Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Bro a darparodd ateb i’w cwestiwn hwnnw.

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, ac yn dilyn cais hwyr gan y Cynghorydd Peter Scott i ofyn cwestiwn, defnyddiodd yr Arweinydd ei ddisgresiwn a chaniatáu i'r cwestiwn gael ei ofyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Scott ei gwestiwn i’r Arweinydd fel a ganlyn –

 

“Diolch Arweinydd, am y cyfle hwn.  Gwn eich bod wedi bod yn sgwrsio â James Davies, AS; a gaf i gadarnhau y byddwch yn gweithio gyda James i geisio trefnu’r gronfa lefelu hon ar gyfer Gogledd Sir Ddinbych er budd Sir Ddinbych?”

 

Ymatebodd yr Arweinydd i’r cwestiwn fel a ganlyn -

 

“Diolch Peter.   Dydw i heb siarad gyda James yn ddiweddar; rwyf wedi cael trafodaeth dros e-bost gydag o.   Byddaf yn cyfarfod ag o yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod rhaglen y gronfa ffyniant bro a rownd 3, nad ydym yn ymwybodol o’r manylion llawn.  Fel sy’n hysbys i bawb sy’n bresennol, mae gennyf farn ar sut nad yw rhaglen y gronfa ffyniant bro wedi gweithio i Ddyffryn Clwyd.  Mae James yn ymwybodol o’r farn honno.  Rwy’n eithaf sicr y byddwn yn cael trafodaeth onest ac yn symud ymlaen i rownd 3.”

 

Diolchodd y Cynghorydd Scott i'r Arweinydd am ei ateb.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 (copi ynghlwm). 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid, yn amodol ar un pwynt o gywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022.

 

Cywirdeb – Tudalen 12, Eitem 9 Argymhellion y Grŵp Pennu Ffioedd Rhanbarthol – cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at y pwyntiau cywirdeb canlynol yn yr ail baragraff: dylid newid “2023/34” i “2023/24” a dylid newid “Inform” yn y Saesneg i “Infirm”.

 

Materion yn Codi – Tudalen 12, Eitem 9 Argymhellion y Grŵp Pennu Ffioedd Rhanbarthol – Y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Dywedodd y Pwyllgor Llywodraethu a Busnes fod y penderfyniad yn amodol ar gael ei alw i mewn i graffu a'i fod wedi'i ystyried yr wythnos flaenorol gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau.  Y canlyniad oedd peidio â chyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet, sy’n golygu y byddai’r penderfyniad yn aros ac yn cael ei roi ar waith.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y pwyntiau uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir.

 

5.

CEISIADAU BLWYDDYN 1 I’R GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN, A DIWEDDARIAD CYFFREDINOL YNGLŶN Â’R BROSES A’R AMSERLEN AR GYFER ROWNDIAU CEISIADAU’R DYFODOL pdf eicon PDF 581 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Mynd i’r Afael â Thlodi (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin fel yr argymhellir, ac ystyriaeth o’r wybodaeth ar brosesau ac amserlenni ar gyfer ceisiadau i’r dyfodol a’r camau nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo’r ceisiadau a amlinellir yn Atodiad A i’r adroddiad, yn seiliedig ar yr argymhellion gan y Grŵp Partneriaeth Craidd, a

 

(b)       nodi’r wybodaeth am brosesau ac amserlenni ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol (Atodiad B) ac yn cynghori ar y camau nesaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin fel yr argymhellwyd, ac ystyriaeth o’r wybodaeth ar brosesau ac amserlenni ar gyfer ceisiadau i’r dyfodol a’r camau nesaf.

 

Roedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o gyfres o fuddsoddiadau Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, gyda £21.2m ar gael i gymunedau Sir Ddinbych rhwng 2022 a mis Mawrth 2025 ar draws tair thema â blaenoriaeth buddsoddi (1) Cymunedau a Lle; (2) Cefnogi Busnes Lleol, a (3) Pobl a Sgiliau.

 

Manylodd y Cyd-Bennaeth Dros Dro, Gwella Busnes a Moderneiddio ar y broses ymgeisio ar gyfer gwario cyllid blwyddyn 1. Roedd wedi’i chyfyngu i awdurdodau lleol yn unig oherwydd nad oedd terfynau amser caeth ar gyfer cyflawni a’r telerau ariannu rhwng Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol wedi’u cytuno eto, a thrwy hynny’n cario rhywfaint o risg ariannol.  Yn unol â'r canllawiau, roedd Grŵp Partneriaeth wedi'i sefydlu i roi cyngor ar gydweddiad strategol a'r gallu i gyflawni, ac roedd y prosiectau yr argymhellwyd eu bod yn cael cyllid wedi'u nodi yn Atodiad A i'r adroddiad gyda dadansoddiad o'r crynodeb dyrannu a oedd yn cyfateb i danwariant o bron i £604k yn 2022/23.  Gallai'r tanwariant hwnnw gael ei ailbroffilio ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 ac felly ni fyddai'n cael ei golli.

 

Tywysodd y Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata y Cabinet drwy'r broses a'r amserlenni ar gyfer gwahoddiadau pellach i wneud cais am arian fel yr amlinellwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, ynghyd ag unrhyw risgiau a chamau lliniaru arfaethedig.  Cydnabuwyd bod amserlenni yn heriol ac roedd canllawiau’n cael eu cyhoeddi ymlaen llaw i roi amser i ddarpar gynigwyr ddechrau datblygu eu cynigion cyn agor gwahoddiadau am gyllid o £250k ac uwch. Roedd hyn yn cynnwys ceisiadau i gynnal Cronfeydd Allweddol (y byddai prosiectau llai yn cael eu cyflawni drwyddynt) erbyn diwedd mis Ionawr, gyda dyddiad cau o 24 Chwefror ar gyfer ceisiadau cam 1.  Byddai’r Grŵp Partneriaeth yn adolygu ceisiadau ac yn gwneud argymhellion i’r Cabinet.

 

Canmolodd yr Arweinydd y prosiectau a argymhellwyd a oedd yn amrywiol eu natur ac a fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled y sir.  Wrth groesawu’r adroddiad a chyfleoedd buddsoddi, ymhelaethodd y Cabinet ar werth prosiectau penodol o fewn cymunedau a gwahanol sectorau o gymdeithas, a’r cyfoeth o fuddion y byddent yn eu cyflwyno, gan arwain at effaith wirioneddol a chadarnhaol yn yr ardaloedd hynny, yn enwedig o ran mynd i’r afael ag amddifadedd a gwella lles.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         roedd trafodaethau technegol yn ymwneud â memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, a oedd yn arwain ar ran y rhanbarth, a Llywodraeth y DU yn parhau ond yn gynhyrchiol.  Roedd yn bwysig y gellid tynnu cyllid yn effeithlon tra hefyd yn sicrhau bod trefniadau llywodraethu a monitro cadarn ar waith; nid oedd unrhyw risg i wariant na chyflawniad y prosiect

·         roedd trafodaethau gyda phartneriaid allanol ynglŷn â chynnal Cronfeydd Allweddol er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer prosiectau llai ar draws y sir hefyd yn mynd rhagddynt, a’r bwriad oedd adrodd yn ôl ar hynny i’r Cabinet y mis canlynol.

·         trafodwyd y broses flaenoriaethu ar gyfer prosiectau, a nodwyd bod blaenoriaethau Sir Ddinbych wedi’u cynnwys yn y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol. Roedd rhagor o waith yn cael ei wneud yn lleol ac ymagwedd thematig yn unol â’r Cynllun Corfforaethol er mwyn sicrhau bod ceisiadau’n cael eu gwahodd yn unol â’r blaenoriaethau corfforaethol hynny.

·         er bod cyllid blwyddyn 1 wedi'i gyfyngu i'r awdurdod lleol oherwydd amserlenni a risg ariannol, byddai blynyddoedd 2 a 3 hefyd yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNLLUNIAU BYW Â CHYMORTH ANABLEDD DYSGU SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyniad dros dro contractau a’r broses ar gyfer aildendro contractau mewn perthynas â Cynlluniau Byw â Chymorth Anableddau Dysgu Sir Ddinbych.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo rhoi estyniadau dros dro i 41 o gontractau Byw â Chymorth Anableddau dysgu am gyfnod hyd at 30 Medi 2026 fan bellaf.  Roedd manylion y contract a’r amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer ail-dendro’r contractau hyn ynghlwm yn atodiad 1 i’r adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyniad dros dro i gontractau a’r broses ar gyfer ail-dendro contractau mewn perthynas â Chynlluniau Byw â Chymorth Anableddau Dysgu Sir Ddinbych.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad cyfrinachol a oedd yn cynnwys gwybodaeth a allai o bosibl arwain at adnabod unigolion a gwybodaeth fasnachol sensitif, a gofynnwyd i'r Cabinet symud i sesiwn breifat pe baent yn bwriadu trafod elfennau cyfrinachol y ddogfennaeth.

 

Cymeradwyodd y Cabinet estyniadau tebyg, yn ogystal â phroses i ymgymryd â thendrau bach dan Fframwaith Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Byw â Chymorth i’r contractau ym mis Medi 2021.  Fodd bynnag, nid oedd gwaith wedi symud ymlaen mor gyflym ag a ragwelwyd, yn bennaf oherwydd Covid-19, ac roedd ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar yr opsiwn o daliadau uniongyrchol i ddinasyddion sy’n byw â chymorth, gyda’r tendrau cyntaf i’w hysbysebu ym mis Ebrill 2024.  Ar gyfer contractau nad oedd taliadau uniongyrchol yn briodol, byddai tendrau bach yn cael eu cyflwyno ar sail unigol rhwng mis Ebrill 2024 a mis Gorffennaf 2026.  Roedd estyniad pellach ar y contract wedi ei geisio er mwyn galluogi i’r gwaith hwnnw gael ei gynnal.

 

Eglurodd y Pennaeth Dros Dro, Gwasanaethau Cymunedol a Chymorth fod dinasyddion a gofalwyr, yn enwedig yn y maes anableddau dysgu, yn teimlo bod ail-dendro contractau’n rheolaidd yn peri gofid, a bod trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda dinasyddion a gofalwyr ynghylch yr opsiwn o gomisiynu gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol, a fyddai’n arwain at beidio â gorfod adolygu contractau mor rheolaidd.  Ni fyddai taliadau uniongyrchol yn cael eu mynnu a byddai cynlluniau'n cael eu hail-dendro yn ôl yr angen.  Eglurwyd y byddai’r broses ail-dendro yn cynnwys grwpio pecynnau gofal gyda’i gilydd lle y bo’n briodol, er mwyn symleiddio’r broses a hwyluso proses haws a chynt ar gyfer dinasyddion a gofalwyr.  Amlygodd y Cynghorydd Julie Matthews bwysigrwydd parhad gofal a chyfarwydd-deb ar gyfer lles preswylwyr, yn enwedig o ran byw â chymorth, ac roedd yn gwbl gefnogol i’r dull gweithredu a’r argymhellion.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo rhoi estyniadau dros dro i 41 o gontractau Byw â Chymorth Anableddau dysgu am gyfnod hyd at 30 Medi 2026 fan bellaf.  Roedd manylion y contract a’r amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer ail-dendro’r contractau ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

7.

CYLLIDEB 2023/24 – CYNIGION TERFYNOL pdf eicon PDF 267 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2023/24 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2023/24;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2023/24;

 

(c)        argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor; 

 

(d)       argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol, a

 

(e)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 5 i’r adroddiad).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad drafft Llywodraeth Leol 2023/24 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2023/24, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.  Cyfeiriodd yr Arweinydd at Weithdy Cyllideb y Cyngor a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol, y daeth llawer iddo, ac ychwanegodd y Cynghorydd Ellis fod aelodau wedi cydweithio’n dda ar y broses i bennu’r gyllideb, a chanmolodd y Pennaeth Cyllid a’i dîm ar y gwaith hwnnw. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ellis a’r Pennaeth Cyllid drosolwg o broses y gyllideb a’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf, gan ymhelaethu ar y cynigion i’w hystyried a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn pennu’r gyllideb ar gyfer 2023/24.  Roedd y setliad drafft wedi arwain at setliad cadarnhaol o 8.2% (o gymharu â chyfartaledd Cymru o 7.9%) a disgwylir setliad terfynol ddechrau mis Mawrth 2023.  Roedd y setliad yn cynnwys yr holl godiad cyflog ar gyfer swyddi dysgu a swyddi nad ydynt yn rhai dysgu, a’r cyfrifoldeb i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol.   Roedd pwysau o £25.116m wedi'u nodi ac roedd y setliad o +8.2% wedi cynhyrchu £14.231m gan adael bwlch ariannu o £10.885m, a chynigion i lenwi'r bwlch hwnnw wedi'u nodi yn yr adroddiad a'u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.  Roedd cynnydd o 3.8% yn Nhreth y Cyngor wedi’i gynnig i gynhyrchu £2.13m o refeniw ychwanegol.   Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000.   Roedd y setliad drafft hefyd wedi cynnwys codiad setliad cyfartalog dangosol o 3.0% ar gyfer 2024/25.  Yn olaf, ategwyd yr ymgynghoriad helaeth ar y broses gosod cyllideb a chyfranogiad yr holl aelodau yn y broses honno.

 

Talodd y Cabinet deyrnged i waith y Pennaeth Cyllid a'i dîm ar y gyllideb, gan ganmol yr ymgysylltiad ehangach â'r holl fudd-ddeiliaid ac aelodau etholedig fel rhan o broses pennu’r gyllideb, a oedd wedi bod yn glir, yn dryloyw ac yn gynhwysol. Croesawyd hefyd y setliad gwell na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r pwysau a nodwyd a’r gwaith rheoli cyllideb effeithiol a gynigiwyd i gau’r bwlch ariannu. Bu modd sicrhau codiad arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor, a oedd ar ben isaf y codiadau dangosol ledled Cymru.

 

Wrth ystyried yr adroddiad cafwyd dadl faith ar wariant priffyrdd.  Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne am sicrwydd ynghylch digonolrwydd y buddsoddiad uwch o £4m yn y rhaglen gyfalaf priffyrdd wrth symud ymlaen, fel y cynigiwyd gan y Cyngor.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at y difrod difrifol a achoswyd i rai o ffyrdd y sir o ganlyniad i’r tywydd garw eithafol dros y misoedd diwethaf, na ellid bod wedi ei ragweld, ac roedd wedi creu ôl-groniad enfawr o waith atgyweirio a fyddai angen cyllid ar ei gyfer.  Amlygodd y Cynghorydd Terry Mendies effaith chwyddiant ar y gwariant o £4m a’r angen dirfawr am fuddsoddiad mewn ffyrdd gwledig. Rhoddodd enghreifftiau o ffyrdd bron yn amhosibl eu croesi yn ward Dyffryn Alun, gyda rhai ffyrdd yn darparu un llwybr, ac felly yn rhaff achub, ar gyfer y cymunedau hynny.  Awgrymodd y dylid ailedrych ar y gyllideb, ac y dylid cynyddu gwariant priffyrdd o 3.8% o leiaf, yn unol â'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor.

 

Ymatebodd Aelodau Arweiniol y Cabinet a swyddogion perthnasol i’r materion a godwyd, a’r cwestiynau a’r sylwadau dilynol ar gynnal a chadw priffyrdd fel a ganlyn -

 

·         roedd y buddsoddiad o £4m yn y rhaglen gyfalaf priffyrdd a gynigiwyd gan y Cyngor wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2023/24, yn unol â'r ymrwymiad gwreiddiol i ariannu'r buddsoddiad dros bum mlynedd.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; a

 

(b)       cymeradwyo cynlluniau i wario grantiau cyfalaf (£1.107miliwn) i weithredu cynllun prydlesu digartrefedd i gyflawni eiddo sector rhentu preifat ychwanegol fel y nodir yn adran 6.9 yn yr adroddiad ac Atodiad 5 i’r adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 oedd £233.696 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22)

·         rhagwelir y byddai gorwariant o £2.305 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (cafwyd gorwariant o £2.189 miliwn y mis diwethaf)

·         tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith y coronafeirws a chwyddiant.

·         manylion am arbedion gwasanaethau a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd am arbedion gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Gofynnwyd hefyd i'r Cabinet gymeradwyo cynlluniau i wario grant cyfalaf (£1.107m) ar gynllun prydlesu digartrefedd i gaffael eiddo sector rhentu preifat ychwanegol.

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid mai’r prif symudiad ers adroddiad y mis blaenorol oedd yn y Gwasanaethau Plant, gyda chynnydd bychan yn y gorwariant oherwydd cynnydd mewn lleoliadau preswyl newydd.  Ers i'r adroddiad gael ei ysgrifennu roedd yn falch o adrodd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau grant digartrefedd o £400k, a fyddai'n lleihau'r gorwariant o’r swm hwnnw.   Roedd yn ymddangos hefyd y gallai Llywodraeth Cymru ryddhau mwy o gyllid yn ystod y flwyddyn, dros y ddau/tri mis nesaf, ac y byddai unrhyw ddatblygiadau yn hynny o beth yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet.  Yn olaf, gofynnwyd am gymeradwyaeth i’r achos busnes yn ymwneud â Chynllun Prydlesu Digartrefedd Cymru a ariannwyd gan grant Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl, ac a fyddai’n caniatáu prydlesu eiddo preifat at ddibenion digartrefedd.  Croesawodd y Cynghorydd Rhys Thomas y cyllid grant ar gyfer y cynllun a gefnogodd yn llawn er budd pobl ddigartref y sir.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; ac

 

(b)       cymeradwyo cynlluniau i wario grantiau cyfalaf (£1.107miliwn) i roi cynllun prydlesu digartrefedd ar waith i gyflawni eiddo sector rhentu preifat ychwanegol fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 i’r adroddiad.

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 377 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd yr Arweinydd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Cabinet i gael ei gefnogi gan Sharon Evans, Cydlynydd Busnes: Swyddfa’r Arweinydd, gan ei bod yn gadael ei swydd bresennol i weithio ar gyfer gwasanaeth arall yn y Cyngor.   Talodd yr Arweinydd deyrnged i'r gwaith gwerthfawr a'r gefnogaeth ragorol yr oedd wedi'i darparu iddo ef ei hun fel Arweinydd ac i'r Cabinet yn gyffredinol.  Ar ran y Cabinet, diolchodd iddi am ei holl waith caled a dymunodd y gorau iddi ar gyfer y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm.