Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a phersonol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Gill German - Cysylltiad Personol - Eitem 5

Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem 5 a 7

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gill German a’r Cynghorydd Rhys Thomas gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynlluniau Amddiffynfeydd Arfordirol Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn, o ran Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (HSDd), oherwydd eu bod yn Gyfarwyddwyr HSDd.

 

Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen hefyd – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, oherwydd ei fod yn byw’n agos at yr ysgol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 388 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYNLLUNIAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR CANOL Y RHYL A CHANOL PRESTATYN pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys dau atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) ynghylch dau gynllun amddiffyn yr arfordir posib ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cyfnod adeiladu’r ddau gynllun.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer bob cynllun (sydd wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad);

 

(b)       yn cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad;

 

(c)        yn cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad, ac

 

(d)       yn dirprwyo awdurdod i Fwrdd Prosiect Amddiffyn yr Arfordir gyflawni’r cynlluniau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad am ddau gynllun amddiffynfeydd arfordirol posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cam adeiladu’r ddau gynllun.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys dau atodiad cyfrinachol a oedd yn nodi gwybodaeth ariannol a gofynnwyd i’r Cabinet symud i sesiwn breifat wrth drafod elfennau cyfrinachol y dogfennau.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd, y Rheolwr Adain – Rheoli Rhwydwaith a’r Ymgynghorydd Amddiffynfeydd Arfordirol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon hefyd.

 

Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y ddau gynllun er mwyn lleihau perygl llifogydd yn ardaloedd Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn.  Roedd y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r cynlluniau a byddai achos busnes terfynol yn cael ei gyflwyno cyn hir i gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.  Cost gyfun y ddau gynllun oedd tua £84 miliwn, a chaiff 85% ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel cymorth grant, sy’n cael ei dalu i’r Cyngor dros gyfnod o 25 mlynedd drwy’r Grant Cynnal Refeniw.   Roedd ymgynghori helaeth wedi’i gynnal ar y ddau gynllun ac roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Bwrdd Cyllideb wedi craffu ar y cynlluniau arfaethedig a chefnogi cyflwyno’r prosiect i’w gymeradwyo.  Roedd caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y ddau gynllun ym mis Gorffennaf 2022.

 

Eglurwyd y rhesymu dros y cynlluniau ymhellach gan gyfeirio at effaith newid hinsawdd, dirywiad amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd a dinistr digwyddiadau llifogydd.  Amlygwyd llwyddiant Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl hefyd a’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect hwnnw.  Roedd Cynllun Canol y Rhyl wedi’i ddylunio i leihau risg llifogydd yn sylweddol i tua 600 o eiddo preswyl a masnachol ac roedd Cynllun Canol Prestatyn wedi’i ddylunio i ddiogelu mwy na 2,000 o eiddo preswyl a masnachol; roedd y ddau gynllun yn hanfodol ar gyfer diogelwch a chynaliadwyedd y trefi hynny ar gyfer preswylwyr, busnesau a thwristiaeth.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·         Roedd y Cynghorydd Gill German yn awyddus i sicrhau bod pryderon a fynegwyd gan breswylwyr (yn dilyn adroddiadau yn y wasg) a oedd yn byw ger Cynllun Canol Prestatyn wedi cael sylw.  Dywedwyd wrthi fod y mwyafrif o’r pryderon hyn wedi bod yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o’r cynlluniau.  Roedd swyddogion wedi cysylltu â phreswylwyr i roi sicrwydd yn hynny o beth gan egluro bod y cynllun yn bellach o lawer i ffwrdd o ffin eu heiddo nag a adroddwyd yn y wasg, a bod addasiadau pellach wedi’u gwneud i ymestyn y pellter hwnnw, ac ni fu unrhyw gynlluniau ar gyfer llwybr cerdded/beicio ar ben y bwnd, a fu’n bryder arall.

·         Dywedodd yr Arweinydd a’r Cynghorydd Gill German (aelodau’r ward) eu bod wedi bod yn yr ardal yn ddiweddar i siarad â phreswylwyr, ynghyd â thrydydd aelod y ward, y Cynghorydd Kelly Clewett, ac ni chodwyd unrhyw bryderon am Gynllun Canol Prestatyn.  Er ei bod wedi bod yn bleser nodi’r ymgysylltu cynhwysfawr a oedd wedi’i gynnal eisoes, pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd ymgysylltiad rhagweithiol parhaus a chyfathrebu ag aelodau a phreswylwyr wrth symud ymlaen, yn enwedig o ystyried yr amhariad anochel a achosir o ganlyniad i’r cam adeiladu.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal am fanylion y cynlluniau a’r rhaglen ddarparu, pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.  Cynigiwyd mesurau ymgysylltu tebyg i’r rhai a gynhaliwyd yn ystod Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl, a oedd yn cynnwys newyddlenni rheolaidd a chyfleuster galw heibio.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Rhys Thomas at Gynllun Canol y Rhyl a phryderon o ran yr effaith niweidiol ar weithrediad cyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADOLYGU PENDERFYNIAD Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â’R CYNLLUN PENDERFYNIADAU DIRPRWYEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CAFFAEL TIR (RHYDD-DDALIADOL A LESDDALIADOL) I DDIBENION DAL A STORIO CARBON A GWELLIANNAU ECOLEGOL pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno cynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol gan gymryd ystyriaeth o argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo cyflwyno’r cynllun penderfyniadau dirprwyedig newydd ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) at ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol fel y cynigir yn Atodiad 3 yr adroddiad, ac

 

(b)       yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 4 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r cynllun newydd arfaethedig ar gyfer gwneud penderfyniadau dirprwyedig ar gyfer caffael tir ar gyfer dal a storio carbon a dibenion gwelliannau ecolegol, ar ôl ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau i ganiatáu i dir gael ei gaffael yn fwy prydlon ac effeithiol fel bod y Cyngor yn gwireddu ei ddatganiad Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol a’r targedau cysylltiedig.

 

Roedd penderfyniad gwreiddiol y Cabinet ym mis Chwefror 2022 i gymeradwyo’r cynllun dirprwyo arfaethedig wedi bod yn destun galw i mewn.  Yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, roedd y Cabinet wedi cytuno i ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol gan roi ystyriaeth i argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau.  Roedd yr adroddiad yn mynd i’r afael ag argymhellion y Pwyllgor Craffu a oedd yn cynnwys ceisio ymatebion i ymgynghoriadau gan sefydliadau allweddol; diwygio geiriad yn y cynllun dirprwyo arfaethedig, o ran ei fod yn berthnasol i gysylltu â chynghorwyr lleol a Grwpiau Ardal yr Aelodau; cynnal adolygiad o adnoddau staffio yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad ar yr adeg briodol i sicrhau digon o gapasiti i ddelio â’r dyletswyddau ychwanegol yn y dyfodol, a darparu gwybodaeth fanwl am raddio tir amaethyddol yn Sir Ddinbych.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd grynodeb o’r adroddiad a chadarnhau bod pob un o argymhellion y Pwyllgor Craffu wedi cael sylw.  Tynnodd sylw at dargedau Di-garbon Net a Chyngor Ecolegol Gadarnhaol ar gyfer 2030 y Cyngor hefyd a’r rhesymeg dros gaffael at ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol.  Ychwanegodd y Cynghorydd Mellor fod y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi bod yn fodlon bod y materion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu wedi cael sylw.  Fodd bynnag, roedd wedi gofyn i aelodau gael gwybod am unrhyw achosion o gaffael tir pan fyddai’n digwydd, ac roedd y Cynghorydd Mellor yn ystyried bod hwn yn gais rhesymol.  Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Huw Williams a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau am eu gwaith a oedd wedi arwain at y canlyniad presennol.  Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn croesawu’r adolygiad hefyd ac amlygodd werth craffu a’i bwysigrwydd ym mhrosesau’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo cyflwyno’r cynllun penderfyniadau dirprwyedig newydd ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) at ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol fel y cynigir yn Atodiad 3 yr adroddiad, ac

 

(b)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 4 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

7.

PROSIECT YSGOL PLAS BRONDYFFRYN - ADRODDIAD YMGYNGHORI FFURFIOL AR DREFNIADAETH YSGOL pdf eicon PDF 343 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn o 1 Medi 2024 os bydd yr adeilad newydd yn barod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn;

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn o 28 Ebrill 2025 ymlaen.  Bydd gweithredu’r cynnig yn amodol ar gytuno ar safle, derbyn caniatâd cynllunio, p’un a fydd cyllid ar gael a p’un a fydd yr adeilad newydd yn barod, ac

 

(c)        yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad am ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol am brosiect Ysgol Plas Brondyffryn a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol i’r Cyngor gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn.  Cyfeiriodd hefyd at ddiwygiad i argymhelliad 3.2 yr adroddiad, i gynnwys dyddiad gweithredu diwygiedig sef 28 Ebrill 2025.

