Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Win Mullen-James.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Win Mullen-James a oedd yn sâl a dymunodd wellhad buan iddi.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 381 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod cofnodon y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror yn cael eu derbyn a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

PENNU FFIOEDD CARTREFI GOFAL PRESWYL A NYRSIO 2024/25 pdf eicon PDF 487 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer pennu ffioedd cartrefi gofal ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo gosod ffioedd cartrefi gofal gwaelodlin ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn unol â Thabl 1 ym mharagraff 4.5 yr adroddiad sy’n cynrychioli cynnydd o 8.8%.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod ffioedd cartrefi gofal preswyl a nyrsio ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn dilyn ymgynghoriad â darparwyr gofal ac a oedd yn cynnig cynnydd o 8.8%.

 

Roedd ffioedd cartrefi gofal yn rhan sylweddol o’r gyllideb gofal cymdeithasol flynyddol, gyda tua £13 miliwn yn cael ei ddyrannu i tua 364 o leoliadau mewn 82 o gartrefi gofal.  Roedd darpariaeth gofal yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac roedd hyn wedi’i adlewyrchu yn nyraniadau’r gyllideb ar gyfer 2024/25 i ddiogelu gofal cymdeithasol ac addysg gymaint ag sy’n bosibl yn ystod argyfwng ariannu Llywodraeth Leol.  Rhoddwyd diweddariad ar ymgysylltu â darparwyr gofal ynghyd â dewisiadau cynyddu ffioedd ar gyfer 2024/25.  Gan ystyried y goblygiadau ariannol, roedd dewisiadau cost is wedi’u cyflwyno hefyd, ond er bod y cynnydd arfaethedig o 8.8% yn sylweddol uwch na setliad 3.8% y Cyngor a byddai’n cynyddu gwariant o fwy na £1 miliwn, roedd yn cydbwyso fforddiadwyedd i drethdalwyr lleol, cynaliadwyedd gwasanaethau hanfodol eraill, a sicrhau iawndal teg i ddarparwyr gofal gwerthfawr ar ôl ystyried chwyddiant a’r Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Heaton fod y Cyngor yn gwerthfawrogi eu darparwyr gofal a’u bod yn ymrwymedig i feithrin perthynas agored a theg.  Ni ddylai unrhyw ddarparwr deimlo eu bod yn wynebu argyfwng ariannol oherwydd iawndal annheg am wasanaethau a byddai cynnig ymarfer llyfr agored yn parhau i ganiatáu ymgysylltiad tryloyw a thrafodaeth deg am gost wirioneddol gofal a defnyddio arian trethdalwyr yn effeithlon.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y broses gosod ffioedd yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol er mwyn cyflwyno argymhelliad i’w drafod mewn fforwm cyhoeddus gyda thryloywder am y broses a gymaint ag sy’n bosibl o ymgysylltiad â darparwyr gofal a chydweithwyr rhanbarthol.  Roedd polisi drws agored ar gyfer darparwyr gofal ac roedd trafodaethau am ffioedd cartrefi gofal yn cael eu croesawu trwy gydol y flwyddyn.  Roedd y Grŵp Ffioedd Rhanbarthol wedi’i ail-sefydlu ac roedd ymgysylltiad wedi bod â darparwyr gofal eto a byddai gwaith yn parhau gan ystyried adborth gan ddarparwyr.

 

Bu’r Cabinet yn trafod yr adroddiad a nodi’r ymdrechion a wnaed i ymgysylltu â darparwyr, y themâu sy’n codi o’r ymarfer ymgysylltu dechreuol ac adborth dilynol ar ôl ymgynghoriad ar y cynnig ffioedd.  Roedd y Cabinet yn awyddus i sicrhau bod pob darparwr gofal yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’w staff a gofynnwyd cwestiynau o ran y dull ymgysylltu rheolaidd a chyfathrebu â darparwyr gofal, yr angen i sicrhau bod darparwyr llai yn ymgysylltu'r un fath â’r broses, a gofynnwyd am ragor o fanylion am liniaru’r risgiau a nodwyd yn yr adroddiad hefyd.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i’r cwestiynau a’r sylwadau fel a ganlyn –

 

·       er ei bod wedi’i gwneud yn glir bod darpariaeth ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol wedi’i chynnwys yn y gyfradd ffioedd a gynigiwyd a bod disgwyliad i ddarparwyr gofal dalu’r Cyflog hwn i’w staff, nid oedd system gytundebol na system arall i orfodi’r taliad yn gyfreithiol.  Fodd bynnag, pe na bai staff yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol, roedd yn debygol y byddent yn gadael i weithio i ddarparwyr eraill a oedd yn talu’r gyfradd honno.

·       Roedd Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu’r Fforwm Gwaith Teg gyda’r bwriad o sicrhau bod staff yn cael y tâl, telerau ac amodau, a’r gydnabyddiaeth maen nhw’n eu haeddu trwy fargeinio ar y cyd.  Cadarnhawyd bod Fforwm Gofal Cymru (corff cynrychiadol ar gyfer darparwyr gofal ar  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a osodwyd ar gyfer 2023/24 a symud ymlaen yn erbyn y strategaeth a gytunwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £2.780 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       nodwyd arbedion gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd ar gyfer cyllideb 2023/24 (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Roedd gostyngiad bach wedi bod yn y gorwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £2.780 miliwn gyda symudiad o  £60,000 o’i gymharu â’r mis diwethaf.  Roedd y prif feysydd gorwariant yn parhau i fod mewn Addysg a Gwasanaethau Plant, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd, gyda mân newidiadau o’r mis diwethaf.   Roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi nodi gostyngiad bychan yn eu tanwariant o £126,000 i £110,000 oherwydd gostyngiad mewn rhent gyda rhagolygon o falans diwedd blwyddyn o £812,000.  Bu newid bach o ran y defnydd a ragwelir o gronfeydd wrth gefn ysgolion, sef £7.026 miliwn o’i gymharu â £7.054 miliwn y mis diwethaf.  Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Oherwydd bod cyfrifon y Cyngor yn cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ni fyddai’r adroddiad monitro cyllid rheolaidd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill; byddai’r adroddiad cyllid ar gyfer mis Ebrill yn canolbwyntio ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a byddai’n cynnwys strategaeth lefel uchel ar gyfer gosod y gyllideb yn y dyfodol.  Byddai’r adroddiad sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer 2023/24 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mai.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·       Ailddatblygu Marchnad y Frenhines, y Rhyl – roedd y cyfleuster wedi’i drosglwyddo i’r Cyngor ym mis Chwefror.  Rhoddwyd sicrwydd nad oedd bwriad i geisio cyllid ychwanegol gan fod cyllideb ddigonol ar gael i gwblhau’r prosiect yn barod ar gyfer ei weithredu.  Oherwydd rhesymau sy’n ymwneud â sensitifrwydd masnachol, ni ellir rhoi rhagor o fanylion am benodi gweithredwr ac agor y cyfleuster ar hyn o bryd, ond byddai’r wybodaeth honno’n cael ei rhannu gydag Aelodau a’r cyhoedd ehangach cyn gynted ag sy’n bosibl.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd y byddai’n barod i drefnu taith o’r cyfleuster a gofynnodd i Aelodau roi gwybod iddo os oeddent am fynychu.  Cytunodd hefyd y byddai’n canfod y costau i’r Cyngor o gymryd cyfrifoldeb dros dro dros y cyfleuster a byddai’n adrodd yn ôl wrth y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am hyn.

·       Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – cadarnhawyd y byddai’r gwariant hyd yma’n cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru (LlC) a’r Cyngor (CSDd), ac ar gyfer ysgolion â gofynion dysgu ychwanegol, byddai hyn yn rhaniad o LlC 75% / CSDd 25%, ac ar gyfer ysgolion eraill, byddai hyn yn rhaniad o LlC 65% / CSDd 35%.

·       Tanwariant oherwydd rheoli swyddi gwag – roedd yr ymadrodd hwn wedi ymddangos sawl gwaith yn y Naratif Amrywiad Gwasanaeth (Atodiad 2 yr adroddiad) ac roedd yn adlewyrchu rheolyddion recriwtio sydd ar waith i ystyried pob swydd wag cyn iddi gael ei llenwi, gyda’r bwriad o leihau’r gorwariant mewn cyllidebau gwasanaeth.  Roedd y broses yn cael ei dilyn ar gyfer swyddi gwag ar draws y Cyngor, nid dim ond ar gyfer maes gwasanaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 310 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried a nododd Aelodau fod ychwanegiad at gyfarfod mis Ebrill sy’n ymwneud â Dyfarnu Cyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU (Rownd 3) – Etholaeth Dyffryn Clwyd.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 am.