Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Nid oedd y Cynghorydd Brian Jones yn gallu cyfrannu’n llawn at y cyfarfod oherwydd problemau cysylltedd.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitem rhif 7 ar yr agenda ac yntau’n Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag Eitem 7 am ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 346 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYMERADWYO CAIS CRONFA CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH DYFFRYN CLWYD pdf eicon PDF 296 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion a enwir a'r Arweinydd i gytuno i gyflwyno cais i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cefnogi thema’r cais, y prosiectau arfaethedig i gael eu cynnwys yn y cais a gwerth dangosol eang pob prosiect, a

 

(b)       dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr a Phennaeth Cynllunio,  Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Arweinydd, i fireinio’r prosiectau a chostau’r prosiect fel y bo angen a chytuno i gyflwyno cais i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo dirprwyo awdurdod i'r diben o gytuno ar gais am gyllid Codi’r Gwastad i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer Etholaeth Dyffryn Clwyd.  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am thema’r cais ynghyd â’r prosiectau arfaethedig a gwerth dangosol bras pob prosiect.

 

Bwriad Cronfa Codi’r Gwastad y DU yw cefnogi buddsoddiad mewn mannau ble gall wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd bob dydd a bydd yn cael ei ddarparu drwy awdurdodau lleol yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth.  Mae tair ardal etholaeth yn Sir Ddinbych ac roedd yr adroddiad yn cynrychioli’r trydydd cais i’w roi gerbron y Cabinet er ystyriaeth yn dilyn cymeradwyo cais ar gyfer De Clwyd (a gyflwynwyd yn rownd 1 ac a oedd yn llwyddiannus) a Gorllewin Clwyd (a roddwyd gerbron y cyfarfod diwethaf i’w gyflwyno yn rownd 2). Pe cymeradwyid y cais byddai’r ceisiadau at ei gilydd yn werth cyfanswm o oddeutu £35 miliwn o fuddsoddiad yn Sir Ddinbych a thalwyd teyrnged i bawb a oedd yn rhan o'r broses o baratoi'r prosiectau angenrheidiol yn barod i'w cyflwyno o fewn cyfraddau amser tynn.   Cafwyd sicrwydd y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y prosiectau hynny na chawsant eu cynnwys yn y cais gyda’r nod o geisio dod o hyd i ffynonellau priodol eraill o incwm i’w datblygu a bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraethau Cymru a’r DU i sicrhau'r ddarpariaeth orau ar gyfer y sir.

 

Roedd cais Dyffryn Clwyd yn ymwneud â dau brosiect cydlynol yn targedu Adfywio Canol Trefi ac Adfywio Amgylcheddol ac os yn llwyddiannus byddant yn dod â manteision sylweddol ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal.  Gweithiwyd yn agos â James Davies AS a oedd wedi cadarnhau ei fod yn llwyr gefnogi'r cais.  Gofynnwyd i’r Cabinet felly gefnogi cyflwyniad y cais i Lywodraeth y DU.

 

Roedd y Cabinet yn cefnogi argymhellion yr adroddiad a’r buddsoddiad posibl yn yr ardal.  Yng ngoleuni’r cyfraddau amser tynn ar gyfer darparu’r prosiectau, amlygodd aelodau’r angen am benderfyniad cyflym ac os yn llwyddiannus, rhyddhad di-oed y cyllid er mwyn symud y prosiectau yn eu blaen erbyn Mawrth 2024. Disgwylir y bydd yn rhaid cyflwyno’r ceisiadau erbyn dechrau'r gwanwyn a rhoddodd swyddogion sicrwydd bod deialog ar y gweill gyda swyddogion Llywodraeth y DU yn y cyswllt hwnnw ac er mwyn cyflymu'r broses a galluogi darparu'r prosiectau o fewn y cyfraddau amser.   Nododd y Cabinet hefyd bod angen 10% (tua £2m) o arian cyfatebol ar gyfer cais Dyffryn Clwyd ac mae posibilrwydd o ddefnyddio’r arian cyfatebol hwnnw wrth aros am arian y Codi’r Gwastad os yw’r cais yn llwyddiannus.  Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet cadarnhawyd bod prosiectau wedi'u cyflwyno ar gyfer ardaloedd gwledig fel rhan o'r broses ond y buont yn aflwyddiannus am nad oeddent yn cwrdd â’r meini prawf na'r cyfraddau amser angenrheidiol ar gyfer y Gronfa Codi'r Gwastad.  O ran y prosiect yn ymwneud ag Ysbyty Dinbych cafwyd eglurhad ar y gwahaniaethau rhwng y cyllid Cronfa Codi'r Gwastad yr oedd cais yn cael ei wneud amdano sy'n canolbwyntio ar gysylltu'r safle'n agosach â’r dref ac o bosibl galluogi datblygu ynghynt, tra byddai'r cyllid Bargen Twf yn canolbwyntio ar fuddsoddiad yn y safle i hwyluso'r datblygiad tai.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn

 

(a)       yn cefnogi thema’r cais, y prosiectau arfaethedig i’w cynnwys yn y cais a gwerth dangosol bras pobl prosiect a,

 

(b)       Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR SIR DDINBYCH 2021 pdf eicon PDF 308 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol)  gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Diogelach a Cham-drin Domestig (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Asesiad drafft Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull a fabwysiadwyd i gyflawni Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel un cadarn ac un oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; a

 

(b)       cymeradwyo fersiwn ddrafft Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru;

 

(c)        dirprwyo awdurdod i’r Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin Domestig i gytuno ar fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen i’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a

 

(d)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young yr adroddiad yn amlinellu ymdriniaeth, casgliadau ac argymhellion Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft 2021 (a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r Asesiad o Anghenion drafft i Lywodraeth Cymru.

               

Mae gofyniad statudol i ymgymryd â, a chyflwyno asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru bob pum mlynedd ac yna i fynd ati i ddiwallu’r anghenion hynny.  Mae Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr  hefyd yn ofynnol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd.  Roedd manylion am y broses asesu a’i rheolaeth wedi’u darparu a oedd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Prosiect ynghyd â Grŵp Tasg a Gorffen Craffu i gefnogi’r gwaith hwnnw.  Cwblhawyd yr asesiad ac adolygwyd y broses gan y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau.  Gwahoddwyd y Cynghorwyr Barry Mellor a Graham Timms i adrodd ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y drefn honno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen, bod y grŵp wedi bod yn gysylltiedig â gwahanol gamau o'r broses asesu  ac wedi adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu ar eu casgliadau.  Roedd y Grŵp yn fodlon bod yr asesiad wedi’i gynnal yn unol â methodoleg Llywodraeth Cymru a'i fod yn dilyn y Briff Gwaith cytunedig a’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, ac yn argymell felly y dylid cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Drafft i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru  Diolchodd y Gynghorydd Graham Timms, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith dyfal a chytunodd fod y trefniadau a’r broses a fabwysiadwyd ar gyfer darparu’r asesiad wedi gweithio’n dda ac y dylid ystyried eu defnyddio eto yn y dyfodol wrth ddewis safleoedd posibl i fod yn lleiniau ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.  Adroddodd ar drafodaethau’r Pwyllgor a'r gymeradwyaeth a roddwyd i’r broses asesu a’r argymhelliad bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr  drafft i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Mark Young wybodaeth am gasgliadau’r Asesiad o Anghenion Drafft sef:

 

·         bod angen 8 llain breswyl i ddiwallu anghenion dynodedig 3 aelwyd/grwpiau teulu estynedig yn y sir, a

·         nad oes tystiolaeth o’r angen am safle tramwy parhaol oherwydd niferoedd isel gwersylloedd diawdurdod, natur tymor byr gwersylloedd a diffyg galw am y fath gyfleusterau’n lleol. 

Argymhellwyd y dylid defnyddio dull o reolaeth yn seiliedig ar arfer gorau o bob rhan o’r DU i ymdrin â gwersylloedd diawdurdod , gan gydbwyso anghenion cymunedau teithiol a chymunedau lleol.  Dylid cynnwys aelodau etholedig a’r gymuned deithiol yn natblygiad yr ymdriniaeth honno yn Sir Ddinbych i adlewyrchu’r gofynion lleol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorwyr Mark Young, Barry Mellor a Graham Timms am y diweddariad cynhwysfawr a chydnabu waith caled pawb oedd yn rhan o hyn.  Cymeradwyodd yr ymdriniaeth a ddefnyddiwyd a alluogodd ymgysylltiad buan gydag aelodau yn y broses ac yn narpariaeth yr asesiad.  Roedd gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi'i osod allan yn glir ac roedd argymhellion y Pwyllgor Craffu wedi’u hadlewyrchu yn yr adroddiad.  Gobeithiwyd y byddai’n bosibl i waith y Grŵp Tasg a Gorffen barhau yng nghamau nesaf y broses wrth ddewis safleoedd posibl ar gyfer y lleiniau.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ynghylch canlyniad gwahanol yr asesiad diweddaraf, sef nad oes angen dynodedig am safle tramwy parhaol, cadarnhawyd mai casgliad yr Ymgynghorwyr Annibynnol, ar ôl ymgymryd â’r asesiad yn unol â methodoleg Llywodraeth Cymru, oedd nad oes angen safle tramwy parhaol.  Mae’n ofynnol cynnal asesiad bob pum mlynedd ac mae’n  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG 2022-2032 pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno cynllun i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Ionawr 2022 gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofyniad i lunio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd newydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg newydd i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Mae gofyniad statudol i fod â Chynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg yn nodi sut y bydd y Gymraeg yn cael ei datblygu mewn ysgolion dros y deng mlynedd nesaf.  Mae’r Cyllun yn seiliedig ar saith o ddeilliannau sy’n adlewyrchu siwrnai’r dysgwr mewn addysg y dysgwr ac yn gyson â blaenoriaethau Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru.  Ein cenhadaeth Genedlaethol.   Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gosod targed o  rhwng 37% a 41% i Sir Ddinbych gynyddu nifer y disgyblion blwyddyn 1 sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (27% o ddisgyblion Blwyddyn 1 Sir Ddinbych yn 2021).  Mae’r Cynllun newydd yn nodi sut y bydd Sir Ddinbych yn cyrraedd y targed drwy gynyddu capasiti ysgolion cyfrwng Cymraeg a newid dynodiad iaith rhaid ysgolion cyfrwng Saesneg.  Cafwyd hefyd fanylion y broses ymgynghori.

                                               

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a phwysleisiodd er bod y cynllun yn cyfeirio at fesurau y gellir eu cymryd dros y deng mlynedd nesaf, ei fod yn canolbwyntio ar ddim ond un elfen o ymateb cymunedol ehangach i ddatblygiad y Gymraeg a bod ar y Cyngor hefyd gyfrifoldeb corfforaethol i ddatblygu’r Gymraeg ledled y sir.  Rhoddodd rhagor o wybodaeth ar y saith canlyniad a nodir yn y Cynllun a sut y byddant yn cael eu gwireddu drwy gydweithio â phartneriaid.  Ychwanegodd y Pennaeth Addysg y bydd cynllun gweithredu’n cynnal y Cynllun Strategol a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd y Gymraeg yn cael ei datblygu a’r canlyniadau’n cael eu gwireddu.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Addysg gwestiynau’n cadarnhau nad yw targed LlC ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion blwyddyn 1 sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn debygol o newid.  Bydd y Cynllun terfynol yn cael ei gyflwyno i LlC ym mis Ionawr a bydd ei weithrediad yn y dyfodol yn cael ei fonitro gan Grŵp Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.  Mae llawer o gefnogaeth ar gael ar gyfer rhieni di-Gymraeg ac mae’r gefnogaeth hon wedi cynyddu ymhellach yn ystod y cyfnod clo a chyflwyniad dysgu ar-lein ar gyfer disgyblion.  Fodd bynnag derbynnir y gellir gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwnnw a faint o gefnogaeth sydd ar gael i rieni ac mae gwaith ar y gweill gyda’r Tîm Cyfathrebu yn y cyswllt hwnnw.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd ragor o gwestiynau gan aelodau heb fod yn aelodau o'r Cabinet ac ymatebodd swyddogion i'r pwyntiau canlynol a godwyd–

 

·        cadarnhawyd bod ysgolion cyfrwng Saesneg wedi ymrwymo o hyd i ddatblygu'r cynllun Cymraeg Campus gydag ysgolion wedi ennill y wobr Efydd ac yn cymryd camau i ennill y wobr Arian ac yn y pen draw'r wobr Aur.

·        Adroddwyd ar drafodaethau cenedlaethol ynglŷn â chyfuno Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg a Fforwm Iaith y Cyngor yn seiliedig ar arfer da gyda’r nod o wella a chryfhau’r gwaith hwn wrth symud ymlaen

·        adroddwyd ar fodelu ffigyrau’r data a’r rhesymeg y tu ôl i wahanol dargedau ar gyfer canrannau’r plant 3 oed a 5 oed sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngoleuni’r ddarpariaeth a’r presenoldeb amrywiol mewn lleoliadau cyn-ysgol sydd y tu allan i reolaeth y sir o gymharu â phlant oedran ysgol.

·        eglurwyd y cymhlethdodau i ddysgwyr o dde'r sir sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Sir Ddinbych o ran y gwahanol bolisïau derbyn, cludiant ysgol ac ati, ond cafwyd sicrwydd bod hwn yn fater a fydd yn cael ei ystyried ymhellach a’i drafod gyda’r ysgolion ac aelodau lleol.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

SAFON OFYNNOL ARFAETHEDIG AR GYFER GWAITH ADEILADU NEWYDD A PHROSIECTAU ADEILADU ESTYNIADAU / AILWAMPIO MAWR CYNGOR SIR DDINBYCH SY’N CYNNWYS TARGEDAU AR GYFER CARBON MEWN DEFNYDD AC WEDI’I YMGORFFORI pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a gweithredu safon adeiladu CSDd ar gyfer gwaith adeiladu newydd a  phrosiectau adeiladu  estyniad mawr /ailwampio i ddiwallu targedau carbon mewn defnydd ac wedi’u hymgorffori.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cytuno i fabwysiadu a gweithredu Safon Adeiladu CSDd ar gyfer gwaith adeiladu newydd annomestig a phrosiectau adeiladu estyniad/ailwampio i fodloni targedau carbon mewn defnydd ac wedi'i ymgorffori;

 

(b)       bod rhaid gweithredu’r safon hwn mewn modd sydd yn cyd-fynd â nod y Cyngor i fod yn Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030, a

 

(c)        y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad (yn absenoldeb y Cynghorydd Brian Jones oherwydd problemau cysylltedd) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a gweithredu safon adeiladu newydd ar gyfer adeiladau annomestig newydd a phrosiectau adeiladu estyniadau/gwaith ailwampio mawr i ddiwallu targedau carbon mewn defnyddi ac wedi'i ymgorffori.

 

Eglurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod y cynnig yn  ffordd arall o helpu’r Cyngor i wireddu ei nodau carbon sero net erbyn 2030 yn dilyn datganiad Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor.  Tra bo ymdrechion wedi’u gwneud i leihau allyriadau carbon o adeiladau annomestig presennol y Cyngor roedd bwriad i ddefnyddio’r safon yn seiliedig ar ddiffiniad Cyngor Adeiladau Gwyrdd y DU ac arfer gorau ar gyfer prosiectau'r dyfodol yn seiliedig ar ymdriniaeth gynyddrannol mewn modd sy'n cyd-fynd â nodau ecolegol y Cyngor.  Cyfeiriwyd hefyd at y goblygiadau ariannol a fydd yn deillio o’r newid.

 

Trafododd y Cabinet gyda’r swyddogion rinweddau cyflwyno'r targed a’r risgiau a ddynodwyd, yn arbennig y goblygiadau ariannol y bydd angen eu monitro'n ofalus a’r adnoddau staffio wrth symud ymlaen gyda’r posibilrwydd o uwchraddio sgiliau staff mewnol a’r defnydd posibl o ymgynghorwyr allanol.  Tra byddai’r cynnig yn darparu arbedion yn yr hirdymor drwy well costau rhedeg/cynnal a chadw ac yn lleihau effeithiau amgylcheddol, cydnabuwyd y byddai cynnydd posibl o 19% yng nghostau cyfalaf cychwynnol prosiectau.  Roedd yn bwysig manteisio ar unrhyw gyllid peilot sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a sicrhau bod y costau llawn wedi’u cynnwys wrth gynllunio ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.  Nodwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn debygol o edrych ar safonau tebyg ar gyfer yr holl gynlluniau a noddir ganddynt yn y dyfodol.  Er gwaethaf y cynnydd a ragwelwyd mewn costau yn sgil cyflwyno’r safon newydd, cytunodd y Cabinet mai dyma’r ffordd gywir o weithredu yng ngoleuni’r effeithiau amgylcheddol ac roedd yn falch bod y Cyngor ar y blaen gyda’r newidiadau hyn ac yn arwain yn hyn o beth o’r cychwyn cyntaf.

 

Atebodd y Swyddogion gwestiynau pellach gan roi sicrwydd ynghylch yr ymrwymiad i gaffael y deunyddiau a’r gwasanaethau angenrheidiol yn lleol ble bynnag bosib a chadarnhau hefyd y byddai cyfleoedd yn cael eu hyrwyddo’n lleol a bod angen ystyried y gost o ran carbon yn ogystal â chostau ariannol wrth symud ymlaen.  Roedd Aelodau’n falch y glywed bod llawer o frwdfrydedd o du’r diwydiant adeiladu ynghylch y safon werdd a thynnwyd sylw at gyfleoedd iddynt addasu i’r gofynion newydd.  O ran adeiladau rhestredig byddai’r ymdriniaeth o ran rhoi’r safon newydd ar waith yn un ymarferol ac er y bydd rhai adeiladau lle nad yw'n bosibl oherwydd safonau technegol nid yw hyn yn tynnu oddi wrth nod gyffredinol y safon newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet  

 

(a)       yn cytuno i fabwysiadau a gweithredu Safon Adeiladu CSDd ar gyfer adeiladau annomestig newydd a phrosiectau adeiladu estyniadau/ailwampio mawr i ddiwallu targedau carbon mewn defnydd ac wedi’i ymgorffori.

 

(b)       yn cytuno bod yn rhaid gweithredu’r safon hon mewn ffordd sy’n cyd-fynd â nod Ecolegol Gadarnhaol y Cyngor erbyn 2030; ac

 

(c)        yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

9.

SEFYDLU CYDBWYLLGOR CORFFORAETHOL GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) ar y trefniadau sydd angen eu gwneud ar gyfer sefydlu Cydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru (CJC) a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi cymeradwyaeth mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i’r CJC drwy gytundeb dirprwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno mewn egwyddor bod swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu trosglwyddo ar ffurf cytundeb dirprwyo i Gyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ar yr amodau canlynol;

                        

(a)       bod y fframwaith statudol y mae Llywodraeth Cymru yn ei lunio yn caniatáu ar gyfer dirprwyo swyddogaethau gweithredol perthnasol i Gyd-bwyllgor Corfforaethol,

 

(b)       bod Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yn cytuno i sefydlu Is-bwyllgor, gan gytuno ar aelodaeth gyda’r Cyngor, i ymgymryd â swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd.

 

Cynigir y trawsnewid yma er mwyn cyflawni model llywodraethu symlach, gan osgoi dyblygu.  Bydd adroddiad manylach arall am y fframwaith a fydd yn cael ei weithredu yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod arall o’r Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar y trefniadau sydd i'w gwneud i sefydlu Cydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i’r Cydbwyllgor Corfforaethol drwy gytundeb dirprwyo.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd rywfaint o gefndir i gread y Cydbwyllgor Corfforaethol ar 1 Ebrill 2021 ynghyd â’r swyddogaethau y bydd yn eu harfer o 30 Mehefin 2022 a’r gofyniad i osod cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Rhoddodd drosolwg cynhwysfawr o’r trefniadau i sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Corfforaethol wedi’i sefydlu’n gywir fel y gall arfer ei swyddogaethau erbyn 30 Mehefin 2022 a chyfeiriodd at yr adroddiad safonau sydd i’w ystyried gan bob un o chwe phrif gyngor Gogledd Cymru yn ystod mis Rhagfyr. Bydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn gyfrifol am baratoi Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Cludiant Rhanbarthol a bydd ganddo bwerau cyffredinol ym maes lles economaidd.  Cafodd y Cabinet wybod am y rhesymeg y tu ôl i drosglwyddiad arfaethedig swyddogaethau'r Bwrdd Uchelgais Economaidd i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol drwy gytundeb dirprwyo ac am yr egwyddorion y cytunodd Prif Weithredwyr ac Arweinwyr arnynt fel sail ar gyfer gweithredu unrhyw drosglwyddiad er mwyn gwireddu model llywodraethu wedi’i resymoli a fyddai’n osgoi dyblygu.  Ceisiwyd cytundeb mewn egwyddor gan y Cabinet a fyddai'n ddibynnol ar ddatblygiad fframwaith deddfwriaethol priodol gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu’r dirprwyo.  Bydd adroddiadau pellach ar sefydliad y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael eu rhoi gerbron y Cabinet maes o law.

 

Wrth ystyried yr adroddiad cwestiynodd y Cynghorydd Bobby Feeley y fiwrocratiaeth gysylltiedig â hyn gofynnodd am eglurder pellach ynghylch y goblygiadau ariannol, yn cynnwys y costau perthnasol i Sir Ddinbych ac i Gymru gyfan.  Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young hefyd am eglurhad ar yr effaith ar y Cynllun Datblygu Lleol yn sgil dyletswydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i baratoi Cynllun Datblygu Strategol, gam amlygu pwysigrwydd penderfyniadau lleol ar gyfer cymunedau lleol.  Mewn ymateb i’r materion hyn a chwestiynau pellach gan Aelodau heb fod yn aelodau o’r Cabinet,  dywedodd yr Arweinydd, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo bod:

 

·         y Cyd-bwyllgor Corfforaethol wedi’i greu gyda dyletswyddau cyfreithiol o fis Mehefin 2022 ac mai’r bwriad oedd gwneud ei weithrediad mor syml ac anfiwrocrataidd â phosibl, sydd yn un o'r amcanion y tu ôl i’r penderfyniad mewn egwyddor a geisir

·         mae’r rhanbarth wedi derbyn grant o £250k gan Lywodraeth Cymru i helpu i sefydlu’r Cyd-bwyllgor Gorfforaethol ac i’w ddefnyddio ar gyfer y cyngor arbenigol a’r capasiti rheoli prosiect a fydd yn angenrheidiol i wneud hynny.

·         Mae’n ofynnol i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol bennu ei gyllideb erbyn 31 Ionawr ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod a chytuno ar y cyfraniadau y bydd pob awdurdod lleol yn eu gwneud ar gyfer treuliau’r Cyd-bwyllgor nad yw ffynonellau eraill o gyllid yn eu diwallu.

·         mae swyddogion Adran 151 wrthi’n gweithio ar y gyllideb gychwynnol a thra bydd yr elfen gorfforaethol/ ddemocrataidd i raddau  helaeth yn cael ei chynnal gan swyddogion allweddol cyfredol, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddynodi'r gofynion ariannol ar gyfer darparu’r elfennau cynllunio a chludiant gyda nifer o opsiynau i’w hystyried; gobeithir y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyflawni'r dyletswyddau newydd a bydd galwadau'n cael eu gwneud arnynt yn y cyswllt hwnnw.

·         unwaith y bydd y gyllideb ar gyfer 2022/23 wedi’ gosod bydd yr effaith ariannol ar Sir Ddinbych ac ar draws Gogledd Cymru yn hysbys ac mae’n bwysig sicrhau bod Sir Ddinbych yn cael gwerth am arian o'i gyfraniad.

·         Mae ar y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ddyletswydd i gynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol sydd yn gynllun haen wahanol ac ar wahân i’r Cynllun  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

AILDDATBLYGU HEN LYFRGELL PRESTATYN - DYFARNU CONTRACT pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol)  gan y Cynghorwyr Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract ar gyfer ailddatblygu hen safle Llyfrgell Prestatyn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cymeradwyo dyfarnu’r contract i Wynne & Sons Limited Construction yn ôl Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad 2 o’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony adroddiad ar y cyd â’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i ailddatblygu hen safle llyfrgell Prestatyn i gynnwys adeiladu 14 rhandy un ystafell wely hygyrch gyda lifft ar rent cymdeithasol gyda dwy uned fasnachol ar y llawr gwaelod ynghyd â gwell mynediad, lle parcio a lle amwynder awyr agored i'w rannu gyda phreswylwyr fflatiau Llys Bodnant.

                                                                                        

Cymeradwyodd y Cabinet yr achos busnes dros ddatblygiad y safle ym mis Medi 2021 ac roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r prosesau yr ymgymerwyd â hwy yn ystod yr ymarfer caffael a arweiniodd at gyflwyniad 5 cynnig tendr.  Yn dilyn ymarfer gwerthuso gan ddefnyddio methodoleg sgorio gyda phwysoliad o 70% ar gyfer y pris a 30% ar gyfer ansawdd, dewiswyd contractwr ac fe’i argymhellwyd i’r Cabinet.  Y gost amcangyfrifedig hollgynhwysfawr a gyflwynwyd gan y cynigiwr a argymhellwyd oedd £3,454,773.11 a oedd o fewn y gyllideb ar gyfer y prosiect yng Nghynllun Busnes y Stoc Dai.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       cymeradwyo dyfarniad contract i Wynne & Sons Limited Construction yn unol â’r Adroddiad Argymell Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

11.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 313 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       cymeradwyo Sylfaen y Dreth Gyngor i osod cyllideb 2022/23 fel y manylir yn Atodiad 5 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).

·        rhagwelir y byddai gorwariant o £1.349 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.

·        manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt gwerth £2.666 miliwn yn ymwneud â ffioedd a chostau, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac ysgolion.

·        tynnwyd sylw at y risgiau a’r tybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru.

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Gofynnwyd hefyd bod y Cabinet yn cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor er mwyn gosod cyllideb 2022/23 fel y manylir yn Atodiad 5 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill hefyd bod yr amrywiad yng nghyllidebau gwasanaethau’n bennaf gysylltiedig â chynnydd o £182k yng nghostau lleoliadau preswyl yn y Gwasanaeth Addysg a Phlant nad oedd gan y Cyngor fawr o reolaeth drosto.  O ran prosiectau cyfalaf mawr bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar Ddatblygiad Marchnad y Frenhines, y Rhyl ym mis Chwefror er mwyn dyfarnu cam 1 o’r contract adeiladu ac mae gwaith y mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ar beirianneg gwerth y costau fel sy'n briodol ond mae'n debygol y bydd yn ofynnol clustnodi rhywfaint o gyllid ychwanegol i'r cynllun.  Mae’r holl brosiectau eraill ar y trywydd cywir ac o fewn y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni, a

 

(b)       cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor i osod cyllideb 2022/23 fel y manylir yn Atodiad 5 yr adroddiad.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 291 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

Nododd yr aelodau eitem ychwanegol ‘Ymestyn Contract y Gwasanaethau Hamdden’ ar gyfer naill ai fis Ionawr neu fis Chwefror 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Diolchodd yr Arweinydd i aelodau'r Cabinet am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ac i bob aelod am eu cyfraniadau at y trafodaethau.  Dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.05 am.