Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 399 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

CANLYNIAD ADOLYGIAD PWYLLGOR CRAFFU PARTNERIAETHAU O BENDERFYNIAD CABINET SY’N YMWNEUD Â’R CEISIADAU AR Y RHESTR FER AR GYFER CYLLID O’R GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN pdf eicon PDF 310 KB

Ystyried canlyniad yr adolygiad o’r penderfyniad a gymerwyd gan y Cabinet ar 25 Ebrill 2023 yn berthnasol i Geisiadau ar y Rhestr Fer ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi bod yn destun craffu ac wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 18 Mai 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cydnabod bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn parchu penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prosiectau ar y rhestr fer a luniwyd gan y Grŵp Partneriaethau Craidd i’w cymeradwyo, a

 

(b)      mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddogion arweiniol perthnasol, ystyried y mecanweithiau ar gyfer gweithredu argymhellion y Pwyllgor Craffu, fel y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3.2 - 3.6, mewn modd priodol ac amserol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Scott, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, yr adroddiad sy’n manylu ar ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023 a alwyd i mewn. Roedd y penderfyniad yn ymwneud â cheisiadau a rhoddwyd ar y rhestr fer ar gyfer cyllid y Gronfa Ffyniant a Rennir.

 

Yn fras, cafodd y Pwyllgor eu sicrhau bod y broses a ddefnyddiwyd i ddelio gyda’r ceisiadau ac i lunio rhestr fer wedi bod yn un cadarn, teg a phroffesiynol. Fodd bynnag, credwyd bod trefniadau cyfathrebu agweddau ar gyllid y Gronfa Ffyniant a Rennir gydag aelodau etholedig wedi bod braidd yn wan. O ganlyniad, roedd y Pwyllgor wedi argymell bod y Cabinet yn cadarnhau ei benderfyniad i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prosiectau sydd wedi’u rhoi ar y rhestr fer gan y Grŵp Partneriaethau Craidd i’w cymeradwyo, ac wrth wneud hynny yn cytuno ar fesurau pellach (fel y nodir ym mharagraffau 3.2-3.6 yr adroddiad) er mwyn cryfhau’r trefniadau cyfathrebu.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Scott am adrodd ar drafodaeth a’r argymhellion y Pwyllgor Craffu. Gan fod y Pwyllgor Craffu wedi cadarnhau penderfyniad y Cabinet, ac oherwydd hwyrni’r adroddiad ar yr argymhellion, gyda rhagor o ystyriaeth angen ei rhoi i’r dulliau gweithredu, cynigiodd yr Arweinydd ddiwygiad i’r argymhellion i adlewyrchu’r materion hynny a’r ffordd orau ymlaen. Cytunodd y Cabinet, gan amlygu’r angen am Gynllun Cyfathrebu cadarn ac ymgysylltu priodol. Gofynnodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts i’r Cabinet gytuno mewn egwyddor â’r argymhellion bras ac ar amserlen briodol i’w gweithredu. Cafodd sylwadau’r Cynghorydd eu cydnabod gan yr Arweinydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Cydnabod bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn parchu penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prosiectau ar y rhestr fer a luniwyd gan y Grŵp Partneriaethau Craidd i’w cymeradwyo, ac

 

(b)       Mewn ymgynghoriad â’r swyddogion arweiniol perthnasol, yn ystyried y mecanwaith i weithredu argymhellion y Pwyllgor Craffu, fel y nodir ym mharagraffau 3.2-3.6, mewn modd amserol a phriodol.

 

 

6.

CAM 2 O GONTRACT GWAITH - GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF NEWYDD CSDD, YMESTYN STAD DDIWYDIANNOL COLOMENDY - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 297 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer y bwriad arfaethedig o symud ymlaen i gwblhau gwaith Cam 2 yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd yn Ninbych, ar ôl i’r prif gontractwr fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a darparu diweddariad ar bwysau cyllideb oherwydd y sefyllfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;

 

(b)       cefnogi’r ffordd ymlaen a ffefrir i gwblhau gwaith Cam 2 yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych a

 

(c)        chydnabod y pwysau diweddaraf ar y gyllideb a chytuno i barhau i weithio ar risg wrth i drafodaethau am ffynonellau cyllid posibl ar gyfer y pwysau gael eu cynnal â Llywodraeth Cymru.  Roedd hyn yn hanfodol er mwyn lliniaru’r risg o oedi pellach fyddai’n effeithio eto ar gostau a’r rhaglen, yn cynnwys y rhaglen ehangach o newid mewn gwasanaeth y mae cwblhau’r Orsaf yn hanfodol ar ei chyfer.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mellor yr adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i’r ffordd ymlaen arfaethedig i gwblhau gwaith Cam 2 Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych, ar ôl i’r prif gontractwr (RL Davies & Son Ltd) fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a darparodd y wybodaeth ddiweddaraf ar y pwysau mae hynny’n ei rhoi ar y gyllideb.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Rheolwr Prosiect Corfforaethol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Atgoffwyd y Cabinet o’r cefndir a’r sefyllfa ddiweddaraf o ran gwaith Cam 2 a’r pedwar dewis i symud ymlaen. Argymhellir dewis 4 er mwyn i’r Cyngor barhau i fod yn gontractwr rheoli a fydd yn ffurfioli’r trefniadau sydd yn eu lle dan yr Adroddiad Eithrio sydd wedi galluogi parhau â’r gwaith ers diwedd mis Chwefror 2023. Soniwyd am y sefyllfa o ran y gyllideb a dywedwyd bod y trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru o ran a fyddant yn mynd i’r afael â’r pwysau diweddaraf ar y gyllideb o £890,987. Os nad yw’r llywodraeth yn gallu ariannu’r pwysau, bydd adroddiad ar y dewisiadau yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad gyda’r swyddogion a chadarnhawyd bod gorffen y gwaith yn hanfodol i weithredu’r newid i’r gwasanaeth. Roedd y prosiect gwastraff yn ei hanfod yn ymwneud â gwelliant amgylcheddol a chynyddu cyfraddau ailgylchu er mwyn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% (mae’r llywodraeth hefyd wedi buddsoddi llawer yn y prosiect). Roedd y Cabinet yn croesawu buddion amgylcheddol y model gwastraff newydd a’r system newydd o wahanu ac ailgylchu, ac yn cydnabod cost cynyddol sylweddol parhau gyda’r trefniadau ailgylchu cymysg sy’n oddeutu £75 y dunnell ynghyd â’r ddirwy bosib’ gan Lywodraeth Cymru os nad ydym yn cyrraedd y targedau ailgylchu. Mae yna hefyd berygl o’r llywodraeth yn adfachu’r arian os nad yw’r depo yn cael ei orffen a’r gwasanaeth newydd ddim yn dwyn ffrwyth. Wrth gydnabod cymhlethdod y prosiect diolchodd y Cabinet i’r swyddogion am eu gwaith gan obeithio y bydd y canlyniad yn un llwyddiannus ar ôl trafod y pwysau cyllidebol gyda Llywodraeth Cymru.

 

Agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i’r aelodau etholedig eraill a oedd yn bresennol a bu iddynt ofyn cwestiynau a mynegi pryderon ynghylch y goblygiadau ariannol a’r pwysau cyllidebol, ynghyd â’r risgiau a’r dewisiadau i’r dyfodol. Ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn –

 

·         Cadarnhawyd cywirdeb yr amcangyfrif cyllidebol yn dilyn yr adolygiad diweddar o’r holl becynnau gwaith a’r arian at raid gan ddweud y bydd yna wastad berygl o’r anhysbys

·         Mae’r pwysau cyllidebol wedi’i achosi gan y ffaith bod prif gontractwr y prosiect wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, rhywbeth y tu hwnt i reolaeth y Cyngor

·         Darparwyd manylion y gwarantau a’r indemniadau proffesiynol sy’n ymwneud â’r prosiect

·         Bydd risgiau’r prosiect yn mynd yn llai wrth i’r gwaith fynd rhagddo a thynnu tua’r terfyn

·         Mae’r oedi o ran cael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu o’r depo newydd yn dal yn risg, ond bydd yr aelodau yn cael gwybod am y cynnydd

·         Mae trafodaethau yn parhau efo Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyllido’r pwysau cyllidebol ac os nad yw’r trafodaethau yn dwyn ffrwyth bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar y dewisiadau cyllido / yr effaith

·         Rhoddwyd sicrwydd ynghylch rheolaeth y prosiect, y trefniadau llywodraethu a’r gwaith monitro risg, ac roedd y swyddogion yn hyderus y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni

·         Amlygwyd y cyfle i’r aelodau ymgysylltu ag agweddau craffu ar y newid yn y gwasanaeth a’r cynnydd yn ystod cyfarfodydd y pwyllgor craffu ym mis Mehefin a mis Hydref, a chytunwyd i gynnwys y risgiau cysylltiedig â’r prosiect fel rhan o’r broses honno.

·         Eglurwyd sut y cafodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

PREMIWM TRETH Y CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIRDYMOR AC AIL GARTREFI pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r uchafswm lefel o bremiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor a gofyn am safbwyntiau'r Cabinet ar sut i symud ymlaen gydag unrhyw godi tâl ychwanegol posib ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cytuno bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag hirdymor yr un fath, i leihau effaith trethdalwyr yn osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol) ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cael ei gynyddu’n sylweddol, ac eithrio ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad;

 

(b)       cytuno â’r cynigion canlynol a fydd yn hysbysu ymgynghoriad cyhoeddus cyn i’r Cabinet a’r Cyngor wneud eu penderfyniadau terfynol:

 

·         bod y Premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar 50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025

·         bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn talu premiwm o 50% yn fwy na’r Premiwm safonol, a

 

(c)        bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith, yn unol â pharagraff 7.25 o gyfansoddiad y Cyngor, o wybod bod angen cwblhau’r ymgynghoriad angenrheidiol mewn modd amserol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad ar y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r uchafswm lefel o bremiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor a gofynnodd am farn y Cabinet ar sut i symud ymlaen gyda chyflyno unrhyw dâl ychwanegol posib’ ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau i fynd i’r afael a diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru, sy’n cynnwys hyblygrwydd newydd i godi cyfraddau uwch ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi (hyd at 300% o’r premiwm). Mae’r swyddogion yn argymell ymateb pwyllog i gadw’r premiwm ar 50% ar gyfer mis Ebrill 2023, ac yna cynyddu’r premiwm i 100% ym mis Ebrill 2024 ac i 150% ym mis Ebrill 2025. Bydd unrhyw gynnydd arfaethedig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Nod y cynnydd arfaethedig yw lleihau nifer yr eiddo gwag ac ail gartrefi, nid cynhyrchu incwm.

 

Manylodd Pennaeth Cyllid ac Archwilio ar amserlenni tynn y broses i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, adrodd yn ôl i’r Cabinet ac yna cyflwyno cynnig gerbron y Cyngor Llawn a gwneud y penderfyniad terfynol. O ystyried yr amserlen gofynnir i’r Cabinet hefyd gymeradwyo gweithredu’r penderfyniad ar unwaith. Y penderfyniad ar y cam hwn yw ymgynghori ynghylch y cynigion a bod unrhyw benderfyniad sylweddol yn destun adroddiad arall.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r cynigion yn yr adroddiad fel ffordd i ddefnyddio eiddo gwag, cynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl sydd angen tai a galluogi pobl leol i aros yn eu cymunedau. Mae’r dull graddol i gynyddu’r premiwm hefyd yn derbyn croeso, a bod digon o rybudd yn cael ei roi o’r cynigion er mwyn rhoi digon o amser i berchnogion ystyried eu sefyllfa. Cyfeiriwyd at y cydweithio rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru, a’r ymrwymiad i fynd i’r afael a materion fel prinder tai a diffyg tai fforddiadwy i bobl leol. Cadarnhaodd y swyddogion fod diffyg eglurder ynghylch bwriad awdurdodau lleol cyfagos wrth ddefnyddio’r hyblygrwydd newydd yma.

 

Gwnaeth ddau aelod etholedig (nad ydyn yn aelodau o’r Cabinet) sylwadau a gofyn cwestiynau am yr effaith niweidiol bosib’ ar dwristiaeth, busnesau bach a’r economi leol o ganlyniad i godi cyfraddau uwch ynghyd â’r incwm posib’.

 

Ymatebodd y Cabinet a’r swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

 

·         Nod y cynnydd arfaethedig yn y cyfraddau yw newid ymddygiad ac annog perchnogion i ddefnyddio eu heiddo – nid cynhyrchu incwm

·         Mae’r cynigion yn darparu dull graddol a phwyllog i gyrraedd uchafswm o 150%, sy’n llai na’r uchafswm o 300% a ganiateir

·         Mae angen cydbwysedd rhwng yr effaith ar dwristiaeth a’r ddarpariaeth dai, gyda’r angen am dai a digartrefedd yn prif flaenoriaethau

·         Byddai unrhyw eiddo sy’n fusnes yn destun cyfraddau busnes ac felly ni fydd yn rhaid iddynt dalu treth y cyngor

·         Amlygwyd yr anawsterau wrth amcangyfrif unrhyw refeniw ychwanegol, yn enwedig o ystyried mai lleihau ail gartrefi yw’r rheswm dros wneud y cynnydd – na fyddai’n cynhyrchu unrhyw refeniw ychwanegol os yw’n llwyddiannus

·         Byddai unrhyw refeniw ychwanegol yn sgil y cynnydd yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r materion tai, yn cynnwys digartrefedd a phrinder tai

·         Byddai Asesiad o’r Effaith ar Les yn cael ei ddarparu fel rhan o’r broses o wneud penderfyniad ar y cynigion, drwy adroddiadau i’r Cabinet ym mis Gorffennaf ac yna i’r Cyngor ym mis Medi

·         Rhoddwyd sicrwydd ynghylch bod trefniadau diogelu yn eu lle fel rhan o’r broses i helpu pobl sy’n wynebu caledi ariannol

 

Ar ôl adolygu’r adroddiad a’r wybodaeth ategol –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Cytuno bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag yn yr hirdymor yr  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

POLISI GWEITHIO’N HYBLYG DRAFFT pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar y Polisi Gweithio’n Hyblyg a dogfennau canllawiau cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo’r Polisi Gweithio’n Hyblyg, a’r dogfennau canllaw ategol, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 6 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i’r Polisi Gweithio’n Hyblyg newydd a’r dogfennau canllaw cysylltiedig.

 

Mae’r Polisi Gweithio’n Hyblyg presennol wedi’i adolygu yn dilyn y ffyrdd newydd o weithio y mae’r Cyngor wedi’u datblygu yn ystod ac ar ôl pandemig COVID-19. Mae’r Polisi Gweithio'n Hyblyg newydd yn galluogi gweithwyr i gael mwy o ddewis o ran sut, ble a phryd maent yn gweithio ac yn darparu canllawiau clir a dull cyson ar gyfer rheoli gweithwyr mewn ffordd hyblyg. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Les hefyd yn amlygu manteision y polisi hwn. Aeth Pennaeth Dros Dro Adnoddau Dynol drwy’r adroddiad a’r dogfennau cysylltiedig efo’r aelodau.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr a manteision y polisi, a oedd yn cynnwys mwy o ddewis i weithwyr, gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, defnyddio llai ar gerbydau, a’r gallu i weithio’n hyblyg yn dod yn ddewis pwysig mewn gyrfa ac yn helpu i fynd i’r afael â materion recriwtio a chadw staff.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·         Mae’r polisi drafft wedi’i gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr, ac mae’r holl undebau wedi cytuno arno

·         O ran gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, mae yna asesiadau risg yn eu lle ar gyfer rheolwyr a gweithwyr i ddiogelu unigolion tra maent yn gweithio

·         Mae gweithwyr newydd yn cael eu cefnogi drwy broses gyflwyno sydd wedi’i diwygio i ystyried y dulliau gweithio newydd

·         O ran monitro canlyniadau’r patrymau gweithio newydd, amlygwyd pwysigrwydd cyfarfodydd un-i-un rheolaidd rhwng rheolwyr a gweithwyr er mwyn sicrhau lles ac fel ffordd i reoli perfformiad sy’n darparu sgwrs ddwyffordd; mae llawer o bwyslais wedi’i roi ar werth cyfarfodydd un-i-un a darperir canllawiau ar sut i reoli’r sgyrsiau hynny i sicrhau’r budd mwyaf

·         Eglurwyd yr anawsterau wrth ddarparu cymhariaeth rhwng canlyniadau gweithio cyn ac ar ôl COVID-19 oherwydd diffyg data cymharol a’r cymhlethdodau o ran mesur canlyniadau ar gyfer swyddi penodol

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Cymeradwyo’r Polisi Gweithio’n Hyblyg, a’r dogfennau canllaw ategol, ac yn

 

(b)       Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 6 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

9.

FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU (NWCF) CAM 3 - CYFNOD 1 - CYCHWYN Y PROSIECT pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ar y broses o gaffael ar gyfer Cam 3 o Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau cychwyn y prosiect i gaffael Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i ddechrau proses gaffael Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

 

Yn dilyn llwyddiant Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru a’r buddion o ran amser caffael, cost a gwerth ychwanegol a ddarperir ganddo, cynigir cychwyn prosiect a fydd yn galluogi chwe awdurdod lleol y gogledd i gael fframwaith ar gyfer caffael prosiectau adeiladu rhanbarthol. Mae Cam 2 y Fframwaith Adeiladu yn dod i ben ddiwedd mis Mai 2024 ac mae angen cymeradwyaeth i ddechrau proses Cam 3 er mwyn iddo fod yn ei le erbyn mis Mehefin 2024.

 

Darparodd y Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith drosolwg manwl o’r fframwaith a’r manteision, a’r bwriad i fwrw ymlaen â thrydydd cam ar ran chwe awdurdod lleol y gogledd sy’n cyfrannu’n gyfartal at adnoddau’r fframwaith. Rhagwelir mai gwerth y fframwaith fydd £600 miliwn o wariant cyhoeddus yn ystod oes y trydydd cam ar draws y gogledd, a bydd pob corff cyhoeddus yn gallu cael mynediad ato. Mewn ymateb i gwestiynau cadarnhawyd bod Sir Ddinbych wedi cynnal dau gam blaenorol y fframwaith ar ran y rhanbarth, sy’n dangos hyder yn y gwaith.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Cymeradwyo cychwyn y prosiect i gaffael Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, ac yn

 

(b)       Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

10.

LLYWODRAETHU ARIAN CRONFA FFYNIANT BRO pdf eicon PDF 216 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeedig) ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio’r broses o gyflawni prosiectau wedi’u hariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen a deall y trefniadau llywodraethu a sicrwydd a ddisgrifir ac yn fodlon bod y trefniadau hynny wedi’u hintegreiddio’n ddigonol i fusnes y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio’r prosiectau a ariennir drwy’r Gronfa Ffyniant Bro, a chyfeiriodd at y swm anhygoel o waith sydd wedi’i wneud ers cais llwyddiannus Gorllewin Clwyd, yn cynnwys trafodaethau gyda budd-ddeiliaid ynglŷn â chyflawni’r prosiectau.

 

Eglurodd y Rheolwr Rhaglen beth yw’r gofyniad ar y Cyngor, fel corff cyflawni ar gyfer prosiect Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd – sef sefydlu bwrdd cyflawni cyfansoddiadol gyda’r Gronfa Ffyniant Bro wedi’i gynnwys yn ei gylch gorchwyl. Darparodd drosolwg cynhwysfawr o’r ddogfen lywodraethu, yn cynnwys y mecanweithiau arolygu a sicrwydd sydd yn eu lle a sut maent wedi’u cynnwys yn nhrefniadau llywodraethu’r Cyngor. Mae cylch gwaith y ddogfen lywodraethu hefyd yn cynnwys darpariaeth Ffyniant Bro mewn partneriaeth â Wrecsam ar gyfer ardal de Clwyd, a hefyd mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad ac roedd yn fodlon ar y strwythur llywodraethu cadarn sydd wedi’i gynnwys yn y ddogfen er mwyn cyflawni’r prosiectau yn llwyddiannus. Pwysleisiodd y Cynghorydd Emrys Wynne bwysigrwydd cael trefniadau llywodraethu cywir ar waith ac roedd yn edrych ymlaen at weld y prosiectau yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus yn Rhuthun. Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn edrych ymlaen at weithio ar y Bwrdd Prosiect a gyda budd-ddeiliaid i gyflawni prosiectau er budd y trigolion.

 

PENDERFYNWYD Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen a deall y trefniadau llywodraethu a sicrwydd a ddisgrifir a’i fod yn fodlon bod y trefniadau hynny wedi’u hintegreiddio’n ddigonol i fusnes y Cyngor.

 

 

11.

ADRODDIAD ARIANNOL (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2022/23) pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2022/23 a’r defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2022/23;

 

(b)       cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2, a

 

(c)        nodi manylion y trosglwyddiadau i’r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt fel y nodwyd yn Atodiad 3.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2022/23 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau. Bydd y Datganiad Cyfrifon Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 yn cael ei gyflwyno i’r archwilwyr allanol cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Medi.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad. Yn fras, mae’r sefyllfa derfynol o ran cyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol (yn cynnwys gorwariant ysgolion o £3.509 miliwn) yn orwariant o £5.095 miliwn neu’n orwariant o £1.585 miliwn heb ysgolion. Gyda diffyg bychan o £0.019 miliwn wrth gasglu Treth y Cyngor, mae gwerth £1.604 miliwn o gronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi wedi’u defnyddio i ariannu’r gorwariant net, gan adael balans o oddeutu £5.5 miliwn. Mae sefyllfa balansau ysgolion yn well na’r disgwyl ac mae £3.5 miliwn o arian wrth gefn (gan adael balans o £9 miliwn) wedi’i ddefnyddio i fynd i’r afael â’r gorwariant. Yn olaf, mae’r driniaeth arfaethedig ar gyfer y cronfeydd wrth gefn a’r balansau wedi’i nodi yn llawn. Mae’r rhan fwyaf o’r symudiadau wedi’u cyllidebu neu wedi’u cymeradwyo eisoes.

 

Ategodd y Cynghorodd Gill German, er bod cyllidebau ysgolion yn edrych yn weddol iach, fod hyn yn bennaf oherwydd cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig. Soniodd am yr effaith ar iechyd meddwl a lles, a bod angen mynd i’r afael â materion fel presenoldeb, cymdeithasu ac iaith a llefaredd mewn modd amserol. Amlygwyd yr heriau a’r risgiau ariannol ehangach, yn cynnwys pwysau chwyddiant a strategaeth ariannol Llywodraethu y DU wrth ddelio gydag effaith ariannol COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Dywedodd y Cynghorydd German fod yr anawsterau wedi bod yn ganlyniad uniongyrchol penderfyniadau gwleidyddol Llywodraeth y DU a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio er mwyn ymateb i’r sefyllfa yn y ffordd orau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2022/23;

 

(b)       Cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2, ac yn

 

(c)       Nodi manylion y trosglwyddiadau i’r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt fel y nodwyd yn Atodiad 3.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 293 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

Nododd yr Aelodau fod achos busnes Felodrom Gogledd Cymru wedi’i dynnu oddi ar raglen mis Mehefin ond y bydd yn cael ei ailosod ar y rhaglen waith ar ôl derbyn cadarnhad ynghylch amserlen y prosiect.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm.