Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Win Mullen-James.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Win Mullen-James.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad wedi cael eu codi.

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 312 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022 (copi’n amgaeedig). 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022.

 

Materion yn Codi – Tudalen 11, Eitem 8 Blaenraglen Waith y Cabinet – Dywedodd y Pennaeth Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai adroddiad ar y Rhaglen Dysgu Cynaliadwy ar gyfer Cymunedau yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022 a chadarnhau eu bod yn gofnod cywir.

 

5.

CYMERADWYO CAIS CRONFA CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH GORLLEWIN CLWYD pdf eicon PDF 313 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeëdig) yn argymell bod y Cabinet yn ailadrodd ei gefnogaeth i’r prosiectau arfaethedig a dirprwyo awdurdod i swyddogion a enwir mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd i gytuno ar gais annibynnol am etholaeth Gorllewin Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)      ailadrodd ei gefnogaeth i'r prosiectau arfaethedig a gefnogwyd yn flaenorol gan y Cabinet a gwerth dangosol bras pob prosiect;

 

(b)       rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr a Phennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd a’r Arweinydd, i fireinio’r prosiectau a’r costau cysylltiedig yn ôl yr angen a chytuno i gais annibynnol gan Gyngor Sir Ddinbych gael ei gyflwyno ar gyfer Rownd 2 Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd, a

 

(c)        chadarnhau bod y penderfyniad hwn yn cael ei roi ar waith ar unwaith heb gael ei alw i mewn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad ar gais Llywodraeth y DU am Gyllid Codi’r Gwastad sy’n ymwneud â Gorllewin Clwyd, gan argymell bod y Cabinet yn ategu ei gefnogaeth i’r prosiectau arfaethedig a gefnogwyd yn flaenorol gan y Cabinet, a dirprwyo awdurdod i swyddogion a enwir mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd i gytuno ar gynnig unigol.

 

Roedd y Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad a’r Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem ac, ynghyd â’r Arweinydd, cafwyd rhywfaint o gefndir yr adroddiad a newid mewn amgylchiadau a oedd wedi arwain at y sefyllfa bresennol hyd yma.

 

Ym mis Tachwedd 2021, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cyflwyno’r cais, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ar gyfer Gorllewin Clwyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithredu fel prif ymgeisydd.  Yr oedd canllawiau Llywodraeth y DU wedi datgan, lle’r oedd etholaeth yn croesi nifer o awdurdodau lleol, y dylai’r awdurdodau lleol hynny gydweithio i ddatblygu cais ar y cyd.  Fodd bynnag, roedd y canllawiau diwygiedig ym mis Mawrth 2022 yn darparu ar gyfer cais gan bob awdurdod lleol a oedd yn croesi ffin etholaeth a oedd yn caniatáu un cais gan DCC a CBSC ar gyfer Gorllewin Clwyd.  Cynhaliwyd trafodaethau lefel uchel gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a David Jones, AS yn hynny o beth, ac er mai dymuniad Cyngor Sir Ddinbych oedd parhau â chais ar y cyd, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dewis bwrw ymlaen â’i gais ei hun.  O ganlyniad, roedd angen cefnogaeth y Cabinet er mwyn i’r Cyngor Sir fynd ar drywydd un cais.

 

Nid oedd y prosiectau a gefnogwyd gan y Cabinet yn flaenorol wedi newid ac roedd swyddogion/ymgynghorwyr yn hyderus bod yr elfen DCC yn dal yn gryf ar gyfer cais annibynnol.  Roedd David Jones, AS, yn cefnogi’r ddau gais ond gallai ond  “blaenoriaethu/roi cymorth sylfaenol” i un cynnig ac roedd wedi dewis blaenoriaethu cyflwyniad DCC.  Diolchodd yr Arweinydd i David Jones, AS am gefnogi cais DCC, a oedd yn elfen bwysig o'r broses sgorio, ac oedd wedi bod yn destament i waith caled swyddogion wrth ddatblygu'r cais am grant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at gyfarfod diweddar Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun (MAG) lle’r oedd yr aelodau’n croesawu’r cynnydd a wnaed a chefnogaeth David Jones, AS ar gyfer cais DCC, a’r cyfle i weddnewid a buddsoddi yn Rhuthun a’r ardaloedd cyfagos.  Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynghylch goblygiadau posibl penderfyniad CBSC i gyflwyno ei gais ei hun ac roedd aelodau lleol wedi cael gwybod am y newyddion hynny drwy sïon yn hytrach na sianeli swyddogol.  Esboniodd yr Arweinydd a’r swyddogion fod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen ers rhai wythnosau ond ni wnaed unrhyw benderfyniad tan yn ddiweddar iawn.  Unwaith yr oedd CBSC wedi penderfynu cyflwyno un cynnig, roedd y Cabinet a Grwp Cynghori Rhanbarthol Rhuthun wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.  Cafodd yr aelodau eu hannog hefyd i gysylltu â swyddogion yn uniongyrchol os clywir sïon, er mwyn gallu sefydlu ffeithiau’r mater.

 

Talodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts (Aelodau Ruthun) deyrnged hefyd i waith caled swyddogion wrth ddatblygu’r cais a diolchodd i David Jones, AS am ei gefnogaeth, gan dynnu sylw at y manteision sylweddol i Ruthun a’r ardal gyfagos pe bai’r cais yn llwyddiannus.  Ymatebodd yr Arweinydd a’r swyddogion i gwestiynau/sylwadau dilynol gan y ddau aelod lleol fel a ganlyn –

 

·         Roedd cydweithwyr ac ymgynghorwyr Llywodraeth y DU o’r farn bod gan DCC gais cryf a chydlynol gyda thema glir ac o’r safbwynt hwnnw, ni fyddai penderfyniad CBSC i fynd ar drywydd un cais yn cael effaith niweidiol ar gais  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH STRATEGOL YNG NGHYNGOR SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeëdig) yn manylu ar y trefniadau mewnol ar gyfer cefnogi'r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a arweinir gan Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi datblygiadau diweddar, ac yn cymeradwyo’r gwaith o ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth dan arweiniad Aelodau (i'w adolygu ar ôl 12 mis i ystyried a oes angen i'r Grŵp ddod i ben, newid a/neu ddathlu cyflawniadau).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn manylu ar y trefniadau mewnol ar gyfer cefnogi’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol dan arweiniad Aelodau.

 

Bu nifer o ddatblygiadau ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth dros y misoedd diwethaf ar lefel genedlaethol (Rhaglen Cymru ar gyfer Llywodraethu, Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau) ac ar lefel leol (ymchwil sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb yn Asesiad Lleol o Les DCC).  O ganlyniad, argymhellodd Cabinet gweinyddiaeth 2017-22 sefydlu Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol i oruchwylio trefniadau mewnol i gefnogi a monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y tymor presennol (2022-27).  Tynnodd y Cynghorydd Matthews sylw at yr angen i hyrwyddo a gwreiddio cynhwysiant er mwyn sicrhau Sir Ddinbych sy’n fwy cyfartal a thecach a thynnodd sylw at gylch gwaith a chylch gorchwyl y Grŵp.  Rhoddodd y Cyd-bennaeth Dros Dro Gwella Busnes a Moderneiddio gyd-destun pellach i ffurfio’r Grŵp er mwyn ymateb i’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd yr Arweinydd fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn un o themâu allweddol y Cyngor i sicrhau Sir Ddinbych sy’n fwy cyfartal ac amrywiol, a bod y strategaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn fater a blaenoriaeth barhaus i’r Cyngor.  Cydnabu’r Cabinet waith y Cyngor blaenorol a’r Cabinet mewn perthynas â’r mater hwn a phwysigrwydd cefnogi’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth. Tynnodd y Cynghorydd Gill German sylw at y camau a gymerwyd eisoes o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Cabinet ac arallgyfeirio yng Ngrŵp Llafur y Cyngor, ac roedd yn falch o nodi’r gwaith ehangach sydd ar y gweill i ddelio â’r materion hynny.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd, a’r Cyd-bennaeth Busnes a Gwella Dros Dro gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·         ymhelaethwyd ar drafodaeth ‘Menywod mewn Gwleidyddiaeth’ y cyn Arweinydd gyda’r holl fenywod a oedd yn cael eu hethol ym mis Tachwedd 2021 ynghylch eu profiadau o’r rhwystrau a wynebwyd wrth sefyll mewn etholiad ac ar ôl cael eu hethol, gydag bwriad i wella’r profiad.  Cyfeiriwyd at waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar amrywiaeth mewn democratiaeth a rôl y pleidiau gwleidyddol a’r awdurdod o ran cael gwared ar rai o’r rhwystrau hynny a wynebir, gyda rhagor o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn hynny o beth a chynnal safon dda o ymddygiad a thrafodaeth.

·         roedd ymrwymiad i adolygu effeithiolrwydd y Grŵp ar ôl deuddeg mis a fyddai hefyd yn cynnwys ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth a allai ychwanegu is-set benodol o nodweddion gwarchodedig, a sicrwydd y byddai’r Cyngor hefyd yn ymateb i unrhyw faterion o’r fath sy’n codi yn ei gymunedau

·         esbonio’r rhesymeg y tu ôl i adolygiad deuddeg mis i ystyried effeithiolrwydd y Grŵp ei hun a’r gwaith a wneir, ond y byddai unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg yn ystod y cyfarfodydd hynny’n cael eu huwchgyfeirio fel y bo’n briodol

·         egluro bod proses newydd yn cael ei drafftio ar hyn o bryd o ran perthnasoedd/ymddygiad aelodau, fel proses ar wahân i’r Grŵp, o ran sut roedd arweinwyr grwpiau’n rheoli diwylliant ac ymddygiad aelodau’n fewnol.  Byddai’r drafft hwnnw’n destun ymgynghoriad gydag aelodaeth ehangach y cyngor.

·         er bod y ffocws ar y drafodaeth ‘Menywod mewn Gwleidyddiaeth’ wedi bod ar ferched sy’n gynghorwyr, roedd yr agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hollgynhwysol ac yn cynnwys gwneud Sir Ddinbych yn decach ac yn fwy cyfartal i bawb

·         roedd prosesau ar wahân ar gyfer delio â materion fel bwlio/aflonyddu a materion rhwng aelodau a/neu aelodau a swyddogion.  Er y byddai’r Grŵp yn monitro diwylliant  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DYFODOL PARTNERIAETH ADEILADU GOGLEDD CYMRU - FFRAMWAITH PRIF GONTRACTWYR pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn Fframwaith bresennol Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru am flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r gwaith o ymestyn y Fframwaith am flwyddyn, a fydd yn rhoi amser i brosiectau barhau i gael eu gosod yn unol â'r rhaglen. Bydd hefyd yn caniatáu amser i ddeddfwriaeth gaffael ddisgwyliedig Llywodraeth y DU a Chymru gael ei rhyddhau a/neu ei hymgorffori yn y prosesau, i’w defnyddio wrth gaffael Fframwaith newydd.

 

Cofnodion:

Councillor Julie Matthews presented the report seeking Cabinet approval to Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y Fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru (NWCP) presennol am flwyddyn, er mwyn caniatáu amser i brosiectau barhau i gael eu gosod yn unol â’r rhaglen ac i ddeddfwriaeth gaffael newydd arfaethedig Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gael ei gwreiddio mewn prosesau a’i defnyddio wrth gaffael fframwaith newydd.

 

Roedd NWCP wedi bod yn llwyddiannus iawn a darparodd y Rheolwr Fframwaith rywfaint o gefndir i’r gwaith o greu’r fframwaith a’i reoli gan Sir Ddinbych ar ran chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru.  Roedd y fframwaith yn chwarae rhan bwysig fel y prif gyfrwng caffael ar gyfer prosiectau adeiladu mawr yn y sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru.  Darparwyd manylion gwerth y pum lot caffael er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i gontractwyr lleol a allai gyflawni prosiectau yn y bandiau gwerth is a chontractwyr cenedlaethol i’r bandiau gwerth uwch ond gydag ymrwymiad i ddefnyddio’r gadwyn gyflenwi leol.  Darparwyd manylion am y prosiectau a gwerth y prosiectau hynny hyd yn hyn ynghyd â’r manteision a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys manteision cymunedol, creu swyddi, cyfleoedd hyfforddi, a llu o gymwysterau eraill yn y gadwyn gyflenwi leol.  Daeth y fframwaith presennol i ben ym mis Mai 2023 ac amlinellodd y Rheolwr Fframwaith sut roedd effaith Covid-19, yr hinsawdd economaidd bresennol, a natur y ffordd yr oedd prosiectau cyfalaf yn cael eu hariannu wedi effeithio ar gyflawni rhaglen waith Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru ynghyd â’r rhesymeg y tu ôl i’r argymhelliad i ymestyn y fframwaith presennol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Emrys Wynne lwyddiant y fframwaith a’i effaith gadarnhaol ar Sir Ddinbych a’r rhanbarth a gobeithiai y byddai unrhyw newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth gaffael yn caniatáu i’r arferion cadarnhaol hynny barhau.  Cadarnhaodd Rheolwr y Fframwaith ei fod yn parhau i fod yn amcan i barhau i ddarparu hyfforddiant a recriwtio i’r cymunedau lleol i gyflawni prosiectau a thargedu unigolion ymhellach o’r farchnad a chymell pobl ifanc mewn ysgolion i ymuno â’r diwydiant adeiladu, a gwreiddio arferion gorau a ddatblygwyd drwy’r fframwaith yn y Cyngor, gan ddarparu enghreifftiau dangosol o’r arferion hynny.

 

Teimlai’r Cynghorydd Merfyn Parry y byddai’n werth adolygu gwerth y lotiau caffael o ystyried y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a chostau adeiladu a allai ganiatáu i fwy o gontractwyr lleol gael mynediad at fandiau gwerth uwch.  Dywedodd y Rheolwr Fframwaith fod y broses gaffael yn cael ei llywodraethu gan reoleiddio a bod gofyn i’r fframwaith weithredu drwy gydol ei oes drwy’r ffordd y cafodd ei ddylunio ar y dechrau.  Fodd bynnag, wrth ddechrau ar y broses ail-gaffael, byddai’r bandiau gwerth yn cael eu hadolygu ynghyd â dulliau eraill a gwersi a ddysgwyd o dan y fframwaith presennol, ac roedd llawer o waith wedi cael ei wneud i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i fusnesau lleol.  Mewn ymateb i gwestiwn dilynol, esboniwyd y fframwaith fel y broses a ddefnyddiwyd i gyflawni prosiectau ond ystyriwyd pob prosiect yn unigol a’i gyfateb â lot caffael yn dibynnu ar ei werth, gan roi cyfle i wneud cais am y prosiectau hynny.  Byddai ailgyflwyno fframwaith newydd ar hyn o bryd yn dargyfeirio adnoddau o gyflawni prosiectau i gyflawni’r fframwaith ond byddai ymestyn y fframwaith presennol am flwyddyn yn rhoi mwy o amser i’r ddeddfwriaeth berthnasol ddod drwodd a’r lotiau i’w gosod yn y strategaeth gaffael ar gyfer y fframwaith, a hefyd yn rhoi amser i ganolbwyntio ar brosiectau unigol.  Ychwanegodd y Cynghorydd Matthews fod disgwyl deddfwriaeth hefyd mewn perthynas â phartneriaeth gymdeithasol gydag uchelgeisiau pellach i gefnogi busnesau lleol.  Byddai estyniad o flwyddyn yn rhoi mwy o  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)       nodi'r ddogfen ‘Crynodeb o'r Gyllideb’ sydd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad ac, fel yn y blynyddoedd blaenorol, cytuno i'w chyhoeddi ar y rhyngrwyd, a

 

(c)        chymeradwyo’r gwaith o ddileu Ardrethi Busnes na ellir eu hadennill, fel y nodir yn Adran 6.9 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn manylu ar y gyllideb refeniw a’r arbedion fel y cytunwyd ar gyfer 2022/23 ynghyd ag Adroddiad Cryno’r Gyllideb 2022/23.

 

Darparwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 oedd £233.693m (£216.818m yn 2021/22)

·         rhagwelir gorwariant o £1.000m ar gyfer cyllidebau corfforaethol a gwasanaeth

·         tynnwyd sylw at risgiau a thybiaethau cyfredol sy’n ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith y coronafeirws a chwyddiant

·         manylwyd ar arbedion gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd o £0.754m gan gynnwys arbedion gweithredol a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau; ni ofynnwyd am unrhyw arbedion gan y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion

·         darparwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys, y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd nodi Adroddiad Cryno’r Gyllideb a chytuno i’w gyhoeddi a chymeradwyo dileu Ardrethi Busnes na ellir eu hadennill.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y ffigurau yn y Crynodeb o’r Gyllideb wedi’u cymeradwyo gan y Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn ac y byddai’r cyllidebau’n newid yn dilyn monitro’r gyllideb yn ddiweddarach yn y mis; roedd yn fodlon derbyn unrhyw ymholiadau manwl am y ddogfen honno drwy e-bost.  Eglurodd hefyd ei bod yn ofynnol i’r Cabinet gymeradwyo dileu’r Cyfraddau Busnes na ellir eu hadennill yn dechnegol, o ystyried bod y gwerth yn fwy nag £20k ym mhob achos a bod pob dull o adfer wedi cael ei ddefnyddio.

 

Tynnwyd sylw’r Cabinet at y gorwario a ragwelwyd mewn Gwasanaethau Addysg a Phlant a oedd yn ymwneud yn bennaf â lleoliadau maethu preswyl ac annibynnol newydd yr oedd yn anodd eu rhagweld.  Derbyniodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr anawsterau wrth ragweld nifer y plant sy’n dod i mewn i’r system a’r gwariant uchel er mwyn ymateb i anghenion plant wrth iddynt godi, ac atgoffodd yr aelodau o flaenoriaeth y Cyngor o ran plant sy’n derbyn gofal a’u dyletswydd fel rhiant corfforaethol.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo y byddai’r Cyngor yn gwario’r hyn oedd ei angen i ofalu am y plant hynny ond roedd yn briodol i unrhyw orwariant o ganlyniad gael ei adrodd i’r Cabinet.  O ran y pwysau yn y Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol, y gobaith oedd y byddent yn cael eu cynnwys o fewn y gyllideb o ystyried y gronfa arian parod sydd ar gael.  Y prif risgiau i’r gyllideb oedd chwyddiant, yn enwedig chwyddiant cyflogau, a fyddai’n parhau i gael ei fonitro drwy’r broses negodi i’r setliad cyflog.  Yr oedd y ddau brif gynllun cyfalaf sy’n mynd rhagddynt yng nghyswllt Ailddatblygu Marchnad y Frenhines y Rhyl ac Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff eisoes wedi ystyried y cynnydd mewn chwyddiant ac wedi cael eu hariannu, gydag unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu hadolygu yng ngoleuni chwyddiant.  Yn olaf, o ran cyllidebau ysgolion, byddai swyddogion yn adolygu cynlluniau ysgolion yn fuan i sicrhau bod mesurau priodol ar waith i wario’r cyllid hwnnw.

 

PENDERFYNWYD Y dylai'r Cabinet -

 

(a) nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb y cytunwyd arni;

 

(b) nodi’r ddogfen Crynodeb o’r Gyllideb sydd wedi’i chynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad ac, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn cytuno i’w chyhoeddi ar y rhyngrwyd, a

 

(c) chymeradwyo dileu Ardrethi Busnes na ellir eu hadennill fel y nodir yn Adran 6.9 yr adroddiad.

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 289 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaenraglen waith y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau yr ychwanegiadau canlynol

 

·         Dysgu Cynaliadwy ar gyfer Cymunedau (Band B) – Gorffennaf

·         Ysgol Plas Brondyffryn (canfyddiadau’r ymgynghoriad) – Medi

·         Marchnad y Frenhines: Dyfarniad Contract GweithredwrMedi

·         Ysgol Plas Brondyffryn (amlinelliad terfynol/achos busnes llawn) – Rhagfyr

 

PENDERFYNWYD nodi blaenraglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 am.