Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Richard Mainon

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Richard Mainon

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a drafodir yn y cyfarfod hwn.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 11 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Bobby Feeley – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 11 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol gydag eitem 8 ar y rhaglen - Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn o ran yr hyn sy’n ymwneud ag Ysgol Uwchradd Dinbych gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol ar gyfer Ysgol Uwchradd Dinbych.

 

Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol gydag eitem 11 ar y rhaglen - Adroddiad Cyllid o ran yr hyn sy’n ymwneud â Phrosiect Glasdir gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol ar gyfer Ysgol Pen Barras.

 

Datganodd y Cynghorydd Bobby Feeley gysylltiad personol gydag eitem 11 ar y rhaglen - Adroddiad Cyllid o ran yr hyn sy’n ymwneud â Phrosiect Glasdir gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Stryd y Rhos. 

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 381 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 (copi’n amgaeedig). 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 .

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

AILFODELU’R GWASANAETHAU GWASTRAFF – Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y SEFYLLFA ARIANNOL GAN GYNNWYS ACHOS BUSNES WEDI’I DDIWEDDARU pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad yn gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y sefyllfa ddiweddaraf o ran cost a chyllideb prosiect Ailfodelu’r Gwasanaethau Gwastraff ac sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Achos Busnes diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn-

 

(a)       cydnabod y sefyllfa ddiweddaraf o ran cost a chyllideb (Atodiad 1 i’r adroddiad);

 

(b)       cymeradwyo’r Achos Busnes ddiweddaraf (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

(c)        dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro i alw ar gyllid cynllun cyfalaf heb ei neilltuo os bydd angen oherwydd cynnydd afreolus mewn costau o ganlyniad i chwyddiant neu faterion cadwyn gyflenwi.   Adroddir ar unrhyw alwad ar y cyllid hwn i’r cyfarfod nesaf o’r Cabinet, a

 

(d)       cadarnhau ei fod wedi darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ar gostau diweddaraf a’r sefyllfa ariannol ar y Prosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Achos Busnes wedi’i ddiweddaru a dirprwyo awdurdod i swyddogion priodol i alw ar gyllid sydd heb ei neilltuo yn y cynllun cyfalaf os bydd angen.

 

Tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at dryloywder rheolaeth y prosiect a oruchwyliwyd gan y Bwrdd Prosiect Gwastraff ac sy’n destun craffu gyda diweddariadau rheolaidd i’r aelodau.   Yn unol â chynlluniau eraill y Cyngor roedd effaith cynnydd mewn costau nwyddau a deunyddiau yn fyd-eang wedi effeithio ar y prosiect, ac roedd hyn y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, ac wedi arwain at gyflwyno Achos Busnes wedi’i ddiweddaru i geisio cymeradwyaeth.

 

Cyflwynodd Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol rywfaint o gefndir y prosiect a’r gwaith a wnaed ers cymeradwyo’r Achos Busnes gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2018.   Pwysleisiodd fuddion y model newydd a fydd yn arwain at gynnydd mewn lefelau ailgylchu, ailgylchu o safon uwch, llai o allyriadau carbon a’r gwasanaeth gwastraff yn costio llawer llai na’r model presennol.   Roedd safle’r depo ger Ystâd Ddiwydiannol Colomendy a thrwy weithio ar y cyd gyda phedwar o fusnesau lleol i gaffael tir ar gyfer y safle, roedd swyddi lleol wedi’u diogelu a swyddi newydd wedi’u creu.   Ond, roedd y datblygiad wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl gydag effaith Covid-19 hefyd yn amharu ar gynnydd.

 

Y prif newid ers cymeradwyo’r Achos Busnes oedd y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a chostau nwyddau a deunyddiau oherwydd ffactorau byd-eang nad oedd modd eu rhagweld.   Roedd yr arian at raid yn y gyllideb gyffredinol wedi’i gynyddu i £2m ym mis Gorffennaf 2019 i ddelio â risgiau / elfennau anhysbys.   Ond, oherwydd cynnydd sylweddol yng nghostau nwyddau  / deunyddiau yn y deuddeg mis diwethaf, roedd pwysau costau o £3.588m wedi’u nodi ar draws y prosiect.   Roedd cais am £1.588m o gyllid ychwanegol ar gyfer y diffyg ariannol wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.   Roedd costau chwyddiant yn parhau i fod yn risg nes bo’r tendrau wedi’u dychwelyd a’r contractau wedi’u dyfarnu.   I gydnabod y broblem honno roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yn ychwanegol i’r 22 o awdurdodau lleol. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd y sefyllfa ariannol yn unigryw i’r prosiect gwastraff gyda’r cynnydd mewn costau wedi’i gynnwys mewn nifer o gynlluniau ar draws yr awdurdod.   Roedd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r prosiect hwn a’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn golygu ar y cam hwn bod y prosiect wedi’i ariannu’n llawn gan alluogi’r contractau gofynnol yn yr wythnosau/misoedd sydd i ddod hyd at gwblhau ac roedd yn cefnogi’r argymhellion.   Ychwanegodd y Cynghorydd Brian Jones bod contract y Cyngor gydag United Paper Mills (UPM) Shotton i ailgylchu gwastraff y cartref yn dod i ben yn yr hydref 2023 a fyddai’n debygol o arwain at bwysau ariannol ychwanegol ar y gwasanaeth gwastraff, ac y byddai unrhyw oedi yn y prosiect y tu hwnt i’r hydref 2023 yn arwain at fwy o gostau i’r Cyngor.

 

Ymatebodd y Cynghorwyr Brian Jones a Julian Thompson-Hill, a Phennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol i’r cwestiynau fel a ganlyn –

 

·        roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £1.588m o gyllid grant ychwanegol i gynorthwyo i ddiwallu’r pwysau o ran costau gan olygu bod y prosiect wedi’i ariannu’n llawn ar hyn o bryd, ond roedd costau chwyddiant yn parhau i fod yn risg nes y dyfernir y contract.

·        darparu sicrwydd bod y prosiect wedi’i ddatblygu cyn gynted â phosibl.   Roedd wedi cymryd pymtheg mis yn dilyn cymeradwyaeth yr Achos Busnes gwreiddiol i gaffael y safle oherwydd cymhlethdodau gyda’r gofrestrfa tir a’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CERBYDAU FFLYD GWASTRAFF NEWYDD 5M – DYFARNU’R CONTRACT pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer 14 Cerbyd Adfer Adnoddau 5M fel rhan o brosiect ailfodelu ehangach y Gwasanaethau Gwastraff.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn-

 

(a)       cymeradwyo dyfarnu’r contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer yr 11 RRV 5M disel a 3 RRV 5M allyriadau isel iawn am gost o £2,712,231.   Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ariannu £2,217,231 a bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £495,000 i brynu’r 3 cerbyd allyriadau isel iawn. Gweler Atodiad 1 (Rhan 2) am fwy o fanylion ariannu;

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, wedi deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3) fel rhan o’u hystyriaethau, a

 

(c)        cymeradwyo gweithredu’r penderfyniad ar unwaith oherwydd yr amser mae’n ei gymryd i gyflenwi’r cerbydau RRV 5M mwyaf, ac (yr un mor bwysig) i sicrhau’r prisiau tendro o gofio’r ansicrwydd yn y farchnad a chwyddiant yn y prisiau sy’n gallu golygu bod y prisiau tendro yn cael eu tynnu’n ôl ar fyr rybudd.

 

Cofnodion:

[Cyfeiriodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd at yr atodiadau cyfrinachol am resymau sensitifedd masnachol a chynghori y dylai unrhyw gwestiynau sy’n codi o ran yr elfennau hynny gael eu cyflawni mewn sesiwn breifat].

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad ar y broses a gymerwyd yn ystod yr ymarfer caffael fflyd fel rhan o brosiect ehangach o ran ail-fodelu gwasanaethau gwastraff a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer 14 o Gerbydau Adfer Adnoddau newydd 5M (RRV).   Roedd dyfarnu contract yn cynnwys 11 cerbyd gwastraff RRV 5M disel a 3 cerbyd gwastraff allyriant isel iawn (ULEV).   O ystyried y cyfnodau arweiniol hir ar gyfer yr RRV 5M mwy ac i sicrhau prisiau’r tendr argymhellwyd bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith.

 

Ychwanegodd Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, yn dilyn trafodaeth bellach gyda Llywodraeth Cymru, y cytunwyd i gynyddu nifer y cerbydau gwastraff ULEV o 2 i 3 a fyddai’n lleihau allyriadau’r fflyd ymhellach ac yn cynrychioli newid sylweddol i sut yr oedd y gwasanaeth yn gweithredu.   Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones bod angen lansio’r model gwastraff newydd yn yr hydref 2023 i osgoi pwysau ariannol pellach ar y gwasanaeth yn dilyn terfyn y contract presennol gydag United Paper Mills.

 

Roedd y Cabinet yn cefnogi’r camau i leihau allyriadau carbon y fflyd ac wedi trafod dibynadwyedd / cadernid y cerbydau gwastraff ULEV gyda swyddogion i ddiwallu anghenion yr awdurdod a’r ffyrdd newydd o weithio yn y dyfodol ynghyd â’r amseroedd arwain i ddiwallu terfynau amser cyflenwi.   Ymatebodd y swyddogion–

 

·         bod gwaith wedi’i gyflawni ar hyfywedd y cerbydau ULEV a’u cyfyngiadau ar lwybrau gwahanol, amodau ac ati, ac roedd hyder y byddant yn diwallu ymrwymiadau’r gwasanaeth - roedd unrhyw risg o ran hynny wedi’i liniaru trwy gyflwyno nifer fechan i’r fflyd ar y pwynt hwn a’r bwriad oedd cyflwyno mwy o gerbydau ULEV dros amser; roedd yn debygol pan fyddai’r cerbydau disel yn cyrraedd diwedd oes y byddai’n ofynnol eu disodli gyda cherbydau heb allyriadau, a dyna’r rheswm dros gyflwyno’r rhain fesul cam er mwyn rheoli risg.

·         roedd y Tîm Cynnal a Chadw wedi derbyn hyfforddiant i gynnal a chadw cerbydau trydan a oedd yn darparu cyfleoedd posibl ar gyfer y gwasanaeth fflyd i gyd-weithio yn y dyfodol.   Roedd yr Uned Cynnal a Chadw ym Modelwyddan ar ffurf garej masnachol a gobeithir y byddai’r newid yn darparu buddion hirdymor i’r gymuned fusnes yn lleol a’r fflyd fewnol.

·         disgwylir y byddai’r amser arweiniol eithaf hir yn darparu’r cyfle i gomisiynu’r cerbydau a darparu’r hyfforddiant gofynnol i’r staff newydd yn barod i gyflwyno ffordd newydd o weithio –yn amodol ar beidio ag wynebu problemau sylweddol yn y diwydiant, dylai’r cyflenwyr allu cyflwyno’r cerbydau mewn oddeutu blwyddyn er mwyn gallu cyflwyno’r model gwastraff newydd erbyn yr hydref 2023.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd ragor o gwestiynau gan aelodau heb fod yn aelodau o'r Cabinet ac ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i'r pwyntiau canlynol a godwyd–

 

·         roedd gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu yn cael ei brosesu ym Mharc Adfer, Glannau Dyfrdwy, fel rhan o drefniant ar y cyd gyda phum awdurdod Gogledd Cymru tra bo gwastraff y cartref y gellir ei ailgylchu yn cael ei brosesu yn United Paper Mills, Shotton.

·         roedd y rhesymau a roddwyd pam fod cerbydau trydan yn ddrytach na cherbydau disel yn cynnwys cost y batri o gymharu ag injan tanio mewnol, yr ymchwil a chostau datblygu technoleg newydd sy’n cael ei dalu ar y dechrau fel arfer, a grymoedd y farchnad.

·         eglurwyd y rhesymeg dros y penderfyniad i gael cerbydau cwbl drydanol.  Er bod cerbydau hybrid llai ar gael roedd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAM 2 GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF, DYFARNU CONTRACT COLOMENDY DRWY BENDERFYNIAD WEDI’I DDIRPRWYO pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) ynglŷn â datblygiad Cam 2 Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd CSDd ac i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract i’r contractwr a ffefrir drwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn-

 

(a)       cymeradwyo dyfarnu’r contract i’r contractwr a ffefrir drwy Benderfyniad Dirprwyedig gan y Prif Weithredwr (mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro) ar ddiwedd y broses dendro, gan gymryd fod cais y Contractwr o fewn terfyn fforddiadwyedd y gwaith.   Disgwylir i’r Penderfyniad Dirprwyedig gael ei wneud ar 5 Mai 2022 neu wedi hynny;

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(c)        rhoi’r penderfyniad dirprwyedig ar waith ar unwaith oherwydd y pwysau o ran amser i fynd â’r prosiect yn ei flaen, a dyfarnu contract i ganiatáu i waith ddechrau ar Gam 2 ar y safle cyn gynted â phosibl i wneud y mwyaf o’r amodau adeiladu ffafriol dros yr haf a lliniaru’r risgiau a achosir gan ansefydlogrwydd parhaus y farchnad a phwysau o ran costau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad am Gam 2 datblygiad Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd CSDd a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r contractwr a ffefrir drwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo.

                                 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r ymarfer tendro ar gyfer Cam 2 ym mis Hydref 2021 ac roedd yr adroddiad yn nodi’r gwaith a wnaed o ran y broses dendro hyd yma a Gwaith Galluogi Cam 1 a ddarparwyd mewn cydweithrediad â phedwar busnes ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy a gwblhawyd ym mis Mawrth 2022.   Roedd y tendr yn seiliedig ar bwysoliad o 60% pris a 40% ansawdd gyda rhagamcan o werth cyn derbyn tendr o £5.25m.   Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendr oedd 4 Mai 2022 ac yna byddai ymarfer gwerthuso’n cael ei gyflawni i benderfynu ar y contractwr a ffefrir i gyflawni Cam 2.   Yn absenoldeb Cabinet ym mis Mai ac er mwyn symud ymlaen â’r prosiect ac osgoi pwysau pellach o ran costau argymhellwyd bod y contract yn cael ei ddyfarnu drwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo, ar yr amod bod cynnig y contractwr a ffefrir o fewn yr amlen fforddiadwyedd ar gyfer y gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tony Thomas darparodd y swyddogion sicrwydd y bu gweithio agos gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad a’r Tîm Bioamrywiaeth ers dechrau’r prosiect er mwyn sicrhau bod unrhyw effaith o ran y datblygiad yn cael ei leihau a’i reoli mewn perthynas â bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.

 

Ar y pwynt hwn diolchodd y Cynghorydd Brian Jones i’r swyddogion sy’n gweithio ar y prosiect gwastraff gan gyfeirio’n benodol at y Rheolwr Prosiect, yn enwedig o ystyried y cymhlethdodau a’r heriau sydd wedi codi.   Ar ran y Cabinet, ychwanegodd yr Arweinydd ei ddiolch gan dynnu sylw at fuddion y prosiect i’r preswylwyr yn hirdymor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn–

 

(a)       cymeradwyo dyfarnu’r contract i’r contractwr a ffefrir drwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo gan y Prif Weithredwr (mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro) ar ddiwedd y broses dendro, ar yr amod bod cynnig y Contractwr o fewn yr amlen fforddiadwyedd ar gyfer y gwaith.   Disgwylir y bydd y penderfyniad wedi’i ddirprwyo yn cael ei wneud ar, neu ar ôl, 5 Mai 2022;

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, a

 

(c)         bod y penderfyniad wedi’i ddirprwyo yn cael ei weithredu ar unwaith oherwydd y pwysau o ran amser i symud ymlaen â’r rhaglen a dyfarnu Contract er mwyn dechrau ar Gam 2 ar y safle cyn gynted â phosibl i wneud y mwyaf o’r amodau ffafriol ar gyfer adeiladu dros yr haf a lliniaru’r risgiau o ran anwadalrwydd y farchnad a phwysau o ran costau. 

 

 

8.

PROSIECT YSGOL PLAS BRONDYFFRYN – CYNNIG I YMGYNGHORI’N FFURFIOL YNGHYLCH TREFNIADAETH YR YSGOL A’R ACHOS AMLINELLOL STRATEGOL DRAFFT pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cyflwyno Achos Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru a dechrau ymgynghori ynghylch cynigion i gynyddu nifer y lleoedd o 116 i 220.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn-

 

(a)       cymeradwyo mynd ati i ymgynghori’n ffurfiol ar gynnig i gynyddu ei chapasiti o 116 i 220;

 

(b)       cymeradwyo cyflwyno’r Achos Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru i’w ystyried, a

 

(c)        cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno Achos Amlinellol Strategol ar gyfer prosiect Ysgol Plas Brondyffryn i Lywodraeth Cymru a dechrau ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion i gynyddu’r capasiti o 116 i 220.

                                   

Roedd y Prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020.   Ar hyn o bryd roedd yr ysgol yn darparu darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion gydag awtistiaeth rhwng 3-19 oed ar draws pedwar safle yn Ninbych.   Y cynnig oedd uno’r holl safleoedd gyda’i gilydd mewn adeilad pwrpasol mewn cae wrth ymyl Canolfan Hamdden Dinbych (sy’n cael ei ddefnyddio gan Ysgol Uwchradd Dinbych ar hyn o bryd) ac i gynyddu capasiti’r ysgol gan fod y galw am y lleoedd hyn wedi cynyddu.   Roedd y rhesymeg dros y cynnydd mewn galw a ragwelir a’r problemau capasiti presennol wedi’u nodi ac fe dynnwyd sylw at y pwysigrwydd i ddiwallu’r galw ac anghenion dysgwyr, gyda’r sefyllfa bresennol hefyd yn her i’r athrawon a’r dysgwyr eraill mewn ysgolion ar draws y sir.   Cyfeiriwyd hefyd at yr ymgynghoriad a’r ymgysylltu a wnaed gyda budd-ddeiliaid, adrannau ac aelodau lleol o ran cynigion y prosiect a sut y byddant yn cael eu datblygu.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         roedd capasiti o 220 wedi’i ystyried fel maint realistig ar gyfer yr ysgol i ddiwallu’r cynnydd a ragwelir ac fe roddir blaenoriaeth i ddisgyblion Sir Ddinbych

·         codwyd pryderon dros nifer y disgyblion sy’n aros i gael eu hasesu ac roedd y Cyngor mewn trafodaethau rheolaidd gyda chydweithwyr iechyd o ran hynny

·         Canmolodd y Cynghorydd Mark Young y prosiect a diolch i’r swyddogion am yr ymweliad safle gan nodi bod cyfathrebu yn fater allweddol yn y broses

·         roedd caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect yn broses ar wahân, sy’n annibynnol o’r Cabinet, ac roedd yn fater i’r Pwyllgor Cynllunio ei benderfynu ar seiliau cynllunio.

·         byddai’r adeilad yn cael ei ddylunio mewn modd y byddai’n gallu adeiladu estyniad i’r ysgol yn y dyfodol os bydd angen er mwyn diwallu cynnydd pellach mewn galw

·         cyfeiriwyd at yr ysgol fel ysgol cyfrwng Saesneg gyda mwyafrif y disgyblion yn dod o aelwydydd sy’n siarad Saesneg.   Ond nid oedd dynodiad ar gyfer ysgolion arbennig o ran darpariaeth iaith ac roedd addysg yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg ar gais - derbyniwyd y gellir newid y geiriau yn yr Asesiad o Effaith ar y Gymraeg i adlewyrchu bod yr ysgol yn darparu addysg yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer y disgyblion yn eu hiaith a ffefrir.

 

Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd y prosiect a chefnogi’r argymhellion yn llawn er mwyn sicrhau ei gyflwyno cyn gynted â phosibl.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn–

 

(a)       cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig i gynyddu’r capasiti o 116 i 220;

 

(b)       cymeradwyo cyflwyno’r Achos Amlinellol Strategol i’w ystyried gan Lywodraeth Cymru, ac

 

 (c)       yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

9.

TREFNIADAU CYDWEITHIO CENEDLAETHOL AR GYFER GWASANAETHAU MABWYSIADU A MAETHU CYMRU (AWDURDOD LLEOL) pdf eicon PDF 246 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) ar drefniadau cydweithio cenedlaethol Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu ac i dderbyn cytundeb y Cabinet i lofnodi Cytundeb Cyfreithiol y Cyd-bwyllgor ar gyfer y Cyd-bwyllgor arfaethedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn-

 

(a)       mabwysiadu’r cynigion ar gyfer datblygu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru, gan ei fod yn cymryd cyfrifoldeb dros Faethu Cymru;

                                                       

(b)       cadarnhau eu cefnogaeth ar gyfer y Cytundeb Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru ac yn cytuno bod yr awdurdod yn llofnodi’r cytundeb;

 

(c)        enwebu, yn ffurfiol, eu cynrychiolydd ar y Cyd-bwyllgor, a

 

(d)       datblygu’r dull cenedlaethol, dirprwyo llywodraethu cysylltiedig, a threfniadau craffu lleol yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Cyngor Llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad ar drefniadau cydweithio cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu a cheisio cytundeb y Cabinet i lofnodi Cytundeb Cyfreithiol Cyd-bwyllgor ar gyfer y Cyd-bwyllgor arfaethedig.

 

Roedd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) wedi bod mewn bodolaeth ers 2014 ac wedi galluogi newid sylweddol a gwelliant mewn gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru.   Roedd cynigion wedi’u datblygu drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymestyn strwythur llywodraethu’r NAS i gynnwys ymagwedd genedlaethol ar gyfer gwasanaethau maethu penodol drwy Faethu Cymru.   Roedd Cytundeb Cyfreithiol ar y cyd wedi’i ddrafftio i’w lofnodi gan y 22 o awdurdodau lleol.   Roedd y cytundeb yn cynnwys cynllun dirprwyo ffurfiol gyda Chyd-bwyllgor yn darparu mecanwaith i’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflawni rôl weithredol a goruchwyliol ar gyfer NAS a Maethu Cymru.   Gofynnwyd i bob awdurdod lleol enwebu aelod o’u Pwyllgor Gweithredol / Cabinet i fod yn aelod â phleidlais ar y Cyd-bwyllgor.

 

Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant gyd-destun pellach i’r adroddiad a buddion bod Maethu Cymru yn cynyddu capasiti cefnogaeth a denu mwy o ofalwyr maeth i awdurdodau lleol gan alluogi cadw mwy o blant yn eu cymunedau.   Nodwyd y byddai’r Arweinydd yn enwebu cynrychiolydd o’r Cabinet ar y Cyd-bwyllgor ar ôl etholiadau lleol mis Mai.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn–

 

(a)       mabwysiadu’r cynigion ar gyfer datblygu trefniadau llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, wrth iddo dderbyn cyfrifoldeb ar gyfer Maethu Cymru;

                                                       

(b)       cadarnhau eu cefnogaeth ar gyfer Cytundeb Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru a chytuno bod yr awdurdod yn llofnodi’r cytundeb;

 

(c)        yn enwebu eu cynrychiolydd ar y Cyd-bwyllgor, a

 

(d)       bod datblygiad y dull cenedlaethol, dirprwyaeth gysylltiol ar gyfer llywodraethu, a threfniadau craffu lleol yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cyngor Llawn.

 

 

10.

FFRAMWAITH CYNNAL A CHADW RHAGWEITHIOL (MÂN WAITH) – YSGOLION AC EIDDO NAD YDYNT YN YSGOLION pdf eicon PDF 218 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi’n amgaeedig) ynglŷn â chanlyniad yr ymarfer caffael i sefydlu Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol ar gyfer gwaith ar stoc adeiladau corfforaethol y Cyngor ac i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi’r contractwyr argymelledig ar gyfer lotiau’r fframwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn-

 

(a)       cymeradwyo penodi’r contractwyr a argymhellir i gyfrannau’r Fframwaith fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar ganlyniad yr ymarfer caffael i sefydlu Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol ar gyfer gwaith ar stoc adeiladau corfforaethol y Cyngor ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi contractwyr a argymhellir i lotiau’r fframwaith.

 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo ymarfer ail-dendro ar gyfer Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol ym mis Mai 2021 y gellir ei ddefnyddio i benodi contractwyr i ymgymryd â gwaith rhagweithiol / mân o dan £10 mil.   Roedd y tendr wedi’i rannu i 6 lot yn ôl rhanbarth a math o waith fel y nodwyd yn yr adroddiad ynghyd â manylion monitro perfformiad gweithrediad y fframwaith.   Roedd y fframwaith arfaethedig yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth caffael a Rheolau’r Weithdrefn Gontractau tra’n symleiddio penodi contractwyr sydd wedi’u cymeradwyo drwy broses gystadleuol.   Roedd yr holl gontractwyr a fyddai’n cael eu penodi ar y fframwaith wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych ac yn rhai yr oedd y Cyngor wedi gweithio â nhw’n flaenorol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn–

 

(a)       cymeradwyo penodi’r contractwyr a argymhellir i lotiau’r Fframwaith fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

11.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).

·        rhagwelwyd tanwariant o £0.386m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (rhagwelwyd £1.533m o danwariant fis diwethaf) gyda’r newid yn bennaf oherwydd cynnydd untro yn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2021/22 o £60m (cyfran CSDd £1.994m) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chais bod £10m (cyfran CSDd £0.332m) yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwelliannau i drefniadau teithio ar gyfer gweithwyr gofal gan gynnwys cerbydau trydan; byddai’r £1.662m sy’n weddill yn cael ei roi mewn Cronfa Wrth Gefn Lliniaru’r Gyllideb i gynorthwyo’r Cyngor i ymdopi gyda phwysau chwyddiant.

·        manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt gwerth £2.666 miliwn yn ymwneud â ffioedd a chostau, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac ysgolion.

·        tynnwyd sylw at y risgiau a’r tybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru, a

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Prosiect Glasdir a holi a oedd y gwaith i greu iard ysgol ychwanegol wedi bod mewn ymateb i broblemau y tynnwyd sylw atynt yn y wasg.   Eglurodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts nad oedd adroddiadau’r wasg yn adlewyrchu’r sefyllfa’n deg a gofyn bod ei ymateb yn cael ei gofnodi.  Eglurodd sut yr oedd cynrychiolwyr pob ysgol wedi’u penodi i weithio gyda’r Tîm Prosiect ac wedi diwygio cynlluniau i sicrhau eu bod yn ymarferol ar gyfer addysgu.   Ond, roedd Ysgol Pen Barras hefyd wedi newid dyluniad yr iard i fod yn ardal ymarferol a gwastad.   Pan gymeradwywyd yr ysgolion roedd yr arwynebedd fesul disgybl yn fwy yn Ysgol Stryd y Rhos o gymharu ag Ysgol Pen Barras ond roedd ar wair ac yn fwdlyd ac nid oedd yn ofod ymarferol i chwarae.   O ganlyniad, gwnaed gwaith i adeiladu iard ychwanegol i ddarparu gofod ymarferol ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos a oedd wedi costio llai na’r rhagamcan a nodwyd cyn cyflwyno tendr ac roedd wedi’i ariannu o’r dyraniad cyffredinol i brosiectau ysgolion Rhuthun.   Roedd y cyfarpar ar safle Ysgol Pen Barras wedi’i ariannu gan eu Cymdeithas Rhieni ac Athrawon, nid yr awdurdod lleol, ac felly roedd gwriant fesul disgybl ar yr ysgol newydd a rennir yn gyfartal.   O ystyried cwestiwn pellach ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl eglurwyd bod y cyfeiriadau yn y wasg yn cyfeirio at gynllun gwahanol oedd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 291 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

Eglurodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd bod Cabinet ychwanegol wedi’i drefnu dros dro ar gyfer 28 Mehefin i sicrhau bod digon o amser ar gyfer adroddiadau gan nad yw’r Cabinet yn cyfarfod ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Gan mai dyma gyfarfod Cabinet olaf tymor presennol y Cyngor, bu i’r Arweinydd gymryd y cyfle i ddiolch i’r holl aelodau am eu cefnogaeth, cyfraniadau a’u gwaith caled ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf er budd y preswylwyr.   Roedd yn teimlo fod gan Sir Ddinbych y sylfeini i ddiwallu heriau yn y dyfodol.   Diolchodd i’r swyddogion am eu gwasanaeth gwerthfawr, yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws ac o dan amgylchiadau anodd iawn.   Yn olaf, diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Weithredwr am ei waith caled a dymuno’n dda i’r staff ar gyfer tymor nesaf y Cyngor a phob dymuniad da i’r ymgeiswyr yn yr etholiadau.   Bu i’r Prif Weithredwr ddiolch i’r Arweinydd, y Cabinet a’r holl aelodau am eu cefnogaeth a’u gwaith caled.   Roedd yr aelodau eraill yn ategu at y diolchiadau gan gyfeirio’n arbennig at y cynghorwyr nad oeddent yn sefyll yn yr etholiad, gyda phob dymuniad da iddynt ar gyfer y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.10 pm.