Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Yn anffodus, roedd y Cyfieithydd ar y Pryd wedi’i hoedi ac felly byddai’r cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gyfer y cyfarfod yn dechrau unwaith iddi gyrraedd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 350 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024.

 

Materion yn Codi – Tudalen 7, Eitem 5: Canlyniad Adolygiad y Pwyllgor Craffu Cymunedau o Benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad – mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, bu i’r Cynghorydd Emrys Wynne gadarnhau bod gwaith i ddatblygu’r ymrwymiadau a wnaed mewn perthynas â’r ffordd ymlaen ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd/siop un stop wedi dechrau.   Roedd cyfarfod anffurfiol wedi’i gynnal gyda swyddogion i drafod gwaith y tasglu a byddai cyfarfod ffurfiol yn cael ei gynnal ym mis Ebrill i ddechrau’r broses a oedd yn cynnwys monitro effaith lleihau oriau agor a defnydd y llyfrgell, modelau cyflawni amgen a’r ddarpariaeth ynghyd ag unrhyw gyfleoedd ychwanegol i gynyddu incwm a gwneud y mwyaf o ddefnydd adeiladau llyfrgell.    Yn y pen draw, byddai’r gwaith hwn yn arwain at Strategaeth Lyfrgelloedd newydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

FFRAMWAITH AILWAMPIO TAI GWAG Y CYNGOR pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro Fframwaith Tai Gwag y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet –

 

(a)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(b)      yn cymeradwyo ail-dendro Fframwaith Ailwampio Tai Gwag y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro Fframwaith Ailwampio Tai Gwag y Cyngor.

 

Roedd y Gwasanaeth Tai yn rheoli oddeutu 3,480 o eiddo tenantiaeth gydag oddeutu 250 o eiddo yn dod yn wag bob blwyddyn (yn wag tra bod tenantiaid newydd yn cael eu dyrannu).  Roedd yr eiddo hynny yn cael eu hailwampio i’r safon gosod newydd gan arwain at wariant o dros £4miliwn y flwyddyn.   Cafodd y fframwaith presennol ei awdurdodi gan y Cabinet yn 2018 i leihau costau ac amser o ran gwneud gwaith ar dai gwag wrth gynnal safonau ansawdd.   Dyluniwyd ail iteriad y fframwaith i barhau â’r gwelliannau hynny.   Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion a manyleb y fframwaith gan gynnwys pwysoliad ansawdd/pris o 60/40 gyda gwerth disgwyliedig o £16miliwn dros bedair blynedd a’r tendr wedi’i rannu yn 4 lot.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau a’r Swyddog Arweiniol Eiddo Tai yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Dywedwyd wrth y Cabinet bod eiddo gwag yn rhoi cyfle delfrydol i wneud gwaith adnewyddu.   Fodd bynnag, gallai’r trosiant gymharol fach mewn tenantiaid, gyda rhai wedi byw mewn eiddo ers degawdau cyn iddynt ddod yn wag, arwain at fod angen gwneud gwaith adnewyddu mawr.   Hefyd, roedd angen i’r gwaith gael ei wneud mor gyflym â phosibl o ystyried yr incwm rhenti a fyddai’n cael ei golli tra bod yr eiddo yn wag, a’r angen i weithio yn unol â’r Safon Ansawdd Tai Cymru newydd wrth symud ymlaen.   Roedd y fframwaith yn rhoi cyfle gwych i ddarparu gwaith cyson i gontractwyr lleol ac ehangu eu profiad/galluoedd i fodloni anghenion tai modern.

 

Roedd y Cabinet yn falch o nodi bod cael contractwyr lleol enwebedig i weithio gyda Sir Ddinbych dros oes y fframwaith wedi arwain at ddarpariaeth gwasanaeth gwell yn nhermau ansawdd a gwerth, ac roedd defnyddio contractwyr lleol yn golygu bod arian yn aros yn Sir Ddinbych.   Nodwyd hefyd bod y fframwaith yn helpu i sicrhau amseroedd cwblhau cynt ar gyfer gwaith adfer a thendro gwaith newydd ar dai gwag.   Croesawyd y buddion cymunedol a restrir yn yr adroddiad a’r Asesiad o’r Effaith ar Les hefyd gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddi, prentisiaethau a chreu swyddi.

 

Atebodd y swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Cabinet ac aelodau eraill fel a ganlyn –

 

·       roedd y Cyngor yn awyddus i wneud y mwyaf o fuddion cymunedol lle bynnag bo’n bosibl ac roedd cynlluniau ar waith i wneud gwasanaethau tai yn fwy rhagweithiol o ran mesur buddion cymunedol a sut oedden nhw’n effeithio ar denantiaid yn benodol; roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo gyda chontractwyr trwy Sir Ddinbych yn Gweithio i’w cefnogi nhw i gynnig prentisiaethau a lleoliadau’r cynllun Dechrau Gweithio ac ati, ynghyd â gwaith corfforol i neuaddau/mannau cymunedol gyda’r gwaith sydd wedi’i gwblhau yng Nghanolfan Phoenix yn Rhydwen Drive yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft

·       roedd y Tîm Gwytnwch Cymunedol wedi gweithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i’w helpu nhw i gael cyllid i gyflawni eu huchelgeisiau mewn meysydd lle’r oedd yna’r potensial i gael cyllid ar gyfer buddion cymunedol

·       cwblhawyd Asesiad o’r Effaith ar Les fel grŵp yn cynnwys y Swyddog Arweiniol Eiddo Tai, Prif Swyddog Buddsoddiadau Tai a’r Swyddog Arweiniol – Eiddo Corfforaethol a’r Stoc Dai.   Er nad oedd Cymdeithas Tenantiaid Sir Ddinbych wedi bod yn rhan uniongyrchol o ddatblygu’r Asesiad o’r Effaith ar Les, roeddent wedi bod yn rhan yn nhermau datblygu’r fframwaith newydd

·       rhoddwyd sicrwydd bod cyflymder cwblhau gwaith ar dai gwag yn cael ei fonitro’n agos a’i herio yn rheolaidd; roedd oed a chyflwr yr eiddo, hyd y denantiaeth flaenorol, a gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ARGYMHELLION Y GRŴP CRAFFU CYFALAF pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i’r prosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2024/25 a’u hargymell i’r Cyngor Llawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet –

 

(a)      yn nodi cynnwys yr adroddiad,

 

(b)      yn cymeradwyo’r egwyddorion ar gyfer cynlluniau cyfalaf fel y nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, ac

 

(c)      yn cefnogi'r prosiectau a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2024/25, a’u hargymell yn unol â hynny i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2024/25, yn ôl argymhellion y Grŵp Craffu Cyfalaf, i’w cyflwyno i’r Cyngor llawn i’w hystyried a’u cymeradwyo.

 

Cynghorwyd y Cabinet o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni parhaus o waith, ynghyd â rôl y Grŵp Craffu Cyfalaf a’u gwaith o ran adolygu’r cynigion am ddyraniadau.   Roedd manylion argymhellion y Grŵp Craffu Cyfalaf a’i rhesymau dros gefnogi prosiectau penodol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.   O ystyried graddfa’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, roedd moratoriwm ar unrhyw gynlluniau pellach a ariennir gan CSDd ar gyfer 2023/24 wedi’i gytuno ac roedd y Cabinet a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol wedi datblygu egwyddorion diwygiedig a meini prawf ar gyfer cynlluniau cyfalaf mewn blynyddoedd i ddod fel y nodir yn yr adroddiad.   Y prif bwyntiau i’w nodi oedd yr angen am fwy o ddibyniaeth ar gyllid grant, pwyslais ar gynlluniau buddsoddi i arbed, ac ymrwymiad i leihau benthyca blynyddol trwy weithio tuag at gymeradwyo dyraniadau bloc sydd gyfystyr ag arian cyfalaf cyffredinol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.  Roedd angen edrych ar y rhaglen gyfalaf yng nghyd-destun yr heriau ariannol presennol ac roedd rhaglen lai wedi’i hawgrymu gan yr aelodau i’w hystyried fel rhan o’r gwaith cyffredinol i osod cyllidebau cytbwys yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gill German bod y Bwrdd  Moderneiddio Addysg wedi cydnabod y llawer iawn o waith sydd wedi’i wneud i gael cyllid grant ar gyfer adeiladau ysgol sy’n rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa dda.   Roedd adeiladau ysgol hefyd wedi cael eu heffeithio gan gamreolaeth economi’r DU gyda chostau cynyddol a chwyddiant, ac er bod yno angen i leihau gwariant cyfalaf o ystyried y sefyllfa ariannol, bu gwariant sylweddol ar adeiladau ysgol yn y blynyddoedd diwethaf ac ynghyd â pharhau i wneud y gorau o ddyraniadau cyllid grant, roedd hyder y gellir cynnal safon dda o adeiladau ysgol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Elen Heaton o blaid y meini prawf/egwyddorion ar gyfer cynlluniau cyfalaf fel y nodir yn yr adroddiad, a oedd, yn ei barn hi, wedi helpu i fynd i’r afael ag anghenion cymharol uniongyrchol wrth hefyd bwysleisio ymrwymiad i gynllunio hirdymor gan arwain at ddull synhwyrol a chynaliadwy wrth symud ymlaen.    Cytunodd yr Arweinydd, gan gadarnhau’r dull i gynlluniau cyfalaf mewn ymateb i bwysau ariannol enfawr, yn enwedig gyda chynlluniau buddsoddi i arbed, yn cynnwys cynllunio yn y tymor canolig a’r hirdymor.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet –

 

(a)      yn nodi cynnwys yr adroddiad;

 

(b)      yn cymeradwyo’r egwyddorion ar gyfer cynlluniau cyfalaf fel y nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, ac

 

(c)      yn cefnogi'r prosiectau a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2024/25, a’u hargymell yn unol â hynny i'r Cyngor llawn.

 

 

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £2.840 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Roedd gostyngiad wedi bod yn y gorwariant a ragwelir ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaethau o £2.840 miliwn o’i chymharu â £3.229 miliwn y mis blaenorol gyda symudiad cadarnhaol o ychydig yn llai na £390,000.  Roedd y prif feysydd o orwariant yn parhau i fod mewn Addysg a Gwasanaethau Plant, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd.   Y mis hwn, bu costau cynyddol mewn gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf a'r fflyd a oedd wedi'u gwrthbwyso’n gyfan gwbl gan arbedion pellach a ganfuwyd gan wasanaethau a rhyddhau rhywfaint o arian wrth gefn corfforaethol.  Roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi nodi cynnydd bychan yn eu tanwariant ar £126,000 o £108,000 oherwydd gostyngiad mewn cyfraniad refeniw i gyfalaf gyda rhagolygon o falans diwedd blwyddyn o ychydig yn llai na £800,000.    Nid oedd unrhyw newid y mis hwn yn y defnydd a ragwelir o gronfeydd wrth gefn i ysgolion a oedd yn parhau i fod ychydig dros £7miliwn.   Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi’r gostyngiad mewn gorwariant ond roedd y Cyngor yn parhau i fod mewn sefyllfa ariannol anodd a oedd wedi’i adlewyrchu yn yr adroddiad misol gyda heriau amlwg o’n blaenau.   Bu iddo ddiolch i’r Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a’r Tîm Cyllid am eu gwaith caled parhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

8.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 297 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.40am.