Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Byddai’r Cynghorydd Win Mullen-James yn cyrraedd y cyfarfod yn hwyr oherwydd ymrwymiad cynharach.

 

Cofnodion:

Byddai’r Cynghorydd Win Mullen-James yn cyrraedd yn hwyr oherwydd ymrwymiad cynharach.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 349 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

CANLYNIAD ADOLYGIAD Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU O BENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD Â’R CYNNIG AM ARBEDION I’R GWASANAETH LLYFRGELLOEDD/SIOPAU UN ALWAD pdf eicon PDF 480 KB

Ystyried canlyniad yr adolygiad o’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2023 yn ymwneud â’r cynnig am arbedion i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad a oedd wedi’i alw i mewn a’i ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 11 Ionawr 2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      Bod y Cabinet yn cydnabod arsylwadau, canlyniadau ac argymhellion Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r ‘Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd / Siop Un Alwad’, ac

 

(b)      Nad yw’r Cabinet yn derbyn argymhelliad 3.2 adroddiad y Pwyllgor Craffu, mae’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol a wnaeth ar 19 Rhagfyr 2023, ac yn ymgymryd â mwy o waith i nodi ffynonellau cyllid amgen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau yr adroddiad ar ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2024 yn dilyn ystyried galw i mewn benderfyniad y Cabinet a wnaed ar 19 Rhagfyr 2023 mewn perthynas â’r Cynnig Arbedion Llyfrgell/Siop Un Alwad.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y drafodaeth hirfaith yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar sail galw’r penderfyniad i mewn, ac yn amlygu pryderon penodol y Pwyllgor ynghylch y gostyngiad mewn oriau agor a’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar y canlynol –

 

·       argaeledd a hygyrchedd y gwasanaeth llyfrgelloedd a siopau un alwad i breswylwyr, yn arbennig y rhai mwyaf diamddiffyn a’r rhai wedi’u heithrio’n ddigidol

·       argaeledd ‘canolfannau clyd’ ar gyfer y rhai a gafodd eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw, pobl a oedd yn unig, a’r rhai sy’n byw gyda phroblemau iechyd a’u gofalwyr

·       argaeledd cyfleusterau llyfrgell ar gyfer plant a phobl ifanc i’w defnyddio i astudio neu waith ymchwilio, neu fel lloches ddiogel i ffwrdd o sefyllfaoedd personol neu deuluol anhrefnus

·       argaeledd llyfrgelloedd i'w defnyddio gan grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol er mwyn iddynt ddarparu gwasanaethau cymorth a chyngor y mae mawr eu hangen i drigolion.

 

Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu am effeithiau negyddol anfwriadol posibl ar wasanaethau eraill y cyngor sydd eisoes dan bwysau, yr effaith andwyol ar forâl staff a’r effaith y gallai colli staff profiadol ei chael ar gapasiti’r gwasanaeth yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau o safon.  Teimlai'r Aelodau nad oedd digon o ymchwiliadau wedi'u gwneud gyda chyrff allanol neu sefydliadau allanol i sicrhau cyllid neu adnoddau eraill i helpu i gynnal y lefelau gwasanaeth presennol cyn i benderfyniad gael ei wneud.  O ganlyniad, gofynnwyd i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol gan ystyried casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu bod y Cabinet yn -

 

       (i)       cydnabod arsylwadau, canlyniadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r ‘Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad’; ac

      (ii)      yn cytuno i argymhelliad y Pwyllgor i ohirio gweithrediad y penderfyniad nes fydd mwy o gwaith archwilio wedi’i gwblhau er mwyn canfod ffynonellau cyllido amgen sydd ar gael i’r Cyngor a chyrff partner eraill yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Williams am adrodd ar drafodaeth ac argymhellion y Pwyllgor Craffu.   Diolchodd y Cabinet hefyd i'r Pwyllgor Craffu am eu gwaith.

 

Cydymdeimlodd y Cynghorydd Emrys Wynne â'r pryderon a godwyd ynghylch yr effaith bosibl y byddai gostyngiad mewn oriau yn ei chael fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Fodd bynnag, roedd yn parhau o’r un farn bod y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn, a’r pryderon hynny, wedi’u trafod yn drylwyr gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr a bod y Cabinet wedi bod yn gwbl ymwybodol o’r holl faterion a risgiau hynny pan wnaed y penderfyniad.  Roedd angen y penderfyniad i ymateb i'r her ariannol ddifrifol a gosod cyllideb gytbwys.  Roedd y Cabinet wedi gwrando ac ymateb i adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus gyda newidiadau yn arwain at tua 30 o oriau agor ychwanegol o gymharu â'r cynnig gwreiddiol ac agor ar ddiwrnodau penodol. Nid oedd yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Craffu i ohirio gweithredu’r penderfyniad hyd nes y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud i ganfod ffynonellau ariannu amgen.  Roedd eisoes wedi ymrwymo i weithio gydag aelodau, swyddogion, a Chynghorau Dinas/Tref/Cymuned i ystyried modelau amgen o ddarparu gwasanaethau llyfrgell gyda’r bwriad o ddiogelu a thyfu’r ddarpariaeth honno at y dyfodol, lliniaru’r toriadau, a chwilio am ffynonellau incwm eraill, ac roedd angen dybryd i osod cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYLLIDEB Y CYNGOR 2024/25 pdf eicon PDF 275 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn nodi goblygiadau Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2024/25 a chynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn nodi effaith y Setliad Dros Dro ar gyfer 2024/25;

 

(b)      cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2024/25;

 

(c)      argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog o 8.23% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ynghyd ag 1.11% yn ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru; mae hyn yn hafal i gynnydd cyffredinol o 9.34% a gynigir;

 

(d)      argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth Cyllid ac Archwilio mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian wrth gefn sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol;

 

(e)      cefnogi’r strategaeth i ddefnyddio arian wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad a’i hargymell i’r Cyngor llawn; a

 

(f)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodir yn Adran 7 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol 2024/25 a chynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Roedd yr heriau ariannol digynsail a oedd yn wynebu’r cyngor, ynghyd â’r holl awdurdodau lleol eraill, yn golygu bod angen proses wahanol i bennu’r gyllideb ac roedd wedi bod yn broses hynod o anodd ac anghyfforddus.   Diolchodd y Cynghorydd Ellis i bawb a gymerodd ran yn y broses honno a oedd wedi arwain at gyflwyno cyllideb gytbwys.

 

Darparodd y Cynghorydd Ellis a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio drosolwg o broses y gyllideb a’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25.   Yn gryno, roedd y setliad dros dro wedi arwain at gynnydd arian parod o 3.6% (£6.720m) ac yn dilyn addasiad sylfaen treth y cyngor roedd yn uwch na’r gymhariaeth arian parod ar 3.7% (o gymharu â chyfartaledd Cymru o 3.1%) gyda’r setliad terfynolyn cael ei ddisgwyl yn gynnar ym mis Mawrth.  Roedd y setliad yn cynnwys pob cynnydd mewn cyflogau i athrawon a swyddi nad ydynt yn rhai addysgu a chyfrifoldeb i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.   Rhoddwyd manylion am bwysau gwerth £24.682 miliwn ac roedd y setliad dros dro yn cynhyrchu £6.720 miliwn gan adael bwlch cyllido gwerth £17.962 miliwn gyda chynigion i gau’r bwlch hwnnw wedi eu nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.  Cynigiwyd codiad Treth y Cyngor o 8.23% ynghyd ag 1.11% ychwanegol (newid i'r ffigwr dangosol o 1.3% yn yr adroddiad) ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru sy'n cyfateb i godiad cyffredinol o 9.34% i gynhyrchu £7.580 miliwn o refeniw ychwanegol.  Tynnwyd sylw hefyd at y defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gynorthwyo gyda gosod y gyllideb.  Roedd y risgiau o beidio â chyflawni cyllideb gytbwys hefyd wedi'u nodi ynghyd â mesurau lliniaru a gwaith pellach sydd ei angen yn y dyfodol.   Roedd y rhagolygon ariannol tymor canolig yn edrych yr un mor heriol.   Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000.   Roedd yn bwysig nodi pe na bai cynigion yn yr adroddiad yn cael eu derbyn, bod yn rhaid cyflwyno cynigion amgen er mwyn  cyflawni cyfrifoldeb statudol y Cyngor i osod cyllideb gytbwys. 

 

Yn ystod y drafodaeth condemniodd y Cabinet y sefyllfa ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol a oedd yn golygu bod yn rhaid gwneud toriadau difrifol i wasanaethau hanfodol er mwyn pennu cyllideb gytbwys a galwyd am gyllid gwell a chynaliadwy i ddarparu'r gwasanaethau hynny.   Nodwyd bod galwadau diweddar wedi’u gwneud gan Aelodau Seneddol ar draws y sbectrwm gwleidyddol i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol.   O ystyried y cyd-destun ariannol presennol, roedd y Cabinet yn credu bod cynigion y gyllideb yn cynrychioli’r canlyniad gorau i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol a dysgwyr ysgol yn cael eu hamddiffyn cyn belled ag y bo modd ac i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

 

Croesawodd y Cabinet y setliad uwch na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru ond nododd ei fod yn seiliedig ar ddata a fyddai’n arwain at alw uwch am wasanaethau ac nad oedd yn newid y sefyllfa gyllidebol yn sylweddol o ystyried y byddai darparu gwasanaethau yn 2024/25 yn costio £24.682 miliwn ychwanegol o gymharu â 2023/24, yn bennaf oherwydd pwysau chwyddiant a chynnydd mawr yn y galw gan wasanaethau cleientiaid.  Cydnabuwyd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR “DRETH GYNGOR DECACH” pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ymateb arfaethedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar “Dreth Gyngor Decach”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad, a chefnogi argymhellion swyddogion ynglŷn â’r cynnig ehangach a’i gyflawni drwy ddull cynyddrannol, a

 

(b)      gweithredu’r penderfyniad ar unwaith fel penderfyniad brys dan Adran 7.25 Cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar y rhesymeg a nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r ymateb arfaethedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar “Dreth Gyngor Decach”.

 

Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cychwyn ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i system Treth y Cyngor gyda’r nod o wneud dosbarthu trethi’n decach drwy ostwng Treth y Cyngor i’r rhai yn y bandiau is a allai gael trafferth cyfrannu tra’n ei chynyddu ar gyfer y rhai yn y bandiau uwch.  Gofynnwyd am farn ar dri opsiwn: (1) Diwygio ar Raddfa Fach; (2) Diwygio ar Raddfa Gymedrol, a (3) Diwygio Ehangach ynghyd ag amserlenni gweithredu.

 

Arweiniodd y Prif Reolwr Refeniw, Budd-daliadau a Chontractau'r Cabinet drwy fanylion yr adroddiad ar yr ymgynghoriad ynghyd â'r rhesymeg y tu ôl i'r ymateb arfaethedig a'r risg, y materion a'r manteision i'r Cyngor a'i drigolion.  Ar ôl rhoi trosolwg o'r tri opsiwn, argymhellwyd bod y Cabinet yn cefnogi'r Diwygio Ehangach, gan ei fod yn cael ei ystyried fel y ffurf decaf o opsiwn trethiant o fewn yr ymgynghoriad ar gyfer trigolion.Mae’r risg bosibl i’r Cyngor drwy ddibynnu mwy ar gyllid Grant Cynnal Refeniw wedi cael ei amlygu yn yr ymateb arfaethedig a gofynnwyd i Lywodraeth Cymru roi mwy o sicrwydd ar effeithiau cyfatebol y Grant Cynnal Refeniw.  Er mwyn sicrhau bod unrhyw effeithiau’n cael eu deall yn llawn a’u bod yn cael eu rhoi ar waith ar gyflymder y gellir ei reoli gan y cyngor, cynigwyd cefnogi’r dull fesul cam.  Argymhellwyd hefyd bod penderfyniad y Cabinet ar yr ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad yn cael ei weithredu ar unwaith er mwyn sicrhau bod yr ymateb yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau.

 

Croesawodd y Cabinet y newidiadau arfaethedig i system Treth y Cyngor i wneud y dreth yn decach ac yn fwy blaengar a chefnogodd argymhellion yr adroddiad a'r opsiwn Diwygio Ehangach a fyddai o'r budd gorau i drigolion Sir Ddinbych.  Fodd bynnag, roedd y posibilrwydd o dynnu £8 miliwn o sylfaen treth y cyngor o ganlyniad i symud i’r strwythur bandiau newydd yn y cynllun estynedig a’r ddibyniaeth ddilynol ar y golled honno’n cael ei digolledu gan y Grant Cynnal Refeniw yn achos pryder a thynnodd y Cabinet sylw at bwysigrwydd setliad Grant Cynnal Refeniw teg a chymesur i alluogi'r awdurdod i ddarparu gwasanaethau i drigolion.   Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio weithrediad y system bresennol o ddyrannu'r Grant Cynnal Refeniw ar sail gallu awdurdodau lleol i godi Treth y Cyngor a pharhad yr egwyddor honno i'r dyfodol ond byddai angen rhagor o fanylion er mwyn deall yn well oblygiadau llawn y newid hwnnw, a dyna pam y ceisir sicrwydd gan Lywodraeth Cymru yn yr ymateb i'r ymgynghoriad.   Ychwanegodd y Cynghorydd Gill German ei bod yn bwysig i bob awdurdod lleol ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad, a chefnogi argymhellion swyddogion ynglŷn â’r cynnig ehangach a’i gyflawni drwy ddull fesul cam, a

 

(b)      gweithredu’r penderfyniad ar unwaith fel penderfyniad brys dan Adran 7.25 Cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar y rhesymeg a nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

 

8.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £3.229 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Bu gostyngiad bychan yn y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £96k o gymharu â’r mis blaenorol ac roedd y prif feysydd gorwariant yn parhau i fod oherwydd pwysau ym meysydd Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd, Addysg a Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol.  Bu cynnydd yn y Gwasanaethau Addysg a Phlant oherwydd bod anghenion dau leoliad presennol yn cynyddu gan arwain at symudiad negyddol o £480k a oedd wedi’i wrthbwyso gan wasanaethau’n canfod arbedion yn ystod y flwyddyn drwy roi’r gorau i wariant nad oedd yn hanfodol ac oedi gwariant lle bo modd.   Roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi nodi gostyngiad bychan yn eu tanwariant o £122k i £108k oherwydd gostyngiad bychan mewn incwm rhent gyda rhagolygon o falans diwedd blwyddyn o £754k.  Nid oedd unrhyw newid yn y defnydd a ragwelwyd o gronfeydd wrth gefn ar gyfer ysgolion.   Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a Phrosiectau Mawr.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Arweiniol a'r Pennaeth Gwasanaeth am eu gwaith caled parhaus ac ailadroddodd bwysigrwydd yr adroddiadau monitro rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 298 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

GWAREDU FFERM PERONNE, FFORDD COPPY, DINBYCH

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatgan nad oes angen Fferm Peronne ar y Cyngor bellach a chymeradwyo ei gwaredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo datgan nad oes angen Fferm Peronne, sydd ag amlinell goch ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad, a chymeradwyo cael gwared â’r fferm fel y nodir yn yr adroddiad, a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad D yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn am sêl bendith y Cabinet i ddatgan bod Peronne Farm yn warged i ofynion y Cyngor ac i gymeradwyo cael gwared arni fel y nodir yn yr adroddiad yn unol â'r polisi presennol.

 

Dywedwyd wrth y Cabinet bod yr eiddo'n rhan o'r Ystâd Amaethyddol a darparwyd manylion ei drefniadau gweithredu presennol ynghyd â'r cytundebau tenantiaeth sydd ar waith a'r telerau gwaredu arfaethedig.  Fel rhan o'r broses cysylltwyd ag aelodau ward lleol a'r cyngor cymuned lleol ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r gwarediad.   Roedd y Grŵp Rheoli Asedau hefyd yn cefnogi'r gwarediad fel y nodwyd ac yr argymhellwyd i'r cyngor.

 

Wrth ystyried yr adroddiad nododd y Cabinet y byddai cyfran o elw net y gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwariant cyfalaf cyfredol a fyddai'n lleihau costau benthyca'r Cyngor ac yn caniatáu rhyddhau cyllid o'r gyllideb ariannu cyfalaf i ariannu'r pwysau parhaus a grëwyd gan y gwarediad, a oedd yn dal i adael derbyniad cyfalaf sylweddol.  O ran darparu manylion y derbyniadau cyfalaf a gynhyrchwyd a'u defnydd, gellid cynnwys y wybodaeth hon yn y Strategaeth Gyfalaf yn y dyfodol.  Byddai'r Cabinet yn trafod y Cynllun Cyfalaf yn ei gyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo datgan nad oes angen Fferm Peronne, sydd ag amlinell goch ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad, a chymeradwyo cael gwared â’r fferm fel y nodir yn yr adroddiad, a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad D yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm.