Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 326 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 21 Chwefror 2023 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2023.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

TERFYNU’R CONTRACT AM BRIF GONTRACTWR AR GYFER CAM 2 Y DEPO GWASTRAFF pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) ynghylch terfynu’r contract rhwng Cyngor Sir Ddinbych a R L Davies Ltd (RLD) er mwyn i RLD fod y prif gontractwr ar gyfer Cam 2 y Depo Gwastraff ar Ystâd Colomendy, Dinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r penderfyniad dirprwyedig brys y cyfeirir ato ym mharagraff 2.1 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad am derfynu’r contract rhwng Cyngor Sir Ddinbych ac R L Davies Ltd (RLD) i RLD fod yn brif gontractwr Cam 2 y Depo Gwastraff ar Ystâd Colomendy, Dinbych.

 

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi yr Aelodau drwy’r adroddiad.  I grynhoi, yn eu cyfarfod diwethaf (dan yr adran materion brys), cafodd y Cabinet wybod fod RLD wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi wedi gwneud penderfyniad brys, dan adran 2.9 Cyfansoddiad y Cyngor, i derfynu’r contract rhwng y Cyngor ac RLD iddynt fod yn brif gontractwr Cam 2 y Depo Gwastraff ar Ystâd Colomendy, Dinbych.  Roedd y cyfansoddiad yn caniatáu i benderfyniad dirprwyedig ar frys gael ei wneud lle na allai penderfyniad aros tan y cyfarfod cyntaf posib o’r Cabinet.

 

Yn ogystal ag adrodd yn ffurfiol ar y penderfyniad dirprwyedig brys hwnnw, roedd yr adroddiad hefyd yn nodi sut cafodd y contract ei ddyfarnu, gan gynnwys penderfyniad y Cabinet i ddirprwyo’r penderfyniad i ddyfarnu’r contract i’r Prif Weithredwr ar 12 Ebrill 2022, o ystyried effaith yr etholiadau lleol ac amserlenni ar gyfer dyfarnu’r contract, ynghyd â’r broses dendro a gwerthuso, gan gynnwys y gwiriadau ariannol angenrheidiol a rheoli risg.  Roedd RLD wedi sgorio uchaf yn y broses dendro ac nid oedd rheswm dilys dros eu diystyru.  O ystyried y risg canolig o ddefnyddio’r cwmni, roedd y contract wedi’i fonitro’n agosach ac roedd rhai o’r is-gontractwyr mwy sylweddol wedi’u talu’n uniongyrchol er mwyn lliniaru’r risg.  Cyfeiriwyd hefyd at y dewisiadau ar gyfer symud y prosiect ymlaen, a chyflwyno adroddiad i’r Cabinet ym mis Mai ar y dewis a ffefrir ar gyfer cwblhau adeiladu’r prosiect.  Yn y cyfamser, roedd gwaith yn parhau ar y safle ac roedd is-gontractwyr allweddol wedi’u penodi’n uniongyrchol dan reolaeth y Tîm Prosiect.  Byddai’r holl gymeradwyaeth caffael angenrheidiol wedi’i roi ar waith ar gyfer y gwaith hwnnw.

 

Ailadroddodd y Cabinet eu tristwch fod RLD, a oedd yn fusnes lleol a hirsefydlog, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac roeddent yn meddwl am y gweithwyr a phawb a oedd wedi’u heffeithio gan hyn.  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gofynnodd y Cabinet am ragor o eglurder am y pwysau o ran amser wrth ddarparu’r prosiect, yn enwedig effaith unrhyw oedi ar Gam 2 o ran cyflwyno’r prosiect a goblygiadau o ran cost.  Gofynnwyd am sicrwydd hefyd o ran parhad y gwaith ar y safle yn y cyfnod interim.

 

Gan ymateb i’r materion hynny a chwestiynau pellach a godwyd gan Aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi a’r Rheolwr Prosiect –

 

·         na fyddai’n bosibl cyflwyno’r gwasanaeth newydd nes bydd y depo ar agor, felly byddai unrhyw oedi wrth gwblhau’r depo yn arwain at oedi wrth gyflwyno’r gwasanaeth newydd.  Ystyriwyd y gellid darparu’r depo ar amser o hyd, ac nid oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i oedi ei gyflwyno

·         byddai unrhyw oedi wrth gyflawni’r prosiect yn arwain at oblygiadau o ran cost o ran adeiladu’r depo ei hun o ystyried y cynnydd o ran chwyddiant a’r gost weithredol i’r gwasanaeth.  Roedd y system bresennol yn golygu bod angen mynd â deunydd ailgylchu cymysg i gyfleuster oddi ar y safle i’w ddidoli, am gost gynyddol i’r Cyngor; pan fyddai’r model newydd wedi’i gyflwyno, byddai incwm yn deillio o’r ailgylchu

·         yn dilyn terfynu’r contract gyda RLD, roedd y Cyngor wedi penodi is-gontractwyr allweddol yn uniongyrchol i sicrhau bod gwaith yn parhau i ddatblygu ar y safle yn y cyfnod interim er mwyn cyflawni’r rhaglen.  Roedd gwiriad cyllid wedi’i gynnal ar bob un o’r is-gontractwyr ac roedd pob un wedi sgorio’n uwch na’r trothwy isaf yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

STRATEGAETH DDEWISOL Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD - ADRODDIAD YMGYNGHORI pdf eicon PDF 291 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio (copi ynghlwm) ynghylch Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth Ddewisol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) a cheisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Ddewisol y CDLl, gan gyflwyno’r newidiadau a argymhellir i’r Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;

 

(b)       argymell y Strategaeth a Ffefrir fel y’i diwygiwyd gan yr adroddiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol, ac

 

(c)        argymell bod y Strategaeth a Ffefrir gymeradwy fel y’i diwygiwyd gan yr adroddiad yn ffurfio sail i ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd i’w Archwilio ar gyfer ymgynghoriad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr adroddiad ar Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) a cheisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth a Ffefrir y CDLl, a chyflwyno’r newidiadau a argymhellir i’r Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol.

 

Roedd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a’r Prif Swyddog Cynllunio yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Roedd yr adroddiad eglurhaol i gyfarfod y Grŵp Cynllunio Strategol ar 23 Chwefror 2023 (Atodiad 1 yr adroddiad) yn crynhoi’r newidiadau a argymhellwyd i’r Strategaeth a Ffefrir.  Roedd Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir (Atodiad 2 yr adroddiad), yn nodi manylion llawn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd, yr ymatebion a ddaeth i law, a’r diwygiadau a argymhellwyd i Strategaeth a Ffefrir y CDLl.  Roedd y newidiadau arfaethedig wedi cael eu hasesu drwy’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac mae’r canlyniadau wedi llunio’r newidiadau arfaethedig terfynol.

 

Yn gryno, roedd newidiadau allweddol i’r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys rhagor o amlygrwydd a phwysigrwydd i elfennau fel lliniaru newid hinsawdd, lleihau carbon a theithio llesol yn y weledigaeth, amcanion a pholisïau allweddol; gostyngiad o ran faint o dir glas cyflogaeth Dosbarth B newydd ddylid ei ddyrannu yn y strategaeth dwf yn dilyn adolygiad yr ymgynghorwyr o’r sylfaen dystiolaeth, a dileu Safle Strategol Bodelwyddan o’r strategaeth ofodol yn dilyn pryderon am ei ddarparu yn sgil newidiadau i gyllid y fargen dwf.  Argymhellwyd bod y targed tai fforddiadwy’n cael ei gynyddu hefyd.  Byddai’r targed gwirioneddol yn cael ei lywio gan yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol.  Yn olaf, cyfeiriwyd at waith y Grŵp Cynllunio Strategol a rhoddwyd gwahoddiad agored i bob Aelod fynychu.

 

Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd datblygu gwaith ar y CDLl i sicrhau bod y Cyngor yn cael dylanwad lleol ar fathau o ddatblygiadau ar draws y sir a’u lleoliad, a’u bod yn cael cyfle i newid polisïau a dyraniadau i adlewyrchu materion a meysydd newydd fel newid hinsawdd.  Croesawodd y Cabinet y newidiadau allweddol, yn enwedig y pwyslais o’r newydd ar liniaru newid hinsawdd, teithio llesol, y Gymraeg a chynyddu’r targed tai fforddiadwy.  Croesawyd y mewnbwn gan Gynghorwyr, swyddogion proffesiynol, a’r ymateb da o’r ymgynghoriad cyhoeddus hefyd, a soniwyd yn benodol am waith caled y Grŵp Cynllunio Strategol.  Fel aelod o’r Grŵp Cynllunio Strategol, amlygodd y Cynghorydd Peter Scott y gwaith caled a wnaed eisoes a gwaith pellach wrth symud ymlaen, a rhoddodd deyrnged i waith caled swyddogion, gan gymeradwyo’r adroddiad yn llawn.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         amlygwyd yr angen am fanylion yn y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd am fwriad y Cyngor, gan gynnwys elfennau sy’n ymwneud â newid hinsawdd a rhoddodd swyddogion sicrwydd y byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno, yn gyntaf i’r Grŵp Cynllunio Strategol, ar fanylion a geiriad polisïau i gwmpasu’r materion hynny a fyddai’n rhoi cyfle i Aelodau fod yn rhan o’r gwaith hwnnw ar gam cynnar

·         roedd yr adroddiad yn cyfeirio at ddarpariaeth ar gyfer lefel o dwf a gaiff ei gefnogi gan dir ar gyfer 3,775 o gartrefi newydd er mwyn bodloni gofyniad tai o 3,275 annedd, a bod y gwahaniaeth yn ymwneud â chynllun wrth gefn i sicrhau bod y 3,275 o anheddau’n cael eu darparu.  Ers dechrau cyfnod y cynllun yn 2018, roedd tua 1,200 o anheddau o’r cyfanswm o 3,275 wedi’u hadeiladu eisoes, ac roedd tua 1,000 o anheddau naill ai’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd neu’n safleoedd lle’r oedd caniatâd cynllunio wedi’i roi ac a fyddai’n debygol o ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf.  Felly, roedd yn debygol y byddai darpariaeth tir ar gyfer tua 1,000 o anheddau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYFLWYNO SYSTEM GAFFAEL DDEINAMIG AR GYFER DARPARU GRANTIAU CYFLEUSTERAU I BOBL ANABL pdf eicon PDF 308 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar ddatblygu a gweithredu System Gaffael Ddeinamig mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint ar gyfer darparu Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl Gorfodol, yn unol â Rheolau presennol y Weithdrefn Gontractau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo datblygiad a gweithrediad System Gaffael Ddeinamig mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu’r Grant Gorfodol Cyfleusterau i Bobl Anabl yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau presennol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer datblygiad a gweithrediad System Gaffael Ddeinamig mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu’r Grant Gorfodol Cyfleusterau i Bobl Anabl yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau presennol.

 

Roedd gofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu addasiadau, trwy Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, i unigolion diamddiffyn er mwyn eu galluogi i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartref eu hunain.  Nid oedd y broses bresennol o gaffael gwaith addasu yn cyd-fynd â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau’r Cyngor ac felly roedd System Gaffael Ddeinamig wedi’i hargymell, mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, a fyddai’n caniatáu i’r ddau Awdurdod Lleol ddarparu Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl ar draws y ffin trwy drawstoriad da o gontractwyr cymwys.  Eglurwyd y broses gaffael bresennol a’r System Gaffael Ddeinamig newydd.  Roedd y System Gaffael Ddeinamig yn debyg i restr gymeradwy o gontractwyr ond roedd yn darparu mwy o hyblygrwydd ac roedd yn cael ei gweithredu fel proses gwbl electronig, a fyddai’n agored drwy gydol cyfnod dilysu’r system brynu i unrhyw gwmni sy’n bodloni’r meini prawf dethol.   Y bwriad oedd darparu adroddiad pellach ar ddiwedd y broses gaffael o ran gweithredu’r System Gaffael Ddeinamig.

 

Cydnabu’r Cabinet fanteision y System arfaethedig a fyddai’n darparu mwy o hyblygrwydd a gwerth am arian, gyda chronfa ehangach o gontractwyr a allai wneud cais am wahanol lotiau wrth i waith fod ar gael, ac er mwyn diwallu anghenion rhai a oedd angen cyfleusterau i bobl anabl yn y ffordd orau mewn modd mwy amserol.  Ymatebodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a’r Prif Syrfëwr Prosiect Adeiledig i gwestiynau, gan gadarnhau bod y dyraniad cyfalaf blynyddol wedi cynyddu i £1.5 miliwn o ystyried cost gynyddol addasiadau oherwydd pwysau chwyddiant.  Roedd y grant gorfodol yn dal i fod yn £36,000 ond roedd y swm a roddwyd fel grant cyn pridiant ar yr eiddo wedi cynyddu o £5,000 i £10,000 a oedd yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i osod y rhan fwyaf o’r addasiadau canolig, fel lifftiau grisiau a rampiau, a oedd yn cyd-fynd â newidiadau Llywodraeth Cymru i brofion modd ar gyfer addasiadau ar gyfer anableddau.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi bod yr archwiliad mewnol wedi nodi’r gwelliant gofynnol a chroesawodd y broses well newydd, gan longyfarch pawb a fu’n rhan o’r broses a’r gwaith caled a wnaed er mwyn galluogi addasiadau i gartrefi er budd pobl ag anableddau ac i sicrhau ansawdd bywyd gwell.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo datblygiad a gweithrediad System Gaffael Ddeinamig mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu’r Grant Gorfodol Cyfleusterau i Bobl Anabl yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau presennol.

 

 

8.

ADNEWYDDU’R FFRAMWAITH CONTRACTWR CYNNAL A CHADW TAI GWAG pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael ac ymrwymo i gontract ar gyfer penodi nifer o gontractwyr i fframwaith i gynnal gwaith ailwampio i eiddo domestig gwag ym mherchnogaeth y Cyngor (a elwir yn dai gwag).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo ail-dendro’r fframwaith tai gwag, a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael ac ymrwymo i gontract i benodi nifer o gontractwyr i fframwaith i wneud gwaith ailwampio i eiddo domestig gwag sydd ym mherchnogaeth y Cyngor (a elwir yn dai gwag).

 

Rhoddwyd rhywfaint o wybodaeth gefndirol a oedd yn cynnwys dull y Cyngor o wella ansawdd eiddo gwag cyn eu hail-osod, a oedd yn effeithio ar amseroedd cwblhau a chynnydd o ran costau.  Eglurodd y Rheolwr Gweithrediadau Eiddo fod y fframwaith presennol wedi’i sefydlu yn dilyn archwiliad mewnol yn 2017 ond byddai’n dod i ben ym mis Medi 2023.  O ystyried ei lwyddiant, y bwriad oedd ail-dendro’r fframwaith, a mynd allan i’r farchnad eto i sicrhau gwerth gorau.  Dywedwyd wrth y Cabinet y byddai darparu fframwaith yn lleihau costau ac amser o ran cynnal gwaith ar unedau tai gwag, a chynyddu incwm i’r Cyfrif Refeniw Tai wrth gynnal y safon eithriadol sydd wedi’i gosod o ran tai o ansawdd uchel ar gyfer tenantiaid tai’r Cyngor.

 

Cydnabu’r Cabinet yr angen i leihau costau ac amseroedd cwblhau ar gyfer eiddo gwag o ystyried y pwysau presennol o ran tai, ond roeddent hefyd yn siarad o blaid yr angen i waith priodol gael ei wneud er mwyn sicrhau bod cartrefi o safon, sy’n addas i’r diben, yn cael eu hail-osod a fyddai, yn eu tro, yn cael parch a gofal gan denantiaid, ac roedd Aelodau’n falch bod tai o safon yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth.  Roedd y Cabinet hefyd yn falch o nodi’r cynnydd disgwyliedig o ran amseroedd cwblhau tai gwag fel rhan o’r fframwaith newydd a’r cyfleoedd i fusnesau lleol a masnachwyr bach yn Sir Ddinbych.  O ran prynu tai’r Cyngor yn ôl, cadarnhawyd nad oedd y fframwaith ei hun ar gyfer ‘prynu’n ôl’ yn benodol, ond gellid defnyddio contractwyr ar y fframwaith ar gyfer gwaith gofynnol ar eiddo a brynwyd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo ail-dendro’r fframwaith tai gwag, a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo gofynion arian cyfatebol ar gyfer rhaglen Grant Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd, fel y nodir yn adran 6.8 ac Atodiad 5 yr adroddiad, ac

 

(c)        cymeradwyo prosiect ‘Pedair Priffordd Fawr’ fel rhan o raglen Grant Ffyniant Bro De Clwyd fel y nodir yn adran 6.9 ac Atodiad 6 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 oedd £233.696 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22)

·         rhagwelwyd y byddai gorwariant o £2.846 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (gorwariant o £2.249 miliwn fis diwethaf)

·         amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·         rhoddwyd manylion arbedion gwasanaeth a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£0.754 miliwn)

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r gofyniad arian cyfatebol ar gyfer rhaglen Grant Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd hefyd, ynghyd â phrosiect ‘Pedair Priffordd Fawr’ fel rhan o raglen Grant Ffyniant Bro De Clwyd.

 

Tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at yr elfennau canlynol yn yr adroddiad –

 

·         roedd y cynnydd o ran gorwariant o £0.6 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol oherwydd pwysau ychwanegol yn y Gwasanaethau Plant (roedd y rhan fwyaf o’r pwysau’n ymwneud â lleoliadau plant y rhagwelwyd y byddent yn para’n hirach nag a ragwelwyd o’r blaen) a’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (lle’r oedd cronfeydd wrth gefn y gwasanaeth wedi’u defnyddio i liniaru’r gorwariant).  Roedd dewisiadau i ariannu’r gorwariant yn cynnwys lefel sylfaenol y cronfeydd wrth gefn a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a’r gronfa wrth gefn lliniaru’r gyllideb; byddai argymhellion yn cael eu gwneud pan fyddai’r sefyllfa derfynol yn hysbys

·         roedd cais Gorllewin Clwyd ar gyfer cyllid Ffyniant Bro a’r arian cyfatebol gofynnol wedi’i gytuno o’r blaen gan y Cabinet.  Ar ôl i Lywodraeth y DU gymeradwyo’r cais, gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r gofyniad arian cyfatebol yn ffurfiol, fel a ymrwymwyd gan y Cyngor eisoes, gan ddod i £1,038,108.  Roedd rhaglen Ffyniant Bro De Clwyd a’r cyllid gofynnol wedi’i gymeradwyo mewn egwyddor eisoes gan y Cabinet.  Ar ôl i’r Bwrdd Cyllideb adolygu’r achos busnes ar gyfer prosiect ‘Pedair Priffordd Fawr’, argymhellwyd bod y Cabinet yn cymeradwyo’r prosiect, a oedd yn fwy na £1 miliwn.  Roedd egwyddor y ddau gais wedi’i chymeradwyo eisoes ac roedd y ddau achos busnes wedi’u hadolygu a’u cefnogi gan y Bwrdd Cyllideb.  Byddai’r Grŵp Craffu Cyfalaf newydd yn cynnal adolygiadau pellach o achosion busnes.  Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod ef ac Aelodau Rhuthun wedi cwrdd â David Jones, AS Gorllewin Clwyd, i drafod materion llywodraethu a gwariant i ddarparu prosiectau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gill German at elfen o’r adroddiad a oedd yn ymwneud â’r Gwasanaethau Addysg a Phlant, gan bwysleisio’r angen uchel yn y Gwasanaethau Plant a bod amcanestyniadau’n dangos y byddai’r angen yn parhau.  Soniodd am adborth gan y gwasanaeth ac ysgolion a’i phrofiad uniongyrchol ei hun o’r effaith ar ôl y pandemig a’r cynnydd o ran materion iechyd meddwl, gydag effaith anghymesur ar blant o gefndiroedd incwm isel.  Er bod pwysau amlwg o ran y gyllideb, roedd gan y Gwasanaethau Plant rôl hanfodol o ran delio â’r materion hynny a chefnogi cydweithwyr iechyd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo gofynion arian cyfatebol ar gyfer rhaglen Grant Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd, fel y nodir yn adran 6.8 ac Atodiad 5 yr adroddiad, ac

 

(c)        cymeradwyo prosiect ‘Pedair Priffordd Fawr’ fel rhan o raglen Grant Ffyniant Bro De Clwyd fel y nodir yn adran 6.9 ac Atodiad 6 yr adroddiad.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 228 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet i’w hystyried, a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol –

 

·         Cam 2 y Depo Gwastraff yng Ngholomendy, Dinbych – symudwyd o fis Ebrill i fis Mai

·         Eisteddfod Genedlaethol Cymru - (Datgan Diddordeb) – ychwanegwyd at fis Ebrill

·         Fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, 3ydd iteriad – ychwanegwyd at fis Mai

·         Premiwm Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor  – ychwanegwyd at fis Mai a mis Gorffennaf

·         Strategaeth y Gymraeg – ychwanegwyd at fis Mehefin

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at broses datblygu’r prosiectau ar gyfer rhaglen ariannu Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd a chytunwyd i drafod y trefniadau hynny yn sesiwn Briffio’r Cabinet.  Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn awyddus i egluro’r broses a’r rhai a oedd yn rhan ohoni er mwyn sicrhau bod y prosiectau’n cael eu darparu mewn modd effeithlon ac effeithiol.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am.