 

Roedd y prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020.  Ar hyn o bryd, roedd yr ysgol yn darparu darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth rhwng 3 a 19 oed ar draws pedwar safle yn Ninbych.  Y cynnig oedd dod â phob safle at ei gilydd mewn adeilad pwrpasol mewn cae drws nesaf i Ganolfan Hamdden Dinbych ac a ddefnyddir gan Ysgol Uwchradd Dinbych ar hyn o bryd, a chynyddu capasiti’r ysgol wrth i alw am y lleoedd arbenigol hynny gynyddu.  Roedd manylion yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r adroddiad ymgynghori a’r dogfennau ategol.

 

Soniodd y Pennaeth Addysg a’r Prif Reolwr – Cymorth i Ysgolion fwy am y cynnig i gynyddu capasiti’r ysgol yn seiliedig ar y cynnydd a ragwelir o ran galw a materion presennol o ran capasiti.  Roedd trafodaethau wedi bod yn parhau â Llywodraeth Cymru yn ystod proses ddatblygu’r achos busnes a gwnaed llawer o waith i sicrhau bod maint yr ysgol yn gywir wrth symud ymlaen, a llwybr clir ar gyfer cynyddu niferoedd disgyblion yn raddol yn yr ysgol, a threfniadau derbyn.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r cynnig i gynyddu capasiti’r ysgol er mwyn bodloni’r galw cynyddol am leoedd.  Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         amlygodd y Cynghorydd Elen Heaton yr angen i greu rhagor o gyfleoedd i rai sy’n gadael yr ysgol sydd ag anableddau dysgu.  Cadarnhawyd bod y dyluniad presennol ar gyfer yr ysgol yn cynnwys caffi cymunedol, a’r nod oedd darparu rhagor o ymgysylltiad cymunedol yn yr ysgol a chyfleoedd i ddisgyblion ag anableddau dysgu, yn enwedig mewn darpariaeth ôl-16, i ddefnyddio’r cyfleusterau newydd a datblygu sgiliau cymdeithasol a chysylltiadau â’r gymuned ehangach.  Roedd ysgolion cynradd yn y sir oedd ag ardaloedd caffi eisoes a modelau eraill yn y trydydd sector oedd ag oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol.  Fodd bynnag, roedd hi’n hollbwysig diogelu disgyblion, ac os na ellid gwarantu hynny, ni fyddai unrhyw ddatblygiadau.

 

·         Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas bryderon am eiriad argymhelliad 3.2 yr adroddiad a gofynnodd am eglurder am elfennau penodol yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion a sut roedd yn ymwneud â’r cynnig, yn enwedig o ran nodi lleoliad ar gyfer yr ysgol, pryderon am y broses ymgynghori ochr yn ochr â’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar wahân ar gyfer safle newydd arfaethedig yr ysgol, a phryderon am y safle arfaethedig ei hun. Roedd cyfarfod arbennig o Grwpiau Ardal yr Aelodau Dinbych wedi’i drefnu i drafod y broses dewis safle a phryderon yn hynny o beth.  O ganlyniad, roedd yn teimlo y byddai rhinweddau wrth oedi cyhoeddi’r hysbysiad neu aileirio argymhelliad 3.2 i sicrhau eglurder o ran y broses bresennol a gwneud penderfyniadau.  Nododd y Cynghorydd Gill German ei dewis am ddiwygiad er eglurder yn hytrach nag oedi, o ystyried yr amserlen a’r effaith bosibl ar ddatblygu prosiectau eraill.

 

Darparodd y Swyddog Monitro gyngor cyfreithiol am y pwyntiau hyn, a phwyntiau dilynol a godwyd er mwyn egluro prosesau eraill, fel a ganlyn –

 

¨      nid cynnig ar gyfer ysgol newydd oedd hwn; roedd y cynnig yn ymwneud â chynyddu capasiti ysgol bresennol, felly roedd darpariaethau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ymwneud â’r hysbysiad a’r ymgynghoriad o ran eu bod yn ymwneud ag addasu ysgol bresennol nid  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

SYSTEM GWRESOGI ARDAL BETWS GWERFIL GOCH pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) ynghylch y posibilrwydd o system wresogi ardal ar gyfer pentref Betws Gwerfil Goch yn cynnwys darparu pympiau gwres o'r ddaear i anheddau’r cyngor a rhai preifat a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi’r Contractwr, Kensa i ddechrau cam dylunio’r prosiect.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD - bod y Cabinet yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgaredd ymgysylltu ac yn cymeradwyo penodi’r contractwr Kensa i fynd ati gyda cham dylunio’r prosiect.  [Bydd y cam hwn yn y prosiect yn cymryd 12-16 wythnos.]

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad am brosiect system gwresogi ardal ar gyfer pentref Betws Gwerful Goch, gan ymgorffori darpariaeth pympiau gwres o’r ddaear (GSHP) i anheddau’r Cyngor ac anheddau sy’n eiddo preifat.  Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i benodi contractwr i fwrw ymlaen â cham dylunio’r prosiect.

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir i’r prosiect gan gynnwys y cyfle i ymestyn gwaith ôl-osod i berchnogion cartrefi preifat mewn ardaloedd oddi ar y grid/anodd eu cynhesu, a’r rhesymeg a oedd yn sail i ddewis Betws Gwerful Goch ar gyfer y cynllun.  Roedd partner technegol (Kensa) wedi’i ddewis trwy fframwaith y Gynghrair Caffael Cymreig ac roedd astudiaethau dichonoldeb dechreuol yn cefnogi hyfywedd y cynllun. Roedd cyllid grant 100% wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i gwmpasu cost y GSHP anheddau preifat yn yr ardal ar yr amod y byddai’r prosiect yn cael ei ddarparu yn 2022/23.

 

Byddai ymgysylltu cymunedol yn allweddol i ddarparu’r cynllun yn llwyddiannus a soniodd yr Uwch Bensaer fwy am y gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu hyd yma, a gafodd eu croesawu, ac roedd rhagor o gynlluniau i ymgysylltu â rhai na wnaethant ymateb.  Rhoddodd amlinelliad o gwmpas y gwaith dylunio hefyd a gofynion ar gyfer eiddo unigol, a byddai’r cyngor yn cynnal gwaith arolwg hefyd i gynhyrchu elfen ‘pasbort’ y cynllun ar gyfer blynyddoedd y dyfodol.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r prosiect arloesol a’r buddion y byddai’n eu cyflwyno i breswylwyr o ran effeithlonrwydd ynni ac arbed costau, a hefyd o ran y rhaglen newid hinsawdd gydag ynni adnewyddadwy a lleihau carbon.  Roedd y prosiect yn adlewyrchu uchelgeisiau’r Cyngor a’i ddull o feddwl ymlaen ac roedd yn gyfle cyffrous i Fetws Gwerful Goch.  Os byddai’r prosiect yn cael ei ddarparu’n llwyddiannus dan amgylchiadau mor anodd ac mewn lleoliad anghysbell, y syniad oedd y gellid ei ddarparu bron yn unrhyw le yn y sir, ac roedd y Cabinet yn falch o nodi’r cyfle posibl i’r prosiect peilot gael ei gyflwyno i bentrefi eraill sydd â heriau tebyg.  Nodwyd hefyd y byddai modd i unrhyw breswylwyr nad oeddent wedi ymuno â’r cynllun ar y dechrau ymuno’n ddiweddarach o ystyried y byddai’r isadeiledd ynni ar waith eisoes, er y byddai angen iddynt dalu costau’r pwmp gwres.  Diolchwyd i swyddogion am eu gwaith caled wrth sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun a chefnogi’r gwaith o’i ddarparu o fewn yr amserlenni tynn a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgaredd ymgysylltu ac yn cymeradwyo penodi’r contractwr Kensa i fynd ati gyda cham dylunio’r prosiect.  [Bydd y cam hwn yn y prosiect yn cymryd 12-16 wythnos.]

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2021/22 pdf eicon PDF 209 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2021/22 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2021/22 (Atodiad 1 yr adroddiad), ac

 

(b)       yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis adroddiad yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac sy’n dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2021/22.  Diben yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd o ran gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor.

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo bwysigrwydd rheoli’r trysorlys, a chyfeiriodd at y cefndir economaidd a'i effaith ar weithgareddau rheoli'r trysorlys.  Amlygodd y prif bwyntiau ar gyfer aelodau yn nhermau gweithgareddau benthyca a buddsoddi a chadarnhaodd eu bod yn cydymffurfio â phob dangosydd darbodus a nodwyd, gan fynd â’r aelodau drwy'r dangosyddion hynny fel y manylir yn Atodiad B gan gadarnhau cymarebau addas o ariannu costau a lefelau benthyca o fewn terfynau.  Nodwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn monitro’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a’u bod wedi derbyn yr adroddiad.  Roedd sesiwn hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys wedi’i threfnu gyda’r Ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys, Arlingclose, ar gyfer 28 Hydref 2022, ac roedd pob aelod wedi cael gwahoddiad i fynychu.

 

Cydnabu’r Arweinydd yr adroddiad cynhwysfawr a phwysigrwydd y gweithdrefnau cadarn a oedd ar waith ar gyfer delio â’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn hynny o beth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2021/22 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2021/22 (Atodiad 1 yr adroddiad), ac

 

(b)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; ac

 

(b)       yn cymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf Ysgolion (£1.799 miliwn) i wella awyru, cefnogi datgarboneiddio a lleihau’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn ysgolion, fel y nodir yn adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 oedd £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22)

·         rhagwelir y byddai gorwariant o £2.661 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·         tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith y Coronafeirws a chwyddiant

·         manylion am arbedion gwasanaethau a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd am arbedion gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynlluniau i wario grant cyfalaf ysgolion hefyd er mwyn gwella awyriad, cefnogi datgarboneiddio a lleihau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw.

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y gorwariant uwch o’r mis blaenorol yn ymwneud yn bennaf â’r Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol i Oedolion a oedd yn wasanaethau a gaiff eu harwain gan alw ac a oedd yn anodd eu rhagweld.  Er bod y gorwariant ar hyn o bryd ar lefel y gellid ei hariannu gyda chronfeydd wrth gefn lefel sylfaen, roedd y gorwariant yn cynyddu, a oedd yn dal i fod yn risg i’r Cyngor.  Byddai’r materion ailadroddus hynny’n cael eu hystyried fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.  Cyfeiriwyd hefyd at amrywiaethau eraill o fewn cyllidebau gwasanaeth a risgiau i’w nodi wrth symud ymlaen o ran nifer o gontractau ysgolion, gan gynnwys cludiant ysgol, nad oedd wedi’i gymeradwyo eto, ac roedd yn debygol o gael ei adrodd yn y cyfarfod nesaf.  Roedd y setliad cyflog ar gyfer athrawon a staff nad oeddent yn athrawon yn dal i fod yn risg, gyda rhagdybiaethau’n seiliedig ar y cynnig tâl presennol y gellid ei fforddio yn y flwyddyn – byddai unrhyw gynnydd yn cynyddu’r gorwariant presennol ymhellach.  Yn olaf, cyfeiriwyd at yr achos busnes oedd gerbron Cabinet i’w gymeradwyo o ran gwario’r grant cyfalaf ysgolion a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.  Fel Aelod Arweiniol, soniodd y Cynghorydd Gill German fwy am y gwariant arfaethedig i wella awyriad mewn ysgolion a’r flaenoriaeth ar gyfer cadw ysgolion ar agor lle bynnag bo’n bosibl, a rhoi sylw i’r ôl-groniad gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion ac allyriadau carbon, ac ychwanegodd ei chefnogaeth i’r achos busnes.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Barry Mellor, cadarnhaodd y pennaeth Cyllid ac Eiddo fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn ariannu a fyddai’n debygol o gwmpasu’r costau ychwanegol i wasanaethau sy’n cynorthwyo ffoaduriaid o Wcráin.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; ac

 

(b)       cymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf Ysgolion (£1.799 miliwn) i wella awyru, cefnogi datgarboneiddio a lleihau’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn ysgolion, fel y nodir yn adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 287 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau fod y ddwy eitem ganlynol wedi’u hychwanegu ar gyfer mis Tachwedd –

 

·         Polisi Gosod Tai Lleol

·         Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Cytundeb Cyflawni diwygiedig drafft

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm.