwysau cynyddol ar draws y gwasanaeth (£501,000). Mae gwasanaethau yn gyffredinol yn parhau i
orwario mewn meysydd sy’n cynnwys Addysg a Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau
Priffyrdd a’r Amgylchedd, a Chynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad. Roedd meysydd o orwariant
gwasanaethau yn parhau i gael eu gosod yn erbyn y tanwariant ar gyllidebau
corfforaethol. Byddai’r balans a
ragwelwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y flwyddyn yn gostwng o £1.2
miliwn i £775,000 ac roedd y sefyllfa ar falansau ysgolion yr un fath a’r mis
diwethaf, a ragwelwyd yn ddiffyg cyffredinol o £2.1 miliwn. Roedd y tabl monitro arbedion wedi’i gynnwys
yn yr adroddiad ac yn manylu ar drosolwg o gynnydd. Daeth y flwyddyn ariannol i ben ar 31 Mawrth 2025 a
gallai’r Tîm Ariannol symud i gwblhau cyfrifon diwedd blwyddyn, a llunio’r
Datganiad Cyfrifon. Oherwydd y system
ariannol newydd, roedd rhagor o amser wedi’i ddyrannu i’r broses honno, a
byddai safle diweddaraf 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mehefin.
Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd at y gorwariant
yn y Gwasanaethau Tai ac Amgylcheddol mewn perthynas â chostau cynyddol ar
gyfer y gwasanaeth gwastraff (£1.628 miliwn) a gwaith cynnal a chadw dros y
gaeaf (£807,000). Eglurwyd bod y £1
miliwn ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Tachwedd yn y gyllideb
sylfaenol ar gyfer y gwasanaeth gwastraff yn 2025/26, gyda’r costau ychwanegol
yn 2024/25 yn ymwneud â’r flwyddyn drosglwyddo ar gyfer cyflwyno’r system
wastraff newydd, a’r addasiad ariannol i’r perwyl hynny. O fewn y gyllideb a osodwyd ar gyfer 2025/26,
cydnabu nad oedd y gyllideb cynnal a chadw yn ystod y gaeaf yn ddigonol ar
gyfer mynd i’r afael â thywydd garw, a mis diwethaf, roedd y Cabinet wedi creu
cronfa wrth gefn o’r cyllid ar gael yn y flwyddyn ariannol gyfredol i dalu am
yr amodau tywydd garw nad oes modd eu rhagweld.
Amlygwyd y gostyngiad i gronfa wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai hefyd, ac
roedd trafodaethau ynghylch manteision gosod lefel isafswm o falansau o ran
hynny. Esboniodd y Cynghorydd Rhys
Thomas, o wybod y gostyngiadau parhaus i’r balansau blwyddyn ar ôl blwyddyn,
byddai angen proses flaenoriaethau ar feysydd gwariant i fod o’r budd gorau i
denantiaid. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET Derbyn Rhaglen
Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith
y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i
ben am 12.10pm. |